Agenda item

Cymorth Cynnar a Gofal Cymdeithasol Plant

Gwahoddedigion:

Susan Cooper, Cyfarwyddwr CorfforaetholGwasanathau Cymdeithasol a Lles;

Lindsay Harvey, Cyfarwyddwr CorfforaetholAddysg a Chymorth i Deuluoedd 

Cllr Charles Smith, Aelod Cabinet, Addysg ac Adfywio

Cllr Phil White, Aelod Cabinet - Cymunedau

Nicola Echanis, Pennaeth Addysg a Chymorth Cynnar

Laura Kinsey, Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant

Mark Lewis, Rheolwr Gr?p Gwaith Integredig a Chymorth i Deuluoedd

Elizabeth Walton-James, Rheol GrwpDiogelu a Sicrhau Ansawdd

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Gyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro Addysg a Chymorth i Deuluoedd a Chyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles am Gymorth Cynnar a Gofal Cymdeithasol Plant i roi gwybodaeth i aelodau yr oeddent wedi gofyn amdani yngl?n â chydweithio rhwng cyfarwyddiaethau.

 

Ymhelaethodd y Rheolwr Gr?p dros Weithio Integredig a Chymorth i Deuluoedd ar brif bwyntiau’r adroddiad, gan gynnwys sut mae cyfarwyddiaethau’n gweithio’n agos gyda’i gilydd a hefyd gyda nifer o asiantaethau allanol.  

 

Cyfeiriodd aelod at 4.11 yr adroddiad lle nodwyd bod nifer yr atgyfeiriadau wedi cynyddu 80%.  Gofynnodd sut roedd hyn wedi effeithio ar weithwyr achos a sut mae wedi effeithio ar yr awdurdod lleol yn ariannol. 

Gofynnod hefyd sut roedd yr atgyfeiriadau i’r project ACE yn cael eu rheoli o’r blaen.

 

Dywedodd y Rheolwr Gr?p dros Wasanaethau Integredig a Chymorth i Deuluoedd eu bod yn ystyried trothwyon mewn cymorth cynnar megis Cysylltu Teuluoedd.  Caiff atgyfeiriadau eu gwirio o fewn 24 awr ac ar ôl eu hasesu, caiff gweithiwr cymdeithasol ei neilltuo i’r teulu neu efallai bydd y teulu’n mynd at weithiwr ymyrraeth, gan ddibynnu ar gymhlethdod yr achos. Ychwanegodd fod atgyfeiriadau gan ysgolion yn cyfateb i 10% o’r holl atgyfeiriadau i’r gwasanaeth a bod ymagwedd ar y cyd gyda chydweithwyr diogelu yn eu helpu i nodi peryglon a heriau. Ychwanegodd nad oedd unrhyw restri aros sylweddol ond bod y sefyllfa honno’n cael ei monitro’n gyson.

 

Nododd aelod y buasai’n ddefnyddiol petai data wedi cael ei dderbyn am Blant sy’n Derbyn Gofal er mwyn cymharu data ac archwilio’r tueddiadau.  Nododd swyddogion nad oedd y data ganddynt ar hyn o bryd ond y byddent yn ei rannu ag aelodau ar ôl y cyfarfod.  

 

Gofynnodd aelod am natur y perthnasoedd rhwng yr awdurdod a Llywodraeth Cymru a sefydliadau’r trydydd sector o ran cefnogaeth ar gyfer Cymorth Cynnar a’r Gwasanaethau Cymdeithasol.   

 

Cydnabu Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod pwysau ar y gwasanaeth ac y cafwyd cynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau ond nododd nad oedd CBSP yr unig un. Nododd fod y gwasanaeth yn adolygu sut mae’n gweithredu’n barhaus a bod y cyfarwyddiaethau’n parhau i weithio gyda’i gilydd.  Ychwanegodd fod nifer o brojectau megis MASH a’r project Myfyrio’n dal yn cael eu datblygu felly nid oedd modd gwybod effaith lawn y rhain eto.  Roedd swyddogion hefyd yn ystyried modelau a llwyddiannau mewn awdurdodau lleol eraill sy’n gweithio’n dda, a bydd swyddogion o CBSP yn ymweld â Chasnewydd, CNPT a Sir Gâr yn yr wythnosau nesaf.  

 

Roedd aelodau’n pryderu am adnoddau a dyrannu cyllid grant, beth oedd peryglon posib i’r gwasanaeth a pha effaith gallai hyn ei chael ar yr awdurdod os nad oedd cyllid yn cael ei dderbyn.

 

Cydnabu’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro dros Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod hyn yn berygl ond nododd eu bod yn ystyried ffyrdd gwahanol o weithio gan gynnwys rhannu adnoddau ag awdurdodau lleol eraill, gweithio’n fwy agos gydag ysgolion i sicrhau bod ymyrraeth gynnar yn cael ei rheoli’n fwy lleol a hefyd gweithio gyda nifer o grwpiau eraill sy’n gweithio gyda’r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol ac yn cefnogi dysgwyr sy’n agored i niwed.  

 

Gofynnodd aelod a oedd swyddogion ac aelodau’r Cabinet yn cyfathrebu â Llywodraeth Cymru yngl?n â chyllid projectau sydd mewn perygl. 

Nododd yr Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles eu bod bob amser yn rhagweithiol o ran cyllid ac nad ymateb adweithiol oedd hyn. Ychwanegodd eu bod yn gweithio trwy’r amser gyda’r Gweinidog dros Wasanaethau Plant.

 

Gofynnodd aelod am eglurhad o ran niferoedd y Plant sy’n Derbyn Gofal a oedd wedi cael eu symud cam i lawer i’r Gwasanaeth Cymorth Cynnar a sut roeddent yn sicrhau bod gwasanaethau cam i lawr a cham i fyny’n cael eu hintegreiddio i’w gilydd.

 

Nododd y swyddog fod archwiliad sicrwydd ansawdd ar waith i blant a theuluoedd sy’n cael eu symud cam i fyny neu i lawr.  Ychwanegodd eu bod yn ystyried prosesau, anawsterau a heriau a’u bod yn rhoi adborth am unrhyw feysydd i’w gwella a nodir.

 

Cyfeiriodd aelod at baragraff 4.20 yr adroddiad lle nodwyd bod 51 o blant wedi cael eu dychwelyd adref. Gofynnod a oedd unrhyw wybodaeth ar gael am y cymorth parhaus yr oedd y plant yn ei dderbyn ac a oeddent yn cael eu monitro o hyd.  Nododd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles y byddai hi’n anfon yr wybodaeth hon at aelodau ar ôl y cyfarfod.

 

Nododd aelod fod CBSP yn ymddangos ar y dadansoddiad tueddiadau croes i awdurdodau lleol eraill o ran lleihau niferoedd y plant sy’n derbyn gofal.  Nododd fod Castell-nedd Port Talbot wedi llwyddo i leihau nifer y plant sy’n derbyn gofal ond bod ffigur CBSP wedi cynyddu. Gofynnodd swyddogion a ydym yn dysgu unrhyw beth gan awdurdodau lleol eraill ac a ydym yn rhannu arfer gorau. Roedd yn pryderu fod ffigurau CBSP o ran plant sy’n derbyn gofal bellach wedi cynyddu i 389 a’i bod yn ymddangos bod hyn yn duedd cenedlaethol, nid rhywbeth sy’n lleol i Ben-y-bont ar Ogwr yn unig, ac roedd yn meddwl y dylai’r pwyllgor, efallai, gysylltu â Llywodraeth Cymru i gael cymorth ac atebion.

 

Nododd Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant fod swyddogion yn cwrdd yn rheolaidd ag awdurdodau eraill ym mhartneriaeth Bae’r Gorllewin.  Nododd fod Castell-nedd Port Talbot wedi ymgymryd â llawer o weithgaredd penodol i leihau nifer eu plant sy’n derbyn gofal a’u bod wedi trafod sut maent wedi cyflawni hynny. Ychwanegodd fod swyddogion hefyd wedi siarad â Chyngor Abertawe a roddodd gyflwyniad am eu paneli/prosesau ar gyfer cytuno i blant dderbyn gofal.  Er bod CBSP yn aros am ffigurau sydd wedi’u cadarnhau, nododd fod nifer y plant sy’n derbyn gofal wedi lefelu ac roedd tuedd diwedd blwyddyn 2016/17 yn dangos bod ffigurau llawer o awdurdodau eraill yn cynyddu.  Mae cydweithwyr mewn ambell awdurdod lleol arall yn parhau i adrodd am y broblem hon. Ychwanegodd y bydd Abertawe’n parhau rhagor o ymchwil fanwl i dueddiadau lleol y bydd yn ei rhannu â Chastell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr.

 

Hysbyswyd aelodau gan yr Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fod awdurdodau lleol eraill yn dangos tueddiadau ar i fyny.  Nododd fod ffigurau Caerdydd yn dangos bod nifer y plant sy’n derbyn gofal wedi cynyddu o 555 i 834 dros y 4 blynedd diwethaf yn unig.

 

Bu aelodau’n croesawu’r adolygiad annibynnol o’r broses benderfynu ynghyd â’r llwybr plant sy’n derbyn gofal gan y Sefydliad Gofal Cyhoeddus a gofynnon nhw am gopi o’r adroddiad pan fyddai hwnnw ar gael.

Nododd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles y comisiynwyd yr SGC i gynnal adolygiad yn sgîl yr arolygiad gan AGGCC (AGC erbyn hyn) o wasanaethau plant ym mis Ionawr 2017. Roedd arolygiad AGC yn waith sylweddol ac anfonwyd cryn nifer o adroddiadau at yr arolygwyr cyn iddynt fynd ar y safle. Roeddent yn gweithio yn yr awdurdod am bythefnos a chyfarfuont â sawl swyddog, aelod Cabinet, cadeirydd craffu a theulu.  Yna comisiynwyd yr SGC i archwilio arweinyddiaeth ac adolygu’r llwybr atgyfeirio rhwng cymorth cynnar a gofal cymdeithasol plant. 

Gofynnodd aelod a oedd modd i aelodau gael eu briffio am lwybr atgyfeirio plentyn mewn perygl drwodd i’r penderfyniad i fynd ag ef i’r system ofal er mwyn eu helpu i gael gwell dealltwriaeth o’r broses gyfan a’i heffaith ar y teulu, y plentyn, yr awdurdod a’r gyllideb. Awgrymodd y gellid cynnwys argymhellion yr SGC hefyd.  Awgrymodd aelod arall hefyd y dylai’r briffio roi cefndir i’r ffigurau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal.

 

Nododd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles mai diben pennaf y penderfyniad i fynd â phlentyn i’r system ofal oedd ystyried diogelwch y plentyn a’i deulu ac a yw’r awdurdod yn gwneud y peth cywir trwy osod y plentyn yn y system ofal a rhoi cymorth iddo.   Nododd nad yw’r awdurdod am gadw nifer y plant sy’n derbyn gofal yn isel ond bod angen i aelodau ddeall pwysigrwydd gwneud hyn yn ddiogel.   Ychwanegodd fod adolygiad yr SGC wedi dod i’r casgliad ei fod yn benderfyniad cywir pan fo plentyn yn cael ei osod yn y system ofal; fodd bynnag, gofynnwyd a fyddai ymyrraeth gynt wedi osgoi gorfod mynd â’r plentyn i’r system ofal yn y lle cyntaf. 

 

Gofynnodd aelod am y lleoliadau Baby in Mind a beth oedd canlyniadau’r achosion hyn.  Nododd fod y lleoliadau hyn yn ddrud iawn a gofynnodd a oedd yr awdurdod yn ystyried atebion eraill megis cymorth yn y gymuned.

 

Nododd Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant mai’r cymhelliad dros y lleoliadau hyn bob amser yw ariannu’r cynllun gofal mwyaf addas i’r plentyn a’r rhiant ac mai’r ateb gorau i’r teulu yw dod o hyd i leoliad rhiant a phlentyn.  Mae’r project Baby in Mind yn canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar er mwyn gallu cynllunio’n fwy effeithiol ac osgoi gorfod mynd â phlant i’r system ofal.

Gofynnodd aelod a oedd yr awdurdod yn gwneud digon mewn ysgolion trwy ABCh a hefyd y gwasanaethau iechyd. 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod ABCh yn rhan bwysig o addysg ac, er nad oedd modiwl gorfodol, y defnyddir ymagwedd fwy cydlynol a bod yr awdurdod yn gweithio ar draws cyfarwyddiaethau’n fwy agos. Ychwanegodd y cafwyd gostyngiad yn nifer y merched yn eu harddegau sy’n feichiog.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod gwaith ymyrryd wedi cael ei wneud yn flaenorol i gadw mamau yn yr ysgol a’u babanod gyda nhw ond nododd na fydd pob un ohonynt yn famau ifanc a bod angen cymorth ar rai yn eu 30au fel y gallent fyw bywyd teulu arferol.

 

Cyfeiriodd aelod at dudalen 46 yr adroddiad lle nodwyd nifer yr atgyfeiriadau a gofynnodd a oedd modd i unrhyw un o’r rhain fod yn atgyfeiriadau wedi’u dyblygu lle maent wedi cael eu hatgyfeirio i dimau diogelu a chymorth cynnar ar yr un pryd.  Gofynnodd hefyd a fyddai’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn cwrdd â phlant a theuluoedd i drafod y pecyn cymorth gorau sydd ar gael iddynt. 

 

Nododd y Rheolwr Gr?p dros Weithio Integredig a Chymorth i Deuluoedd y byddai enghreifftiau pan fyddai atgyfeiriad yn dod i dîm diogelu nad yw’n cyrraedd y trothwy, felly byddai’n cael ei atgyfeirio i gymorth cynnar fel atgyfeiriad gan y Gwasanaethau Cymdeithasol a byddai hyn yn ymddangos fel dyblygiad.  Ychwanegodd y cynhelir nifer o drefniadau gwirio pan ddaw atgyweiriad i law yn gyntaf oherwydd gallai fod angen atgyfeirio’r mater i asiantaeth arall.

 

Gofynnodd aelod am broses Dechrau'n Deg a sut byddai’r awdurdod yn trin sefyllfa lle na fyddai’r teulu’n ymgysylltu â nhw. 

 

Nododd y Pennaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd y byddai swyddogion yn penderfynu a oedd angen iddynt atgyfeirio unigolion i wasanaethau statudol ond ychwanegodd nad yw’r awdurdod yn dod o draws llawer o achosion lle gwrthodir ymgysylltu. Ychwanegodd hefyd nad oeddent wedi gweld unrhyw ostyngiad eto yn yr arian ar gyfer y rhaglen gan Lywodraeth Cymru ond y gallai hyn ddigwydd yn y dyfodol.  Cynigiodd hi sicrwydd y byddent yn ystyried ffyrdd eraill o dargedu’r gwasanaeth petai hyn yn digwydd, er mwyn parhau i roi cymorth.

 

Nododd yr Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod yr adroddiad wedi codi’i galon a’i frwdfrydedd a bod y gwaith a wnaed yn y maes hwn yn aruthrol. Nododd fod y gwaith ar draws dwy gyfarwyddiaeth yn profi bod yr awdurdod yn rhagweithiol a diolchodd i’r holl swyddogion sy’n ymwneud â’r maes hwn am eu hymdrechion parhaus yn ystod cyfnod heriol. 

 

Casgliadau

 

·         Gofynnodd y pwyllgor am sesiwn friffio ar y broses o dderbyn plant i’r system ofal er mwyn dangos i aelodau sut mae’r broses yn gweithredu o adeg derbyn atgyfeiriad i wneud penderfyniad a phennu cymorth parhaus, yn ogystal ag unrhyw gostau cysylltiedig

·           Gofynnodd y pwyllgor i hon gynnwys gwybodaeth am y broses fonitro sydd ar waith, sut caiff risg ei fonitro’n rheolaidd a pha broses fonitro sydd ar waith i lwybrau lle y diben yw dychwelyd y plentyn i’w deulu ei hun.

·         Gofynnodd aelodau hefyd am sesiwn friffio debyg am Gymorth Cynnar, neu i gyfuno hon â’r un yngl?n â phlant sy’n derbyn gofal, gan fanylu ar y broses atgyfeirio; sut mae’r broses symud cam i lawr neu gam i fyny’n gweithio ac yn cael ei monitro; sut, os bydd angen cymorth gan fwy nag un gwasanaeth ar unigolion, megis IFSS a Baby in Mind ar yr un pryd, byddai’r gwasanaethau’n cydweithio i ddarparu hwn; a phwy sy’n eu harwain trwy’r gwasanaethau a’u llwybr, neu’n arwain eu cymorth, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn y gwasanaethau y mae eu hangen arnynt – ai gweithiwr cymdeithasol fyddai’r person hwn?

 

Gwybodaeth Ychwanegol

 

·         Gofynnodd y pwyllgor i adroddiadau yn y dyfodol am blant sy’n derbyn gofal neu Gymorth Cynnar ac ati gynnwys y canlynol:

 

  • Rhagor o ddata hanesyddol fel y gall aelodau asesu a oes cynnydd wedi’i wneud ac a oes cynnydd neu ostyngiad mewn niferoedd a pherfformiad;
  • Rhagor o dystiolaeth gliriach o’r canlyniadau a geir yn y prif adroddiad
  • Dadansoddiad o ba le mae plant sy’n derbyn gofal yn mynd, e.e. gofal maeth, gofal preswyl, er mwyn rhoi syniad o le mae pwysau busnes;
  • Rhagor o gefndir a gwybodaeth yngl?n â’r data a roddir mewn graffiau a thablau;
  • Rhagor o enghreifftiau o astudiaethau achos i gynorthwyo’r pwyllgor ar ei ddealltwriaeth o brosesau, heriau a’r canlyniadau a gyflawnwyd.

 

·         Gofynnodd aelodau am y data cam i fyny yn ogystal â’r data cam i lawr rhwng gwasanaethau Cymorth Cynnar a Gofal Cymdeithasol Plant.

 

·         Gofynnodd aelodau i gael gwybodaeth ddilynol am y 51 o blant a ddychwelwyd adref o ganlyniad i’r project Cysylltu Teuluoedd.

 

·         Roedd y pwyllgor yn dymuno derbyn y cynnig i gael yr adroddiad llawn am adolygiad yr SGC gan y gyfarwyddiaeth at ddibenion gwybodaeth.

 

·         Gofynnodd y pwyllgor iddynt gael manylion canlyniadau’r 23 o leoliadau rhiant a babanod.

 

Rhagor o wybodaeth:

 

·         Mynegodd y pwyllgor bryderon am y rhyddid sydd gan ysgolion yn y fframwaith ar gyfer addysgu Addysg  Bersonol a Chymdeithasol a pharatoi pobl ifanc trwy ddatblygu sgiliau bywyd.  Gofynnodd aelodau i archwilio eitem bosib ar y flaenraglen waith sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc a sut maent yn dysgu sgiliau bywyd, gan gynnwys y fath feysydd a phrojectau ag Addysg Bersonol a Chymdeithasol mewn ysgolion, Dechrau’n Deg a pha waith byddai’r trydydd sector  yn ei wneud yn y pwnc hwn.  Cytunwyd i anfon ffurflenni meini prawf at aelodau i ymchwilio ymhellach i’r eitem.

 

Gofynnodd y pwyllgor i lythyr gael ei lunio gan y pwyllgor i Lywodraeth Cymru yn nodi eu pryderon am y broblem genedlaethol gynyddol o fwyfwy o blant yn derbyn gofal yn ogystal â’r ansicrwydd o ran cyllid i ddarpariaeth Cymorth Cynnar yn y dyfodol oherwydd ei bod yn ddibynnol ar grantiau.

Dogfennau ategol: