Agenda item

Derbyn cyhoeddiadau gan:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

 

Cofnodion:

Y Maer

 

Rhoddodd y Maer wybod i’r Cyngor am rai o'r achlysuron y bu'n bresennol ynddynt yn rhinwedd ei swydd yn ystod y mis. Roedd y rhain yn cynnwys y Ffair Lyfrau flynyddol yng Nghanolfan Westward, Cefn Glas ar y cyd â’r Lions a oedd wedi codi £180,000 tuag at elusennau  lleol.  Roedd y Maer hefyd yn bresennol mewn digwyddiadau i nodi Canmlwyddiant y RAF yn y Fwrdeistref Sirol, yn Abertawe ac ym Mro Morgannwg.   Roedd y Maer hefyd wedi cael pleser o ymweld â Mr and Mrs Thomas a oedd yn dathlu eu 60ain Pen-blwydd Priodas.  Roedd y Maer a’i Chymar yn bresennol mewn noson gymdeithasol yn Heronston er budd ei helusennau.  Mae dau ddigwyddiad arall eto i'w cynnal er bud ei helusennau dewisedig gan gynnwys noson Teyrnged i Tom Jones ar 17 Ebrill yn yr Hi Tide a'r Gala ar 28 Ebrill yn yr Heronston.

 

Hefyd cyhoeddodd y Maer mai hi agorodd y cyfleuster 'galw-heibio' i gyn- filwyr ar gyfer Cyn-filwyr a'u teuluoedd a gynhelir yn y  Parth.  Diolchodd i’r merched yn y Parth a deiliad masnachfraint Subway am yr arlwyaeth ac i Mr Gareth Evans a’r cyn-filwyr sy’n perthyn i elusen o’r enw ‘stepping out’, elusen ar gyfer y lluoedd arfog, am drefnu'r cyfan.  Diolchodd hefyd i’r AS Madeleine Moon ac aelodau’r Cabinet am eu presenoldeb yn y digwyddiad.  

 

Cyhoeddodd y Maer ei bod wedi bod yn y Senedd i ddathlu Canmlwyddiant Ambiwlans Sant Ioan.  Roedd hefyd wedi ymweld â Chanolfan Westward i’r dathliad 'Young at Heart’ ac roedd yn dymuno pob hwyl i’r gr?p i’r dyfodol.  Gofynnwyd i’r Maer gan Arglwydd Raglaw Morgannwg Ganol y Fonesig Kate Thomas os gallai feddwl am berson a oedd yn haeddu cael mynd i’r Briodas Frenhinol a’i bod hi yn awgrymu'r teulu Hodge o Bettws a enwebwyd gan y Cynghorydd Martin Jones.  Dywedodd bod y teulu wedi colli eu mab i Leukemia ddwy flynedd yn ôl a’u bod wedi codi mwy na £20,000 er budd Canser. 

 

Dirprwy Arweinydd

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd bod bron iawn 10,000 o aelwydydd wedi cofrestru ar gyfer y casgliad cynnyrch hylendid amsugnol ers ei lansio ym mis Mehefin 2017.Cyn belled, mae 662 o dunelli o’r cynnyrch hwn wedi'i ddargyfeirio o safleoedd tirlenwi ac wedi'i anfon i'r gwaith Nappicycle yn Rhydaman sy’n cynhyrchu deunyddiau y gellir eu hailgylchu.  Gofynnodd i’r Aelodau ei helpu i atgoffa eu hetholwyr am gynllun lle gall rhieni plant ifanc fanteisio ar ddisgownt arbennig drwy ddefnyddio cewynnau ‘go iawn’ y gellir eu hailddefnyddio.  

 

Cyhoeddodd hefyd bod cyfraddau cyflog newydd wedi’u cytuno ar gyfer holl staff NJC a fydd yn dod i rym o 1 Ebrill 2018. Caiff y cynnydd ei dalu o fis Mai 2018 ymlaen.  Dywedodd y bydd yr isafswm cyflog felly yn £9 yr awr erbyn mis Ebrill 2019, sy’n cyd-fynd â dymuniad y canghellor y dylai’r isafswm cyflog cenedlaethol fod yn £9 yr awr erbyn 2020.

 

Aelod Cabinet Cymunedau      

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet Cymunedau wrth yr Aelodau bod y goeden tiwlipau sy’n union gyferbyn â’r Swyddfeydd Dinesig yn  

afiach a bod rhaid ei dymchwel er budd diogelwch.  Caiff y gwaith hwn ei wneud ar yr un adeg â'r gwaith sy’n mynd rhagddo ar y llwybr beicio ar hyn o bryd a bod coed newydd wedi cael eu plannu wrth ymyl safle’r goeden fel rhan o’r project hwnnw. 

 

Cyhoeddodd bod Llywodraeth Cymru wedi dweud bod y cais am gyllid i wneud yr ystod lawn o welliannau diogelwch y ffordd ar hyd yr A48 rhwng cylchfannau Broadlands a Waterton wedi bod yn llwyddiannus.

Mae hyn yn dilyn rhywfaint o waith paratoadol a wnaed ar hyd y llwybr 5km y llynedd.  Mae’r gwelliannau a gynigir yn amrywio o osod llochesi i gerddwyr mewn lleoliadau allweddol ar hyd y llwybr, gosod arwyneb newydd ar lwybrau cerdded ac estyn troedffyrdd cysylltiedig i godi arwyddion newydd, marciau ffordd newydd a gwneud gwaith i glirio llystyfiant.   Gellid hefyd rhoi cyfyngiad cyflymder 50mya ar waith rhwng cylchfannau Ewenni a Broadlands yn hytrach na’r cyfyngiad 50mya presennol.

 

Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithas a Chymorth Cynnar bod y cynllun pontio maethu newydd ar fin dechrau. Bwriad y cynllun yw cynnig lleoliadau arbenigol tymor hyr o hyd at 24 wythnos sy'n helpu plant a phobl ifanc ag amrywiaeth o anghenion cymhleth ac ymddygiad heriol.   Nod cyffredinol y cynllun yw symud y person ifanc ymlaen i drefniadau hirdymor, llwyddiannus sy’n cyd-fynd a’u hanghenion ac uchelgais a gofynnodd i’r Aelodau helpu drwy roi cyhoeddusrwydd i'r fenter. 

 

Hefyd rhoddodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar y newyddion diweddaraf i Aelodau o ran cynnydd yr hyb diogelu amlasiantaethol (MASH).  Dywedodd fod y cam cyntaf wedi dechrau yn gynharach yn ystod y mis pan symudodd 12 o staff o Heddlu De Cymru, Gwasanaethau Plant, Cymorth Cynnar ac ABMU i’r swyddfeydd yn Ravens Court.  Bydd rhagor o gydweithwyr yn ymuno â nhw yn ystod y misoedd nesaf a bydd y gweithlu yn tyfu i bron 90 i gyd.

 

Cyhoeddodd hefyd yn dilyn cwestiwn a godwyd gan y Cynghorydd Alex Williams ac yng ngoleuni’r rhaglen deledu ddiweddar gyda Victoria Derbyshire, nifer y plant sy’n derbyn gofal ar hyn o bryd yw 375 ac o’r rhain mae 266 yn perthyn i grwpiau o frodyr a chwiorydd. Roedd 103 mewn grwpiau o frodyr a chwiorydd sy'n cynnwys rhwng 2 a 6 o blant.  Mae’r datganiad bod ‘58% o'r plant sy’n derbyn gofal ym Mhenybont-ar-Ogwr wedi’u cael eu gwahanu oddi wrth eu brodyr a chwiorydd’ yn deillio o nifer y grwpiau o frodyr a chwiorydd (nid plant unigol) nas anfonwyd i leoliadau gyda'i gilydd.  Roedd yn cynnwys 60 o grwpiau o frodyr a chwiorydd (roedd 103 yn y boblogaeth gyfan o 388).

 

Petai’r ceisydd wedi defnyddio plant unigol yn sail i’r cyfrifiad yn hytrach nag ‘aelwydydd/grwpiau’ byddai’r ffigwr wedi bod yn 43%.  Roedd hyn yn cynnwys 115 o unigolion (roedd 266 gyda brodyr a chwiorydd yn y boblogaeth gyfan o 388 sy’n derbyn gofal).  Dywedodd, o'i ddadansoddi ymhellach mae'n bwysig nodi bod 72 o'r 115 o’r unigolion wedi’u ‘gwahanu’ gan yr awdurdod lleol ar unwaith neu’n fuan ar ôl iddynt ddod yn blant sy’n derbyn gofal ar yr un pryd.  Mae’r 72 o blant yn cynrychioli 18.5% o gyfanswm y boblogaeth plant sy'n derbyn gofal.  Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar wrth yr Aelodau y byddai'r Cyngor bob amser yn gweithredu ar sail arfer dda ac yn ceisio cadw gr?p o frodyr a chwiorydd gyda'i gilydd pan fo'n bosib fel blaenoriaeth. Mae rhai achosion, fodd bynnag, pan fo asesiad yn nodi y byddai'r plant yn cael budd o fyw ar wahân.  Dywedodd bod Gofal Maeth Pen-y-bont ar Ogwr yn gwneud pob ymdrech i gadw grwpiau o frodyr a chwiorydd gyda’i gilydd a’u bod mewn sefyllfa i fanteisio ar deuluoedd maeth estynedig h.y. teuluoedd sy’n cynnwys sawl aelwyd sy’n cynnig lleoliadau maeth.  Mewn un teulu mae 3 o frodyr a chwiorydd sy’n oedolion wedi’u cymeradwyo fel aelwydydd maeth a nawr mae un o’u plant eu hunain yn cynnig aelwyd maeth, gydag un arall wrthi’n cael ei asesu.  Yn ddiweddar mae hyn wedi galluogi un gr?p o frodyr a chwiorydd sy’n cynnwys 6 o blant i gael eu lleoli gyda’r rhwydwaith hwn o deuluoedd maeth gan wella’r cyswllt a'r cyfle iddynt  dreulio amser gyda'i gilydd.

 

Aelod Cabinet Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol wrth yr Aelodau bod holl ddefnyddwyr presennol hostel Brynmenyn wedi symud i lety arall tra bod gwaith atgyweirio brys yn cael ei wneud ar yr adeilad.   Mae’r gwaith yn cael ei wneud ar ôl i ddifrod ymddangos ar yr adeilad yn dilyn ymsuddiant.  Mae’r hostel yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gynnig lloches i bobl sydd wedi cael eu gwneud yn ddigartref, ac yn eu galluogi i fanteisio ar wasanaethau eraill a gynlluniwyd i'w helpu i gael eu traed oddi tanynt a dod o hyd i lety parhaol.  Mae hefyd yn sicrhau nad oes rhaid i’r Cyngor ddefnyddio llety gwely a brecwast i gynnig cartref dros dro i deuluoedd â phlant.  

 

Cyhoeddodd yr Aelod Cabinet Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol bod digwyddiad ‘Step Out For Stroke' yn cael ei gynnal ar gyfer y mis nesaf.  Mae hwn yn debygol o gynnwys codi ymwybyddiaeth am strôc a sesiynau ymwybyddiaeth yn seiliedig ar ‘wybod am eich pwysau gwaed'.

 

Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio

Dywedodd yr Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio wrth Aelodau bod y cerbyd camera symudol sy’n gallu targedu pobl sy’n parcio’n anniogel neu anghyfreithlon y tu allan i ysgolion ar fin cychwyn ar ei waith.  Dywedodd bod y cerbyd yn defnyddio technoleg adnabod rhifau cofrestru cerbydau a’i fod yn canolbwyntio’n gyfan gwbl ar wella diogelwch y ffyrdd y tu allan i ysgolion lleol, a sicrhau bod plant yn ddiogel.  Dywedodd hefyd bod cynllun ‘Dim Pas, Dim Teithio’ wrthi’n cael ei dreialu ar  y bysus ysgol sy’n teithio yn ôl ac ymlaen o Ysgol Gyfun Brynteg gan fod contractwyr trafnidiaeth wedi rhoi gwybod bod nifer fawr o blant anghymwys yn ceisio defnyddio’r drafnidiaeth ysgol am ddim.   O ganlyniad, mae nifer o wasanaethau bellach yn orlawn, sydd wedi arwain at bryderon o ran diogelwch a phroblemau o ran ymddygiad ar rai llwybrau.  Ar ôl i'r treial ddod i ben, caiff y canlyniadau eu dadansoddi cyn y gwneir penderfyniad p'un ai a ddylid ymestyn y cynllun i gynnwys ysgolion uwchradd eraill.

 

Cyhoeddodd hefyd bod y cynlluniau ar gyfer G?yl Ddysgu 2018 eisoes yn mynd rhagddynt, ac y dylai Aelodau dderbyn pecyn digwyddiadau a gwahoddiad i gymryd rhan cyn bo hir.  Mae ysgolion yn cydweithio’n glos a swyddogion i lunio ystod o weithdai a gweithgareddau ar gyfer y cylch trafod a diwrnod y dysgwyr, ac mae rhaglen o weithdai wedi’i hanfon i ysgolion yn amlinellu sut gallan nhw gymryd rhan a chael budd o'r digwyddiadau.

 

Prif Weithredwr

 

Ar ran y Prif Weithredwr cyhoeddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant lansiad gwefan newydd y Cyngor a Fy Nghyfrif.  Mae trigolion yn cael eu hannog i fynd i weld y wefan newydd a chofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif.  Gall y rheiny sy’n byw yn y Fwrdeistref Sirol fewngofnodi i gysylltu â'u cyfrif y dreth gyngor, gwneud taliadau ar-lein, trefnu a rheoli taliadau debyd uniongyrchol a helpu'r Cyngor i arbed arian drwy ddewis e-Filiau.