Agenda item

Diweddariad ar Sefydlu Fframwaith Maethu Cenedlaethol a’r Gwaith Presennol mewn perthynas â Darpariaeth Gofal Maeth Mewnol.

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Gofl Cymdeithasol Plant adroddiad i'r Pwyllgor Cabinet am wybodaeth cefndirol a newyddion ynghylch cynnydd y gwaith sydd wedi ei wneud i sefydlu Fframwaith Maethu Cenedlaethol yng Nghymru.  Hefyd, rhoddodd newyddion ar ddarpariaeth gwasanaeth Gofal Maeth Pen-y-bont ar Ogwr a’r adolygiad ar y gwasanaeth maeth sy’n mynd rhagddo.

 

Eglurodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant fod cam 3 wedi cychwyn yn 2017 ac mae’n cynnwys ehangu a datblygu tîm canolog y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol er mwyn dod ag undod ac i gefnogi cydlyniad ac arweiniad y Fframwaith Maeth Cenedlaethol. Yna, disgrifiodd y rhaglen waith sy’n sail i’r cynlluniau rhanbarthol sy'n cael eu datblygu, fel y nodir yn adran 4.4 yr adroddiad.

 

Dywedodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant bod adolygiad yn mynd rhagddo ar Ofal Maeth Pen-y-bont ar Ogwr i sicrhau gwneud y gorau o botensial y gwasanaeth a datblygu model y dull mewn ffordd sy’n cyd-fynd â phroject ailfodelu Lleoliadau a Gwasanaethau preswyl a’r Fframwaith Maethu Cenedlaethol. Eglurodd y cai’r adolygiad ei gwblhau erbyn mis Gorffennaf 2018 ac ymgorffori nifer o ffrydiau gwaith fel y manylir yn adran 4.9 yr adroddiad.  Caiff y canfyddiadau hyn eu casglu a’u rhoi mewn adroddiad a fydd yn cyflwyno’r argymhellion a'r opsiynau o ran newidiadau i systemau, cyllid, polisïau a strwythur yn y gwasanaeth.

 

Gofynnodd Aelod am ddiweddariad ar System Wbodaeth Gofal Cymunedol Cymru a’r amserlen ar gyfer ei sefydlu trwy Gymru.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod 13 Awdurdod Lleol yng Nghymru ar System Wybodaeth.  Merthyr oedd yr Awdurdod Lleol diwethaf i fynd yn fyw a bydd RhCT yn dilyn yn fuan.  Cynllunnir ei gweithredu trwy’r holl awdurdodau yn y 18 mis nesaf, mae datblygu’r modelau’n digwydd yn araf deg. Dywedodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant wrth y Pwyllgor bod y modiwl gofal maeth yn fyw ac y byddi’r modiwl taliadau gofal maeth yn fyw ym mis Mai.

 

Dywedodd aelod ei fod ar ddeall y cafwyd anawsterau wrth recriwtio a chadw gofalwyr maeth yn y gorffennol; allai swyddogion ddweud sut mae'r sefyllfa ar hyn o bryd? 

 

Dywedodd Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Plant a Reoleiddir y bu gwelliant cyson ym Mhen y Bont gan 2 i 3 aelwyd bob blwyddyn. Mae’r tîm Cyfathrebu a Marchnata wedi gwneud llawer o waith i hyrwyddo’r gwasanaeth ac o ganlyniad, mae gennym bellach gronfa dda o ofalwyr maeth ym Mhen y Bont.  Mae’r rhaglen recriwtio a datblygu gofalwyr presennol dan adolygiad i wella datblygiad gyrfaoedd ar gyfer gofalwyr maeth mewnol a sicrhau bod yr Awdurdod Lleol yn gystadleuol mewn cymhariaeth â chynghorwyr maethu annibynnol. Eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod yr ymgyrch recriwtio yn gysylltiedig â’r MTFS oherwydd os y gallwn recriwtio yn lleol, gallwn dorri costau ar leoliadau allanol.  Anogodd y Cadeirydd Aelodau i hyrwyddo’r gwasanaeth ar unrhyw adeg bosibl oherwydd bod yr Awdurdod wastad am recriwtio.

 

Cyfeiriodd aelod at Ffrwd Gwaith 4 – Cyllid “mae adolygiad yn mynd rhagddo ar y pecynnau ariannol ar gyfer gofalwyr, bydd hyn yn cynnwys meincnodi yn unol ag asiantaethau maethu annibynnol ac awdurdodau lleol eraill yn defnyddio’r Fframwaith Maethu Cenedlaethol” a gofynnodd a fyddai mwy o gysondeb rhwng yr awdurdodau lleol ac asiantaethau preifat wedi’r adolygiad ar daliadau.

 

Eglurodd Rheolwr Gr?p y Gwasanaethau Plant a Reoleiddir mai’r brif broblem oedd nad oedd ffioedd yr awdurdod lleol yn cymharu ag asiantaethau preifat dan lefel penodol ac roedd yn bwysig trafod hyn fel rhan o’r adolygiad. Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles y bu cyhoeddusrwydd negyddol yn ddiweddar ynghylch asiantaethau maethu annibynnol a arweiniodd at ofalwyr maeth yn dymuno trosglwyddo i’r awdurdodau lleol.

 

Dywedodd Aelod bod Pen y Bont yn hael o'i gymharu â lwfansau awdurdodau lleol eraill. Gofynnodd, fodd bynnag, a oedd yn arfer gwneud asesiad ar sail unigol i edrych ar oblygiadau ariannol pan fo angen cymorth ariannol ychwanegol ar leoliadau.  Dywedodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant fod yr awdurdod eisoes wedi gwneud rhai taliadau â disgresiwn mewn rhai amgylchiadau, fodd bynnag, byddai’r adolygiad yn trafod hyn yn ogystal â sut rydym yn annog gofalwyr i gynilo ar gyfer anghenion y plentyn yn y dyfodol.

 

Dywedodd aelod bod y cyhoeddusrwydd cyffredinol ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal yn wael ac yr ymddengys bod diffyg rolau model cadarnhaol, er enghraifft Plant a Dderbyniodd Ofal ac a aeth i’r brifysgol neu i addysg bellach arall. Awgrymodd yr Aelod bod yr Awdurdod yn ystyried hyrwyddo hanesion cadarnhaol o Ben-y-Bont.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod hyn yn syniad ardderchog ac y trafodir hyn yn y timau.  Gallwn edrych ar ddatblygu llyfrgell o hanesion y gellid eu defnyddio fel rhan o’r recriwtio. Dywedodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant ein bod wedi ymgorffori clip cyfryngau cymdeithasol yn ein strategaeth, yn cynnwys Plentyn a Dderbyniodd Ofal a bod hwn wedi cael ymateb da.

 

Dywedodd Aelod bod “Voices from Care” yn sefydliad ardderchog a fyddai’n croesawu gwahoddiad i siarad ag aelodau etholedig.  Cytunwyd y cynigid hyn cyn gynted â phosibl fel cyflwyniad cyn cyfarfod y cyngor neu mewn sesiwn datblygu aelodau.

 

Holodd aelod ynghylch canran y lleoliadau sy’n cynnwys amryw blentyn o’r un teulu yn yr un cartref.  Dywedodd y Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Plant a Reoleiddir bod 35% o’r gofalwyr maeth nawr yn fodlon cymryd 2 – 3 plentyn ac rydym yn ceisio cadw brodyr a chwiorydd gyda’i gilydd pan fo’n bosibl. Mae gennym hefyd nifer o ofalwyr maeth sy’n perthyn felly mae hyn yn helpu cadw brodyr a chwiorydd gyda’i gilydd.

 

Gofynnodd aelod am newyddion ynghylch cymorth cyfoedion, recriwtio gofal maeth pontio newydd a lleoliadau rhieni a babis.

 

Dywedodd y Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Plant a Reoleiddir wrth y pwyllgor y byddai ymgyrch gofalwyr yn mynd yn fyw ar 30 Ebrill a fyddai’n lansio gwasanaeth newydd: gofalwyr pontio a chodi proffil gofalwyr Mawrth. 14 Mai yw cychwyn pythefnos maethu y gobeithir y rhydd hwb i recriwtio.  O ran lleoliadau rhiant a babi, mae 2 aelwyd wedi eu cymeradwyo ar gyfer hyn ac rydym yn asesu 2 arall. Trafodwyd y mater hwn mewn manylder mewn cyfarfod craffu diweddar a chytunwyd felly dosbarthu cofnodion y cyfarfod hwnnw i aelodau'r pwyllgor.

 

Gofynnodd aelod beth rydym yn ei wneud i gynorthwyo gofalwyr maeth newydd a theuluoedd o ofalwyr maeth.

 

Dywedodd Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Plant a Reoleiddir bod cynlluniau i gynnal rhaglen hyfforddiant sefydlu 16 wythnos ar gyfer gofalwyr maeth sydd newydd eu cymeradwyo.  Bydd hyn yn gwella ac ychwanegu at eu sgiliau a gwybodaeth. Mae gr?p cymorth ar gael ar gyfer meibion a merched gofalwyr maeth ac mae hwn wedi bod yn llwyddiannus iawn ac wedi cynhyrchu llyfr bychan yn ddiweddar o’r enw “Stori Dylan”, rydym yn gweithio ar gynhyrchu lawlyfr a chynhyrchu cân.

 

Gofynnodd aelod pa gymorth a gynigir mewn ysgolion i athrawon ynghylch problemau Plant sy'n Derbyn Gofal a’u hanghenion emosiynol cymhleth.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd y byddai’n ymchwilio’r mater hwn ac yn adrodd yn ôl; fodd bynnag, byddai’r awdurdod yn ystyried gweithio â gweithwyr cymdeithasol a phenaethiaid i gynnig hyfforddiant priodol.

 

Cododd aelod destun yswiriant cartref ar gyfer gofalwyr maeth, yn arbennig mewn perthynas â rhai cwmnïau’n gwrthod hawliadau.

 

Dywedodd Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Plant a Reoleiddir wrth y pwyllgor y nodir yng nghanllaw ysgrifenedig gofalwyr maeth y dylent roi gwybod i’w darparwr yswiriant bod eu statws wedi newid, mae rhai darparwyr yswiriant hefyd yn arbenigo yn y maes..  Dywedodd nad oedd hi'n ymwybodol bod hyn erioed yn broblem ym Mhen-y-Bont ar Ogwr a chadarnhaodd y Cadeirydd nod oedd erioed wedi ei godi gan y Panel Maethu.  Gwnaed asesiad risg llawn ac asesiad iechyd a diogelwch cyn unrhyw gymeradwyaeth gofal maeth.

 

Cyfeiriodd aelod at eitem 4.7 yr adroddiad a oedd yn nodi bod 75 plentyn mewn lleoliadau ag asiantaethau maethu annibynnol a gofynnodd a oedd hynny o ddewis neu yn fater o gapasiti yn yr Awdurdod Lleol.

 

Dywedodd Rheolwr Gr?p y Gwasanaethau Plant a Reoleiddir ei fod yn rhannol oherwydd capasiti ond bod angen ar rai plant i fod mewn lleoliadau arbenigol y tu allan i’r ardal.  Yn genedlaethol, roedd Pen-y-bont ar Ogwr yn groes i’r duedd oherwydd bod y ffigwr yn gymharol isel a tharged yr awdurdod oedd gostwng y ganran gan 4% eleni.

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor y penderfynwyd datblygu rhaglen weithio ymlaen a gofynnodd i aelodau am eitemau i'w cyflwyno yng nghyfarfodydd y dyfodol.

 

Awgrymodd Aelodau’r canlynol:

 

  • Diweddariad ar Archwiliad Plant, mae gwaith yn mynd rhagddo ar gynllun gweithredu a byddai’n ddefnyddiol dod a hyn yn ôl i’r pwyllgor er mwyn cael gweld y cynnydd; 

 

  • Derbyn diweddariad ar adolygiad ar Blant sy’n Derbyn Gofal yn canolbwyntio ar gymorth cynnar a’r gr?p ffocws Plant sy'n Derbyn Gofal;

 

  • Canlyniadau addysgol Plant sy'n Derbyn Gofal ag Anghenion Addysgol Arbennig, mae hyn wedi ei adolygu gan y Gr?p Gwella Ysgolion a byddai’n ddefnyddiol i’r Pwyllgor;

 

  • Derbyn diweddariad ar weithredu’r Hwb Cymorth Aml Asiantaeth a’i effaith;

 

  • Adolygiadau arfer plant, derbyn adroddiad a chyflwyniad ar ddigwyddid yn Hillside lle pasiodd y cyfnod amser priodol;

 

  • Gwahodd Plant a Dderbyniodd Ofal i wneud cyflwyniadau i’r Pwyllgor ar eu profiadau a llwyddiannau.

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: