Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Llety Brys

Gwahoddedigion

 

Cllr Dhanisha Patel, Aelod Cabinet - Lles a Chenedlaethau Dyfodol

Andrew Jolley, Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaethiol

Martin Morgans, Pennaeth Gwasanaeth Perfformiad a Gwasanaethau Partneriaeth Lynne Berry, Rheolwr Gr?p Adfywio Tai a Chymuned

Andrew Ireland, Y Wallich

Gareth Jones, Y Wallich

Lorraine Griffiths, Rheolwr Ardal, Grwp Pobl

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth adroddiad ar ddarpariaeth llety brys i bobl ddigartref ym Mhen-y-bont ar Ogwr.  Canolbwyntiodd yr adroddiad ar ddarpariaeth hostel ym Mrynmenyn, gyda’r bwriad o ymateb i ymholiadau’r Pwyllgor yn ymwneud ag ansawdd a phriodoldeb y ddarpariaeth.  Yn olaf, nododd yr adroddiad nifer o opsiynau ‘rhestr hir’ i’w hystyried fel darpariaeth bosibl arall yn lle (ar gyfer hostel Brynmenyn).

 

Rhoddodd y Rheolwr Gr?p, Tai ac Adfywio Cymunedol amlinelliad o’r adroddiad a chynghori bod Deddf Tai (Cymru) 2014 wedi newid canolbwynt y gefnogaeth i ddigartrefedd a thai i atal a lleddfu digartrefedd, ac i sicrhau bod pobl yn y sefyllfa hon yn cael cymorth cyn gynted â phosibl.

 

Adlewyrchodd y tabl ym mharagraff 3.2 yr adroddiad fod Cyfanswm y bobl yn cyflwyno eu hunain yn ddigartref wedi cynyddu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.  Roedd hyn oherwydd y ffaith yr oedd pawb a ystyriwyd yn gymwys â hawl i gael cymorth; fodd bynnag, roedd nifer y derbyniadau digartref anfwriadol yn rhan o’r angen blaenoriaeth ‘dyletswydd derfynol’ wedi gostwng yn sylweddol.

 

Ychwanegodd fod rhaid i’r Awdurdod ynghyd â’i bartneriaid ymateb mewn modd adweithiol mewn cyfnod byr o amser, i sicrhau bod llety dros dro/brys ar gael i unrhyw un a oedd yn ddigartref, yn enwedig yr unigolion hynny sy'n agored i niwed, hyd oni ddaethpwyd o hyd i lety parhaol addas.   Petai nifer y derbyniadau ‘dyletswydd derfynol’ wedi cynyddu, yna byddai’r galw a ddisgwylir ar gyfer llety dros dro/brys hefyd yn uwch.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gr?p, Tai ac Adfywio Cymunedol, y darparwyd llety brys yn yr hostel ym Mrynmenyn, yn ogystal ag yn Nh? Ogwr a Cornerstone, gwelyau brys ym mhrosiect Kerrigan a llety dros dro wedi’i brydlesu.  Er nad yw’n rhan o’r llety brys hwn, tynnwyd sylw at wybodaeth am y gofod llawr nosol (gofod llawr yn y Kerrigan dan reolaeth Gwalia) yn yr adroddiad, er mwyn rhoi cyd-destun o anghenion darpariaeth ddigartref ar y stryd ar gyfer y rhai hynny nad oes gan yr Awdurdod unrhyw ‘ddyletswydd’ o ran tai ar eu cyfer, ond sydd serch hynny angen lle i gysgu dros nos.  Roedd hyn ar ffurf darpariaeth mynediad uniongyrchol a oedd â 9 gofod llawr nosol i bobl sy’n cysgu ar y stryd.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gr?p, Tai ac Adfywio Cymunedol nad oedd y ddarpariaeth hon ar gyfer teuluoedd a oedd angen tai brys yn unig, gan fod tuedd hefyd bellach i gefnogi pobl sengl heb blant.

 

Rhoddwyd gwybod i Aelodau gan yr Aelod Cabinet – Cenedlaethau’r Dyfodol a Llesiant, fod y prif le yn y Fwrdeistref Sirol yn Hostel Brynmenyn, lle y gellid rhoi llety brys i unigolion, yn fwyaf effeithiol o ran darparu gwasanaeth.  Y broblem oedd bod yr adeilad yn hen, ac angen moderneiddio yn ogystal ag addasiadau eraill.

 

Roedd Aelod o‘r farn bod y gwasanaeth a ddarparwyd o ran Llety Brys wedi’i ystyried yn dda.   Fodd bynnag, roedd yna fater ynghylch hyn yn cael ei ddarparu i unigolion yn cael yn y cymoedd, gan eu bod ymhell o’r trefi, gyda’r bobl hyn ag adnoddau cyfyngedig i dalu am drafnidiaeth gyhoeddus i mewn/allan o leoliad o’r fath, lle'r oedd mwy i'w gynnig iddynt.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gr?p, Tai ac Adfywio Cymunedol, yr oedd systemau cefnogaeth symudol gan gynnwys ar gyfer ardaloedd mwy gwledig y Fwrdeistref Sirol.  Anogodd y Gwasanaethau Cymorth Tai unigolion i aros mewn tenantiaeth, ni waeth lle’r oedd hyn o fewn y Fwrdeistref Sirol, gan ei bod yn bwysig bod tenantiaid yn manteisio ar y gwahanol fathau o lety ar gael, boed hyn drwy Landlord Cymdeithasol Cofrestredig neu ffyrdd eraill, oherwydd y golygai hyn fod llai o bobl yn ‘ddigartref’.

 

Gofynnodd Aelod a fuasai sefyllfa’n bosibl, lle y byddai’r bobl sy'n cyflwyno eu hunain i'r awdurdod lleol fel pobl ddigartref, yn cael gwrthod rhyw fath o lety, boed hyn yn llety dros dro, yn dai argyfwng, neu’n rhywbeth mwy parhaol.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gr?p, Tai ac Adfywio Cymunedol wybod ei bod hi’n ofynnol i’r Cyngor fodloni ei rwymedigaethau o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014, lle’r oedd rhai unigolion yn bodloni’r gofynion er mwyn cael cynnig llety brys, er nad oedd eraill yn eu bodloni.  Dywedodd wrth Aelodau fod rhai pobl yn dewis cysgu ar y strydoedd, ac nad oedd eraill yn gallu sicrhau nac aros mewn tenantiaeth oherwydd problemau ymddygiad parhaus.  Câi’r bobl hyn yn aml eu troi allan oherwydd eu hymddygiad, sy’n golygu, er y bu i’r Cyngor gyflawni ei ddyletswydd i roi tai iddynt, y bu’n aflwyddiannus. Dan y trefniadau mynediad uniongyrchol, roedd yr Awdurdod yn dal i allu cynnig opsiwn arall i rai o’r bobl hyn â gwely mynediad uniongyrchol os oeddent yn ceisio hyn yn ddiweddarach, caent fynediad i'r ddarpariaeth mynediad uniongyrchol tymor byr h.y. darn o lawr.  Ychwanegodd fod nifer sylweddol o gymhlethdodau yn gysylltiedig â’r digartref, a’r dyletswyddau ar yr Awdurdod i geisio datrys hyn.

 

Dywedodd Aelod ei fod yn ymwybodol o brofiad blaenorol, fod cymaint â 51% o ddynion sengl a oedd yn chwilio am le i aros ar sail fwy parhaol, wedi methu yn hyn o beth. Teimlai fod hon yn ganran llawer rhy uchel.

 

Gofynnodd Aelod beth oedd y gyfradd lwyddiant ar gyfer unigolion y rhoddwyd gofod llawr brys iddynt i gychwyn ac a symudai ymlaen i sicrhau llety mwy parhaol drwy gytundeb tenantiaeth.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gr?p, Tai ac Adfywio Cymunedol wybod eu bod wedi cyfweld â nhw a’u hasesu i gychwyn yn ôl eu hanghenion a’u gofynion iechyd, a’u statws ariannol.  Caent gynnig cyngor a chanllaw a phan oedd yn addas, cynnig llety rhent neu dros dro. Bu i rai o’r bobl y cynigiwyd hyn iddynt lwyddo i’w gadw, ond yn achos y rhai na lwyddont, roedd hyn gan amlaf o ganlyniad i’r ffaith nad oeddent yn barod i symud ymlaen o ofod llawr brys i rywbeth mwy sicr, oherwydd amrywiaeth o resymau, a olygai na allent gyflawni’r cyfrifoldebau ynghlwm wrth drefniadau tenantiaeth mwy parhaol.  Gall pobl fynd i’r Swyddfeydd Dinesig lle mae mynediad at unrhyw gyngor neu opsiynau y mae arnynt eu hangen gan staff priodol.

Ychwanegodd y Pennaeth Partneriaethau a Pherfformiad fod ymarfer peilot parhaus a oedd yn cynnig proses fwy amrywiol, cyson a chefnogol i bobl megis y digartref, gyda chymorth y trydydd sector i leihau nifer y bobl sy’n wynebu argyfwng yn codi o sefyllfa osod, h.y. drwy fynd i ddyled drwy ôl-ddyledion rhent, a’r rhai yr oedd angen cymorth arnynt am resymau salwch ac ati. Ychwanegodd fod dod o hyd i lety addas i ddynion sengl yn drafferth.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Cymdeithasol – Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth, er bod angen adnewyddu’r cyfleuster ym Mrynmenyn, roedd serch hynny yn wasanaeth cymorth llety tymor byr gwych i bobl sengl neu i gyplau.  Fodd bynnag, roedd diffyg nifer o gyfleusterau yno.

 

Ychwanegodd cynrychiolydd The Wallich, er bod diffyg cyfleusterau penodol, ystyriwyd Hostel Brynmenyn yn un a allai ddarparu llety brys i deuluoedd, tra’r oedd T? Ogwr yn fwy addas i bobl sengl sy’n ddigartref am gyfnod, cyn ystyried eu hatgyfeirio at lety mwy parhaol.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gr?p, Tai ac Adfywio Cymunedol wybod i’r Pwyllgor fod patrwm defnydd yn Hostel Brynmenyn wedi newid dros y flwyddyn ddiweddaf, gan fod mwy o bobl sengl, neu deuluoedd un rhiant wedi dangos diddordeb yn cael eu cartrefu dros dro yno nag o’r blaen. Roedd yn anodd gwybod yn sicr a fyddai’r patrwm hwn yn parhau i symud ymlaen, er y câi ei fonitro er mwyn edrych ar gynnig opsiynau i gynnig Llety Argyfwng yn y dyfodol.

 

Roedd Aelod yn ymwybodol bod y gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu yn un eithaf effeithlon, er iddo nodi, fel Aelodau eraill, nad oedd y cyfleusterau yn hostel Brynmenyn yn addas at y diben mwyach, a hynny oherwydd diffyg cyfleusterau digonol i gefnogi gwahanol anghenion. Roedd yn ymwybodol o'r cyfyngiadau ariannol parhaus sy'n wynebu'r Cyngor o ran dod o hyd i gyfleuster arall addas yn lle'r hostel hon.   Roedd o’r farn bod yna ffyrdd o archwilio hyn, gyda’r bwriad o gynorthwyo cyllido hostel newydd, o bosibl drwy'r gyllideb Refeniw Cyfalaf a/neu gymorth gan bartneriaid.  Ychwanegodd y byddai’r sefyllfa’n gwella wedi i’r Awdurdod recriwtio Swyddog Eiddo Gwag newydd; ei brif nod ac amcan fyddai sicrhau bod yr eiddo gwag yn cael ei feddiannu.  Ychwanegodd y dylai Swyddogion ystyried o bosib ddefnyddio adeiladau gwag eraill ym mherchnogaeth y Cyngor y gallai fod yn addas eu defnyddio fel Llety Brys, yn hytrach nag aros yn wag. 

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth wybod, er ei fod yn cefnogi'r dewisiadau posibl yn llwyr wrth symud ymlaen fel yr amlinellir yn yr adroddiad, cadarnhaodd i Aelodau fod angen i unrhyw ddewis a geisiwyd fod o fewn cyllideb ac ar hyn o bryd, nid oedd gan y Cyngor unrhyw sgôp dan y MTFS am ragor o wariant Cyfalaf arall o gwbl.  Rhan nesaf y broses i’w harchwilio oedd y ffordd orau i fwrw ymlaen â chyllido cyfleuster amgen i Frynmenyn.  

 

Cadarnhaodd Aelod ei fod wedi ymweld â’r cyfleuster llety brys yn Nh? Ogwr, a gofynnodd beth oedd costau cartrefu person yno dros dro, sut y bodlonwyd y gost hon, a'r dulliau y gweithiodd yr Awdurdod gyda'r Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i ddarparu gwasanaeth o’r fath.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gr?p, Tai ac Adfywio Cymunedol wybod y byddai’n cael y wybodaeth a’i phasio ymlaen i Aelodau, er bod rhai manylion ynghylch cyllido i gynorthwyo â’r broblem ddigartrefedd ym mharagraffau 3.5 a 3.6 yr adroddiad.  Darparwyd hyn drwy gyfuniad o gyllid y Cyngor, cyllid digartrefedd Llywodraeth Cymru a chyllid Grant Rhaglen Cefnogi Pobl, ar gyfer cyfleusterau megis Llety Gwely a Brecwast Gwag ar Brydles, Hostel Brynmenyn, a chyfleusterau T? Ogwr a Cornerstone.

 

Gofynnodd Aelod a oedd cyfansymiau'r cyllid a fanylwyd yn y Tabl ym mharagraff 3.5 yr adroddiad yn cael eu cyfrifo dros gyfnod blynyddol, y cadarnhaodd y Pennaeth Partneriaethau a Pherfformiad eu bod nhw.  

 

Gofynnodd aelod pa waith oedd yn cael ei wneud gyda thîm Gadael Gofal y Cyngor er mwyn atal digartrefedd ar gyfer pobl iau na 25 oed.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gr?p, Tai ac Adfywio Cymunedol wybod fod swyddogion yn rhan o’r gwaith o ddarparu llety brys yn gweithio gyda Gweithwyr Cymdeithasol gyda bwriad o weithredu mesurau ataliol penodol ar gyfer pobl a allai fod yn agored i niwed, megis y rhai sy’n gadael gofal.  . Roedd trafodaethau’n mynd rhagddynt i drafod cyfleoedd arian grant ar gyfer datblygu projectau newydd a fyddai’n helpu gydag unrhyw gymhlethdod sy’n gysylltiedig ag anghenion tai pobl ifanc. Y cynllun oedd defnyddio dull ar y cyd i ddod â’u hanghenion Gofal Cymdeithasol a mecanweithiau cymorth cysylltiedig â thai ynghyd yn fuan wedi i unigolion adael gofal. Roedd hyn yn cynnwys anghenion llety ac unrhyw ddulliau cymorth mwy cymhleth y byddai arnynt eu hangen.   

 

Roedd Aelod o’r farn y gallai Grant Rhaglen Cefnogi Pobl gael ei roi ar agenda Pwyllgor Craffu Trosolwg a Chraffu y dyfodol fel eitem ar wahân ac fe gytunodd i gwblhau ffurflen meini prawf i gefnogi hyn. 

 

Yna, cyfeiriodd at y trefniadau Mynediad Uniongyrchol/Gofod Llawr a oedd ar gael yn y cyfleuster Kerrigan a agorwyd yn Waterton ers mis Tachwedd 2017 ar gyfer y gr?p 18+ oed.  Gofynnodd a oedd y wybodaeth yn yr adroddiad yn cyfeirio at ofod llawr neu ofod gwely yn y Cyfleuster Kerrigan.

 

Rhoddodd y cynrychiolydd o The Wallich wybod bod dwy ystafell yn y cyfleuster hwn, ac yr oedd pobl a oedd yn cysgu yno dan drefniadau dros dro yn cysgu mewn gwelyau, yn hytrach na'r math plygu a ddarparwyd cyn hynny.  Roedd ymwelwyr benywaidd a gwrywaidd hefyd yn cael eu cadw ar wahân. 

 

Gofynnodd Aelod a oedd unrhyw ystadegau ar gael a ellid dangos nifer y bobl a oedd yn cysgu ar y strydoedd yng Nghymru.

 

Cadarnhaodd y cynrychiolydd o The Wallich fod data ar gael ond roedd y ffigurau’n newid bron bob dydd.  

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Ardal Gr?p Pobl fod ffurflenni dyddiol ynghylch yr uchod yn cael eu darparu i CBSP o ran y niferoedd y rhoddwyd llety dros dro iddynt mewn lleoedd megis y Kerrigan, a chadarnhaodd wrth Aelodau fod 7 person wedi cael gwely yn y cyfleuster neithiwr. 

 

Nododd Aelod fod dewisiadau wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad ar gyfer darparu llety dros dro yn y dyfodol a allai gartrefu'r digartref ar drefniant dros dro, a gofynnodd ai un o’r rheiny oedd y dewis a ffefrir ar hyn o bryd.

 

Rhoddodd y Pennaeth Partneriaethau a Pherfformiad wybod nad oedd unrhyw ddewis a nodwyd yn yr adroddiad wedi'i ddiystyru, ac y byddai’r rhain, ynghyd ag unrhyw rai eraill posibl i'w hychwanegu yn cael ystyriaeth bellach cyn gwneud penderfyniad terfynol.

 

Gofynnodd Aelod os rhoddir ystyriaeth i unrhyw eiddo gwag a berchnogir/a brydlesir gan y Cyngor (er enghraifft cyfleusterau Gofal Ychwanegol wedi cau) i’w defnyddio fel rhyw fath o lety dros dro/brys i’r digartref.  .

 

Rhoddodd y Pennaeth Partneriaethau a Pherfformiad wybod fod hyn yn cael ei ystyried ynghyd â dewisiadau eraill gyda'r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles. 

 

Awgrymodd Aelod y gallai’r Ystafell Assia hefyd gael ei hystyried fel dewis addas at y diben hwn.

 

Roedd Aelod o’r farn bod angen rhagor o wybodaeth ar yr adroddiad am oblygiadau cost ar gyfer y dewisiadau i'r dyfodol a oedd i'w hystyried.

 

Gofynnodd Aelod a oedd unrhyw gyllid i archwilio cymorth darpariaeth Llety Brys, ar wahân i gyllid Grant Tai Cymdeithasol a ymddangosodd fel petai'n lleihau o hyd.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Partneriaethau a Pherfformiad fod y cyllid Grant Tai Cymdeithasol ar gael a bod y defnydd o Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i ddarparu dewisiadau llety dros dro o’r fath yn llai o faich ariannol, yn hytrach na thynnu ar unrhyw Gyllid Cyfalaf a allai fod ar gael gan CBSP.  

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Partneriaethau a Pherfformiad fod y cyllid Grant Tai Cymdeithasol ar gael a bod y defnydd o Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i ddarparu dewisiadau llety dros dro o’r fath yn llai o faich ariannol, yn hytrach na thynnu ar unrhyw Gyllid Cyfalaf a allai fod ar gael gan CBSP.        

Casgliadau

 

Diolchodd Aelodau i’w holl swyddogion ac asiantaethau allanol a fynychodd y cyfarfod ac am eu sylwadau a’u cyfraniadau at yr adroddiad.     Cydnabu’r Pwyllgor y gwasanaeth cymorth gwych a ddarparwyd i bobl yn cyflwyno eu hunain i’r ddarpariaeth llety brys a’u hannog gan y bartneriaeth yn gweithio i reoli’r darpariaethau hyn.  

O ran y dewisiadau ar gyfer cyfleuster arall ym Mrynmenyn, gofynnodd Aelodau am ragor o wybodaeth am bob un o’r dewisiadau cyn gwneud argymhelliad ar y dewis yr oeddent yn ei ffafrio.  Gofynasant i aelodau gael rhagor o wybodaeth am yr holl ddewisiadau a gyflwynwyd iddyn nhw, a gofyn iddynt gyflwyno dewisiadau i’r Pwyllgor Craffu ar gyfleuster newydd arall yn y tymor byr, canolig a hwy ac i nodi costau ac amserlenni manylach ar gyfer bob un.   

Argymhellodd Aelodau y dylai swyddogion archwilio’r cyfle i ddefnyddio adeiladau dros ben ym mherchnogaeth yr Awdurdod Lleol megis cartrefi gofal y gellid eu defnyddio unwaith eto.  

 

Argymhellodd Aelodau fod angen sefydlu gofod llawr mynediad uniongyrchol ar gyfer defnydd tymor hwy ac y dylai swyddogion weithredu dull integredig tuag at ddatblygu unrhyw gyfleuster newydd.  Argymhellodd Aelodau y gellid defnyddio’r gofod llawr mynediad uniongyrchol fel hyb ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth i gael mynediad at amrywiaeth o wasanaethau cymorth ac awgrymu eu bod yn archwilio model llwyddiannus yr ystafell Assia yn Swyddfeydd Dinesig yr Awdurdod sydd mewn lleoliad canolog, ac felly'n haws i gael mynediad at amrywiaeth o asiantaethau cymorth allanol.

 

Gofyn am fwy o wybodaeth

 

Gofynnodd Aelodau am wybodaeth am y costau i gartrefu unigolyn yn Nh? Ogwr bob blwyddyn.

 

Gofynnodd Aelodau am ymweliad safle â chyfleuster gofod llawr mynediad uniongyrchol Prosiect Kerrigan a reolir gan Gwalia gyda swyddog CBSP perthnasol fel y gallant weld pa gyfleusterau sydd ar gael ac adrodd yn ôl i'r Pwyllgor llawn.

 

Gofynnodd Aelodau am ffigyrau bras am ddigartrefedd ar y stryd ym Mhen–y-bont ar Ogwr.   Deallodd Aelodau fod y rhain yn newid yn ddyddiol, ond gofynasant am ffigyrau bras fel y gallent ddeall graddfa’r broblem.

Dogfennau ategol:

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z