Agenda item

Rhaglen Datblygu Hybiau Menter

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau adroddiad gyda’r pwrpas o geisio cymeradwyaeth i symud ymlaen datblygiad y Rhaglen Datblygu Hybiau Menter, a fyddai, fel cyfanswm, yn cynnwys ailwampio a chreu adeiladau busnes newydd mewn ymateb i'r angen a nodwyd mewn tri lleoliad allweddol yn y Bwrdeistref Sirol, sef ym Mharc Gwyddoniaeth Pen-Y-Bont Ar Ogwr, Ystâd Diwydiannol Fferm y Pentref a Brocastle.

 

Mae’r adroddiad yn rhoi diweddariad ar waith yr ymgymerwyd ag ef ers adroddiad Cabinet blaenorol ar 31 Ionawr 2017 a oedd yn perthyn i ddatblygu Project Datblygu'r Hybiau Menter (Parc Gwyddoniaeth Pen-Y-Bont Ar Ogwr ac Ystâd Diwydiannol Fferm y Pentref) ac mae’n ceisio awdurdod i symud i gam terfynol y negodiadau gyda Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) mewn perthynas â phecyn cyllid.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau fod tystiolaeth ddiriaethol iawn, pe bai nodau’r adroddiad yn cael eu cyflawni, byddai hyn yn cefnogi blaenoriaeth gorfforaethol 'Cefnogi economi leol lwyddiannus.'

 

Rhoddodd yr adroddiad rywfaint o wybodaeth cefndir, a phwysleisiodd bwysigrwydd bod â mentrau bach yn y Bwrdeistref Sirol lle yr oedd CBSP yn gwneud cymaint o gynnydd wrth wireddu'r uchelgais hwn ag unrhyw Fwrdeistref Sirol yng Nghymru, pan fo'r cyfle'n codi, er y bu dod o hyd i le ac adeilad digonol ar gyfer busnesau bach o’r fath weithiau’n broblem.

 

Fel y dywedwyd uchod, atgoffodd yr Aelodau, ar 31 Ionawr 2017 cymeradwyodd y Cabinet adroddiad o’r enw Cynllun Rhanbarthol Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) i Ddatblygu Hybiau Menter.  Amlygodd yr adroddiad, yn 2016, paratowyd Tabl Rhesymeg Gweithrediadau (OLT) a’i gyflwyno i Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru gan Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent mewn perthynas â datblygu Project Datblygu Hybiau Menter rhanbarthol fel 'mynegiant o ddiddordeb'.  Roedd hyn y rhestru’r egwyddorion a’r amcanion cychwynnol ar gyfer y Project, ond ni ymrwymodd yr Awdurdodau i gyflawni’r Project ar y cam hwn.  Yn dilyn ystyriaeth gychwynnol, gwahoddodd Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru gynllun busnes llawn ar gyfer y Project.Ychwanegodd, er bod Blaenau Gwent wedi arwain ar hyn ar y dechrau, Pen-Y-Bont Ar Ogwr oedd y Buddsoddwr arweiniol ar hyn bellach.

 

Symudodd yr adroddiad ymlaen trwy gadarnhau, yn baralel â gwaith sy'n mynd ymlaen o ran yr uchod, roedd Llywodraeth Cymru wedi sicrhau cytundeb Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop i symud ymlaen gyda datblygiadau seilwaith safle a gwaith galluogi mewn tri o'u safleoedd strategol allweddol, sef T? Du (Caerffili), Cross Hands (Caerfyrddin), a Brocastle (Pen-Y-Bont Ar Ogwr).

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau nad oedd unrhyw unedau cychwyn busnes ar gael ar hyn o bryd gan CBSP neu Business in Focus, ac roedd gan y ddau restrau aros.Roedd Unedau MaguSony ym Mhencoed yn llawn i gyd a hefyd roedd rhestr  aros yno.

 

Ystyriwyd bod hinsawdd y farchnad ar hyn o bryd yn golygu bod datblygiadau hapfasnachol preifat fel ymateb i hyn yn annhebygol, felly ychwanegodd fod angen prif gyllid y pwmp cyhoeddus.

 

Parhaodd trwy ddweud bod y Rhaglen Datblygu Hybiau Menter yn cynnig cefnogi ailwampio a chreu adeilad busnes ym Mharc Gwyddoniaeth Pen-Y-Bont Ar Ogwr, Ystâd Ddiwydiannol Fferm y Pentref a Brocastle, ac fel rhaglen i gyflawni’r hyn a ddisgrifiwyd mewn fformat pwyntiau bwled yn mharagraff 4.3 yr adroddiad.

 

Byddai’r Rhaglen hon yn arwain at nifer y swyddi, Mentrau Bach a Chanolig a main y lle ar y llawr yn y cyfleusterau hyn, fel yr amlinellwyd ym mharagraff 4.6 yr adroddiad, tra bod 4.7 yn rhoi manylion cyfanswm y pecyn ariannu ar gyfer y Rhaglen. 

 

Roedd Paragraff 4.9 yr adroddiad ymlaen yn cynnwys natur a manylion gwahanol grantiau sy’n cael eu dyrannu tuag at ariannu’r Rhaglen, gan gynnwys eu termau a’u hamodau.

 

Bydd y Rhaglen yn cymryd i ystyriaeth gwaith strategol arall sy'n cael ei wneud ar draws y rhanbarth ac wrth wneud hynny byd hefyd yn cysylltu â strategaethau cenedlaethol a'r adroddiad gan Gomisiwn Twf a Chystadleugarwch Bargen Ddinesig Rhanbarth Prifddinas Caerdydd.  Caiff alinio gyda’r Fargen Ddinesig a Thasglu’r Cymoedd ac wrth iddynt ddatblygu, eu harchwilio er mwyn datblygu ymhellach y Rhaglen Datblygu Hybiau Menter gyda chyfleoedd ychwanegol ar gyfer buddsoddi yn cael eu hyrwydd.

 

Wedyn dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol wrth y Cabinet am oblygiadau ariannol yr adroddiad fel y cyfeiriwyd atynt ym mharagraffau 7 yr adroddiad gan gynnwys rhoi gwybod am Achos Busnes y byddai angen iddo gael ei ddatblygu er mwyn symud ymlaen yn llawn gyda'r Cynllun a fyddai'n cynnwys rhai opsiynau hyfyw penodol.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet – Addysg ac Adfywio fod hyn yn adroddiad newyddion da, o ran ei fod yn cadarnhau’r ymdrechion a oedd yn cael eu gwneud er mwyn llenwi bylchau Unedau Cychwyn ar gyfer mentrau llai. Ychwanegodd fod cyllid Ewropeaidd hefyd ar gael er mwyn cefnogi’r rhaglen hon, a oedd yn fonws ychwanegol.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd y byddai’r rhaglen hefyd yn galluogi’r cyfle i 58 o fusnesau bach gael eu creu, a fyddai’n fuddsoddiad a fyddai’n talu allan, ac yn ei dro, yn fuddiol i drethdalwyr ac entrepreneuriaid yn y Bwrdeistref Sirol.

 

PENDERFYNWYD:                 Bod y Cabinet

 

                                     (1)  Yn nodi, ymhellach i adroddiad y Cabinet ar 31 Ionawr 2017, gyda’r teitl Cynllun Rhanbarthol ar gyfer Datblygu Hybiau Menter Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF), ac mewn ymateb i gyngor WEFO, paratowyd OLT gan CBSP ym mis Mai 2017 gyda’r cynllun busnes yn cael ei gyflwyno ym mis Rhagfyr 2017 ar gyfer y Project Datblygu Hybiau Menter (Parc Gwyddoniaeth Pen-Y-Bont Ar Ogwr ac Ystâd Ddiwydiannol Fferm y Pentref).  Mae’r OLT a’r cynllun busnes yn cynnig cyflawni project sy’n benodol i’r Sir gyda CBSP fel Noddwr y Project, yn hytrach na’r project rhanbarthol gyda CBSP fel noddwr ar y cyd fel yr amlinellwyd yn adroddiad 31 Ionawr 2017.  

 

                                     (2)  Awdurdodi’r Cyfarwyddwr Corfforaethol, Cymunedau, i derfynu manylion gyda WEFO mewn perthynas â’r Project Datblygu Hybiau Menter (Parc Gwyddoniaeth Pen-Y-Bont Ar Ogwr ac Ystâd Ddiwydiannol Fferm y Pentref) ac yn amodol ar gymeradwyaeth y Swyddog 151, mynd i mewn i gytundeb cyllido er mwyn cyflawni'r project fel yr amlinellir uchod.  Wrth wneud hynny, ceisio cymeradwyaeth gan y Cyngor am swm o £544,182 i’w dalu o fenthyca cynghorus yn ogystal â’r arian cyfartal a sicrhawyd eisoes, ac i’r cynllun gael ei gynnwys o fewn y rhaglen cyfalaf i'w gyflwyno pan fydd yr holl ffynonellau wedi’u cymeradwyo.  

 

(3)  Awdurdodi’r Cyfarwyddwr Corfforaethol, Cymunedau, i derfynu trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru mewn perthynas â Menter ar y Cyd arfaethedig ar gyfer datblygu Project Datblygu Hybiau Menter (Brocastle) ac, mewn ymgynghoriad â’r Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Gweithrediadau a Phartneriaethau, mynd i gytundeb cyfreithiol boddhaol/ Cyfreithiwr i’r Cyngor a’r Swyddog Monitro.

 

                                    (4) Monitro Cyfarwyddwr Corfforaethol, Cymunedau i gyflwyno a, yn amodol ar gymeradwyaeth y Swyddog Adran 151, derbyn cynnig cyllido gan WEFO er mwyn i’r project Datblygu Hybiau Menter (Brocastle) gyflawni’r project fel yr amlinellir ac wrth wneud hyn, ceisio cymeradwyaeth gan y Cyngor i swm o £344,755 gael ei dalu o fenthyca cynghorus, ac i’r cynllun gael ei gynnwys o fewn y rhaglen cyfalaf ar gyfer cyflawni pan fydd yr holl ffynonellau cyllid gael eu cymeradwyo.    

Dogfennau ategol: