Cofnodion:
Gofynnodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau i’r Aelodau yn rhinwedd eu swydd fel Ymddiriedolwyr yr Elusen, Sefydliad y Gweithwyr Nantymoel, i gymeradwyo’r bwriad i gau a dirwyn yr elusen bresennol i ben ac arfer eu pwerau statudol dan adrannau 267-274 Deddf Elusennau 2011 i drosglwyddo holl asedau’r elusen i sefydliad elusennol corfforedig a sefydlir gydag amcanion elusennol tebyg iawn, sef Clwb Bechgyn a Merched a Chanolfan Gymunedol Nantymoel.
Yn dilyn cau Canolfan Berwyn yn 2010, gofynnwyd i’r Comisiwn Etholiadol am ganiatâd i ddymchwel yr adeilad presennol, a dyweddodd y Comisiwn y byddai dymchwel yr adeilad yn arwain at broblemau hirdymor y byddai'n rhaid mynd i'r afael â nhw maes o law. Dywedoddd bod Canolfan Berwyn dan ymddiriedolaeth gyda’r Cyngor, gyda phob un o’i aelodau etholedig yn gweithredu fel ymddiriedolwr o’r elusen sy’n gyfrifol amdano, sef Sefydliad y Gweithwyr Nantymoel. Yn dilyn dymchwel y Ganolfan, ni fyddai’r Cyngor yn gallu bodloni diben elusennol y Sefydliad mwyach ac felly cynigiodd Comisiwn Etholiadaol nifer o opsiynau i’w hystyried. Dywedodd mai’r dewis a ffefrir yw trosglwyddo’r tir y saif Canolfan Berwyn arno (nid y tir ehangach sy'n ei amgylchynu) a'r arian a gedwir gan yr elusen bresennol i elusen leol arall gydag amcanion elusennol tebyg iawn. At y diben hwnnw mae’r Cyngor yn cefnogi sefydlu Sefydliad Elusennol Corfforedig, Clwb Bechgyn a Merched a Chanolfan Gymunedol Nantymoel, a sefydlwyd at ddibenion elusennol tebyg iawn i holl ddibenion Sefydliad y Gweithwyr Nantymoel.
Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau bod gwaith wedi bod yn mynd rhagddo yn lleol am nifer o flynyddoedd i lunio cynllun busnes a chynnig i wario'r cyfalaf o £200,000 a neilltuwyd yn y Rhaglen Cyfalaf pan fyddai Canolfan Berwyn yn cau, tuag at ddatblygu cyfleusterau eraill neu estynedig yn Nantymoel. Dywedodd bod y Cabinet ym mis Tachwedd 2017 wedi cymeradwyo rhydau’r cyfalaf i Glwb Bechgyn a Merched Nantymoel yn seiliedig ar gynllun i ehangu a gwella’r cyfleusterau presennol i alluogi'r gymuned i'w ddefnyddio. Dywedwyd wrth y Cabinet ar y pryd bod y gr?p cymunedol wedi gofyn i’r Cyngor ddilyn y broses sy’n angenrheidiol i ryddhau’r arian a gedwir mewn ymddiriedolaeth, er mwyn ychwanegu at yr £200,000 o arian cyfalaf a neilltuwyd. Dywedwyd wrth y Cabinet ar y pryd bod tua £46,000 wedi'i gadw ac mai gwerth cyfredol y gronfa yw £49,274.69
Dywedodd y gofynnwyd am gyngor pellach gan y Comisiwn Elusennol ar y broses o drosglwyddo asedau'r elusen bresennol yn seiliedig ar y dewis hwn a ffefrir. Cynahliwyd cyfarfod cyhoeddus at y diben o ofyn barn trigolion lleol ar ddirwyn yr elsuen bresennol, Sefydliad y Gweithwyr Nantymoel, a sefydlu corff ag amcanion elusenol tebyg iawn, Clwb Bechgyn a Merched a Chanolfan Gymunedol Nantymoel, ar 28 Mawrth 2018. Cadeiriwyd y cyfarfod gan y Dirprwy Arweinydd ac ynddo nodwyd y cynnig llawn gan roi’r cyfle i drigolion lleol ofyn unrhyw gwestiynau neu fynegi unrhyw bryderon. Cafodd y cynnig ei gefnogi’n unfrydol yn y bleidlais ddilynol.
Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau y byddai dirwyn yr elusen bresennol i ben a throsglwyddo ei hasedau yn arwain at drosglwyddo £49,274.69 i Glwb Bechgyn a Merched a Chanolfan Gymunedol Nantymoel yn amodol ar gymeradwyaeth ffurfiol gan y Comisiwn Elusennol. Yn ogystal, caiff y darn o dir yr oedd Canolfan Berwyn yn sefyll arno cyn ei ddymchwel ei drosglwyddo i’r sefydliad elusennol corfforedig a enwir uchod. Bydd amcanion yr elusen yn ei atal rhag cael ei werthu at ddibenion masnachol.
Wrth gymeradwyo’r cynnig dywedodd y Dirprwy Arweinydd ei fod yn gobeithio y byddai’r holl Aelodau yr un mor gefnogol.
PENDERFYNWYD: (1) Y byddai’r Cyngor yn cefnogi’r cynnig i ddirwyn i ben yr elusen bresennol, Sefydliad y Gweithwyr Nantymoel, a chymeradwyo penderfyniad trosglwyddo p?er wrth arfer ei bwerau statudol dan adrannau 267-274 Deddf Elusennau 2011 i drosglwyddo holl asedau’r elusen i Sefydliad Elusennol Corfforedig a sefydlir at ddibenion elusennol sy'n debyg iawn i'w holl ddibenion elusennol, sef Clwb Bechgyn a Merched a Chanolfan Gymunedol Nantymoel.
(2) Y byddai’r Cyngor yn cymeradwyo'r cynnig i gysylltu gyda’r Comisiwn Elusennol yn ffurfiol i gwblhau’r broses o ddiddymu’r elusen bresennol a throsglwyddo ei holl asedau fel y nodwyd uchod.
Dogfennau ategol: