Agenda item

Cynllun Datblygu Lleol Pen-y-bont ar Ogwr (CDLl) – Adroddiad Adolygu Drafft

Cofnodion:

Gofynnodd y Rheolwr Gr?p - Datblygu am gymeradwyaeth i gynnal ymgynghoriad targedig ar yr Adolygiad o Gynllun Datblygu Lleol Pen-y-bont ar Ogwr.  Dywedodd bod yr Adroddiad Adolygu drafft yn cyflwyno hyd a lled y newidiadau tebygol i’r CDLl (2006-2021) presennol ac yn gofyn am gadarnhau y caiff y weithdrefn adolygu ei dilyn wrth baratoi CDLl newydd.   Dywedodd wrth y Cyngor y cynigir y byddai’r CDLl Newydd yn cwmpasu cyfnod hyd at 2033, sef diwedd cyfnod o 15 mlynedd a fydd yn dechrau yn 2018. 

 

Dywedodd y cafodd y CDLl ei fabwysiadu ar 18 Medi 2013 a’i fod yn nodi amcanion y Cyngor ar gyfer datblygu a defnyddio tir ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros gyfnod o 15 mlynedd o 2006 i 2021, a’i bolisi o ran eu gweithredu.  Dywedodd bod CDLl ddiweddaredig yn rhan hanfodol o system gynllunio a arweinir gan gynllun yng Nghymru.  Er mwyn sicrhau yr asesir yn rheolaidd a chynhwysfawr p'un ai yw cynlluniau yn dal yn gyfredol, mae’n ofyniad statudol ar y Cyngor i gynnal adolygiad llawn o’r CDLl mabwysiedig yn ystod cyfnodau o ddim mwy na phob pedair blynedd o ddyddiad ei fabwysiadu.    Gan hynny, sbardunwyd adolygiad llawn o’r CDLl mabwysiedig ym mis Medi 2017.  Ers iddo gael ei fabwysiadu, mae’r CDLl wedi bod yn destun adolygiad blynyddol ac mae tri Adroddiad Monitro Blynyddol wedi'u cyhoeddi. 

 

Dywedodd y Rheolwr Gr?p - Datblygu cyn y gellir gwneud unrhyw adolygiad mewn cysylltiad â Chynllun Datblygu bod rhaid cynnal Adroddiad Adolygu i benderfynu ar y llwybr gweithdrefnol priodol a'r problemau allweddol i'w hystyried wrth fwrw ymlaen â'r CDLl.  Dywedodd bod yr Adroddiad Adolygu hefyd yn ystyried p’un ai a ddylai’r broses o baratoi CDLl newydd gael ei gyflawni’n unigol neu ar y cyd ag Awdurdodau Cynllunio Lleol cyfagos.  Tynnodd sylw at brif ganlyniadau’r Adroddiad Adolygu drafft o ran Newidiadau Cyd-destunol; Asesu’r newidiadau tebygol sydd angen eu gwneud i’r CDLl presennol; Adolygu’r Opsiynau o ran Sail y Dystiolaeth ac Adolygu’r CDLl.

 

Holodd Aelod o’r Cyngor ba drefniadau fyddai ar waith i Aelodau gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar y CDLl.  Dywedodd y Rheolwr Cynllunio Datblygu y caiff Grwpiau Pwnc eu sefydlu ac y caiff Aelodau lleol ac aelodau Cynghorau Tref a Chynghorau Cymuned eu gwahodd i gymryd rhan yn y broses ar y cam adolygu. 

 

Cyfeiriodd aelod o’r Cyngor at benderfyniad y Cyngor i fwrw ymlaen a’i gynllun ei hun gan ofyn p'un ai a yw'n bwriadu cydweithio gydag awdurdodau cyfagos megis Cyngor RhCT, yng ngoleuni cynigion ar gyfer datblygiad tai ar raddfa fawr yn RhCT sy’n agos iawn at ei ffin â Phenybont-ar-Ogwr.  Cadarnhaodd y Rheolwr Gr?p - Datblygu bod trefniadau cydweithio ar waith gydag awdurdodau lleol cyfagos yn enwedig pan fo ceisiadau cynllunio yn arwain at drafod materion trawsffiniol.  Dywedodd y byddai CDLl Cyngor RhCT yn dod i ben tua’r un adeg a CDLl y Cyngor hwn.  Dywedodd hefyd y byddai effaith y datblygiad mawr dan sylw ar Benybont-ar-Ogwr yn cael ei ystyried gan swyddogion.

 

Gofynnodd aelod o’r Cyngor p’un ai y gellir adolygu'r polisi ar dai fforddiadwy.  Cyfeiriodd aelod o’r Cyngor at nifer yr adeiladau gwag yng nghanol trefi gan ofyn a ellid ystyried cynnwys Pencoed yn unol â’r trefi eraill yn y Fwrdeistref Sirol.  Dywedodd y Rheolwr Cynllunio Datblygu y byddai’n rhaid ystyried y polisi ar dai fforddiadwy a nifer yr adeiladau gwag mewn canol trefi yn fanwl yng nghyd-destun y CDLl. 

 

Cyfeiriodd aelod o’r Cyngor at yr angen i swyddogion roi sylw i’r effaith a gaiff datblygiadau tai newydd ar fodloni’r galw am leoedd ysgol.  Cadarnhaodd y Rheolwr Cynllunio Datblygu y byddai swyddogion o’r Adran Addysg yn rhan o’r Gweithgor ac y caiff effaith datblygiadau tai ar addysg a gwasanaethau eraill y Cyngor ei hystyried.

 

PENDERFYNWYD:              (1)  Cymeradwyodd y Cyngor yr Adroddiad Adolygu at ddibenion ymgynghori targedig.

 

(2) Y byddai’r Cyngor yn awdurdodi’r Rheolwr Gr?p - Datblygu y Gyfarwyddiaeth Cymunedau i ymgynghori ar yr Adroddiad Adolygu drafft.

 

(3)  Bod y Cyngor yn rhoi awdurdod dirprwyedig i Reolwr Gr?p Datblygu y Gyfarwyddiaeth Cymunedau i wneud unrhyw gywiriadau ffeithiol neu fân newidiadau i’r Adroddiad Adolygu drafft yn ôl yr angen.          

Dogfennau ategol: