Agenda item

Adroddiad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr Gr?p - Cyfreithiol adroddiad ar Adroddiad Blynyddol drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol mewn perthynas â lefel y gydnabyddiaeth ariannol y mae’n rhaid i’r Awdurdod sicrhau ei fod ar gael i Aelodau ar gyfer blwyddyn ddinesig 2018/19. 

 

Roedd cynrychiolwyr y Panel wedi cynnal ymweliadau â'r holl brif Gynghorau ym 2017 i drafod y fframwaith cydnabyddiaeth ariannol a sut y caiff ei gweithredu ym mhob Cyngor.  Roedd y Panel wedi gwneud 52 o gynigion yn ei Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2018/19.     

 

Arweiniodd Rheoliadau’r Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) (Cymru) 2007 at sefydlu Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

 

Penderfynodd y Panel i gynyddu Cyflog Sylfaenol aelodau etholedig gan £200, byddai’r cyflog ar gyfer aelodau etholedig y prif gynghorau ar gyfer 2018/19 yn £13,600. Nid oedd y Panel wedi newid ei benderfyniadau blaenorol mewn perthynas â'r cyflogau uwch a delir i ddeiliaid Swyddi Uwch sy'n cynnwys y cynnydd yn y Cyflog Sylfaenol.  Mae Cyflog yr Arweinydd a’r Dirprwy Arweinydd yn seiliedig ar boblogaeth y Fwrdeistref Sirol (100,000 - 200,000), gyda’r Arweinydd yn cael £48,300 a’r Dirprwy Arweinydd yn cael £33,800.  Mae’r Panel wedi cael gwared y lefelau gwahanol o ran y taliadau a wneir i aelodau Cabinet ac mae pob un ohonynt bellach yn gallu hawlio'r cyflog uwch o £29,300.  Mae’r Panel hefyd wedi cael gwared ar y lefelau gwahanol o ran y taliadau a wneir i Gadeiryddion Pwyllgor a bydd pob Cadeirydd yn cael cyflog o £22,200.  Mae hefyd wedi ailadrodd mai mater i’r awdurdodau lleol yw penderfynu pa gadeiryddion a delir.    Dywedodd y Rheolwr Gr?p - Cyfreithiol bod y Cyngor yn ei Adroddiad Blynyddol ym mis Mai 2017 wedi penderfynu talu'r Cadeiryddion Pwyllgor canlynol:

 

                Panel Apeliadau

                Pwyllgor Archwilio

                2.3.4 Pwyllgor Rheoli Datblygiad

                Trwyddedu/Pwyllgor Deddf Trwyddedu 2003

                Trosolwg Pwnc a Phwyllgor Craffu 1

Trosolwg Pwnc a Phwyllgor Craffu 2

Trololwg Pwnc a Phwyllgor Craffu 3

Aelod Annibynnol sy’n cadeirio’r Pwyllgor Safonau y telir £256 iddo am gyfarfod sy’n para mwy na 4 awr neu £128 am gyfarfod dan 4 awr.

 

Mae’r Pwyllgorau canlynol yn cael eu cadeirio gan aelodau sydd eisoes yn cael cyflog Uwch/Dinesig ac felly nid ydynt yn cael unrhyw dâl ychwanegol.

 

·         Y Cyngor

·          Pwyllgor Penodiadau

·         Cadeiryddion Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu

·         Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned

·         Is-bwyllgor Hawliau Tramwy

·         Nid yw Cadeirydd Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd yn cael tâl ar hyn o bryd.

 

Dywedodd y Rheolwr Gr?p - Cyfreithiol fod y Panel eisoes wedi penderfynu y dylai'r Cyngor sicrhau bod cyflog uwch o £22,300 ar gael i arweinydd yr wrthblaid fwyaf sy'n cynrychioli o leiaf 10% (6 Aelod) o’r Cyngor cyn bod yn gymwys i gael cyflog uwch.  Mae’r Cyngor ar hyn o bryd yn sicrhau bod cyflog uwch ar gael i arweinydd gr?p y Gyngrhair Annibynnol.    Mae cyflog uwch o £17,300 hefyd ar gael i arweinydd unrhyw gr?p arall sy’n cynrychioli o leiaf 10% (6 Aelod) o’r Cyngor.  Mae’r Cyngor ar hyn o bryd yn sicrhau bod cyflog uwch ar gael i arweinydd gr?p y Ceidwadwyr.    Mae’r Panel wedi nodi na chaiff Pen-y-bont ar Ogwr dalu mwy nag 18 o swyddi Cyflogau Uwch ac yn ei Gyfarfod Blynyddol ym mis Mai 2017 penderfynodd mai dim ond 15 o gyflogau swyddi Uwch gaiff eu talu.  

 

Dywedodd y Rheolwr Gr?p - Cyfreithiol bod y Panel wedi penderfynu y gellir talu cyflogau dinesig ac y dylai lefel y cyflog gael ei benderfynu gan Gynghorau ar ôl rhoi ystyriaeth i lwyth gwaith a chyfrifoldebau'r rolau.

 

Lefel 2

Y Maer

Dirprwy Faer

Lefel 1

£24,300

£18,300

Lefel 2

£21,800

£16,300

Lefel 3

£19,300

£14,300

 

Mae’r Maer a’r Dirprwy Faer presennol yn cael Cyflogau Dinesig a Chyngor Lefel 2 ar gyfer y flwyddyn ddinesig 2017-18.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p - Cyfreithiol adroddiad ar benderfyniadau’r Panel mewn perthynas â chefnogi gwaith  aelodau etholedig awdurdodau lleol.  Mae Penderfyniad 17 a wnaed gan y Panel yn gallu pob Cynghorydd yn yr Awdurdod i ymuno a Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol os ydynt yn dymuno gwneud hynny.  Penderfynodd y Panel bod hawl gan Aelod Etholedig i gael cyflog sylfaenol pan fydd yn cymryd absenoldeb teuluol dan Reoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) 2013 waeth beth fo’r cofnod o absenoldeb cyn dechrau’r absenoldeb teuluol.  Pan fydd uwch ddeiliad swydd yn gymwys i gael absenoldeb teuluol, byddai ef/hi yn parhau i dderbyn y cyflog drwy gydol yr absenoldeb.  Mater i’r Awdurdod oedd penderfynu p’un ai i benodi rhywun yn ei le/lle.  Byddai’r Aelod Etholedig sy’n cymryd lle uwch ddeiliad cyflog sy’n cymryd absenoldeb teuluol yn gymwys i dderbyn cyflog uwch, petai'r Awdurdod yn penderfynu talu hwnnw iddo.

 

Dywedodd y Rheolwr Gr?p - Cyfreithiol fod y Cabinet wedi penodi'r Cynghorwyr CE Smith a DBF White i Awdurdod Tân ac Achub De Cymru. Ni fyddai unrhyw Arweinydd neu Aelod Cabinet gaiff ei bennod i’r gwasanaeth dan sylw yn cael cyflog ychwanegol ganddo.  Y Gwasanaeth Tân ac Achub sy’n gyfrifol am dalu ei gynrychiolwyr a chyhoeddi manylion unrhyw daliadau a wneir ganddynt.  

 

Dywedodd y Rheolwr Gr?p - – Cyfreithiol bod gan yr awdurdod y Cyfetholedigion canlynol gyda hawliau pleidleisio:

 

  • Cadeirydd y Pwyllgor Safonau
  • 3 Aelod Annibynnol ar Bwyllgor Safonau 
  • 2 Aelod Cyngor Tref a Chymuned Cyfetholedig ar y Pwyllgor Safonau
  • 5 Cynrychiolydd cofrestredig (Llywodraethwyr Ysgolion Eglwysig ac Ysgolion)
  • 1 Person lleyg a benodwyd i’r Pwyllgor Archwilio

 

Roedd yr holl awdurdodau yn talu’r costau am ofalu am blant ac oedolion sy’n ddibynyddion (gan ofalwyr anffurfiol neu ffurfiol) ac am anghenion cymorth personol o hyd at £403 y mis.  Caiff y taliadau eu gwneud dim ond os cyflwynir derbynneb gan y gofalwr. 

 

Mae’r Rheoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) 2013 yn benodol iawn o ran yr hawliad sydd ond ar gael i Aelodau Etholedig y prif gynghorau.  Nid yw absenoldeb oherwydd afiechyd yn gynwysedig.  Codwyd achosion yn ymwneud ag uwch ddeiliaid cyflog sy'n absennol oherwydd salwch hirdymor gyda'r Panel ac annhegwch ymddangosiadol hyn o’i gymharu â’r trefniadau ar gyfer absenoldeb teuluol.  O ganlyniad, mae cynghorau’n wynebu’r broblem ganlynol sef:

 

·         Gweithredu heb yr aelod unigol gan barhau i dalu’r cyflog uwch iddo.

·          Penodi rhywun yn lle’r aelod dan sylw a fydd yn colli'r cyflog uwch (ond yn cadw'r cyflog sylfaenol).

 

Penderfynodd y Panel na fyddai’n newid y gyfradd milltiroedd y mae hawl gan yr aelodau i'w chael.

 

Er nad yw’r Cyngor yn gallu newid lefel y tâl a benderfynir gan y Panel, caniateir i aelodau unigol wrthod y cyfan neu unrhyw elfen o'r tâl y mae hawl ganddynt iddo drwy ysgrifennu at Swyddog Priodol yr Awdurdod. 

 

Y gyllideb gyfredol a bennwyd ar gyfer 2018/19 ar gyfer talu aelodau etholedig yw £1,104,140.

 

PENDERFYNWYD:            Cymeradwyodd y Cyngor:

 

·         y byddai’n mabwysiadau penderfyniadau perthnasol y Panel Taliadau Annibynnol yn Adroddiad Blynyddol mis Chwefror 2018 fel y dangosir yn Atodiad 1.

 

·         y swyddi hynny (fel y dangosir yn yr Atodlen Taliadau Aelodau diwygiedig yn Atodiad 2), a fydd yn derbyn cyflog uwch/dinesig.

 

·         lefel y taliadau ar gyfer y Cyflogau Dinesig.

 

·         yr Atodlen Taliadau Aelodau diwygiedig  yn Atodiad 2, ac iddi ddod i rym o 16 Mai 2018 (Cyfarfod Blynyddol y Cyngor).

 

·         y byddai  Atodlen Taliadau Aelodau yn cael ei diweddaru’n awtomatig gydag unrhyw newidiadau dilynol i swyddi â Chyflog Uwch/Dinesig a wneir gan y Cyngor yn ystod blwyddyn ddinesig 2018/19.

   

Dogfennau ategol: