Agenda item

Derbyn cyhoeddiadau gan:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

(iv) Swyddog Monitro

 

Cofnodion:

Y Maer

 

Rhoddodd y Maer wybod i’r Cyngor o ddigwyddiadau swyddogol yr oedd ef a’i gonsort wedi mynd iddynt yn y mis diwethaf oedd yn cynnwys mynd i wasanaeth bendithio Ysgol Gynradd Betws a phen-blwydd Mrs Elsie Criddle yn 100 oed.  Roedd y Maer a’r Consort wedi mynd i dair sioe ysgol a’r ?yl Ddysgu, y symposiwm a diwrnod i ddysgwyr Pen-y-bont ar Ogwr.  Roeddent hefyd wedi mynd i’r gwobrau YSBRYDOLI am Oes a chyflwyniad RAF gyda Madelaine Moon AS.  Aethpwyd i ddigwyddiadau pellach gyda gwasanaeth ieuenctid cymunedol y Pîl a Chynffig, Barnu cystadleuaeth “just giving” yn ysgol gyfun Pencoed, Diwnod Hwyl yr Haf Dogs Trust, gwobrau cyfnod allweddol 3 yn CCYD, cofnod o Seremoni Cyflawniadau yn Ysgol Bryn Castell, Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Samaritans, Diwrnod Hwyl Bracla, Cyngerdd Flynyddol Côr Plant Maesteg, diwrnod hwyl i’r teulu Little fingers Kidz yn Evanstown, Digwyddiad 4 Gorffennaf Hapus yng Nghanolfan Gristnogol Vine, gwobrau Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, gwasanaeth Dinesig Caerffili, Arddangosfa Samtampa a Thywysog Edward Cymru, project teulu Splice and Child, Sioe Sir Pen-y-bont ar Ogwr, cyngerdd Flynyddol Côr Pencoed, Gwasanaeth Dinesig Castell-nedd Port Talbot, Seremoni Gwobrau Dinasyddiaeth Cynradd Tondu, noson ddathlu yn Ysgol Bryn Castell.     

 

Dirprwy Arweinydd 

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd wrth Aelodau am yr ymdrechion i roi hwb i ailgylchu ym Melin Wyllt i fynd i’r afael â phroblemau gyda gwastraff a thipio anghyfreithlon o gwmpas ardaloedd biniau cyffredin, gyda mwy o finiau ychwanegol yn Nhairfelin i greu mannau casglu dynodedig newydd ar gyfer gwastraff a bagiau porffor.  Mae gwelliannau tebyg eisoes wedi cael effaith gadarnhaol yn rhan Glanffornwg yr ystâd, lle y cafodd mannau ailgylchu eu symud i’w gwneud yn fwy hygyrch a haws i’w defnyddio.  Dywedodd hefyd wrth yr Aelodau fod swyddogion addysg wedi bod yn siarad â thrigolion i godi ymwybyddiaeth ym mhob rhan o’r gymuned.  Caiff dwy orsaf ailgylchu ychwanegol eu hychwanegu yng Nglanffornwg.  Erbyn diwedd yr haf, bydd gwelliannau wedi’u gwneud ym mhob rhan o Felin Wyllt a chaiff yr effaith y mae’r mannau casglu newydd wedi’i chael ar drigolion ym Maesyfelin a Threm Garth ei hadolygu.

 

Cyhoeddodd y Dirprwy Arweinydd fod Cadwch Gymru’n Daclus wedi gwobrwyo statws Baner Werdd i wyth cyfleuster ym y Fwrdeistref Sirol i nodi safon uchel parciau a mannau gwyrdd ym Mharc Sirol Bryngarw, Amlosgfa Llangrallo, Parc Llesiant Maesteg, Ll?n Wilderness ym Mhorthcawl, Ysbyty Glanrhyd, Gardd Marchnad Caerau, Rhandiroedd Badgers Brook a Chymdeithas Rhandir Wilderness.

 

Hefyd cyhoeddodd y Dirprwy Arweinydd fod adborth cadarnhaol wedi’i dderbyn o’r ?yl Ddysgu ddiweddar.  Roedd yr ?yl wedi’i chreu i arddangos dulliau addysgu a dysgu arloesol a newydd, ac anogodd ysgolion i rannu eu profiadau a’u gwybodaeth tra'n sefydlu cyfleoedd hyfforddiant newydd i athrawon a staff.  Ymgasglodd mwy na 800 o athrawon, disgyblion, addysgwyr, hyfforddwyr a chyflogwyr ar gyfer yr ?yl, a chynhaliwyd hyd at 100 o weithdai mewn ysgol a arddangosodd sut y gellir defnyddio y datblygiadau ystafell ddosbarth modern diweddaraf i fuddio plant lleol.  Yn yr ?yl, rhoddodd y Comisiynydd Plant, Dr Sally Holland, araith ac  

hefyd yn yr ?yl roedd symposiwm a ganolbwyntiodd ar sut  gellir datblygu, cynnal a gwella iechyd a llesiant disgyblion, a diwrnod i ddysgwyr lle cynigiodd disgyblion o ysgolion lleol stondinau, arddangosfeydd ac arddangosiadau ymarferol o rai o’r technegau sy’n cael eu defnyddio.  Yng nghwmni'r Cyngor, Llywodraeth Cymru, Estyn, Swyddfa’r Comisiynydd Plant ac ysgolion lleol ar gyfer yr ?yl oedd sefydliadau gan gynnwys Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru, Gwasanaeth Addysg ar y Cyd Consortiwm Canolbarth y De, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llesiant yn Addysg Uwchradd a Chelf Disgleirdeb.  Diolchodd i bawb a helpodd i drefnu'r ?yl. 

 

Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

Gofynnodd yr Aelodau Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar i’r Aelodau roi gwybod i’w hetholwyr bod bellach modd gwneud cais am leoedd yn nau ddatblygiad Gofal Ychwanegol newydd y Fwrdeistref Sirol.  Dywedodd fod disgwyl y bydd T? Llwynderw, sy’n datblygu ar hen safle Ysgol Gyfun Iau Maesteg a Th? Ynysawdre, sy’n cael ei ddatblygu'r drws nesaf i Goleg Coleg Cymunedol y Dderwen, wedi ei gwblhau yn yr Hydref hwn.  Mae’r ddau gynllun yn cael ei adeiladu mewn partneriaeth â Linc Cymru a byddant yn galluogi tenantiaid i barhau i fyw’n annibynnol a bodloni anghenion pobl sy’n newid wrth iddynt heneiddio.  Mae 45 fflat Gofal Ychwanegol un neu ddwy ystafell wely ar gael yn y ddau ddatblygiad a rhaid i ymgeiswyr fod yn byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, bod yn h?n na 65 oed, a rhaid bod ganddynt gynllun gofal a chymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol eisoes neu’n aros am asesiad.

 

Cyhoeddodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fod Linc Cymru wedi trefnu digwyddiad ymgynghori cymunedol yr wythnos ddiwethaf lle y trafodon nhw eu cynigion ar gyfer sefydlu Pentref Llesiant Sunnyside ar safle blaenorol swyddfeydd y Cyngor a’r llys ynadon.  Dan arweiniad Linc Cymru, mewn partneriaeth â ni a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe a Bro Morgannwg, daw’r project â meddygfa, fferyllfa, deintydd, clinigau cymunedol a thai cymorth newydd.

 

Cyhoeddodd yr Aelod cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fod Clwb Can?io Maesteg wedi'i gydnabod am ei ganolbwynt ar anabledd a chynhwysiant.  Mae’r clwb wedi ennill categori Aur yn y gwobrau chwaraeon am ei ymdrechion sy'n cydnabod cymhelliant, ymrwymiad a brwdfrydedd y clwb i newid bywydau pobl anabl trwy grym chwaraeon.

 

Yr Aelod Cabinet dros Les a Chenedlaethau’r Dyfodol

 

Roedd yr Aelod Cabinet dros Les a Chenedlaethau’r Dyfodol yn falch o roi gwybod i’r Aelodau y cafodd enillwyr gwobrau ‘Ysbrydoli am Oes’ cyntaf Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr eu datgelu'r wythnos ddiwethaf.  Mae gwobrau, wedi’u creu i ddathlu Pencampwyr, grwpiau a sefydliadau lleol sydd wedi helpu i wella iechyd a llesiant pobl yn eu cymunedau, yn canolbwyntio ar bum categori gwahanol.  Llongyfarchodd Canolfan Cwricwlwm Amgen Maesteg yn Ysgol Gyfun Maesteg am ennill y categori Arloesi a Community Furniture Aid am ennill y categori ‘Gwneud Gwahaniaeth’.  Roedd Simon Green o Glymblaid Pen-y-bont ar Ogwr i Bobl Anabl yn llwyddiannus yn y categori ‘Grym Un Person’, enillodd Geoff Cheetham o SHOUT y wobr ‘Tu hwynt i’r Galw’, a chyflwynodd y wobr ‘Gwirfoddolwr Ifanc' i Nora Hardy o Ysgol Gyfun Bryntirion.  Roedd yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol yn falch fod y galw ar bobl i enwebu arwyr di-glod ac arwyr sy’n gweithio er lles eraill, wedi tynnu ymateb enfawr a diolchodd i’r holl enwebwyr a llongyfarchodd yr enillwyr.

 

Llongyfarchodd yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol Ysgol Gyfun Pencoed am ennill y Wobr Hunaniaeth y Tîm Gorau a chipiodd y trydydd lle yn y Dosbarth Datblygu yng nghystadleuaeth ‘F1 mewn Ysgolion’ sy’n anelu at annog peirianwyr ifanc.  Dywedodd i’r tîm i’r merched yn unig ddylunio, datblygu a chreu 'car mini' ac arddangosfa pwll trwy ddefnyddi'r enw tîm 'Nemesis Inferno’.  O ganlyniad i’w hymdrechion, mae’r merched wedi ennill nawdd gan y Gr?p Sinclair a fydd yn eu cefnogi gyda’u dyheadau i’r dyfodol.  Cystadlu timau lleol eraill gydag Ysgol Gyfun Brynteg gan hefyd gyrraedd y rownd derfynol.  Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol fod annog mwy o ferched i ddilyn gyrfaoedd STEM yn flaenoriaeth genedlaethol, a chanmolodd ysgolion am ysbrydoli eu disgyblion i ddatblygu sgiliau y mae eu hangen yn y diwylliant peirianyddiaeth. 

 

Gofynnodd yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol i’r Aelodau atgoffa etholwyr bod rhaglen Ysgol wedi Gorffen yn cynnig ystod eang o weithgareddau am ddim wedi'u creu i gadw plant yn heini, yn iach ac yn brysur yn ystod gwyliau'r haf.  Lansiwyd y rhaglen yr wythnos ddiwethaf a threfnwyd y rhaglen gan y Cyngor mewn partneriaeth ag Awen, Halo, Menter Bro Ogwr a chynghorau cymuned a thref lleol.  Mae Rhaglen Ysgol wedi Gorffen eleni hefyd yn cynnwys y fenter Park Lives, sesiynau Actif am Oes, nofio am ddim a llawer mwy.  Bydd y rhaglen lawn o weithgareddau ar gael ar wefan y Cyngor o ddydd Gwener 20 Gorffennaf, ac mae mwy o wybodaeth am Her Ddarllen yr Haf ar gael o Lyfrgell Pen-y-bont ar Ogwr. 

 

Swyddog Monitro

 

Gofynnodd y Swyddog Monitro i’r Aelodau nodi bod dyddiad cyfarfod nesaf y Pwyllgor Archwilio wedi newid o 13 Medi i 6 Medi 2018. Mae’r newid yn cael ei wneud ar gais y Cadeirydd ac ymgynghorwyd ag aelodau’r Pwyllgor Archwilio ar y newid i’r dyddiad. 

 

Prif Weithredwr

 

Croesawodd y Prif Weithredwr Mr Greg Lane, pennaeth newydd y Gwasanaethau Democrataidd i’w gyfarfod y Cyngor cyntaf.

 

Cyhoeddodd y Prif Weithredwr fod yr Arweinydd wedi diweddaru'r Cyngor yn flaenorol ar yr ymgynghoriadau a'r trafodaethau wedi'u harwain gan Lywodraeth Cymru ar y newidiadau i ffiniau bwrdd iechyd.  Dywedodd y bydd yr Aelodau’n ymwybodol i’r Ysgrifenyddiaethau Cabinet gytuno y bydd y gwaith o weinyddu gwasanaethau iechyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn symud o ABMU i Gwm Taf o 1 Ebrill y flwyddyn nesaf ymlaen. 

 

Dywedodd wrth yr Aelodau fod bwrdd rhaglen ar y cyd wedi’i sefydlu, wedi’i gyd-gadeirio gan gadeiryddion y ddau fwrdd iechyd.  Mae’n cynnwys ddau Brif Weithredwr y byrddau iechyd yn ogystal ag Arweinydd y Cyngor hwn a'i hunain.  Dywedodd fod hefyd gan y Cyngor hwn ddarpariaeth i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Aeloda Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fynychu i sicrhau bod y Cyngor yn cael ei gynrychioli.  Roedd cyfarfodydd cychwynnol wedi bod yn gadarnhaol ac yn gynhyrchiol ac amlinellodd yr egwyddorion y cytunwyd arnynt i lywio’r project hwn.

 

Bydd parhau rhoi gofal o ansawdd i gleifion yn ganolog i bob cam gweithredu a phenderfyniadau.

 

Bydd y ddau Fwrdd Iechyd yn cydweithio ac yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau nad yw’r boblogaeth neu’r sefydliad yn cael eu rhoi dan anfantais gan ganlyniadau gweithredol neu ariannol y newidiadau.  O ran poblogaeth, byddai’n golygu poblogaeth newydd Cwm Taf ledled Merthyr, RCT a Phen-y-bont ar Ogwr a phoblogaeth newydd ABMU ledled Abertawe a Chastell-nedd a Port Talbot.

 

Cedwir y cyfrifoldeb am gomisiynu gwasanaethau Iechyd ar gyfer poblogaethau Castell-nedd Port-Talbot ac Abertawe, yn llawn, gan ABMU.  Cadarnheir parhad unrhyw wasanaethau i Ysbyty Castell-nedd Port Talbot o Ben-y-bont ar Ogwr gyda chytundebau lefel gwasanaeth yn cael eu rhoi ar waith fel sy'n briodol.

 

Bydd y cyfrifoldeb am gomisiynu gwasanaethau Iechyd ar gyfer poblogaeth Pen-y-bont ar Ogwr yn trosglwyddo’n llwyr i BIP Cwm Taf o 1 Ebrill 2019.

 

Bydd cyfrifoldeb darparwyr am yr holl wasanaethau GIG i boblogaeth Pen-y-bont ar Ogwr yn trosglwyddo i BIP Cwm Taf o 1 Ebrill 2019 oni bai bod rheswm cyfreithiol wedi’i gyd-gytuno dros gadw gwasanaeth penodol gydag ABMU naill ai yn y byrdymor (i leihau dad-sefydlogi yn ystod y cyfnod pontio) neu ar sail mwy cadarn, lle er enghraifft:

Bod gwasanaeth penodol yn rhan o wasanaeth arbenigol y mae ABMU eisoes yn ei ddarparu i’r boblogaeth ehangach.

Mae gwasanaeth swm isel sengl neu wedi’i arbenigo’n fawr yn cael ei ddarparu ar gyfer poblogaeth Pen-y-bont ar Ogwr ar hyn o bryd o Abertawe neu Gastell-nedd Port Talbot (neu i’r gwrthwyneb) ac mae’r crynswth hanfodol mor fach bod pryderon go iawn yn cael eu codi am gynaliadwyedd a’u chwalu.

 

Mewn achosion o’r fath, byddai angen cyflawni cyfrifoldebau comisiynu BIP Cwm Taf ar gyfer y boblogaeth trwy CLG priodol.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod rhan y Cyngor hwn yn y Bwrdd yn bwysig ac yn rhoi’r cyfle i’r Arweinydd a’r Cyfarwyddwr a’r Aelod Cabinet i ddylanwadu a siarad ar ran Pen-y-bont ar Ogwr o ran buddiannau ei boblogaeth ac o ran integreiddio gwasanaethau gydag iechyd nawr ac wrth fynd ymlaen.  Mae llawer o waith y Bwrdd yn ymwneud â gwaith mewnol y ddau sefydliad iechyd.  Fodd bynnag, mae Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn arwain y gwaith sy'n perthyn i bartneriaethau yn ardaloedd y ddau fwrdd iechyd.  Dywedodd y Prif Weithredwr wrth y Cyngor fod Cwm Taf, fel bwrdd iechyd, yn uchelgeisiol a bod CBSP, fel Cyngor, yn uchelgeisiol ac edrychodd ymlaen at y ddau barti’n cydweithio’n agos.  

 

Dywedodd y Prif Weithredwr  wrth y Cyngor y byddai’n hysbysebu am rôl Cyfarwyddwr Addysg a Chymorth i Deuluoedd.  Dywedodd i’r Cyfarwyddwr cyfredol Lindsay Harvey gael ei benodi gan y Cyngor dros dro pan gafodd ei ragflaenydd ei eilio i Lywodraeth Cymru ac a adawodd ar ôl hynny i gymryd swydd fel Comisiynydd Plant yn Jersey gan beidio â dychwelyd i'w swydd.  Dywedodd fod angen penodi i’r rôl ac y bydd y rôl honno’n cael ei hysbysebu’r mis hwn.  Bydd yr hysbyseb hefyd yn cyfeirio at ystyried gwasanaeth addysg ar y cyd gyda Chyngor Merthyr, ond byddai'n benodiad CBSP.  Caiff y Pwyllgor Penodi ei gynnull i oruchwylio’r broses honno a gwneud y penderfyniad terfynol ar benodi yn dilyn proses canolfan asesu.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr wrth y Cyngor hefyd ei fod ef a’r Pennaeth Cyllid Dros Dro yn adolygu y rôl pennaeth gwasanaeth ac roedd yn cymryd mwy o gyngor ar y farchnad cyn i hysbyseb gael ei chyhoeddi ar gyfer y rôl honno a byddai’n parhau i roi’r diweddaraf i’r holl Aelodau ar sut mae’r gwaith hwnnw’n mynd yn ei flaen.