Agenda item

Derbyn adroddiad yr Arweinydd

Cofnodion:

Dywedodd y Arweinydd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar gyfer Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies AS wneud datganiad yn y Senedd prynhawn ddoe’n cadarnhau dileu map cyfuno a’i fwriad, yn dilyn adborth ar ymgynghoriad, i sefydlu gweithgor wedi'i gadeirio gan Derek Vaughan MEP i ystyried sut i fynd â’r agenda diwygio yn ei flaen.  Bydd y rhan fwyaf o aelodau ar y gweithgor o lywodraeth leol a bydd y gweithgor hwnnw’n ceisio cytuno’r hyn sy’n bosibl o ran diwygio, trwy fwy o gydweithredu neu gyfuniadau gwirfoddol, a sicrhau bod adnoddau a phwerau digonol yn cael eu rhoi i lywodraeth leol i sicrhau cynaliadwyedd gwasanaethau cyhoeddus.  Roedd yr agwedd hon wedi’i chroesawu a’i chefnogi gan Arweinydd CLlLC, y Cyng. Debbie Wilcox, gan ei bod yn cynnig dychweliad at agwedd fwy cydweithredol at ddiwygio, wedi cytuno’n eang gyda Mark Drakeford AS pan oedd yn Ysgrifennydd Cabinet ar gyfer Llywodraeth Leol.  Gobeithiodd yr Arweinydd y gellir gwneud rhywfaint o gynnydd erbyn y Gwanwyn.  Dywedodd ei bod yn hanfodol bod cynaliadwyedd ariannol yn cael ei ystyried ynghyd â diwygio, gan fod yr argyfwng cyfredol mewn Cynghorau Sir mawr yn Lloegr yn dangos nad yw llymder yn parchu graddfa yn enwedig o ganlyniad i gost gofal cymdeithasol sy’n cynyddu.

 

Cyhoeddodd yr Arweinydd i ddatganiad Ysgrifennydd y Cabinet hefyd gadarnhau y bydd Llywodraeth Leol yn cyflwyno bil llywodraeth leol fel y cynlluniwyd, i gyflwyno pwerau cyfuno gwirfoddol, pwerau newydd ehangach ar gyfer cynghorau yn ogystal â phleidleisiau ar gyfer pobl ifanc 16 a 17 oed a diwygio etholiadol eraill. 

Bydd yr holl Arweinwyr Cyngor yn trafod y datblygiadau hyn a’r telerau cyfeirio drafft yng nghyfarfod dydd Iau Bwrdd Gweithredol CLlLC.  Byddai’n parhau i roi'r diweddaraf i'r Aelodau ar gynnydd sy'n cael ei wneud.

 

Cyhoeddodd yr Arweinydd, yn rhan o’r cynllun mwyndd?r Caerau arloesol, fod plant o ysgolion yng Nghwm Llynfi wedi bod yn dysgu am sut y caiff gwres wedi'i greu ei ddefnyddio i wresogi 150 cartref.  Roedd tua 200 o ddisgyblion wedi cymryd rhan mewn gweithdai diweddar wedi’u dylunio i esbonio gwyddoniaeth, technoleg, peirianyddiaeth a mathemateg oedd yn sail i'r cynllun a dysgon nhw hefyd am hanes diwydiannol cyfoethog y cwm, a sut y gellir bellach defnyddio gwaith pyllau glo yng Nghaerau, Bryn Navigation, Garth, Coegnant, Oakwood, Maesteg a St John’s i ddarparu ffurf diogel, parhaol, effeithlon a chost-effeithiol ar wresogi ar gyfer y gymuned leol. 

 

Cyhoeddodd yr Arweinydd, ynghyd â’r Aelod Cabinet dros Gymunedau, iddo gyfarfod â’r Ysgrifennydd Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, am sut y gall Llywodraeth Cymru helpu i fynd â’r cynllun mwyndd?r yn ei flaen i’r cam nesaf, a’r potensial yn rhan o Rhwydwaith Gwres Rhanbarth Pen-y-bont ar Ogwr i ddatblygu’r ddiweddaraf yn seilwaith TG i gefnogi busnesau yn nhref Pen-y-bont ar Ogwr ar yr un pryd.  Dywedodd fod y Cyngor hefyd yn rhan o gonsortiwm gyda Cenin i ddatblygu ei barc ynni yn Stormy Down ymhellach.  Arweiniodd hyn at ymweliad gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Gweinidog Gwladol Llywodraeth Cymru ar gyfer Ynni a Thwf Glân, Claire Perry AS oedd hefyd yn bositif iawn am fentrau ynni arloesol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.  Dywedodd wrth y Cyngor hefyd i’r Cabinet yn ei gyfarfod y diwrnod blaenorol gefnogi cais y consortiwm i Gronfa Her Diwydiannol Llywodraeth y DU.  Fel yr unig glwstwr arddangos ynni system SMART yng Nghymru a'r un mwyaf flaenllaw yn y DU, mae diddordeb yn cael ei ddangos yn fyd-eang yn y gwaith sy’n cael ei arloesi, ei dreialu a’i ddatblygu yn y cymunedau lleol.  

 

Gwnaeth ef a’r Aelod Cabinet dros Gymunedau gyfarfod ‘ar Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i drafod mwyhau buddion Metro De Cymru a braint Cymru a'r Ffiniau newydd ar gyfer cymunedau Pen-y-bont ar Ogwr.  Pwysleisiwyd eto pwysigrwydd cynyddu amlder gwasanaeth rheilffordd Maesteg nid yn unig i’r Cwm Llynfi ond hefyd i gymunedau porth y Cymoedd, Pen-y-bont ar Ogwr, Pencoed a Llanharan a Phontyclun hefyd.  Roedd yr Ysgrifennydd Cabinet wedid esbonio bod hyn yn cael ei ystyried gan Drafnidiaeth Cymru a Keolis Amey ac roedd yn gobeithio gwneud cyhoeddiad yn fuan.  Pwysleisiwyd hefyd i’r Ysgrifennydd Cabinet y pwysigrwydd hirdymor hanfodol o waredu croesfan Pencoed, nid yn unig i wella diogelwch, osgoi tagfeydd yng nghanol y dref a problem ansawdd aer posibl i drigolion ond hefyd i wella cyflymderau yr holl drenau sy'n teithio i'r gorllewin o Gaerdydd ar brif lein Great Western.  Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu gwaith ar sut y gellir cynyddu cyflymder trenau ar y brif lein gan fod llawer o’r gwelliannau peirianyddiaeth, megis ailalinio traciau y disgwyliwyd iddynt gael eu gwneud ar yr un adeg â'r trydaneiddio wedi'u canslo.  Hefyd ailadroddodd yr Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Gymunedau yr achos am faes Parcio a Theithio Bracla, mwy o le ar gyfer maes parcio a theithio yng ngorsaf y Pîl a chysylltiadau bws cyflym â chymunedau nad oes ganddynt wasanaethau rheilffordd uniongyrchol.  Byddai’r Aelodau’n cael y diweddaraf ar ddatblygiadau.