Agenda item

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Maer, y Cynghorydd P. A. Davies

Cofnodion:

Cyhoeddodd y Maer ei bod wedi mynychu'r Mosg lle roedd hi/ei chyfaill wedi cyfarfod â'r Imam a'r Henuriaid a soniodd wrthynt am eu crefydd a beth roedd yn ei olygu iddyn nhw. Cawsant daith o amgylch y Mosg a the a bisgedi gyda thrafodaeth dda i ddilyn.  

Fe wnaethon nhw hefyd fynd i noson ‘Teyrnged i Tom Jones' a fynychwyd gan 79 o bobl a chodwyd £1189 a £202 o'r raffl.

 

Cynhaliwyd Gala’r Maer yng Ngwesty Heronston ac roedd hi'n dymuno diolch i'r Cynghorwyr, ffrindiau a theulu a fynychodd, gan ei bod yn noson wych.

 

Roedd hi hefyd wedi mynychu digwyddiad yng Ngorsaf Dân Pen-y-bont ar Ogwr i nodi nifer y Dynion Tân oedd wedi colli eu bywydau ers 1902. Gosodwyd carreg a phlannwyd helygen i gofio amdanyn nhw.  Cynhaliwyd gwasanaeth a chafwyd nifer o areithiau.  Yn dilyn hyn cyflwynodd darian gydag arfbais Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr arni i’r Pennaeth Tân.

 

Ymwelodd y Maer â Stadiwm Dinas Caerdydd hefyd a chyflwynodd Dystysgrifau i Gadetiaid y Fyddin. Roedd y Cadetiaid i gyd o Academi Filwrol Pen-y-bont ar Ogwr yn bresennol ac fe wnaethant roi arddangosfa o orymdeithio, Ymarfer Dril  ac Ymarfer Corfforol.

 

Yn ddiweddar, roedd hi a'i Chyfaill wedi mynychu Dawns Maer Tref Maesteg. Dymunodd yn dda i Faer /Maeres Cyngor Tref Maesteg ar gyfer y dyfodol nawr bod eu rôl wedi dod i ben. Roedd y Maer hefyd wedi mynychu Dawns y Maer yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Ychwanegodd fod Margaret Tegg yn ysbrydoliaeth, ac wedi ei chefnogi trwy gydol ei thymor fel maer. Roedd hi'n 82 mlwydd oed ar ddiwrnod y ddawns a derbyniodd gymeradwyaeth wresog gyda’r gynulleidfa ar eu traed yn diolch am ei gwasanaeth.

 

Roedd y Maer hefyd wedi mynychu Dydd Sul Dinesig y Maer Tref Pencoed, ac roedd hwn hefyd wedi bod yn ddigwyddiad arbennig.

 

Yn anffodus, roedd y Maer wedi mynychu angladd y cyn Faer, Colin Teesdale, yn ddiweddar, a fu'n Faer mawr ei barch ar y Fwrdeistrefol Sirol a hefyd yn Faer Tref Maesteg.

 

Cadarnhaodd y Maer hefyd y byddai hi'n mynychu angladd Gareth Davies y dydd Iau canlynol. Yn aelod o dîm HART, roedd yn Barafeddyg mawr ei barch a oedd bob amser yn barod i deithio’r filltir ychwanegol. Bu'n gydweithiwr ac yn gyfaill am dros 30 mlynedd, a byddai pawb yn cael ei golli, a theimlai fod y Gymuned wedi colli gweithiwr proffesiynol ymroddedig.

 

Roedd y Maer / ei Chyfaill wedi mynychu Diwrnod Golff yng Nghlwb Golff Grove gyda 9 o Dimau yn cymryd rhan. Diolchodd i bawb a gymerodd ran yn y digwyddiad hwn.

 

Roedd y Maer hefyd wedi mynychu Dawns Flynyddol y Llewod lle cyflwynwyd siec am £300 iddi hi a'i Chyfaill ar gyfer ei helusennau.

 

Cyhoeddodd y Maer ei bod yn mynd i gymryd rhan yn y 'Daith Strôc' ar 20  Mai yng Nghaeau Newbridge. Pe bai unrhyw un yn dymuno ei noddi, roedd amser o hyd i wneud hynny, ychwanegodd.

 

Yn olaf, cadarnhaodd fod ei blwyddyn yn ei swydd fel Maer wedi mynd yn eithriadol o dda, a diolchodd i'r Aelodau a'r Swyddogion am eu cefnogaeth barhaus yn ystod y 12 mis diwethaf.