Agenda item

Derbyn Adroddiad yr Arweinydd

Cofnodion:

Yn gyntaf, estynnodd yr Arweinydd ddiolch arbennig iawn i'r Maer, y Cynghorydd Pam Davies am gynrychioli'r awdurdod o fewn ein Bwrdeistref Sirol a chynrychioli Pen-y-bont ar Ogwr ar draws Cymru mor dda, gyda hyder a rhwyddineb, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf hon. Estynnodd ei longyfarchiadau hefyd i'r Maer newydd, y Cynghorydd John McCarthy a'i gymar, a hefyd i Ddirprwy Faer newydd CBSP, sef y Cynghorydd Stuart Baldwin.

 

Manteisiodd ar y cyfle i ddiolch i staff CBSC, gan mai dim ond oherwydd eu gwaith caled a'u gwasanaeth yr oedd y Cyngor yn parhau i ddarparu'r gwasanaethau hanfodol a wnâi, ac ymddengys bob blwyddyn y gofynnir mwy oddi wrth y staff, er bod llai a llai ohonynt. Roedd un swyddog yn arbennig y dymunai ddiolch iddo heddiw, sef Andrew Jolley a oedd yn ei gyfarfod olaf fel Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a  Phartneriaeth a Swyddog Monitro. Fel enghraifft o sut yr ydym yn parhau i ofyn mwy gan swyddogion, rhoddwyd cyfrifoldeb iddo ef dros Dai, TGCh, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Cwsmer. Roedd bob amser wedi ystyried bod Mr Jolley yn gadarn ond yn deg, ac roedd wedi bod yn ffyddlon iawn i'w staff, ac wedi credu yn yr athroniaeth o "dyfu eich pobl eich hun” ac wedi gwireddu hynny. Cyfrifoldeb allweddol y Swyddog Monitro yw hyrwyddo a chynnal llywodraeth dryloyw ac agored a safonau uchel o uniondeb, ac mae adroddiadau olynol gan Swyddfa Archwilio Cymru wedi dangos bod y safonau hynny ar waith o fewn CBSP. Diolchodd iddo am ei wasanaeth, a gobeithiai y byddai'n mwynhau ei ymddeoliad, gyda'i wyrion, ac yn trwsio hen geir.

 

Diolchodd Mr. Jolley i'r Arweinydd a'r holl Aelodau am y gefnogaeth a gafodd ers iddo fod yn gweithio i CBSP. Yn yr un modd diolchodd i'r Swyddogion am eu cefnogaeth hefyd. Roedd hyn, ychwanegodd, wedi gwneud ei swydd yn haws i'w chyflawni. Cadarnhaodd i ddiweddu ei fod wedi mwynhau ei amser yn fawr yn yr Awdurdod ers iddo ddechrau gweithio yma ryw 14 o flynyddoedd yn ôl.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd ei bod yn anrhydedd ac yn fraint iddo gael ei ailethol unwaith eto gan gyd-Aelodau fel Arweinydd, a diolchodd iddynt am eu cefnogaeth barhaus.

 

Ychwanegodd na allai wasanaethu fel Arweinydd heb gefnogaeth ei gydweithwyr yn y Cabinet.

 

Roedd yn hyderus y byddai'r tîm hwn yn parhau â'r gwaith da sydd eisoes wedi digwydd, ac fel bob amser, roedd yn ddiolchgar am eu hymrwymiad tuag at eu gwaith.

 

Nid oedd gwasanaethu mewn unrhyw rôl fel Aelod etholedig yn waith hawdd, ac fel y gwyddom oll, mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod ymhlith y rhai anoddaf, os nad y rhai mwyaf anodd y mae'r Cyngor erioed wedi gorfod eu hwynebu.

 

Ond beth bynnag fo'r heriau sydd wedi codi, mae'r Awdurdod wedi wynebu pob un ohonynt, ac yn parhau i wneud hynny gyda phenderfyniad a phwrpas unedig ar draws y Siambr, i gefnogi ein cymunedau lleol hyd eithaf ein gallu.

 

Mae llymder cenedlaethol diddiwedd yn parhau, ac fel Cyngor, rydym yn parhau i ymdrechu i ddarparu gwasanaethau hanfodol yn erbyn cefndir o adnoddau sy'n lleihau’n barhaus. 

 

Gyda dros £30 miliwn i’w gynilo dros y 4 blynedd nesaf, bydd llawer o'r penderfyniadau y mae'n rhaid i ni eu gwneud yn amhoblogaidd, ond fe'u gwneir gyda ffocws cadarn ar realiti ein hamgylchedd newidiol, ac ar warchod ein gwasanaethau mwyaf hanfodol a’n dinasyddion mwyaf agored i niwed.

 

Pan ystyrid lle'r oeddem pan ddechreuon ni ar hyd y daith hon ac ystyried lle mae'r awdurdod bellach, mae'r Cyngor wedi dangos dro ar ôl tro ei fod yn gallu ymateb ac wynebu pa bynnag heriau newydd y mae'n rhaid eu hwynebu.

 

Yn hytrach na methu, roedd CBSP wedi datblygu ffyrdd newydd o ddiwallu anghenion ei gymunedau lleol, ac yr oedd yn falch o'r hyn a gyflawnodd gyda'i gilydd fel 'Un Cyngor.'

 

Mae'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, y Cynllun Corfforaethol a Rhaglen Newid Pen-y-bont ar Ogwr wedi eu sefydlu i'n tywys ni a sicrhau ein bod yn gallu addasu a diwallu anghenion lleol a hefyd sicrhau arbedion gwerth miliynau o bunnoedd sydd eu hangen i gyflawni cyllideb gytbwys.

 

Yn y broses hon, roedd CBSP yn sefydliad a oedd yn dal ati i ganfod ffyrdd newydd ac arloesol o weithio gyda phartneriaid a chymunedau eraill, yn uniongyrchol ac ochr yn ochr â hwy.

 

Mae ein hagenda trawsnewid eisoes wedi cyflawni arbedion mawr trwy adleoli staff, cau swyddfeydd, rhesymoli ystadau, rhannu gwasanaethau gyda'r heddlu, prosiectau cydweithredol, ail-negodi contractau a gweithio gyda sefydliadau partner llwyddiannus megis HALO ac Awen.

 

Mae'r bartneriaeth Gwasanaethau Rheoleiddio gyda Chaerdydd a Bro Morgannwg bellach wedi'i hen sefydlu; Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yw’r cynllun cydweithredu mwyaf ymhlith awdurdodau lleol erioed yng Nghymru, ac mae ein gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu yn chwalu targedau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru lai na blwyddyn ar ôl ei lansio.

 

Mae'r cyntaf o'r targedau hynny yn dechrau yn 2019 gyda Chynghorau lleol yn disgwyl ailgylchu 64 y cant o'r holl wastraff. O'r mis diwethaf, roedd ein cyfradd ailgylchu ein hunain yn 68.5 y cant, cynnydd o fwy na deg y cant o'i gymharu ag Ebrill 2017.

 

Roedd hyn yn newyddion da, ac edrychir ymlaen at weld y gwasanaeth yn gwella hyd yn oed yn fwy yn ystod ei ail flwyddyn o weithredu. Diolchodd i'r trigolion am eu hamynedd yn enwedig yn ystod y dyddiau cynnar, am eu cefnogaeth a’u brwdfrydedd dros ailgylchu sydd wedi gwneud y cynnydd hwn yn llwyddiant.

 

Roedd yr Arweinydd hefyd yn dymuno i GBSP allu cyflawni safon uchel gyson ar draws ei holl brosiectau partneriaeth, y rheiny a oedd eisoes wedi'u sefydlu, a'r rheiny a oedd yn dal i gael eu datblygu.

 

Ond rydym hefyd wedi gweld tystiolaeth o safonau uchel ar draws nifer o feysydd. Er enghraifft, cynhaliodd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru arolygiad swyddogol a chadarnhaodd fod yr Awdurdod hwn yn cymryd camau prydlon i gadw plant yn ddiogel rhag niwed.

 

Mae diogelu plant yn fusnes i bawb felly roedd agor y MASH, sef canolfan diogelu aml-asiantaeth leol yn Ravens Court y mis diwethaf gyda'r heddlu a phartneriaid allweddol yn gam mawr ymlaen.  Dim ond un o ystod o fentrau oedd hwn i gadw plant yn ddiogel a chynorthwyo teuluoedd. 

 

Bydd datblygu gwasanaeth gofal maeth i rieni a phlant newydd yn fewnol eleni gyda phedwar gofalwr maeth newydd wedi'u recriwtio eisoes ac yn gweithio gyda mamau a'u babanod hefyd yn gwneud gwahaniaeth go iawn.  Roedd yn cynnig dewis arall i ddarpariaeth ddrud y tu allan i'r Sir ac yn Allanol.

 

Yn yr un modd, yr wythnos hon, lansiodd CBSP ei ymgyrch ar gyfer gofalwyr maeth arbenigol a all gynnig gofal seibiant brys a dewis amgen i ofal preswyl.  Roedd yr aelodau wedi rhoi eu cefnogaeth lawn i'r gwasanaeth newydd hwn ac maent yn buddsoddi mewn ail-fodelu ein dau gartref plant.

 

Mae'r ffigurau perfformiad cenedlaethol yn dangos, am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, bod y Fwrdeistref Sirol wedi cael ei graddio'n gyntaf yng Nghymru am sicrhau na fydd unrhyw blant sy'n derbyn gofal yn gadael ysgol, hyfforddiant na chynlluniau dysgu yn y gwaith heb ennill cymwysterau cymeradwy.

 

Roedd CBSP ymhlith y pum ardal uchaf yng Nghymru ar gyfer nifer y bobl leol sy'n ymweld â llyfrgelloedd neu’n gwneud ymarfer corff yn ein canolfannau chwaraeon a hamdden, a gallwn edrych ymlaen at ddatblygiadau cyffrous iawn yn y dyfodol a fydd yn manteisio ar y llwyddiant hwn ymhellach.

 

Parhaodd ein Rhaglen Moderneiddio Ysgolion yr 2lain ganrif flaenllaw i fynd ymlaen o nerth i nerth gydag agor ysgolion cynradd newydd ym Metws a Brynmenyn, a chyda gwaith ar y gweill ar gyfleusterau newydd sbon ym Mhencoed, roedd yr Adran Addysg yn barod i ddatgelu ysgol gynradd newydd yng Nghwm Garw y flwyddyn nesaf.  Cam A yn unig oedd hwn. Roedd yr Aelodau hefyd wedi ymrwymo i Gam B yn ystod y misoedd diwethaf ychwanegodd.

 

Mae ymdrechion i greu cymuned newydd o breswylwyr sy'n byw yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr wedi gweld datblygiad newydd Cwrt Ty Afon yn cael ei ddatblygu yn y Rhiw ynghyd â maes parcio newydd, ac mae adfywio Porthcawl wedi cymryd cam hanesyddol enfawr ymlaen gyda datgloi safle datblygu Salt Lake o'r diwedd.

 

Roedd hwn yn ddatblygiad hynod bwysig yn ein cynlluniau adfywio, a byddwn yn gweithio'n agos gydag Aelodau lleol, y Cyngor Tref, busnesau a phreswylwyr Porthcawl i wireddu'r cynlluniau.

 

Roedd hyn yn ychwanegiad at ddatblygiadau diweddar fel y prosiect amddiffyn arfordirol gwerth miliynau o bunnoedd a fydd yn diogelu cartrefi a busnesau ar lan y môr, ac Adeilad Jennings a adnewyddwyd yn ddiweddar ac sydd wedi ennill gwobrau.

 

Roedd cynlluniau i drawsnewid Neuadd y Dref Maesteg hefyd wedi symud ymlaen, ac rydym yn disgwyl canlyniad ein cais diweddaraf am arian a fydd yn gweld yr hen adeilad hanesyddol yn cynnig cyfleusterau cymunedol newydd i bobl leol.

 

Roedd CBSP yn arloesi hefyd gyda dull newydd, cyfeillgar i'r amgylchedd o wresogi cartrefi a grëwyd trwy brosiect D?r Pwll Glo Caerau.

 

Hwn fyddai'r cyntaf o gynlluniau ar raddfa fawr yn y DU, ac ar thema debyg, roeddem hefyd yn ystyried y posibilrwydd o rannu gwres dros ben a gynhyrchir yng Nghanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr a sicrhau ei fod ar gael i gartrefi lleol trwy Rwydwaith Gwres Pen-y-bont ar Ogwr, y prosiect cyntaf o’i fath yng Nghymru.

 

Datblygiad newydd arall yr oedd yr Arweinydd yn arbennig o gyffrous yn ei gylch oedd Rhaglen y Ganolfan Menter newydd yr oedd y Cyngor wedi ei chefnogi yn ddiweddar.

 

Roedd hyn yn mynd i gefnogi'r economi leol trwy sefydlu unedau busnes newydd sbon ym Mharc Pentref Brocastle, Stad Ddiwydiannol Fferm Pentref y Pîl yn y Pîl, a Pharc Gwyddoniaeth Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Roedd ein partneriaeth â Linc Cymru yn darparu cyfleusterau Gofal Ychwanegol newydd ar gyfer y Fwrdeistref Sirol gyda Th? Llwyn Derw ym Maesteg a Lôn Derw yn Ynysawdre wedi’u henwi yn ddiweddar.

 

Rhwng y rhain, byddent yn cynnig 40 o fflatiau Gofal Ychwanegol lle bydd pobl h?n bregus yn gallu byw'n annibynnol ac yn cael mynediad at gefnogaeth 24 awr y dydd mewn amgylchedd diogel.

 

Fel rhan o'r cynllun, darperir pedwar ar bymtheg o dai fforddiadwy i bobl h?n hefyd.

 

Bu llawer o ddatblygiadau newydd eraill dros y flwyddyn ddiwethaf y gallai Aelodau fod yn falch ohonynt. Roedd hyn yn cynnwys y cynnig i roi cymorth sylfaenol i bobl ifanc sy'n gadael ein gofal trwy eu heithrio rhag gorfod talu treth y Cyngor, ein cefnogaeth i rieni a theuluoedd sy'n galaru trwy ddileu ffioedd claddu plant, lansio ein gwasanaeth Fy Nghyfrif newydd sy'n ei gwneud yn haws i bobl wneud busnes gyda'r Cyngor, a mwy, ychwanegodd yr Arweinydd.

 

Roedd yn sicr fod y flwyddyn i ddod yn mynd i ddod â datblygiadau newydd pellach a fyddai o fudd i genedlaethau a chymunedau'r dyfodol.

 

Er bod Aelodau o wahanol grwpiau neu bleidiau, teimlai eu bod i gyd yn unedig o ran pwrpas i weithio er lles pob cymuned leol.

 

Roedd am feithrin ac annog hyn, a gweld y Cyngor yn adeiladu ar ei lwyddiannau niferus a goresgyn pa bynnag anawsterau a oedd eto i'w hwynebu.

 

Roedd yr Arweinydd hefyd eisiau datblygu adnoddau'r Cyngor a sgiliau ei staff ymhellach, a pharhau i ddod o hyd i ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau hanfodol wrth i ni edrych i'r dyfodol.

 

Gyda chefnogaeth barhaus Aelodau a Swyddogion, credai y gellid cyflawni hyn, ac y gallwn unwaith eto sicrhau bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn barod ac yn abl ar gyfer yr hyn sydd o'n blaenau.

 

 Yn olaf, ar ran yr Aelodau, estynnodd ei ddymuniadau gorau i’r Cynghorydd Gary Thomas a'i ddyweddi, Kay, a fydd yn priodi ddydd Sadwrn nesaf. Gobeithiai y byddent yn mwynhau bywyd hapus iawn gyda'i gilydd yn y dyfodol.