Cofnodion:
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro dros Addysg a Chymorth i'r Teulu adroddiad gwybodaeth a roddodd wybod i'r Aelodau am weithgareddau wedi'u cynllunio ar gyfer yr ?yl Ddysgu a'r canlyniadau sy'n dod ohonynt.
Dywedodd y Cadeirydd y byddai’n fuddiol yn y dyfodol, pe byddai'r digwyddiad agoriadol yn llwyddiannus, i gynnwys busnesau lleol er mwyn sicrhau mwy o gymorth ar gyfer y digwyddiad wrth fynd ymlaen. Byddai hyn yn cael ei wneud mewn dwy ffordd, sef byddai'r Cyngor hefyd yn cael gwybod am yr hyn y byddai ei angen ar fusnesau lleol gan yr Awdurdod o ran dysgu.
Teimlodd Aelod fod yr adroddiad yn ddigon pwysig iddo fod yn fwy nag adroddiad Gwybodaeth, ac y dylid gwahodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro dros Addysg a Chymorth i'r Teulu gael ei wahodd i gyfarfod yn y dyfodol er mwyn ymateb i gwestiynau ar lwyddiant neu ganlyniad arall y project.
Cytunodd y Cadeirydd i hyn gan ychwanegu y byddai o fudd i'r Aelodau gael golwg ar wybodaeth ystadegol benodol ar lwyddiant (neu ganlyniad arall) y project.
Ychwanegodd Aelod ymhellach fod swm mawr o arian wedi’i ymrwymo i’r project felly dylai canlyniadau ohono fod yn amodol ar werthusiad. Gan gyfeirio at baragraff 4.4 yr adroddiad, nododd yr Aelod y byddai 120 o ddisgyblion o wahanol ysgolion yn rhan o'r gweithgareddau cyn yr ?yl Ddysgu, a gobeithiodd y byddai cyferbyniad ymhlith disgyblion sy'n cael eu dewis h.y. gan gynnwys rhai o deuluoedd dan anfantais ac ati. Ychwanegodd fodd bynnag fod y swm hwn yn ffurfio dim ond tua 1% o'r boblogaeth myfyrwyr. Roedd sawl amheuaeth ganddi o ran pa ganlyniadau, nodau, cyflawniadau ac amcanion clir fyddai'n dod o'r project, heblaw am y rhain sy'n ymwneud ag arfer da.
Dywedodd y Swyddog Craffu, fel mae’r Aelodau’n ymwybodol efallai, fod BREP hefyd wedi gwneud argymhellion penodol mewn perthynas â'r Fenter ?yl Ddysgu, a’u bod yn aros am y ymateb i’r rhain gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro dros Addysg a Chymorth i’r Teulu.
Ychwanegodd aelod o BREP fod y corff hwn hefyd yn awyddus i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg a Chymorth i’r Teulu edrych ar noddi mentrau ar gyfer cefnogaeth yn y dyfodol ar gyfer yr ?yl Ddysgu os cytunir i barhau â’r project yn y dyfodol.
Dywedodd Aelod hefyd fod angen nodi goblygiadau ariannol y project yn glirach.
Casgliadau:
Dogfennau ategol: