Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Craffu adroddiad ar yr uchod i:
a) Gyflwyno’r eitemau a flaenoriaethwyd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol gan gynnwys yr eitem nesaf i’w dirprwyo i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc hwn;
b) Cyflwyno i’r Pwyllgor restr o eitemau posibl eraill i'w blaenoriaethu ac i roi sylwadau arnynt;
c) Gofyn i’r Pwyllgor nodi eitemau eraill i’w hystyried gan ddefnyddio’r ffurflen meini prawf a bennwyd ymlaen llaw;
ch) Ystyried a chymeradwyo’r adborth o gyfarfodydd blaenorol Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 1, a nodi’r rhestr o ymatebion, gan gynnwys unrhyw beth sydd dal yn weddill yn Atodiad A.
Atodwyd yn Atodiad B i’r adroddiad oedd y flaenraglen waith gyffredinol ar gyfer y PCThPau oedd yn cynnwys y pynciau a flaenoriaethwyd gan y PCThP ar gyfer y set nesaf o PCThPau yn Nhabl A, yn ogystal â phynciau y ystyriwyd eu bod yn bwysig i’w blaenoriaethu yn y dyfodol yn Nhabl B. Mae hwn wedi’i greu o eitemau a awgrymwyd gan bob un o’r PCThCau un eu cyfarfodydd blaenorol yn ogystal â’r PCThP. Roedd hefyd yn cynnwys gwybodaeth a gynigiwyd gan Gyfarwyddwyr Corfforaethol, manylion o ymchwil wedi’i wneud gan Swyddogion Craffu a gwybodaeth o gyfarfodydd Datblygu'r Flaenraglen waith rhwng Cadeiryddion Craffu a’r Cabinet.
Wedi ystyried y wybodaeth yn yr adroddiad,
PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor yn nodi’r adroddiad a’r wybodaeth ategol wedi’i hatodi ato ar ffurf Atodiadau A, B a C.
Dogfennau ategol: