Agenda item

Rhesymoli Gwasanaethau Bws a Gefnogir 2018/2019

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau wybodaeth am ganlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd i leihau cymhorthdal y Cyngor ar gyfer gwasanaethau bws gan £188,000 fel y'i cytunwyd yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.  Ceisiodd farn y Cabinet i weld a ddylid gwneud unrhyw newidiadau i'r cynnig gwreiddiol ar sail yr ymgynghoriad cyhoeddus a sylwadau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol.    

 

Nododd bod y Cyngor a Llywodraeth Cymru’n cefnogi’r ddarpariaeth o wasanaethau bysus rhanbarthol a lleol drwy gymorthdalu llwybrau nad ydynt yn hyfyw’n fasnachol.  Mae’r gwasanaethau hyn yn gweithio ar lwybrau sy’n galluogi preswylwyr i gael mynediad at gyflogaeth, addysg, gofal iechyd a gweithgareddau cymdeithasol.    Rhoddodd wybod i’r Cabinet bod targed arbedion o £188,000 yn 2018/19 wedi’i adnabod yn Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, fyddai’n gadael £130,000 i wasanaethau bws a gefnogir.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau dabl oedd yn amlygu llwybrau bysus y cynhigir y dylid canslo eu cymhorthdal ariannol. Y rhain oedd yn sail i'r ymgynghoriad.  Rydym wedi cynnal ymgynghoriad ar y gostyngiadau arfaethedig i’r gwasanaeth er mwyn casglu barn pobl ar effaith bosibl y gostyngiadau er mwyn cwrdd â’r gostyngiad arfaethedig yn y gyllideb sef £188,000 yn 2018/19, yn rhan o Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor.  Amlygodd yr ymatebion a dderbyniwyd i’r ymgynghoriad gan nodi ei bod hi’n glir bod y rhan fwyaf o ymatebwyr yn credu bod colli gwasanaethau bws lleol yn bryder i gymunedau.  Rhoddodd wybod i’r Cabinet nad oedd yn amlwg ar hyn o bryd pe byddai elfen fasnachol y gwasanaethau bws yn dal i weithredu ar y llwybrau a ariennir yn rhannol, neu pe byddai’r elfen fasnachol yn cael ei hehangu i'r gwasanaethau sydd wedi'u cymhorthdalu ar hyn o bryd.  Nid oedd yn wybyddus chwaith a fyddai’r gweithredwr Trafnidiaeth Gymunedol presennol yn gallu disodli unrhyw un neu bob un o’r llwybrau bws arfaethedig ar gyfer eu diddymu.  Bydd swyddogion yn dal i weithio a chysylltu â’r gweithredwr Trafnidiaeth Gymunedol i ganolbwyntio ar yr ardaloedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr sydd wedi derbyn gwasanaethau bws lleol gostyngedig ac wedi ceisio sicrhau bod y gwasanaeth trafnidiaeth gymunedol a ddarperir mor effeithiol â phosibl.  Cafodd yr ymgynghoriad ei ystyried gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ac amlygodd y materion a godwyd gan y Pwyllgor a’r ymatebion gan swyddogion i’r pwyntiau hynny er ystyriaeth y Cabinet. 

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau wybod i’r Cabinet pe na byddai lefel llawn yr arbediad ar gyfer £188,000 a gymeradwywyd yn y MTFS o ganlyniad i'r cynnig i waredu cymhorthdaliadau ar gyfer y llwybrau a nodwyd, byddai angen ei fodloni drwy ryw ffordd arall, un ai o arbedion ychwanegol rhywle arall yn y Gyfarwyddiaeth Cymunedau neu i fantoli drwy ddynodi cyllid o'r gyllideb fychan sydd heb ei ddynodi o ganlyniad i gynyddu'r Dreth Gyngor o 4.2% i 4.5%. 

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau i ddinasyddion y Bwrdeistref am ymgysylltu yn y broses ymgynghori a bod y cyfarfodydd cyhoeddus a fynychodd ef wedi'u cynnal yn dda ac yn bwyllog.  Roedd o’r farn bod sgôp i gynnal y cymhorthdal ar gyfer y 3 gwasanaeth oedd wedi sgorio uchaf yn asesiad y swyddogion, yn bennaf gwasanaethau 51, 803 a 61 am flwyddyn yn unig, i alluogi swyddogion i ymgysylltu â gweithredwyr bysus ac i ymgysylltu â Chynghorau Tref a Chymuned.  Rhoddodd wybod i’r Cabinet bod llawer o awdurdodau lleol wedi gwaredu pob cymhorthdal o lwybrau bysus lleol, gan ofyn bod gweithredwyr bysus yn gweithio gyda'r Cyngor i gadw gwasanaethau. 

 

Nododd y Dirprwy Arweinydd nad oedd y Cyngor yn torri unrhyw lwybrau bysus, ond roedd yn gwaredu cymhorthdaliadau o lwybrau ac yn annog y cyhoedd i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.  Nododd hefyd bod dyletswydd ar y Cyngor i ddefnyddio cyllid cyhoeddus yn gall ac y gellid cynnal trafodaethau gyda'r Bwrdd Iechyd a Chynghorau Tref a Chymuned er mwyn cyfrannu at gymhorthdal llwybrau i gynorthwyo'r cyhoedd wrth gael mynediad at ofal iechyd a chyfleusterau cymunedol.  Nododd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio yr angen i gynnal gwasanaethau ac i weithio gyda gweithredwyr bysus, yn enwedig y llwybrau hynny sydd â hanes hir, sy’n cael eu defnyddio’n aml ac sy’n strategol bwysig.  

 

Nododd yr Arweinydd bod angen i’r Cyngor wneud arbedion o £32m dros y 4 blynedd nesaf ac roedd yn bwysig bod y Cabinet yn ymateb i’r ymgynghoriad er mwyn ceisio cynnal rhai o’r gwasanaethau hyn.  Nododd y byddai swyddogion yn gweithio gyda datblygwyr tai newydd i geisio cyfraniadau er mwyn cynnal llwybrau bysus lle bo’n bosibl.     

                  

PENDERFYNWYD:            Y byddai’r Cabinet:

 

(1)          Yn ystyried cynnwys yr adroddiad ymgynghoriad a’r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb, ynghyd â’r sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol;

(2)            

(3)         Yn nodi ei fod yn dymuno cynnal y cymhorthdal i’r 3 gwasanaeth wnaeth sgorio’n uwch yn asesiad y swyddogion, yn bennaf gwasanaethau 51, 803 a 61 ar gyfer blwyddyn, a chymeradwyodd y byddai cyllid heb ei ddyrannu’n o'r cynnydd yn y Dreth Gyngor yn cael ei roi i un ochr i fantoli unrhyw ostyngiad yn yr arbediad cymeradwy yn MTFS, sef £188,000;   

 

Swyddogion ag awdurdod i drafod a negodi â gweithredwyr bysus i gynnal gwasanaethau eraill, pwnc y cymhorthdal.

Dogfennau ategol: