Agenda item

Capita Glamorgan Consultancy Limited

Cofnodion:

Ceisiodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau gymeradwyaeth i newid Cyfarwyddwr enwebedig y Cyngor ar y Bwrdd Menter ar y Cyd; rhoi p?er i'r Prif Weithredwr i gytuno a gweithredu newidiadau arfaethedig i Erthyglau Cymdeithasu'r Cwmni ac i fynd i mewn i Gytundeb Amrywiad a phwerau i gytuno a gweithredu unrhyw ddiwygiadau i'r dyfodol i Erthyglau Cymdeithasu ac i fynd i mewn i unrhyw Gytundebau Amrywio i'r dyfodol ar y cyd â Phennaeth Cyllid; dirprwyo unrhyw hawliau rhanddeiliaid (gan gynnwys hawliau pleidleisio) i'r Cyngor a phwerau rheoli eraill sydd ar gael i'r Cyngor fel rhanddeiliad y cwmni a rhoi awdurdod i'r Prif Weithredwr ar y cyd â Phennaeth Cyllid lle bydd gan unrhyw ganiatâd o’r fath oblygiadau ariannol i’r Cyngor i roi unrhyw ganiatâd sydd ei angen gan y Cyngor i sicrhau unrhyw gydymffurfiaeth statudol gan y Cwmni.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau bod Capita Joint Venture yn arddangos cydweithio partneriaeth rhwng awdurdodau lleol a'r sector preifat wrth ddatblygu a chyflawni gwasanaethau.  Mae hefyd yn cefnogi blaenoriaeth y Cyngor o ran cefnogi economi llwyddiannus drwy gadw swyddi o safon yn yr ardal a bod â’r arbenigedd ar gael yn lleol i daclo projectau priffyrdd, trafnidiaeth ac adfywio yn y rhanbarth.   

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau bod Ymgynghoriaeth Capita Morgannwg yn Gwmni Cyd-fenter rhwng Capita Symonds Limited (51% o'r cyfrannau), Cyngor RhCT (28% o’r cyfrannau), Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (15% o'r cyfrannau) a Chyngor Merthyr Tudful (6% o'r cyfrannau).  Dechreuodd y Cwmni JV fasnachu ar 1 Medi 2008 a bellach mae'n masnachu dan yr enw brand 'Redstart' ers 2017. 

 

Nododd ym mis Chwefror 2016, cytunwyd bod angen newid yr Erthyglau Cymdeithasu, roedd y diwygiadau eisoes wedi’u negodi a’u cytuno, oedd hefyd wedi arwain at ddiwygiadau i’r Cytundeb Menter ar y Cyd a'r Cytundeb Gwasanaethau.  Cadarnhaodd hefyd bod dyrannu’r pwerau’n digwydd yn unol â’r ffordd y mae awdurdodau lleol eraill yn gweithredu.               

 

PENDERFYNWYD:            Y byddai’r Cabinet:

 

1.      yn cymeradwyo penodiad deiliad y swydd Pennaeth Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion i ddisodli Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau yn Gyfarwyddwr y Cwmni, i’w gadarnhau yng nghyfarfod Bwrdd nesaf y Cwmni.

 

2.      yn dirprwyo’r pwerau i’r Prif Swyddog Gweithredol i gytuno a gweithredu’r diwygiadau arfaethedig i Erthyglau Cymdeithasu’r Cwmni ar y cyd â’r Pennaeth Cyllid ar ran y Cyngor, ac i fynd i mewn i Gytundeb Diwygiad i newid y Cytundeb Menter ar y Cyd a’r Cytundeb Gwasanaethau.

 

3.      dirprwyo pwerau i’r Prif Swyddog Gweithredol i gytuno a dyrannu unrhyw ddiwygiadau i’r dyfodol i Erthyglau Cymdeithasu’r Cwmni ar y cyd â Phennaeth Cyllid ar ran y Cyngor ac i fynd i mewn i unrhyw Gytundebau Diwygio i’r dyfodol i ddiwygio darpariaethau'r ddogfennaeth gyfreithiol fydd yn berthnasol i'r Cyngor mewn perthynas â sefydlu Cwmni Cydfenter a phan fydd y Prif Swyddog Gweithredol yn meddwl ei bod hi'n angenrheidiol, bydd y Prif Swyddog Gweithredol yn adrodd i'r Cabinet ar ddiwygiadau o'r fath i'r Erthyglau Cymdeithasu neu Gytundebau Amrywiad.

 

4.      dirprwyo unrhyw hawliau rhanddeiliaid (gan gynnwys hawliau pleidleisio) y Cyngor a phwerau rheoli eraill sydd ar gael i'r Cyngor fel rhanddeiliad y Cwmni fel y'i nodir yn y Cytundeb Cydfenter a (Erthyglau Cymdeithasu) lle nad ydynt wedi'u nodi yn y gytundeb fel eu bod nhw'n berthnasol gan Gyfarwyddwr penodedig y Cyngor i'r Prif Swyddog Gweithredol ar y cyd â Phennaeth Cyllid, gan gynnwys yr hawliau rhanddeiliaid hynny a gyfeirir atynt megis hawliau Amddiffyn Rhanddeiliaid yn y Cytundeb Cydfenter.

 

5.         rhoi awdurdod i’r Prif Swyddog Gweithredol ar y cyd â Phennaeth Cyllid pan fydd gan unrhyw ganiatadau o’r fath oblygiadau ariannol i’r Cyngor i roi unrhyw ganiatâd sydd ei angen gan y Cyngor i sicrhau unrhyw gydymffurfiaeth statudol gan y Cwmni.     

Dogfennau ategol: