Cofnodion:
Cwestiwn i’r Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio gan y Cynghorydd A Hussain
Mae Heddlu De Cymru wedi galw am addysg iechyd meddwl well mewn ysgolion ar ôl cynnydd o ran pobl ifanc yn cael eu cadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl a chafodd hyn ei gefnogi gan Mind Cymru ac maen nhw eisiau i ysgolion wneud mwy i godi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl a chamu i'r adwy i helpu'r rhai sy'n cael problemau ynghynt.
A all yr Aelod Cabinet dros Addysg roi gwybod i'r Cyngor sut mae e’n mynd i’r afael â’r mater pwysig hwn?
Ymateb:
Mae nifer o wasanaethau a ddarperir yn uniongyrchol gan BCBC sy’n ceisio gwella iechyd meddwl a lles plant.Mae’r rhan fwyaf o’r adnoddau hyn yn canolbwyntio ar lefel Haen 1 ond mae rhai yn wasanaethau Haen 2. Byddant yn cynnwys:
Haen 1
• Ymyriadau yn yr ysgol (e.e. darparu magwraeth, addysg bersonol a chymdeithasol, Cyflawniad i Bawb, Thrive ac ELSA)
• Ymyriadau gwaith cymdeithasol (e.e. damcaniaeth ymlyniad, damcaniaeth ymddygiad gwybyddol a gwaith uniongyrchol gyda phlant)
• Cefnogaeth nyrs yr ysgol
• Gofal bugeiliol mewn ysgolion
• Gwaith gwrth-fwlio mewn ysgolion a chyda’r Tîm Cymorth Cynnar
• Dechrau’n Deg – cefnogaeth ychwanegol gan ymwelwyr Iechyd
• Iaith a chwarae, rhif a chwarae a sesiynau cymorth iaith a lleferydd Welcomm
• Cefnogaeth rhianta
• Cefnogaeth i ofalwyr ifanc
Haen 2
• Mae un gweithiwr cymdeithasol CAMHS arbenigol (rhan amser) yn y Tîm Cymorth Cynnar
• Mae un therapydd chwarae arbenigol (rhan amser) yn y Tîm Cymorth Cynnar
• Cwnselwyr mewn ysgolion
• Cwnselwyr yn yr ysgol
• B2P (Adeiladu at Gynnydd) – darpariaeth addysgol i blant sydd â phroblemau iechyd meddwl
Yn ogystal â’r gwasanaethau canolog hyn, mae’r ysgolion yn defnyddio ystod eang o ymagweddau ac arferion sydd â’r nod o gefnogi lles emosiynol a meddyliol ein plant.
Darperir gwasanaethau i blant ar lefelau mwy acíwt gan ABMU.
Gofynnodd y Cynghorydd Hussain gwestiwn ychwanegol o ran pan gaiff Swyddogion Lles eu cyflwyno i ysgolion. Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro Addysg a Chefnogaeth Deuluol fod nifer o fentrau ar waith a bod rhai ysgolion eisoes â Swyddogion Lles ar waith.
Cwestiwn i’r Arweinydd gan y Cynghorydd Tim Thomas
Tynnwyd y cwestiwn hwn yn ôl gan y Cynghorydd Thomas.
Cwestiwn i’r Aelod Cabinet dros Gymunedau gan y Cynghorydd MC Voisey
A all yr Aelod Cabinet ddweud pa faint o Gartrefi
Amlfeddiannaeth
(HMO) o bob maint sydd yn sir Pen-y-bont ar Ogwr, a'u dosbarthiad
yn ôl wardiau?"
Ymateb:
Prif Swyddogaeth SPG yw rhoi eglurder ar bolisi neu strategaeth penodol y cynllun datblygu.Nid oes unrhyw bolisi penodol yn CDLl Pen-y-bont ar Ogwr mewn perthynas a HMO ac nid yw’r cynllun yn gwneud unrhyw ymrwymiad i gynhyrchu SPG HMO, yn wahanol, er enghraifft i Fannau Agored neu Ddylunio.Mae llunio SPG yn ddwys iawn o ran adnoddau ac mae’n cynnwys ymgynghoriad cyhoeddus, er enghraifft bu'r SPG mannau agored yn cael ei gynhyrchu ers tipyn ac ni ellir cymryd penderfyniad i gychwyn ar SPG ar chwarae bach.
Hefyd, ni fydd SPG a fydd yn berthnasol ar draws y Bwrdeistref Sirol o reidrwydd yn cyfyngu ar ddatblygu ac mewn rhai achosion bydd o bosibl hyd yn oed yn rhoi cyfiawnhad am gynnig, yn enwedig os gosodwn feini prawf am asesu. Mewn geiriau eraill, os bydd HMO arfaethedig yn cydymffurfio â’r SPG, gellid cymryd y dylid caniatáu'r caniatâd cynllunio.Gallai hyd yn oed ‘cyfeirio’ datblygiadau HMO heb sylweddoli i ardaloedd yng nghanol trefi lle y mae eiddo mwy o faint a pholisïau parcio ceir ymlaciedig yn debygol o fod.Ar hyn o bryd mae unrhyw gais o'r fath yn cael ei bennu ar ei rinwedd ei hun.
Cawsom 5 cais am HMOs a 7 cwyn gorfodi ledled y Bwrdeistref Sirol dros y 3 blynedd diwethaf, na fyddai’n awgrymu bod problem benodol gyda’r math hwn o ddatblygiad yn yr ardal ehangach, fodd bynnag, mae’n bosibl eich bod yn ymwybodol bod newidiadau diweddar i’r Gorchymyn Dosbarthiad Defnydd ac nawr mae wedi dod â HMOs llai o dan reolaeth cynllunio a gallai hyn arwain at fwy o gymwyseddau yn y dyfodol.Rwy’n gwerthfawrogi eich pryderon am ormodedd o HMOs mewn ward penodol a gallai hyn o bosibl newid cymeriad y lle dros amser.Mae hyn yn rhywbeth y gallwn edrych arno fel rhan o'r adolygiad o’r cynllun datblygu (pa bynnag ffurf mae’n ei chymryd), ond bydd angen i hyn gael ei arwain gan dystiolaeth a bydd yr asesiad ar anghenion tai lleol hefyd yn roi rhagor o wybodaeth am alwadau'r dyfodol ar gyfer cyflenwad tai ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Yn y cyfamser, bydd unrhyw gynnig yn destun asesiad cynllunio arferol hefyd yn cymryd i ystyriaeth bryderon am grynoadau defnyddiau penodol mewn ardal fach.Mae’n bosibl y bydd rheoliadau eraill a orfodir o dan drefnau trwyddedu neu gydsynio, a allai fod yn berthnasol.
Mae’n ofynnol cynnal a chadw rhestr o HMOs trwyddedig y mae’n ofynnol i Wasanaethau Rheoliadol a Rennir ei chynnal a’i chadw, a hefyd cyflwyno rhestr o HMOs na ellir eu trwyddedu o fewn y Bwrdeistref. Cafodd y rhestr hon ei chynhyrchu wrth ystyried data hanesyddol a gafwyd gan geisiadau gwasanaeth i'r adran a hefyd arolwg stryd a gwblhawyd yn 2015/16 er mwyn adnabod HMOs posibl.
Gofynnodd y Cynghorydd Gwestiwn atodol o ran pa gamau gweithredu a gymerir gan yr awdurdod i sicrhau diogelwch preswylwyr lle y bo’r eiddo maent yn byw ynddynt yn HMOs heb eu cofrestru ac yn anhysbys a gwneir y gwaith gydag asiantaethau partner. Dywedodd Arweinydd y Tîm Cymdogaethau y bydd Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn gweithredu ar gwynion a dderbynnir gan denantiaid, y dreth Gyngor, Rheolaeth Adeiladu, yr Adran Gynllunio a’r Gwasanaeth Tân mewn perthynas ag eiddo sydd heb eu trwyddedu. Mae Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir ar hyn o bryd yn paratoi erlyniaeth yn erbyn perchennog eiddo heb ei drwyddedu, a oedd wedi methu cyflwyno cais am drwydded. Dywedodd Arweinydd Tîm Gwasanaethau Cymdogaethau wrth y Cyngor nad yw y mwyafrif o HMOs yn y Bwrdeistref Sirol yn bodloni’r meini prawf ar gyfer Trwyddedu Gorfodol (eu bod o 3 llawr neu fwy ac mae ganddynt 5 neu fwy o feddianwyr ac felly nid oes angen trwydded.Fodd bynnag mae deddfwriaeth arall megis y Rheoliadau Rheoli y mae’n ofynnol iddynt eu bodloni. Dywedodd fod Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn bwriadu gwneud ymarfer post a dargedir er mwyn codi ymwybyddiaeth a gorfodaeth i sicrhau bod perchnogion yn bodloni gofynion y Ddeddf Tai a Rhentu Doeth Cymru.