Agenda item

Penodiadau i Bwyllgorau'r Cyngor a chyrff eraill y Cyngor yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 1972 a Deddf Llywodraeth Leol 2000

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad, a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer penodi Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu a pha bynnag Bwyllgorau, Is-bwyllgorau, Panelau a chyrff eraill y mae'r Cyngor yn ystyried eu bod yn briodol, i ymdrin â materion nad ydynt wedi'u neilltuo i'r Cyngor llawn nac ychwaith. swyddogaethau gweithredol.

 

Mae Rhan 3 o Gyfansoddiad y Cyngor o dan y teitl Cyfrifoldeb am Swyddogaethau'r Cyngor, yn nodi Pwyllgorau, Is-bwyllgorau, Paneli a chyrff eraill y Cyngor sydd ar waith ar hyn o bryd.  Rhoddir manylion isod am rai Pwyllgorau, y mae rhai ohonynt yn cael eu llywodraethu gan ddarpariaethau Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, o ran eu cyfansoddiad a/neu benodi Cadeiryddion. 

 

Gwnaeth y Mesur nifer o ofynion mewn perthynas ag aelodaeth y Pwyllgor Archwilio, gan gynnwys Aelodaeth Leyg a phenodi’r Cadeirydd. Mae'n ofynnol i'r Cadeirydd dan y Mesur gael ei benodi gan y Pwyllgor Archwilio yn ei gyfarfod cyntaf sydd wedi'i drefnu ar gyfer 28 Mehefin 2018. O ran Aelodaeth Leyg y Pwyllgor hwn, cafodd yr Aelod Lleyg ar hyn o bryd Ms J Williams ei hailbenodi am dymor pellach yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor ar 17  Mai 2017 ac yn unol â'r Mesur, mae ganddi hawl i wneud uchafswm o ddau dymor ar y Pwyllgor yn y rôl hon. 

 

 Mae'r Pwyllgor Safonau yn cynnwys wyth aelod, sef: -

 

            Pedwar Aelod Annibynnol (Dim swyddi gwag ar hyn o bryd);

            Dau Aelod o Gyngor y Fwrdeistref Sirol (Dwy swydd wag);

            Dau Aelod Cynghorau Tref /Cymuned (Un swydd wag);

 

Ar hyn o bryd mae swydd wag ar gyfer Cynghorydd Tref a Chymuned ar y Pwyllgor Safonau, ac felly argymhellwyd y dylid rhoi p?er dirprwyedig i'r Swyddog Monitro ymgymryd ag unrhyw brosesau angenrheidiol i hwyluso a phenodi cynrychiolydd Cyngor Tref a Chymuned i'r Pwyllgor Safonau.

 

Ar hyn o bryd mae gan y Cyngor Bwyllgor Penodi ar waith er mwyn cyfweld a phenodi staff lefel JNC, sy'n cynnwys swyddi dynodedig megis y Prif Weithredwr, Cyfarwyddwyr a Phenaethiaid Gwasanaeth.  Mae aelodaeth y Pwyllgor hwn fel y nodir isod: -

 

·          Arweinydd (Cadeirydd)

·          Dirprwy Arweinydd

·          Aelod Cabinet (o'r portffolio perthnasol i'r swydd)

·          1 x Aelod Ceidwadol

·          1 x Aelod Annibynnol

·          1 x Aelod Plaid Cymru

 

Bydd y Pwyllgor Penodiadau hefyd yn hwyluso Panel Penderfynu JNC a Phaneli Apeliadau JNC.  Bydd y rhain yn cynnwys 3 aelod yr un gyda'r Arweinydd neu'r Dirprwy Arweinydd yn cadeirio'r panel, gyda chymorth 1 cynrychiolydd yr un o'r grwpiau Ceidwadol ac Annibynnol. Caniateir amnewid aelodau'r Pwyllgor Penodiadau ond dim ond ar gyfer y

broses penodiadau gyfan. Ni ellir amnewid Paneli’r JNC a rhaid i’r aelodau ddod o blith aelodaeth wreiddiol y Pwyllgor Penodiadau.

 

Roedd y Mesur hefyd yn sefydlu gweithdrefnau lle mae Cadeiryddion y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn cael eu henwebu a'u penodi.  Mae'r Mesur yn mynnu bod Cadeiryddion y Pwyllgorau hyn yn cael eu penodi fel isafswm ar sail maint a chydbwysedd gwleidyddol pob un o'r grwpiau sy'n rhan o'r Cyngor.  Yn unol â chyfansoddiad gwleidyddol y Cyngor, a'r fformiwla a ddefnyddir o dan y Mesur Llywodraeth Leol mewn perthynas â dyrannu Cadeiryddion Trosolwg a Chraffu, dylai'r rhain gael eu dyrannu i'r grwpiau gwleidyddol canlynol:

             

Gr?p Gwleidyddol

Nifer y Cadeiryddion i'w dyrannu

Llafur

1 Cadeirydd

Ceidwadwyr

1 Cadeirydd

Cynghrair Annibynnol

1 Cadeirydd

Annibynwyr Llynfi

0 Cadeirydd

Plaid Cymru

0 Cadeirydd

 

Nid yw newid diweddar i gyfansoddiad gwleidyddol y Cyngor wedi effeithio ar ddyraniad Cadeiryddion Trosolwg a Chraffu fel uchod.

 

Nid yw swydd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Corfforaethol wedi ei dyrannu ac felly yn unol â'r Mesur, bydd yn cael ei benodi gan aelodau'r Pwyllgor Craffu Corfforaethol o blith un o Gadeiryddion y Pwyllgorau Craffu ar Bynciau ond ni all fod yn Gadeirydd sy'n cynrychioli'r Gr?p Gweithredol.

 

Roedd gweddill yr adroddiad yn rhoi manylion am Gynrychiolwyr Cofrestredig ar Bwyllgorau; sut y mae'n rhaid ffurfio cyfansoddiad y Pwyllgor Rheoli Datblygu, ac na ddylai Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd fod yn Aelod o'r gr?p mwyafrifol.

 

Mae cylch gwaith a swyddogaethau presennol y Pwyllgorau a chyrff eraill y Cyngor yn parhau heb eu newid fel y manylir arnynt yn Rhan 3 y Cyfansoddiad - Cyfrifoldeb am Swyddogaethau'r Cyngor a chawsant eu hatodi yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

Mae cydbwysedd gwleidyddol yn hanfodol i bennu dyraniad seddau ar Bwyllgorau. Dangosir cydbwysedd gwleidyddol presennol y Pwyllgorau a chyrff eraill yn Atodiad 2 yr adroddiad.

 

Dangosir strwythur y pwyllgorau presennol yn Atodiad 3 yr adroddiad .

 

Mae aelodaeth bresennol y pwyllgorau a fydd yn sail i unrhyw newidiadau i aelodaeth y pwyllgorau ynghlwm yn Atodiad 4 yr adroddiad. 

 

Cynigiwyd ac eiliwyd bod penodi Cadeiryddion rhai Pwyllgorau ac ati, (lle y nodir isod) yn cael ei gynnal trwy gyfres o bleidleisiau a gofnodwyd, ac felly cymerwyd pleidlais electronig ar hyn, ac roedd y canlyniad fel a ganlyn: -

 

Dros                                   Yn erbyn                             Ymatal

 

 

           

PENDERFYNWYD:                 Bod y Cyngor yn:-

 

(1) Penodi’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ac unrhyw Bwyllgorau eraill y mae'r Cyngor yn ystyried sy’n briodol i ddelio â materion nad ydynt wedi'u neilltuo i'r Cyngor nac yn swyddogaethau gweithredol;

 

(2) Penderfynu ar faint a chylch gorchwyl y Pwyllgorau hynny fel y'u nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad;

 

(3) Penderfynu ar ddyrannu seddi i grwpiau gwleidyddol yn unol â'r rheolau cydbwysedd gwleidyddol fel y’u nodir yn Atodiad 2 yr adroddiad;

 

(4) Penderfynu pa grwpiau gwleidyddol a gynrychiolir yn y Cyngor sydd â'r hawl i wneud pa benodiadau o ran Cadeiryddion y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu;

 

(5) Derbyn enwebiadau a phenodi Cynghorwyr i wasanaethu ar bob un o'r Pwyllgorau, Paneli a chyrff eraill (fel y nodir);

 

·           Panel Apeliadau

·           Pwyllgor Penodiadau (Cadeirydd - Yr Arweinydd)

·           Pwyllgor Archwilio

·           Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd

·           Pwyllgor Rheoli Datblygu

·           Pwyllgor Trwyddedu

·           Pwyllgor Deddf Trwyddedu 2003

·           Fforwm y Cynghorau Tref a Chymuned

·           Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bynciau 1

·           Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bynciau 2

·           Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bynciau 3

·           Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol

 

         (6) Derbyn enwebiadau a phenodi Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion y Pwyllgorau, y Paneli a'r cyrff eraill canlynol (fel y nodwyd) gan nodi y bydd y Pwyllgor Archwilio yn ei gyfarfod cyntaf a drefnir yn penodi Cadeirydd ac Is-Gadeirydd:-   

 

1)    Cynigiwyd ac eiliwyd yn briodol y dylid enwebu'r Cynghorydd J. E. Lewis yn Gadeirydd y Panel Apeliadau. Cynhaliwyd pleidlais a gofnodwyd ynghylch y penodiad hwn yn ogystal â gweddill y Cadeiryddion a benodwyd i'r cyrff a grybwyllir isod, a chafodd y canlyniadau eu cynnwys yn yr Atodiad i'r Cofnodion hyn:-

 

                      Felly penodwyd y Cynghorydd J. E. Lewis yn Gadeirydd y Panel Apeliadau (Manylion y bleidlais a gofnodwyd ynghlwm).

 

                      Enwebwyd y Cynghorydd N. Burnett yn Is-Gadeirydd y Panel Apeliadau gan na chafwyd unrhyw enwebiadau pellach. Felly cafodd y penodiad hwn ei dderbyn trwy gytundeb.

                   

2)    Cynigiwyd ac eiliwyd yn briodol y dylid enwebu'r Cynghorydd E. Venables yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

 

                      Penodwyd y Cynghorydd E. Venables yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd (Manylion y bleidlais a gofnodwyd ynghlwm.) Nid oedd Is-Gadeirydd i’r Pwyllgor hwn.

 

3)     Cynigiwyd ac eiliwyd yn briodol y dylid enwebu'r Cynghorydd G. Thomas yn Gadeirydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu:-

 

                      Felly, penodwyd y Cynghorydd G. Thomas yn Gadeirydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu. (Manylion y bleidlais a gofnodwyd ynghlwm.)

 

                      Enwebwyd y Cynghorydd R.M. Granville yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu ac ni chafwyd unrhyw enwebiadau pellach. Yna cafodd y penodiad hwn ei dderbyn trwy gytundeb.

 

4)    Cynigiwyd ac eiliwyd yn briodol y dylid enwebu'r Cynghorydd D. Lewis yn Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu / Pwyllgor Deddf Trwyddedu 2003. (Manylion y bleidlais a gofnodwyd ynghlwm.)

 

                      Felly, penodwyd y Cynghorydd D. Lewis yn Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu / Pwyllgor Deddf Trwyddedu 2003.

 

                      Enwebwyd y Cynghorydd P.A. Davies yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu / Pwyllgor Deddf Trwyddedu 2003 gan nad oedd unrhyw enwebiadau pellach. Yna cafodd y penodiad hwn ei dderbyn trwy gytundeb.

 

5)    Cynigiwyd ac eiliwyd yn briodol y dylid enwebu'r Cynghorydd H.J. David yn Gadeirydd Fforwm y Cynghorau Tref a Chymuned. (Manylion y bleidlais a gofnodwyd ynghlwm.)

 

                      Felly, penodwyd y Cynghorydd H.J. David yn Gadeirydd Fforwm y Cynghorau Tref a Chymuned.

 

                      Enwebwyd y Cynghorydd C.E. Smith yn Is-Gadeirydd Fforwm y Cynghorau Tref a Chymuned ac ni chafwyd unrhyw enwebiadau pellach. Yna cafodd y penodiad hwn ei dderbyn trwy gytundeb.

 

6)    Cynigiwyd ac eiliwyd yn briodol fod y Cynghorydd C.A. Webster yn cael ei enwebu'n Gadeirydd y Pwyllgor Trosolwg ar Bynciau a Chraffu 1. (Manylion y bleidlais a gofnodwyd ynghlwm)

 

                      Felly, penodwyd y Cynghorydd C.A. Webster yn Gadeirydd y Pwyllgor Trosolwg ar Bynciau a Chraffu 1.

 

7)    Cynigiwyd ac eiliwyd yn briodol y dylid enwebu'r Cynghorydd C.A. Green yn Gadeirydd y Pwyllgor Trosolwg ar Bynciau a Chraffu 2. (Manylion y bleidlais a gofnodwyd ynghlwm)

 

                      Felly, penodwyd y Cynghorydd C.A. Green yn Gadeirydd y Pwyllgor Trosolwg ar Bynciau a Chraffu 2.

 

8)    Cynigiwyd ac eiliwyd yn briodol y dylid enwebu'r Cynghorydd J.C. Spanswick, yn Gadeirydd y Pwyllgor Trosolwg ar Bynciau a Chraffu 3. (Manylion y bleidlais a gofnodwyd ynghlwm)

 

                      Felly, penodwyd y Cynghorydd J.C. Spanswick yn Gadeirydd y Pwyllgor Trosolwg ar Bynciau a Chraffu 3.

 

          (7)       Nodwyd na phenodwyd Is-Gadeirydd i'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu uchod.

 

          (8)       Cymeradwyo rhoi p?er dirprwyedig i'r Swyddog Monitro i hwyluso a phenodi un cynrychiolydd Cynghorau Tref /Cymuned ar y Pwyllgor Safonau, yn unol â darpariaethau paragraff 4.3 yr adroddiad.     

Dogfennau ategol: