Agenda item

I dderbyn cyhoeddiadau oddi wrth:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr Dros Dro

(iv) Swyddog Monitro

 

Cofnodion:

Maer

 

Gwnaeth y Maer atgoffa’r Aelodau mai Dydd Gwener yw dyddiad cau’r enwebiadau ar gyfer Gwobrau Blynyddol Dinasyddiaeth y Maer. Mae’r gwobrau’n agored i bobl sy’n byw yn y fwrdeistref sirol, yn ogystal â grwpiau a busnesau lleol. Gellir dod o hyd o fwy o wybodaeth ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a gellir lawrlwytho ffurflen enwebiadau oddi yno. Bydd yr enillwyr yn cael eu hanrhydeddu mewn digwyddiad ym mis Mawrth. 

 

Ers cyfarfod diwethaf y Cyngor, mae’r Maer a’i Gydweddog wedi cymryd rhan mewn 9 digwyddiad swyddogol  a oedd yn amrywiol a gwahanol ac yn bleserus iawn. Cyfeiriodd at y canlynol yn arbennig:-

 

Penblwydd Lily Kennett yn 100 oed. Dywedodd Lily wrthynt am ei gwaith fel gwniadwraig, sut y bu’n arddwr brwd a sut y safodd ei harholiadau lefel O pan oedd yn 60 oed. 

 

Cawsant hefyd amser da yng nghwmni preswylwyr cartref gofal Bryn-y-Cae yn eu parti Nadolig.  Cafodd pawb amser gwych gan fwynhau adloniant canwr lleol sy’n dynwared Elvis Presley yn fawr iawn. 

 

Ar nodyn mwy difrifol, cafodd y Maer yr anrhydedd o gynrychioli’r awdurdod a goleuo cannwyll yn seremoni Coffau’r Holocost yn Theatr Sony Pen-y-bont fore yma. Dyma ddigwyddiad ysgytwol sy’n peri i rywun feddwl. Byddai hefyd yn cynrychioli’r awdurdod yn nigwyddiad Coffau’r Holocost yng Nghaerdydd dydd Gwener nesaf.   

 

Roedd yn ddrwg gan y Maer glywed am farwolaeth Terry Hacking, cyn Gynghorydd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros gyfnod y Nadolig. Bu Terry yn aelod mawr ei barch o’r Cyngor, ac estynnodd ei gydymdeimlad â’i deulu, ac yn arbennig ei wraig Pat a fu hefyd yn aelod o’r cyngor ar un cyfnod. Gofynnodd i bawb oedd yn bresennol sefyll am funud o dawelwch er cof am Terry. 

 

Wrth gloi, dywedodd y Maer ei fod ef a’i Gydweddog wedi mynychu’r digwyddiadau canlynol hefyd yn ddiweddar: 

 

Cyngerdd Ysgol Porthcawl, Pantomeim (Maer) Sleeping Beauty Porthcawl, Brecwast Clwb Rotari (Siarad), Bore coffi crefft (Sarn), gwobrau’r Arglwydd Raglaw a chodi’r Faner (LGBT) uwch swyddfeydd Sifig. 

 

Dirprwy Arweinydd

 

Cyhoeddodd y Dirprwy Arweinydd bod y Cyngor a Cadwch Gymru’n Daclus wedi gwneud llawer iawn o waith yn ddiweddar i annog mwy o bobl i weithredu fel arwyr sbwriel.  

 

Roedd yn si?r y byddai Aelodau’n dymuno ymuno ag ef i ddiolch i bawb sydd wedi camu ymlaen i helpu i ofalu am eu cymunedau lleol. 

 

Rhwng Hydref 2015 a Medi 2018, roedd gwirfoddolwyr wedi treulio’r hyn sydd gyfwerth â £63,000 ac 8,780 o oriau yn gweithio ar 126 o brosiectau cynefinoedd a bioamrywiaeth leol.

 

Darparwyd hyfforddiant i 2,200 o wirfoddolwyr, ac ymgysylltwyd gyda 2,100 o bobl. Bu’r gwirfoddolwyr yn gyfrifol am gynnal 450 o sesiynau glanhau, mabwysiadu 99 o fannau gwyrdd, cefnogi 34 o grwpiau cymunedol a chreu 28 o arwyr sbwriel. 

 

Dyma ymdrech wych ac roedd am longyfarch pawb oedd yn rhan o’r gwaith. 

 

Ar nodyn tebyg, efallai y byddai Aelodau yn dymuno clywed am fenter newydd yn ardal Porthcawl sy’n dod â phum ysgol gynradd ynghyd.

 

Dan y teitl ‘Love it – Don’t Trash it’, nod y fenter yw dysgu plant i ymfalchïo yn eu cymuned wrth iddynt dyfu, ac i ailgylchu a gwaredu sbwriel yn gyfrifol. 

 

Trefnwyd y fenter mewn partneriaeth â Cadwch Gymru’n Daclus a Seaquest, ac mae’n cynnwys sesiynau codi sbwriel lleol a sesiynau glanhau traethau; bydd y plant yn dadansoddi’r eitemau y maent yn eu casglu ac yn dysgu o ble maent wedi dod, sut y gellir eu hail-ddefnyddio, ac i ble ddylid mynd â’r eitemau i’w rhwystro rhag llygru’r amgylchedd.

 

Mae pecyn adnoddau wedi cael ei ddatblygu i’r ysgolion ei ddefnyddio, a bydd canlyniadau’r fenter yn cael eu hastudio’n ofalus er mwyn i ni benderfynu a oes modd ehangu’r fenter.

 

Dyma fenter gwerth chweil, a byddai’n rhannu mwy o newyddion amdani gyda’r Aelodau wrth i bethau ddatblygu. 

 

Aelod Cabinet - Cymunedau

 

Roedd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau yn falch cael hysbysu’r Aelodau bod pob un o’r pedwar prosiect priffyrdd a thrafnidiaeth a gyflwynwyd ar gyfer ystyriaeth yn rownd dau o’r Rhaglen Cronfa Trafnidiaeth Leol wedi bod yn llwyddiannus. Mae hyn ar ben rhaglen £2.5m i gryfhau pontydd a fydd yn targedu dwy bont ym Melin Ifan Ddu.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd yn darparu £60,000 ar gyfer pont ffordd Penprysg ym Mhencoed, £40,000 ar gyfer gwella cyffordd Heol Simonston a Heol Coychurch, £25,000 ar gyfer gwelliannau ar hyd yr A4063 rhwng Sarn a Maesteg, a £25,000 pellach ar gyfer gwelliannau amrywiol i goridorau bysiau. 

 

Yn ôl telerau’r cyllid, mae’n rhaid defnyddio’r arian cyn diwedd mis Mawrth, ac felly bydd y gwaith yn digwydd yn sydyn iawn er mwyn cadw at y dyddiad cau.  

 

Yn y cyfamser, mae’r gwaith ar bontydd ym Melin Ifan Ddu yn sicrhau y bydd cerbydau trwm yn gallu parhau i ddefnyddio’r ffordd allweddol hon. Bydd yn cefnogi masnachwyr a thrigolion y dyffryn fel ei gilydd, ac yn sicrhau bod y ffordd gymunedol bwysig a phoblogaidd hon yn ddiogel i’w defnyddio. 

 

Yn ddiweddar, bu inni gyflwyno ein prosiectau â blaenoriaeth ar gyfer Cronfa Drafnidiaeth Leol 2019-20, ac felly roedd yn gobeithio cael mwy o newyddion da i Aelodau cyn hir. 

 

Mae Heddlu De Cymru’n cynnal ymgynghoriad eang i’w helpu i ddeall pryderon lleol wrth iddynt geisio sicrhau cymunedau mwy diogel, a byddent yn hoffi eich help. 

 

Maent yn gofyn i bobl rannu eu safbwyntiau, profiadau a chanfyddiadau, ac i chwarae rôl uniongyrchol o ran eu helpu i ddatblygu a llunio eu gwasanaethau. Gallwch wneud hyn drwy lenwi arolwg byr, sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg.  

 

Mae manylion llawn ar wefan Heddlu De Cymru, yn ogystal â dolenni ar-lein i’r holiadur a manylion am ddulliau gwahanol o’i lenwi. 

 

Efallai y byddai gan Aelodau ddiddordeb mewn clywed am ymdrechion diweddaraf y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Er mwyn sicrhau ymateb effeithiol a rhoi sicrwydd i berchnogion busnes a’r gymuned ehangach, mae cynllun ‘rhoi gwybod’ wedi cael ei lansio sy’n annog pobl i roi gwybod am bob achos o ymddygiad gwrthgymdeithasol. 

 

Rydym yn cynnal sesiynau ymwybyddiaeth rheolaidd mewn lleoliadau ynghanol y dref, ac yn cynnal arolwg gyda’r bwriad o ddarparu mynediad haws at gyfleoedd addysg, hyfforddiant a chyflogaeth. 

 

Mae’r Zone a thîm Wallich Rough Sleeper yn estyn cymorth i’r digartref a’r sawl sy’n cysgu allan, ac mae ein timau Strydoedd Glanach yn ymateb i bob adroddiad o graffiti a sbwriel.

 

Mae Swyddogion Trwyddedu’n gweithio gyda busnesau lleol ynghylch gwerthu alcohol mewn tafarnau, siopau a chlybiau, ac rydym yn dosbarthu taflenni i atgoffa masnachwyr ynghylch risg gwerthu alcohol i rai sydd dan oed neu drwy ddirprwy yn ogystal â chynnal ymarferion prawf-brynu.   

 

Rydym yn gweithio gyda gyrwyr tasi ar hyfforddiant llinellau sirol, ac mae ein huned CCTV yn darparu monitro ychwanegol. Mae arolwg o oleuadau stryd yn ein helpu i nodi pa ardaloedd sydd angen eu gwella.   

 

Mae nifer wedi cael eu harestio am droseddau fel dwyn o siopau, cyflenwi a meddu ar gyffuriau, a chyflwynwyd pum gorchymyn ymddygiad troseddol  sy’n atal unigolion penodol rhag dod i ganol y dref neu fynd i mewn i rai siopau penodol.

 

Mae’r Gorchymyn Diogelu Ardaloedd Cyhoeddus yn cael ei roi ar waith wrth  atafaelu alcohol lle bo hynny’n briodol, ac mae presenoldeb yr heddlu’n fwy gweladwy. Yn olaf, mae gr?p CF31 BID wedi recriwtio marsial stryd canol tref yn ddiweddar, ac maent yn hyrwyddo cynllun diogelwch Storenet.

 

Roedd yn gobeithio’n fuan gallu dod â gwybodaeth bellach i’r aelodau ynghylch sut mae’r ymdrechion hyn yn dwyn ffrwyth. 

 

Aelod Cabinet – Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

Roedd gan yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar newyddion ardderchog i’w rannu gydag Aelodau. Yn dilyn ymgynghoriad eang, rydym wedi gallu adolygu ein cynlluniau ar gyfer cartref gofal T? Cwm Ogwr ym Mhantyrawel, ac wedi llwyddo i gael darparwr annibynnol profiadol, Ashville Residential Ltd i gymryd drosodd y gwaith o redeg y cartref. 

 

Mae hyn wrth gwrs yn golygu nad oes raid i breswylwyr T? Cwm Ogwr symud i lety amgen. Mae swyddi’r staff hefyd wedi’u diogelu.

 

Ymhellach, rydym wedi gallu cadw gwasanaethau llety hanfodol yng Nghwm Ogwr gan ddatblygu’r gallu i gyflwyno gwasanaethau newydd wrth i anghenion a gofynion newid dros amser. 

 

Bydd Aelodau’n ymwybodol bod y cynnig i gau yn ffurfio rhan o’n cynlluniau ail-fodelu. Mae’r Aelod yn falch ein bod wedi gallu ail-ymweld â’r cynlluniau, ac wedi datblygu ateb amgen yn llwyddiannus a fydd yn ein galluogi i gadw’r cartref ar agor ond hefyd i sicrhau canlyniadau y dymunwn eu gweld. 

 

Gofynnodd i fwy o Aelodau wirfoddoli i gymryd rhan yn ein rota o ymweliadau rheolaidd â sefydliadau gofal cymdeithasol.  Mae’r ymweliadau hyn yn cyfrannu at ddiogelu oedolion, plant a phobl ifanc sy’n agored i niwed, ac yn helpu sicrhau bod gofal o ansawdd yn bodloni eu hanghenion.

 

Fel monitro contract trylwyr, gwiriadau iechyd a diogelwch, ymweliadau statudol annibynnol ac arolygiadau gan Arolygiaeth Gofal Cymru, mae’r ymweliadau rota yn ffurfio rhan bwysig o’n gweithdrefnau sicrhau ansawdd.

 

Maent yn rhoi cyfle i aelodau gwrdd â phobl a gwrando ar eu barn ynghylch y gwasanaeth a dderbyniant. Mae 40 o sefydliadau gofal cymdeithasol ar y rota presennol, 16 yn cael eu cynnal gan yr awdurdod lleol a 24 o rai annibynnol. Mae aelodau’n ymweld mewn timau o ddau, ac rydym yn ceisio cynnal un ymweliad y mis.

 

Pum tîm yn unig sydd yn y rota presennol, felly mae angen mwy o wirfoddolwyr. Darperir arweiniad a hyfforddiant llawn i bawb sy’n cymryd rhan, ac anfonir e-bost atoch yn fuan a fydd yn rhoi mwy o fanylion.

 

Bydd y rota newydd yn dechrau yn Ebrill, ac felly roedd yn gobeithio y byddai Aelodau’n gallu cefnogi’r cais pwysig hwn.

 

Ynghyd ag aelodau eraill o’r Cabinet, cefais y pleser yn ddiweddar o gwrdd â rhai o’n gofalwyr maeth lleol, ac roeddem yn gallu trafod eu profiadau ac ystod eang o faterion.  

 

Buom yn siarad am eu profiadau fel gofalwyr maeth, a’u rhesymau a’u cymhelliant dros ymgymryd â’r gwaith pwysig hwn.

 

Roedd yn brofiad hynod o ddefnyddiol, a rhoddodd gyfle i ni ddeall pethau’n well a chael adborth gwerthfawr. Byddwn nawr yn ceisio defnyddio’r hyn a ddysgwyd gennym wrth i ni fynd ati i ddatblygu a gwella’r gwasanaeth maethu.

 

Mae gofalwyr maeth yn gwneud gwaith hanfodol pwysig wrth roi’r cychwyn gorau posibl i blant a phobl ifanc difreintiedig, ac rwy’n gobeithio bydd aelodau yn helpu i hyrwyddo’r gwasanaeth a’r angen i fwy o ofalwyr maeth i gynnig eu hunain.

 

Wrth gloi, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth cynnar bod manylion llawn ar gael ar wefan y cyngor.  

 

Aelod Cabinet – Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol

 

Roedd yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol yn meddwl y byddai gan Aelodau ddiddordeb clywed bod strategaeth newydd wedi’i datblygu i helpu rhwystro digartrefedd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a bod gofyn i’ch preswylwyr roi eu barn ar hynny.

 

Cyd-gynhyrchwyd y strategaeth gyda landlordiaid, defnyddwyr gwasanaeth, y trydydd sector ac adrannau amrywiol o’r cyngor yn cyflwyno eu syniadau. 

 

Mae’r strategaeth yn nodi sut mae’r Cyngor yn bwriadu rhwystro digartrefedd, boed hynny’n ddigartrefedd cudd neu bobl sy’n cysgu allan. 

 

Mae’n ceisio ei gwneud yn haws i bobl sy’n wynebu digartrefedd gael mynediad at wasanaethau cefnogi – er enghraifft, y cynllun ‘drysau cynnar’ sy’n helpu trigolion sy’n cael trafferth talu rhent, y gwasanaeth cyfryngu teuluol sy’n arbenigo mewn gwella cydberthnasau o fewn teuluoedd, pan fydd person ifanc 16-25 oed yn ddigartref neu mewn perygl o ddod yn ddigartref, a’r Cynllun Bwrdd Bond sy’n cynorthwyo’r bobl ar incwm isel i ganfod a sicrhau llety preifat ar rent.  

 

Efallai y bydd Aelodau hefyd yn falch nodi bod y tîm Atebion Tai yn ddiweddar wedi recriwtio gweithiwr allgymorth iechyd meddwl i weithio gyda thrigolion sy’n ddigartref neu’n wynebu digartrefedd, ac sydd angen cymorth penodol. 

 

Fel y gwyddoch, mae yna resymau cymhleth yn aml pam fod pobl yn dod yn ddigartref neu’n parhau’n ddigartref. Un o amcanion y strategaeth hon yw sicrhau bod modd cael gafael ar atebion yn rhwydd, eu bod ar gael i bawb a’u bod yn ateb anghenion y bobl sy’n eu defnyddio. 

 

Roedd hi hefyd yn awyddus i rannu gwybodaeth gydag Aelodau am fenter newydd a lansiwyd yr wythnos diwethaf, yn y gobaith y byddent am rannu hynny gyda’u hetholwyr.

 

Mae’r Cyngor wedi ymuno â Chanolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr, Neuadd Evergreen ac Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen i sefydlu Côr Gofalwyr cyntaf y Fwrdeistref Sirol. 

 

Bwriedir i’r côr fod yn hwyl ac yn anffurfiol. Bydd yn rhoi cyfle i bobl sy’n gofalu am ffrindiau neu aelodau o’r teulu fynd allan, mwynhau eu hunain a chwrdd ag eraill sy’n rhannu profiadau tebyg.

 

Dan arweiniad y cyfarwyddwr cerdd, Izzie Thomas, bydd y côr yn cwrdd yn Neuadd Evergreen bob Dydd Llun rhwng 11 y bore a 1 y prynhawn. 

 

Mae croeso i holl ofalwyr ddod draw i’r sesiynau, ac roedd yr Aelod Cabinet yn si?r y byddai pawb yn clywed mwy am y Côr Gofalwyr wrth i’r aelodaeth gynyddu. 

 

Yn olaf, mae Gr?p Caredigrwydd Digymell Cyn-filwyr Anabl Pen-y-bont ar Ogwr yn cefnogi noson ‘côr roc’ ar ran Gofalwyr Ifanc Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Bydd y Côr Roc yn perfformio ynghyd â’r Big Fat Blues Band yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr ar 8 Chwefror, ac mae croeso i Gynghorwyr ddod draw i gefnogi’r digwyddiad. 

 

Mae’r tocynnau’n costio £7 ac ar gael drwy gysylltu â Nicola Bunston yn Adran Cydraddoldebau’r Cyngor. 

 

Aelod Cabinet – Addysg ac Adfywio

 

Awgrymodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio y byddai Aelodau efallai’n dymuno atgoffa eu hetholwyr bod ceisiadau ar-lein bellach ar agor i blant sy’n chwilio am lefydd meithrin ledled y Fwrdeistref Sirol.  

 

Mae’r llefydd meithrin i blant a fydd yn dechrau’r ysgol yn llawn amser ym Medi 2019, a hefyd i blant a fydd yn mynychu’n rhan-amser o Ionawr i Ebrill 2020.  

 

Gellir cyflwyno cais mewn dull cyfleus a rhwydd drwy gofrestru am ‘Fy Nghyfrif’ yn rhad ac am ddim ar wefan y cyngor, yna cyflwyno ffurflen ar-lein cyn y dyddiad cau, 25 Mawrth. 

 

Mae ffurflenni papur traddodiadol yn dal i fod ar gael, ond mae cyflwyno cais ar-lein yn gwneud y broses derbyniadau ysgol yn rhwyddach o lawer, a hefyd yn galluogi pobl i ddefnyddio Fy Nghyfrif i reoli pethau fel y dreth gyngor a budd-daliadau tai. 

 

Mae mwy o elfennau yn cael eu hychwanegu at Fy Nghyfrif a fydd yn ei gwneud yn haws fyth i gael mynediad at wasanaethau ac i wneud busnes gyda’r Cyngor, felly roedd yn gobeithio bod Aelodau yn annog pobl yn eu wardiau i gofrestru.

 

Bob blwyddyn, mae Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnal digwyddiadau brecwast Dydd G?yl Dewi, ac eleni, bydd yn digwydd yng Ngwesty Coed-Y-Mwstwr yn Llangrallo. 

 

Bydd seren rygbi Cymru Ryan Jones yn ymuno â chynrychiolwyr o fusnesau lleol yn y digwyddiad i siarad am ei yrfa a’i lwyddiant fel cyn-gapten Cymru ac aelod o garfan y Llewod. 

 

Mae gan Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr fwy na 900 o aelodau ac mae’n cynnig llais cyfunol i gwmnïau lleol o bob maint a sector o fewn y fwrdeistref sirol. Mae’r digwyddiad brecwast yn cynnig cyfle gwych iddynt rwydweithio a derbyn cymorth a chyngor ar gyfer datblygu a thyfu. 

 

I gloi, awgrymodd y byddai Aelodau am roi gwybod i fusnesau yn eu wardiau am y digwyddiad ac am waith y fforwm. Mae manylion llawn ar wefan Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr. 

 

Prif Weithredwr Dros Dro

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Dros Dro mai un o’r pethau y mae am ei gefnogi a’i hyrwyddo yw gwaith y Cyngor Ieuenctid. 

 

Roedd y Prif Weithredwr Dros Dro a’r Arweinydd wedi cwrdd â’r Maes Ieuenctid, Lewis Pilliner, yn ddiweddar, ac roedd yn falch cael ymuno â  Lindsay Harvey, ein Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg a Chymorth i Deuluoedd, yng nghyfarfod mwyaf diweddar y Cyngor Ieuenctid, a gynhaliwyd wrth gwrs yn Siambr y Cyngor.

 

Roedd yn awyddus iawn ein bod yn cefnogi’r Maes Ieuenctid gyda’i brif flaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn, a’n bod hefyd yn ymgysylltu’n fwy effeithiol gyda’r Cyngor Ieuenctid ar faterion sydd o ddiddordeb i bawb. 

 

“Mae fy mhrofiad o weithio ac ymgynghori â phobl ifanc wedi dangos bod hynny’n cyfrannu dimensiwn pwysig a chall at y broses o lunio busnes y cyngor. 

 

Rwyf o’r farn y gallai ymgysylltu’n agosach â hyn fodd yn fuddiol i bawb.”

 

Eleni, mae’r Maes Ieuenctid wedi nodi iechyd meddwl pobl ifanc fel blaenoriaeth allweddol, yn enwedig mewn cysylltiad â materion fel straen arholiadau.

 

Mae ef hefyd wedi blaenoriaethu ffyrdd o gynyddu ail-gylchu mewn ysgolion, a chynnal ‘diwrnod democratiaeth’ i ddatblygu gwell dealltwriaeth o’r system wleidyddol, ac i hyrwyddo’r pwysigrwydd o ddweud eich dweud a defnyddio eich pleidlais. 

 

Mae gwybodaeth o wefan Ystadegau Cymru Llywodraeth Cymru yn awgrymu bod tua 14,000 o bobl rhwng 16 a 24 yn byw yn y Fwrdeistref Sirol ar hyn o bryd. 

 

Mae hyn yn rhoi cyfle i Aelodau etholedig gyfrannu’n uniongyrchol at gefnogi a datblygu’r digwyddiad pwysig hwn, a helpu meithrin mwy o ddiddordeb mewn democratiaeth leol. 

 

Bwriedir cynnal Dawns Ieuenctid y Maer ym mis Medi yn yr Hi-Tide ym Mhorthcawl, ac roedd y Prif Weithredwr Dros Dro’n sicr y byddai aelodau eisiau dangos eu cefnogaeth i’r digwyddiad hwn hefyd. 

 

Rydym eisoes wedi nodi yr hoffem weld mwy o adborth o’r Cyngor Ieuenctid ar ymarferion ymgynghori allweddol fel cymorthdaliadau bysiau, parciau a thaliadau caeau chwarae, a’r strategaeth ddigartrefedd arfaethedig. 

 

Er mai cynrychiolwyr o ysgolion cynradd ac uwchradd lleol sy’n eistedd ar y Cyngor Ieuenctid, roedd eu trafodaethau aeddfed a chraff ar bynciau fel tlodi misglwyf a Brexit wedi creu cryn argraff arno. 

 

Nid oes amheuaeth ganddo na fydd rhai o’r bobl ifanc hynny mewn blynyddoedd i ddod yn sefyll lle mae Aelodau/Swyddogion ar hyn o bryd, ac y byddant yn gwneud y penderfyniadau anodd a fydd yn arwain Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i’r dyfodol. 

 

Ychwanegodd eu bod yn glod i’r Cyngor a’r Fwrdeistref Sirol, ac y byddai’n gwerthfawrogi’n fawr unrhyw gymorth y gallai Aelodau etholedig ei gynnig iddynt gan y byddai hynny’n fuddsoddiad gwerthfawr hefyd.

 

Swyddog Monitro

 

Gwnaeth y Swyddog Monitro ddau gyhoeddiad fel a ganlyn:-

 

Derbyniwyd cais gan Arweinydd Gr?p Annibynwyr Llynfi i’r Cynghorydd Keith Edwards ildio ei sedd ar Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 1 ac yn hytrach, dod yn aelod o Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 3.

 

I wireddu hyn, bydd y Cynghorydd Tom Beedle yn ildio ei sedd ar Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 3 ac yn dod yn aelod o Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 1.

 

Mae hyn yn golygu bod Aelodau o’r un gr?p gwleidyddol yn cyfnewid rolau, ac felly ni fydd yn effeithio ar gydbwysedd gwleidyddol cyffredinol y Pwyllgorau. 

 

Bu’n rhaid newid tri dyddiad ar gyfer Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu fel a ganlyn, er mwyn sicrhau bod yr holl rai gaiff wahoddiad yn gallu mynychu’r cyfarfodydd:-

 

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 2 wedi symud o 29 Ionawr i 13 Chwefror 2019 - briffiad cyngyfarfod am 9.30am a’r cyfarfod i ddechrau am 10.00am.

 

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 2 wedi symud o 30 Ebrill i 15 Ebrill 2019 - briffiad cyngyfarfod am 9.30am a’r cyfarfod i ddechrau am 10.00am.

 

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 3 wedi symud o 26 Chwefror i 25 Chwefror 2019 - briffiad cyngyfarfod am 9.30am a’r cyfarfod i ddechrau am 10.00am.

 

Mae aelodau’r ddau Bwyllgor wedi cael blaen-rybudd o’r newidiadau tebygol drwy e-bost, ac mae Cadeiryddion y ddau bwyllgor wedi cytuno newid y dyddiadau am y rheswm a roddwyd. 

 

Mae calendrau electronig Aelodau a Swyddogion priodol hefyd wedi’u diweddaru gyda dyddiadau newydd cyfarfodydd y Pwyllgorau hyn.