Agenda item

I Dderbyn y Cwestiynau Dilynol wrth:

1.            Cwestiwngan y Cynghorydd MC Voisey I’r Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio 

 

Yng nghylch diwethaf y gyllideb, dyrannwyd arian ar gyfer G?yl Ddysgu, ac i gymryd lle’r grant Gwisg Ysgol a dynnwyd gan Lywodraeth Cymru dan arweiniad Llafur. Rwy’n deall bod yr w?l ddysgu wedi bod yn llwyddiant ac wedi’i hariannu’i hun, a bod y Cynulliad wedi gwneud tro pedol ar y grant gwisg ysgol.

 

Felly, ni ddefnyddiwyd yr arian a gymrwyd oddi ar drethdalwyr ym Mhen-y-bont fel y bwriadwyd. Allwch chi gadarnhau sut ddefnyddiwyd yr arian, neu ble mae’r arian nawr? 

 

2.            Cwestiwngan y Cynghorydd T Thomas i’r Aelod Cabinet dros Cymunedau 

 

Gan fod cynnig yn galw am i'r Fwrdeistref Sirol fynd yn 'ddi-blastig' ym mis Gorffennaf 2018, a wnaiff yr Aelod Cabinet egluro pa gynnydd y mae'r awdurdod hwn wedi'i wneud wrth leihau ei ddefnydd plastig na ellir ei ailgylchu 6 mis ymlaen o'r cynnig gwreiddiol?

 

3.         Cwestiwn gan y Cynghorydd A Hussain i’r Aelod Cabinet dros Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

Yndraddodiadol, dylai awdurdodau lleol fod â chyllideb i brynu offer cynorthwyol os mae’n cefnogi rhywun i fyw bywyd annibynnol a llawn.  Byddemyn dymuno gweld hyn yn parhau. Mewn nifer o awdurdodau, rydym ni’n clywed am ryw fath o brawf modd anffurfiol lle mae’r person sy’n asesu yn ceisio canfod a allai rhywun dalu am yr offer eu hunain.  Mae hyn yn llawn anawsterau, ac rwy’n gobeithio na fydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ceisio gwneud hyn.

 

A all yr Aelod Cabinet roi gwybod i’r Cyngor sut mae’r Gwasanaeth Telecare yn cael ei ddarparu i breswylwyr yn y Sir a faint fydd yr arbedion tybiedig i’r Cyngor?

 

 

 

Cofnodion:

Cwestiwn gan y Cynghorydd M C Voisey i’r Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio  

Yng nghylch diwethaf y gyllideb, dyrannwyd arian ar gyfer G?yl Ddysgu, ac i gymryd lle’r grant Gwisg Ysgol a dynnwyd gan Lywodraeth Cymru dan arweiniad Llafur. Rwy’n deall bod yr ?yl ddysgu wedi bod yn llwyddiant ac wedi’i hariannu’i hun, a bod y Cynulliad wedi gwneud tro pedol ar y grant gwisg ysgol. Felly ni ddefnyddiwyd yr arian a gymrwyd oddi ar drethdalwyr ym Mhen-y-bont fel y bwriadwyd. Allwch chi gadarnhau sut ddefnyddiwyd yr arian, neu ble mae’r arian nawr? 

 

Ymateb

Disgwylir i gyfanswm cost G?yl Ddysgu 2018 i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fod oddeutu £12k. Caiff hwn ei ariannu o’r £65k ychwanegol a gymeradwywyd gan y Cyngor i ?yl Ddysgu 2018 ar 28 Chwefror 2018 fel cost untro’n unig fel rhan o Strategaeth Ariannol Tymor Canolog y Cyngor 2018-2019 i 2021-2022.

 

Trosglwyddwyd y £53k na chafodd ei wario i’r Gyllideb Gorfforaethol yng Nghyfnod 9. Ar gyfer 2018-2019, defnyddir hwn i sefydlu unrhyw arian wrth gefn sydd ei angen ar ddiwedd y flwyddyn ar gyfer costau untro na’u rhagwelir yn 2019-2020. Ar gyfer 2019-2020, bydd yn cyfrannu at y gyllideb costau corfforaethol i ymdrin ag unrhyw gostau na ellir eu hosgoi yn y flwyddyn honno. 

 

O ran yr arian a ddyrannwyd i gymryd lle Grant Gwisg Ysgol Llywodraeth Cymru, mae hwnnw hefyd wedi’i adfachu’n gorfforaethol a bydd hefyd yn cael ei ddefnyddio i sefydlu arian wrth gefn ar ddiwedd y flwyddyn. Ar gyfer    2019-2020, mae’r swm hwn wedi’i gynnwys yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolog fel darpar ostyngiad yn y gyllideb.”  

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd M C Voisey (i’r Aelod Cabinet dros Gymunedau)

A fyddai’r Cabinet yn ystyried defnyddio’r arian na chafodd ei wario fel yr amlinellwyd uchod, i gadw rhai cyfleusterau cyhoeddus o fewn y Fwrdeistref Sirol ar agor, sef rhai sydd naill ai wedi’u cau neu sy’n debygol o gael eu cau.   

 

Ymateb

Nid yw hynny’n bosibl gan fod yr arian hwn bellach wedi cael ei ddyrannu i’r Gyfarwyddiaeth Addysg a Chefnogi Teuluoedd er mwyn negyddu gorwariant o fewn y Gyfarwyddiaeth honno yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol. Ychwanegodd y Prif Weithredwr Dros Dro bod unrhyw danwariant sy’n digwydd mewn unrhyw Gyfarwyddiaeth mewn blwyddyn ariannol fel rheol yn cael ei roi i gyllideb Gorfforaethol y Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol ddilynol, yn hytrach na chael ei ail-ddyrannu i’r Gyfarwyddiaeth lle digwyddodd y tanwario yn y lle cyntaf.

 

Cwestiwn gan y Cynghorydd T Thomas i’r Aelod Cabinet dros Gymunedau

Gan fod cynnig yn galw am i’r Fwrdeistref Sirol fynd yn ‘ddi-blastig’ ym mis Gorffennaf 2018, a wnaiff yr Aelod Cabinet egluro pa gynnydd y mae’r awdurdod hwn wedi’i wneud wrth leihau ei ddefnydd plastig na ellir ei ailgylchu 6 mis ymlaen o’r cynnig gwreiddiol? 

 

Ymateb

Gwnaed y cynnig di-blastig y cyfeirir ato yn Ebrill 2018, ond ni chafodd ei gymeradwyo ar y pryd; fodd bynnag, cyfeiriwyd y cynnig i gael ei ystyried mewn cyfarfod o Bwyllgor Trosolwg a Chraffu 3 yng Ngorffennaf 2018.

 

Ers hynny, rydym wedi cymryd camau positif at annog lleihad yn y defnydd o blastig a gwastraff pecynnu arall. Mewn cydweithrediad â Chadwch Gymru’n Daclus a Chyngor Tref Porthcawl (gan obeithio y bydd yr holl gynghorau tref yn dilyn), rydym yn ariannu ymgyrch addysg gydag ysgolion y fwrdeistref. Mae’r ymgyrch yn cynnwys “her cinio diwastraff” i blant ysgol a rhieni, a’r syniad yw cael cinio sy’n osgoi defnyddio pecynnau plastig a ddefnyddir unwaith yn unig, gyda diodydd mewn poteli y gellir eu hail-lenwi a bwyd mewn bocs Tupperware priodol y gellir eto ei ail-ddefnyddio. Mae’r rhaglen ymgysylltu hon hefyd yn annog busnesau lleol i wastraffu llai, osgoi plastig a ddefnyddir unwaith lle bo hynny’n ymarferol, a rhoi sticer yn eu ffenestri i ddangos eu bod yn cefnogi’r fenter amgylcheddol hon.

 

Mae’n amlwg y byddai angen dipyn o adnoddau i ddadansoddi’n llawn holl drafodion caffael yr awdurdod sy’n golygu prynu eitem blastig a ddefnyddir unwaith yn unig, neu eitemau gyda chydrannau plastig a ddefnyddir unwaith yn unig ac i weld a fyddai modd canfod eitemau mwy cyfeillgar i’r amgylchedd a rhai fyddai’n ddilys yn economaidd yn lle’r hyn a ddefnyddir ar hyn o bryd. O gofio’r pwysau ariannol presennol, nid ydym wedi gallu dilyn hyn ymhellach. Fodd bynnag, rydym wedi cymryd camau syml yn y  mwyafrif o’r adrannau o fewn amgylchedd swyddfeydd y Cyngor. Nid ydynt yn prynu cwpanau neu lwyau plastig bellach, na phecynnau llaeth, a defnyddir coffi, llaeth a siwgr rhydd mewn cyfarfodydd lle mae’n rhaid cael lluniaeth. Ar noson cyfrif pleidleisiau etholiadau, defnyddiwyd pecynnau llaeth yn y gorffennol, ond defnyddir cartonau/poteli mawr o laeth nawr, a llwyau sbatwla pren. Er bod osgoi defnyddio plastig diangen yn rhywbeth i’w gymeradwyo, ynghyd ag ail-ddefnyddio eitemau, mae’n bwysig nad ydym yn difrïo plastig fel deunydd, a’n bod yn gwneud penderfyniadau doeth. Mae defnyddio pecynnau plastig i gadw bwyd yn ffres yn gallu arwain at fanteision amgylcheddol sylweddol. Un enghraifft yw’r defnydd o becynnau llaeth hir oes; mewn amgylchedd o ddefnydd anghyson ac amrywiol, gallai’r rhain fod yn fwy cyfeillgar i’r amgylchedd nag agor cynwysyddion mwy o faint ac wedyn gwastraffu llawer iawn o laeth ffres. Yr hyn sy’n hanfodol bwysig yw defnyddio plastig yn ddoeth pan ellid cyfiawnhau ei ddefnyddio, ynghyd â’i ail-gylchu’n ddoeth, er mwyn sicrhau nad yw’n dod yn rhan o broblem llygru’r moroedd.

 

Mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i fod ar flaen y gad pan ddaw’n fater o ailgylchu plastig yng Nghymru; mae’n casglu plastig drwy’r gwasanaeth ail-gylchu wythnosol sef 2109 tunnell o blastig bob blwyddyn o’r stepen drws. Lle na ellir ail-gylchu deunyddiau plastig wrth y stepen drws fel plastig caled (h.y. dodrefn yr ardd, teganau plant), darperir canolfannau ail-gylchu ar safleoedd y Canolfannau Ail-gylchu Cymunedol. Mae hynny’n golygu bod 1197 tunnell bellach o blastig y flwyddyn yn cael ei ail-gylchu.”

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd T Thomas i’r Aelod Cabinet dros Gymunedau

Mae’n dda gen i nodi’r prosiect peilot uchod gyda Cadwch Gymru’n Daclus a Chyngor Tref Porthcawl, gyda’r nod o leihau’r defnydd o blastig a gwastraff pecynnu arall, yn enwedig mewn ysgolion. Sut ellid sicrhau bod Aelodau’n cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau ynghylch prosiectau fel hyn, ac unrhyw brosiectau yn y dyfodol sydd â’r un nodau ac amcanion?  

 

Ymateb

Drwy adroddiadau gaiff eu cyflwyno i’r Cabinet (mae holl Aelodau nawr yn derbyn copi electronig o’r agenda/adroddiadau i’r cyfarfod hwn) neu drwy ofyn iddo e’n bersonol. 

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio, bod croeso hefyd i unrhyw Aelod ymweld ag ysgolion gydag ef, i weld yn uniongyrchol y gwaith rhagorol a wnaed ganddynt yn nhermau ail-gylchu. Ychwanegodd ymhellach mai’r Ysgolion Cynradd sy’n arwain y ffordd yn hyn o beth.

Ail Gwestiwn atodol gan y Cynghorydd K Watts i’r Aelod Cabinet dros Gymunedau 

Rwy’n falch clywed gan y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Gymunedau am y gwaith da sy’n cael ei wneud gan ein Harwyr Sbwriel a’n timau Glanhau Strydoedd. Fodd bynnag, rwyf wedi sylwi bod llawer o sbwriel yn cael ei ollwng mewn cloddiau, yn y glaswellt ar hyd ochrau ffyrdd ac ar briffyrdd ledled ein Bwrdeistref Sirol. Pa waith sy’n cael ei wneud i rwystro hynny rhag digwydd yn y mannau hynny, yn enwedig y ffyrdd sy’n cysylltu ein prif drefi.  

 

Ymateb

Gwnaf drafod hyn ar ôl y cyfarfod gyda Swyddogion yn ein timau Gorfodi Sbwriel.  

 

Cwestiwn gan y Cynghorydd A Hussain i’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar 

Yn draddodiadol, dylai awdurdodau lleol fod â chyllideb i brynu offer cynorthwyol os mae’n cefnogi rhywun i fyw bywyd annibynnol a llawn. Byddem yn dymuno gweld hyn yn parhau. Mewn nifer o awdurdodau, rydym ni’n clywed am ryw fath o brawf modd anffurfiol lle mae’r person sy’n asesu yn ceisio canfod a allai rhywun dalu am yr offer eu hunain. Mae hyn yn llawn anawsterau, ac rwy’n gobeithio na fydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ceisio gwneud hyn.

 

A all yr Aelod Cabinet roi gwybod i’r Cyngor sut mae’r Gwasanaeth Teleofal yn cael ei ddarparu i breswylwyr yn y Sir a faint fydd yr arbedion tybiedig i’r Cyngor? 

 

Ymateb

Mae Teleofal yn defnyddio technoleg fel ffordd o reoli risgiau i annibyniaeth, i fonitro ac ymateb i argyfyngau wrth iddynt ddigwydd, ac i gefnogi newidiadau i ffordd o fyw dros amser. Bwriedir i’r Gwasanaeth Teleofal gynnal a chynyddu annibyniaeth unigolion yn eu cartrefi fel nad ydynt yn dibynnu cymaint ar wasanaethau. Mae hyn yn cefnogi blaenoriaeth gorfforaethol y Cyngor o helpu pobl i fod yn fwy hunangynhaliol a defnyddio adnoddau’n fwy medrus. Mae’r gwasanaeth hwn hefyd yn cynorthwyo pobl wrth iddynt adael yr ysbyty. 

 

Mae Teleofal yn defnyddio technoleg ddiwifr sy’n cysylltu synwyryddion Teleofal drwy uned larwm gymunedol yn y t?â chanolfan fonitro ganolog. Mae’r synwyryddion hyn yn gallu anfon neges i’r ganolfan fonitro, heb fod angen i’r defnyddiwr alw am gymorth, drwy bwyso botwm ar fwclis. Mae’r ystod o synwyryddion Teleofal medrus ac anymwthiol yn cynnwys synwyryddion gyda’n gweithio’n ddiwifr gan gynnwys synwyryddion mwg, llifogydd, tymereddau eithafol, cwympiadau a faint o amser a dreulir mewn cadair/gwely. Mae’r rhain i gyd yn gweithio o fewn y cartref ac yn cynnig ffordd gynhwysfawr o reoli risg i berson iechyd ac amgylchedd y cartref, 24 awr y dydd, 7 dydd yr wythnos.

 

Mae offer Teleofal wedi dod yn rhan o’r ystod eang o wasanaethau offer yn y gymuned sydd bellach ar gael. Mae Teleofal yn helpu: 

 

            Cynyddu annibyniaeth a dewis i ddefnyddwyr y gwasanaeth

            Rhoi cymorth, seibiant a thawelwch meddwl effeithiol i ofalwyr

            Cynyddu’r capasiti ar gyfer cadw pobl yn eu cartrefi

            Cymorth i reoli risg yn y cartref

            Rhwystro rhai rhag gorfod mynd i ysbyty a helpu eraill i adael  ysbyty’n brydlon

            Gohirio’r amser y bydd yn rhaid defnyddio gwasanaethau gofal preswyl neu ofal nyrsio 

            Cefnogi gwasanaethau Gofal Tymor Byr a Gofal yn y Cartref

 

Roedd Llywodraeth Cynulliad Cymru ynghynt wedi rhoi blaenoriaeth i ddatblygiad gwasanaethau Teleofal ledled Cymru. Roedd y Papur Gwasanaethau Cymdeithasol ‘Strategaeth ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru dros y degawd nesaf: Bywydau Bodlon, Cymunedau Cefnogol’ 2006 yn argymell datblygu gwasanaethau Teleofal yn benodol er mwyn hyrwyddo annibyniaeth a chefnogi mwy o ofal yn y cartref na gofal preswyl. Yn 2008, gosododd Pen-y-bont ar Ogwr darged anffurfiol o 500 o ddefnyddwyr newydd erbyn Mawrth 2019. Yn 2019, 10 mlynedd yn ddiweddarach, mae gennym 2634 o unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau Teleofal.

 

Mae Tîm Ymateb Symudol yn rhywbeth arall sy’n gwella’r gwasanaeth a gynigir. Hyd y gwyddom, Pen-y-bont oedd y Cyngor cyntaf yng Nghymru i gysylltu tîm o’r fath gyda Teleofal. Mae’r tîm hwn wedi’i gofrestru i ddarparu gofal personol ac mae’n gallu darparu cymorth cyflym i ddefnyddwyr gwasanaeth Teleofal. Mae’ tîm yn darparu gwasanaeth 24 awr, saith diwrnod yr wythnos, gan ddefnyddio cerbyd dyletswydd a ffôn symudol, ac yn cynnig cymorth cyflym drwy ymateb i alwadau drwy ganolfan larwm cymunedol.

 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ymrwymo’n llawn at gynyddu’r defnydd o’r Gwasanaeth Teleofal; mae’n ystyried mai dyma un o’r ffyrdd allweddol o gefnogi pobl i deimlo’n fwy hyderus ac aros yn eu cartrefi yn hirach. Mae’r Tîm Ymateb Symudol yn rhoi sicrwydd pellach i’r rheiny sydd ei angen, neu’r sawl sydd heb deulu i ymateb i argyfwng all ddigwydd yn y cartref. Mae’r gwasanaeth wedi mwy na dyblu yn y 5 mlynedd diwethaf, gyda dros 2,400 o unigolion bellach yn derbyn y gwasanaeth. Ar hyn o bryd, mae gennym gyllideb o £380k i ariannu offer Teleofal, ei osod, ei gynnal a’i gadw a’i fonitro, ac nid oes unrhyw gynigion o fewn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig i dorri’r gyllideb hon. 

 

Caiff yr holl ffioedd ar gyfer ymateb symudol eu cyfrifo yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Codi Ffioedd ac Asesiadau Ariannol); ar hyn o bryd, ni fydd yr un person yn talu mwy na £80 yr wythnos am wasanaeth gofal nad ydyw’n wasanaeth preswyl. Felly, bydd unigolion gyda llai o incwm gwario yn derbyn gwasanaethau am gost is, neu hyd yn oed am ddim, sy’n debyg i ffioedd am wasanaethau cymdeithasol eraill.

 

Yn unol â chytundebau unigol, cyflwynir ffioedd yn ystod 2019 am offer sydd wedi’i golli neu offer newydd i gymryd lle hen offer; dyma un o’r cynigion a nodir yn 2019/20 i gynhyrchu mwy o incwm. Rhagwelir y bydd hyn yn cynyddu incwm o £150k yn ystod 2019/20.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Altaf Hussain i’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

Profwyd yn genedlaethol bod technoleg byw â chymorth yn gwella canlyniadau ac yn lleihau costau gofal cymdeithasol. A allai’r Aelod Cabinet hysbysu’r Cyngor o unrhyw dystiolaeth i ddangos bod angen llai o ofal ar ein cleientiaid, ac o’r arbedion a sicrhaodd y cyngor ers dechrau defnyddio’r dechnoleg yn 2008. Hefyd, o ystyried y manteision a’r arbedion – pam na allwn ni ddarparu’r dechnoleg hon yn rhad ac am ddim i holl drigolion haeddiannol ein Sir? 

 

Ymateb

Byddwn yn ymchwilio’r ateb i’r cwestiwn hwn a chaiff yr ateb hwnnw i roi tu allan i’r cyfarfod.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd bod tua 2,500 o drigolion yn derbyn Teleofal o’r Cyngor, a bod hyn yn eu helpu’n fawr i gynnal eu hannibyniaeth yn eu cartrefi.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, bod mwy o bobl yn agored i niwed yn byw gartref ar hyn o bryd ac y byddent yn y gorffennol wedi bod yn byw mewn gofal preswyl, gan gynnwys rhai o’r achosion mwyaf cymhleth, oedd yn hanesyddol wedi rhoi pwysau enfawr ar yr Awdurdod a’i bartneriaid.  Mae rhai o’r achosion hyn yn gymhleth iawn eu natur.  Adleisiodd sylwadau’r Arweinydd, gan nodi bod Teleofal yn wasanaeth cefnogi amhrisiadwy sy’n helpu i atal unigolion rhag mynd i sefydliad gofal hirdymor.