Agenda item

Penodi Is-Bwyllgorau Trwyddedu a Dirprwyo i Swyddogion

Cofnodion:

Gwnaeth Rheolwr Tîm Trwyddedu gyflwyno adroddiad yn cynnig aelodaeth Is-bwyllgor Trwyddedu, ar ôl Cyfarfod Blynyddol y Cyngor yn 2018.

 

Roedd angen y cynigion er mwyn cyflawni swyddogaethau’r awdurdod yn effeithiol mewn perthynas â cheisiadau trwyddedu cyffredinol. Roedd ystod y swyddogaethau wedi’u nodi yng Nghyfansoddiad y Cyngor a oedd yn cynnwys trwyddedu tacsis, masnachu stryd, a gwaith trwyddedu cyffredinol eraill yn ôl yr angen. Byddai adroddiad ar wahân yn cael ei gyflwyno mewn perthynas â swyddogaethau Deddf Trwyddedu 2003 a’r Ddeddf Gamblo 2005.

 

Ar 16 Mai 2018, derbyniodd y Cyngor adroddiad sy’n pennu aelodaeth Pwyllgor Deddf Trwyddedu 2003 a’r Pwyllgor Trwyddedu. Cynigwyd y byddai’r Pwyllgor Trwyddedu’n parhau â’r trefniadau presennol a chymeradwyo creu dau banel ar sail rota, a’r ddau’n cynnwys saith Aelod o’r Pwyllgor Trwyddedu fydd yn cael eu cadeirio gan Gadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu lle bo’n bosibl.

 

Eglurodd y Rheolwr Tîm Trwyddedu bod gofyn hefyd i’r Pwyllgor ystyried newid y canllawiau ar gyfer cyfeirio achosion at yr Is-bwyllgor. Roedd y Pwyllgor wedi mabwysiadu Datganiad Polisi ynghylch perthnasedd collfarnau a thrwyddedu cyn-droseddwyr, a oedd eisoes wedi cyflwyno canllawiau ar gyfer pa achosion ddylid cael eu cyfeirio at Is-bwyllgor ar gyfer cyflwyno’r drwydded. Roedd hyn wedi arwain at ymgeiswyr gyda chollfarnau’n cael eu cyfeirio, y tu hwnt i ganllawiau polisi, er enghraifft os cafodd y person ei erlyn yn ei ieuenctid. Nododd y polisi presennol y gellid ymdrin â’r hyn a ganlyn dan y Cynllun Dyrannu: Dyrannu trwydded: Gwiriad CRB clir a dim arnodiad ar drwydded yrru DVLA. Felly cynigwyd y dylai’r canllawiau alluogi swyddogion i bennu pob cais nad ydynt yn torri canllawiau’r polisi.

 

Felly, roedd y diwygiad arfaethedig i Baragraff 8.2 y polisi fel a ganlyn: Dyrannu trwydded: Cyfeirio at yr Is-bwyllgor os yw’r erlyniad o dan y canllawiau polisi a nodir yn y Datganiad Polisi o ran perthnasedd y collfarnau a thrwyddedu cyn-droseddwyr.           

 

Holodd Aelod beth byddai’n digwydd os oedd erlyniad yn y 5 mlynedd cyn y dyddiadau cau a nodwyd. Eglurodd yr Uwch Gyfreithiwr bod gan y Pwyllgor hawl i edrych ar gollfarnau oedd wedi dod i ben, ond bod canllawiau eglur megis 10 mlynedd am ymosodiad difrifol a 5 mlynedd am dwyll.  Roedd hyn yn bolisi safonol ledled Cymru.  Os oedd troseddau twyll neu rywiol difrifol, byddai’r Pwyllgor yn dal i’w hystyried.

 

Holodd Aelod a oedd angen i ymgeisydd ddatgan unrhyw broblemau iechyd meddwl difrifol. Eglurodd yr Uwch Gyfreithiwr bod angen i’r ymgeisydd gyflwyno tystysgrif meddygol Gr?p 2.

 

Gofynnodd Aelod oedd modd gweld cofnodion ymgeisydd cyn iddynt gyrraedd y wlad hon. Eglurodd yr Uwch Gyfreithiwr bod angen i’r ymgeisydd gyflwyno PNC neu Dystysgrif Ymddygiad Da o’r wlad wreiddiol. Byddai GDG yn cynnwys hanes cyfeiriadau am y 5 mlynedd ddiwethaf, ac os oedd angen, gallent gael mynediad at dystysgrif manwl a dwy ran y trwydded yrru.

 

Holodd Aelod a oedd cyfyngiad oedran cyn y gellid rhoi trwydded i rywun. Rhoddwyd wybod i’r Aelod bod rhaid i’r ymgeisydd fod â thrwydded am flwyddyn cyn y gallai ef/hi ymgeisio.

 

Nododd Aelod y byddai Dirprwyaeth Swyddogion gwell yn ddefnyddiol, a gallai hefyd sicrhau nad oedd y cyfarfodydd yn para mor hir.

 

Gofynnodd Aelod a oedd yr awdurdod wedi cyflwyno Prawf Wybodaeth. Cafodd wybod bod swyddogion yn dal i weithio ar hyn ac y byddai unrhyw newid yn dod i’r Pwyllgor er awdurdodiad.

 

PENDERFYNWYD:                Gwnaeth y Pwyllgor:

 

1)    Gymeradwyo creu dau banel ar sail rota, a’r ddau’n cynnwys saith Aelod o’r Pwyllgor Trwyddedu fydd yn cael eu cadeirio gan Gadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu lle bo’n bosibl.

2)     Os digwydd na allai’r Cadeirydd neu’r is-gadeirydd fod yn bresennol yn y cyfarfod Is-bwyllgor perthnasol, câi cadeirydd ei ethol o’r rhai sy’n bresennol. Byddai’r Is-bwyllgorau Trwyddedu hyn yn ymgymryd â swyddogaethau trwyddedu, gan gynnwys trwyddedu tacsis a masnach stryd fel y nodir yng Nghyfansoddiad y Cyngor.

Is-Bwyllgor A

Y Cynghorydd D Lewis

Y Cynghorydd S Baldwin

Y Cynghorydd T Beedle

Y Cynghorydd R Collins

Y Cynghorydd D Owen

Y Cynghorydd A Pucella

Y Cynghorydd J Williams

 

Is-Bwyllgor B

Y Cynghorydd P Davies

Y Cynghorydd A Hussain

Y Cynghorydd M James

Y Cynghorydd B Jones

Y Cynghorydd M Kearn

Y Cynghorydd J Lewis

Y Cynghorydd G Thomas

 

3)    Cymeradwyo’r diwygiad i baragraff 8.2 y Datganiad Polisi

4)          o ran perthnasedd y   collfarnau a thrwyddedu cyn-droseddwyr fel a ganlyn:       8.2 Dyrannu trwydded:  Cyfeirio at yr Is-bwyllgor os yw’r collfarn o fewn y canllawiau polisi a nodir yn y Datganiad Polisi  o ran perthnasedd y collfarnau a thrwyddedu cyn-droseddwyr.

 

Dogfennau ategol: