Cofnodion:
Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu adroddiad yn rhestru’r trefniadau arfaethedig ar gyfer awdurdodi swyddogion o dan Ddeddf Trwyddedu 2003 a Deddf Gamblo 2005 ac yn cadarnhau trefniadau ar gyfer ffurfio is-bwyllgorau yn dilyn Cyfarfod Blynyddol y Cyngor 2018.
Esboniodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu fod Adran 9 y Ddeddf Trwyddedu yn darparu y gallai pwyllgor trwyddedu sefydlu un neu fwy o is-bwyllgorau yn cynnwys tri aelod neu fwy o'r pwyllgor. Ar 16 Mai 2018, derbyniodd y Cyngor adroddiad sy’n pennu aelodaeth Pwyllgor Deddf Trwyddedu 2003.
Caniataodd Adran 10 Deddf Trwyddedu 2003 am is-ddirprwyo swyddogaethau gan bwyllgor trwyddedu i is-bwyllgor a sefydlwyd ganddo, neu'n amodol â rhai cyfyngiadau penodol, i swyddogion. Yn flaenorol cafodd awdurdodaethau eu cymeradwyo gan y Pwyllgor ond roedd angen eu diweddaru er mwyn adlewyrchu newidiadau i deitlau swyddi yn dilyn sefydlu'r Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir a’r newid yn enw’r adran gwasanaeth.
Er mwyn perfformio’n effeithiol, cynigwyd dirprwyo’r cyfrifoldeb dros awdurdodi swyddogion i weinyddu gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a Deddf Gamblo 2005, i Gyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth, ac i Bennaeth Gwasanaethau Rheoleiddiol a Phartneriaeth, ac ar gyfer Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredu a Phartneriaeth i gychwyn achos o dan y Deddfau hynny.
Cynigiwyd hefyd, lle y bo’n briodol, y byddai Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth, Rheolwr y Tîm Trwyddedu (Pen-y-Bont Ar Ogwr a’r Fro) a’r Uwch-swyddog Trwyddedu (Technegol) a’r Uwch-swyddog Gorfodi Trwyddedu yn cael eu hawdurdodi i gydnabod a chyhoeddi Hysbysiadau sy’n perthyn i Hysbysiadau Digwyddiadau Dros dro; dosbarthu, gwrthod, gohirio trwyddedu, cofrestriadau, tystysgrifau, hawlenni a hysbysiadau, i weithredu'r darpariaethau perthnasol yngl?n â throseddau, adolygiadau neu ofynion eraill; yn unol ag unrhyw un o’r rheolau, rheoliadau a/neu Gorchmynion a wnaed o dan Ddeddf Trwyddedu 2003 a Deddf Gamblo 2005 (fel y’i diwygiwyd). Byddai’r awdurdodiad mewn perthynas â Rheolwr y Tîm Trwyddedu (Pen-Y-Bont Ar Ogwr a'r Fro) a’r Uwch-swyddog Trwyddedu (Technegol) ond yn dod i rym wrth iddynt gael eu rhoi ar gael i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-Y-Bont Ar Ogwr yn unol ag adran 113 Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Gofynnwyd i’r Pwyllgor gymeradwyo’r trefniant presennol o ran ffurfio rhagor o is-bwyllgorau gan gynnwys tri Aelod o Bwyllgor Deddf Trwyddedu 2003 er mwyn pennu ceisiadau o dan Ddeddf Trwyddedu 2003 a Deddf Gamblo 2005. Gofynnwyd i’r Pwyllgor nodi bod rhaid i gymeradwyo datganiadau’r polisïau trwyddedu a gamblo, yn ôl y statud, gael eu pennu gan y Cyngor. Cynigiwyd y câi is-bwyllgorau Deddf Trwyddedu 2003eu cadeirio gan Gadeirydd neu is-Gadeirydd Pwyllgor Deddf Trwyddedu 2003 lle y bo'n bosibl.Os digwydd na allai’r Cadeirydd neu’r is-gadeirydd fod yn bresennol, câi cadeirydd ei ethol o’r rhai sy’n bresennol.
PENDERFYNWYD: Bod y Y Pwyllgor:
1) Yn ymarfer ei awdurdod dirprwyedig ac yn awdurdodi Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth i gychwyn achos o dan y Deddfau y soniwyd amdanynt uchod.
2) Byddai’n ymarfer ei awdurdod dirprwydedig i awdurdodi Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth, Rheolwr y Tîm Trwyddedu (Pen-y-Bont Ar Ogwr a’r Fro) a’r Uwch-swyddog Trwyddedu (Technegol) a’r Uwch-swyddog Gorfodi Trwyddedu i gydnabod a chyhoeddi Hysbysiadau sy’n perthyn i Hysbysiadau Digwyddiadau Dros dro; dosbarthu, gwrthod, gohirio trwyddedu, cofrestriadau, tystysgrifau, hawlenni a hysbysiadau, i weithredu'r darpariaethau perthnasol yngl?n â throseddau, adolygiadau neu ofynion eraill; yn unol ag unrhyw un o’r rheolau, rheoliadau a/neu Gorchmynion a wnaed o dan Ddeddf Trwyddedu 2003 a Deddf Gamblo 2005 (fel y’i diwygiwyd).
3) Byddai’nymarfer ei awdurdod dirprwyedig i awdurdodi’r trefniadau ar gyfer ffurfio is-Bwyllgorau a restrir ym mharagraffau 4.3 a 4.4 o’r awdurdod.
Dogfennau ategol: