Agenda item

Diweddariad ar Waith ym Mharc HMP yn dilyn Gweithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Gan gynnwys Cyfraniad y Carchar at y Gymuned a Goblygiadau Cyflawni Dyletswyddau a Chyfrifoldebau'r Ddeddf ar y Gyllideb

Invitees

Susan Cooper –  Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

Carmel Donovan - Rheolwr Integredig Gwasanaethau Cymunedol

Corin Morgan Armstrong – Cynrychiolydd o G4S

Cllr Phil White -  Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Gwahoddedigion i'r cyfarfod, gan gynnwys Pennaeth Ymyraethau Teulu o G4S. Yna cyflwyno Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion yr adroddiad i aelodau a gwahoddodd gwestiynau gan y Pwyllgor. Nododd Aelod gynnwys yr adroddiad, ond roedd o’r farn ei bod yn annheg bod disgwyl i lefel y cyllid grant gan Lywodraeth Cymru wedi’i roi i’r Awdurdod yn 2016/17 a 2017/18 i sefydlu a gweithredu gwasanaeth a thîm Ystâd Ddiogel leihau yn y dyfodol a'i rannu ymysg pob un o'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru yn rhan o Setliad Llywodraeth Leol cyffredinol. Teimlodd fod hyn yn annheg, o ystyried bod carcharau yn Wrecsam, Sir Fynwy, Caerdydd, Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr yn unig. Nid oedd rhaid ardaloedd awdurdod lleol eraill gefnogi ystadau diogel felly. Golygodd hyn fod disgwyl i lefel y cyllid ar gyfer CBSP yn 2018/19 leihau o fwy na 200k i 18k, sy’n lleihad sylweddol.  Cefnogwyd y farn hon gan hol aelodau’r Pwyllgor.

 

Cytunodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant gyda’r sylwadau a ychwanegodd fod yr awdurdod lleol wedi bod o’r farn y byddai'r lefel gychwynnol o gyllid a roddir at y diben hwnnw yn parhau i gael ei rhoi mewn blynyddoedd yn y dyfodol.

 

Ychwanegodd fod y gr?p Is-grant Dosbarthu wedi’i sefydlu gyda chynrychiolaeth o bob un o’r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru, yn ogystal ag o CLlLC a Llywodraeth Cymru. Mae’r gr?p hwn yn cyfarfod bob dau fis, ac roedd y pwnc ynghylch cyllid i gefnogi ystadau diogel awdurdodau lleol Cymru yn y dyfodol yn cael ei drafod, a meddyliodd y dylid ei rannu ar sail lefel o boblogaeth lle bo Awdurdod Lleol yn cefnogi darpariaeth ofal cymdeithasol i garcharwyr dan drefniant ystâd ddiogel. Ychwanegodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ei bod yn obeithiol y gallai'r gr?p hwn ddatrys rhywbeth a fyddai'n arwain at Ben-y-bont yn derbyn mwy o gyllid yn y d’fodol, gobeithio.

 

 

Gofynnodd aelod sut mae Parc Prison yn wahanol i garchar gwladol

 

Dywedodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion mai carchar Categori B oedd Carchar Parc, mae gan bob carchar lefelau poblogaeth gwahanol gyda gwahanol fathau o droseddwyr yno, yn gyffredinol roedd gan y carcharwyr yng Ngharchar Parc yn Ne Cymru ddedfrydau hirach o’u cymharu â charcharau eraill.

 

Ychwanegodd y cynrychiolydd o G4S y gall Carchar Parc roi lle i garcharwyr Categori A, felly gall roi lle i garcharwyr o’r lefel diogelwch uchaf, ac mae carcharwyr yno ar hyn o bryd sy'n cwblhau dedfrydau oes. Ond yn gyffredinol, mae’r carchar yn rhoi lle i droseddwyr tymor canolog a hir dymor, ac ail-droseddwyr yn fwy na thebyg. Mae hefyd gan rai o’r carcharwyr hyn anghenion cymhleth y mae angen eu rheoli’n ofalus. .

 

Gofynnodd Aelod ba ganran o’r carcharwyr yng Ngharchar Parc sy’n dod o’r tu allan i’r Fwrdeistref Sirol ac yna’n ymgartrefu yn yr ardal pan ddaw eu dedfryd i ben. . Gofynnodd hyn, gan y gallai effeithio ar y cyllid a ddyrennir o ran ystadau diogel os oes angen cymorth arnynt ar ôl gadael y carchar.

 

Dywedodd Pennaeth Ymyraethau Teulu o G4S y gallai gael rhywfaint o ddata y tu allan i’r cyfarfod ac adborth i’r Aelodau.

 

Ychwanegodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion, yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, fod dyletswydd ar yr awdurdod lleol i gefnogi troseddwyr yn y carchar ac allan ohono, ni waeth a ydynt wedi dod o’r tu mewn i’r Fwrdeistref Sirol neu tu allan ohoni. Penderfyniad yr unigolyn yw lle y bydd yn byw ar ôl iddo gael ei ryddhau, ac eto pe bai hyn o fewn y Fwrdeistref Sirol, byddai’r Gwasanaeth Cymdeithasol yn cefnogi’r unigolyn cyhyd ag sydd angen.

 

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y byddai cyn droseddwyr wrth gael eu rhyddhau yn derbyn budd-daliadau megis Cymhorthdal Incwm, mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn gyfrifol amdanynt o hyd tra eu bod yn cael eu hadfer i wynebu bywyd bob dydd mewn cymuned, gan ei bod, yn aml, yn cymryd amser i’r unigolion hyn addasu i hyn, yn enwedig a ydynt wedi bod yn y carchar am amser hir.

 

Roedd aelod yn ymwybodol fod G4S, fel mater preifat, yn cael ei dalu i roi cartref i garcharwyr, ac ymholodd lle mae'r arian yn mynd a faint sy'n cael ei ddefnyddio yn y gymuned.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Cymunedol Integredig fod paragraff 4.4 yr adroddiad yn rhoi manylion am brojectau cymunedol helaeth a chysylltiadau cymunedol y mae Carchar Parc wedi’u datblygu.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar bod anghenion gofal cymdeithasol y bobl yn yr ystâd ddiogel yn cael eu bodloni gan y Gwasanaeth Cymdeithasol yn unol â gofynion deddfwriaethol. Ond, golyga’r lleihad yn y lefel o gyllid a geir y byddai cost eu hanghenion yn y dyfodol yn fwy na lefel y cyllid y byddai CBSP yn ei derbyn. Cyfunwyd hyn â’r ffaith mai sefydliad Categori B yw Carchar Parc, mae carcharwyr yno am hirach ac felly byddai angen i’r awdurdod lleol ariannu unrhyw anghenion cymorth a gofynion a allai fod ganddynt am hirach.

 

Gofynnodd aelod faint o garcharwyr y mae angen arnynt gymorth iechyd arbenigol yng Ngharchar Parc ar hyn o bryd.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Cymunedol Integredig am 70 o garcharwyr sy’n cael eu hasesu, mae angen cymorth corfforol arbenigol ar 27 ohonynt, mae angen cymorth iechyd meddwl ar 19 ohonynt, mae angen cymorth anabledd dysgu ar 5 ohonynt, mae 1 yn dioddef problemau meddygol o ganlyniad i gamddefnyddio sylweddau, tra bod angen rhywfaint o gymorth emosiynol a llesiant cyffredinol ar y gweddill.  Mae cynlluniau gofal yn cael eu dylunio ar gyfer yr holl garcharwyr o’r fath y mae angen rhyw fath o gymorth meddygol arbenigol arnynt, ychwanegodd. Mae cynlluniau arbenigol eraill yn cael eu creu ar gyfer carcharwyr hefyd, er enghraifft mewn sgiliau bywyd ar gyfer yr adeg y cânt eu rhyddhau yn ôl i'r gymdeithas.

 

Teimlodd y Cadeirydd y byddai’n ddefnyddiol i Aelodau’r Pwyllgor  dderbyn data ar ofynion anghenion cymorth sydd ar waith ar gyfer carcharwyr yn Parc ers y 12 mis diwethaf, ynghyd â’r llinellau a nodir uchod.

 

Cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaeth Cymunedol Integredig y byddai’r trosglwyddo’r wybodaeth hon i’r Aelodau y tu allan i’r cyfarfod.

 

Gofynnodd Aelod pa ddulliau y mae staff yng Ngharchar Parc yn eu defnyddio i gadw carcharwyr yn iach.

 

Cyfeiriodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion at baragraff 4.4 yr adroddiad, a dywedodd fod hyn yn cynnwys cynnal amrywiaeth o ddosbarthiadau cadw'n heini, cyrsiau cerdded a maeth, gan gynnwys dosbarthiadau colli pwysau wythnosol i fynd i’r afael â materion gorbwysedd. . Cynhaliwyd y rhain dan oruchwyliaeth staff gydag arbenigedd meddygol priodol. Ychwanegodd fod staff y carchar a’r tîm ystâd ddiogel yn gweithio’n effeithiol i gynnal amrywiaeth o fentrau cymorth iechyd a llesiant

 

Ychwanegodd Pennaeth Ymyraethau Teulu o G4S ei fod wedi’i gyflogi yng Ngharchar Parc ers iddo agor yn 1997, a hyd yn oed wrth ystyried natur carchar, mae Parc wedi’i gydnabod am ei ffyrdd arloesol o gadw carcharwyr yn actif, a chyda chymorth y tîm o CBSP mae wedi ennill gwobrau am fentrau gwahanol y mae wedi bod yn rhan ohonynt sy’n cefnogi carcharwyr a’u teuluoedd, ac mae hyn yn cynnwys carcharwyr gydag anghenion cymhleth.

 

Gofynnodd Aelod yn nodi bod disgwyl i'r cyllid grant Ystâd Ddiogel ostwng yn sylweddol, a yw'r cymorth y mae CBSP yn ei roi yn rhan o’r carchar, yn fwy na’r hyn sydd ei angen yn statudol dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. Pe bai hyn yn wir, teimlodd na ellid parhau gyda hyn yn y dyfodol o ganlyniad i’r lefel o gyllid wedi’i lleihau’n sylweddol y mae disgwyl i’r Awdurdod ei derbyn.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol fod swm cychwynnol y cyllid grant o £236k gan Lywodraeth Cymru wedi datblygu’r tîm Ystâd Ddiogel yn y carchar gyda’r cyllid uchod ar sail barhaus mewn cof.  , Er mwyn rhoi cymorth Gofal Cymdeithasol i garcharwyr, a chyda’r cyllid hwn yn cael ei leihau’n fawr, byddai hyn, yn yr hirdymor, yn lleihau lefel y cymorth y gallai’r Awdurdod ei roi, er y byddai’n dal i roi’r hyn y mae ei angen arnynt.

 

Ychwanegodd Rheolwr y Gwasanaethau Cymdeithasol Integredig fod canllawiau dan y Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r Gwasanaethau Cymdeithasol roi cymorth i garcharwyr wedi'u rhyddhau, ac mewn amgylchiadau lle bod carcharwyr yn cael eu cartrefi yn y Fwrdeistref Sirol, maent yn dod yn gyfrifoldeb i'r awdurdod lleol 12 wythnos cyn eu rhyddhau.

 

Teimlodd Aelod y dylid ystyried, dan MTFS y Cyngor, edrych ar gyllid ategol at y diben o ddarparu’r Ystâd Ddiogel yng ngolwg lefel y cyllid wedi'i leihau gan Lywodraeth Cymru. Nododd hefyd fod Carchar Parc wedi bod yn cymryd mwy o garcharwyr yn ddiweddar nag y mae wedi mewn blynyddoedd diweddar. Roedd hefyd bryderon ganddo y gallai carcharwyr gael eu blaenoriaethu i gael llety ar ôl iddynt gael eu rhyddhau, ar draul achosion blaenoriaeth eraill sydd am gael cartrefi, megis teuluoedd un rhiant.  Yn olaf, plediodd i sefydliadau'r sector preifat gan gynnwys G4S am eu cymorth parhaus tuag at fentrau cymunedol, er enghraifft yr Ardal Gyhoeddus. Nododd y rhestr o brojectau cymunedol, cysylltiadau cymunedol a gwaith arall y mae’r Carchar wedi’i ddatblygu (fel y dangosir ym mharagraff 4.4. yr adroddiad), ond teimlodd fod y rhain yn ansylweddol, ac y gellir cyfrannu mwy o’r carchar o bosibl i gefnogi’r gymuned.  Cytunodd aelod arall â sylwadau hyn a theimlodd hefyd nad oes digon yn cael ei wneud gan Garchar Parc i fuddio'r gymuned leol, ac y gellir rhoi mwy o gymorth yn hyn o beth.

 

Cadarnhaodd Pennaeth Ymyraethau Teulu o G4S fod 800 o garcharwyr yn y carchar pan agorodd yn gyntaf. Mae’r rhif hwn bellach wedi cynyddu i 1700, felly mae bellach galw mwy ar adnoddau carchar nag o'r blaen. Ychwanegodd fod Carchar Parc yn gwneud mwy na’r disgwyl o ran cyfrannu'n gadarnhaol at y gymuned leol, er nad oes rhaid iddo. Enghreifftiau o hyn yw gwasanaeth bws i deuluoedd ymweld â'u perthnasau yn y carchar. Mae hyn ar ei ben ei hun yn costio swm pum ffigur bob blwyddyn na fyddai carchar gwladol yn ei ddarparu fel arfer. Mae cynlluniau eraill mae’r carchar yn rhan ohonynt megis cefnogi Sgowtiaid, Gwobr Dug Caeredin, Ambiwlans Sant Ioan, y Cadetiaid, y Gwobr Cyflawnwr Ifanc a digwyddiadau'r Pasg a'r Nadolig.  Ychwanegodd y byddai’n fwy na fodlon cyfarfod â’r Aelod Lleol y tu allan i’r cyfarfod, gyda'r bwriad o fynd i'r afael â'i phryderon hi a phryderon Aelodau eraill ynghylch hyn.

 

Gofynnodd Aelod i’r Gwahoddedigion a yw carcharwyr yng Ngharchar Parc yn derbyn digon o gymorth a thriniaeth feddygol am unrhyw gyflwr meddygol penodol a allai fod ganddynt. Gofynnodd hefyd a yw unrhyw ofynion cymorth meddygol bryd ar gael, heb unrhyw oedi i’r rheiny y mae eu hangen arnynt, a heb unrhyw oedi.

 

Cadarnhaodd Pennaeth Ymyraethau Teulu o G4S eu bod ar gael a bod ansawdd y cymorth meddygol ar gyfer carcharwyr wedi symud ymlaen a gwella yn ystod y 6 neu 7 o flynyddoedd diwethaf. Ychwanegodd fod gofal lleddfol hefyd ar gael yn y carchar, os yw carcharwyr sydd â salwch marwol am aros yno gyda’u teuluoedd uniongyrchol yn eu cwmni, yn lle mynd i’r ysbyty.

 

Teimlodd Aelod y byddai o fudd pe bai’r Carchar, yn ogystal â gweithio â’r Gwasanaeth Cymdeithasol, hefyd yn gweithio gyda sefydliadau trydydd sector eraill, gyda’r bwriad o edrych at gynnig cyfleoedd ar gyfer gwella sgiliau carcharwyr er mwyn eu helpu i fanteisio ar gyfle hyfforddiant neu gyflogaeth ar ôl iddynt gael eu rhyddhau. Byddai cyfleoedd o’r fath yn eu rhwystro rhag aildroseddu, teimlodd.

 

Dywedodd Pennaeth Ymyraethau Teulu o G4S

pan fo carcharwyr yn cae eu rhyddhau ‘Ar Drwydded’, y rhoddir projectau iddynt eu gwneud, megis adnewyddu mynwentydd a dylunio meysydd chwarae ysgolion, fel rhagflaenydd i fynd ymlaen i fanteisio ar hyfforddiant a chyflogaeth, gobeithio.

 

Argymhellion

 

Roedd yr Aelodau yn siomedig gyda phenderfyniad wedi’i wneud gan Lywodraeth Cymru i ddosbarthu cyllid grant i 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru i ddarparu gofal cymdeithasol ar gyfer yr ystâd ddiogel, yn lle dosbarthiad penodol i’r awdurdodau hynny gyda charcharau.  Felly argymhellodd y Pwyllgor fod llythyr yn cael ei anfon i’r Adran Gyfiawnder a Llywodraeth Cymru yn dweud y dylent ystyried y dyraniad cyllid Grant gan fod CBSP wedi’i roi dan anfantais ariannol annheg gan fod ganddo Ystâd Ddiogel o fewn ei ffiniau. 

 

Argymhellodd y Pwyllgor fod CBSP yn mabwysiadu “Dull Un Cyngor” a bod Swyddogion o bob Cyfarwyddiaeth yn cyfarfod gyda G4S i ymchwilio i’r cyfle i'r rheiny yn yr Ystâd Ddiogel allu cyfrannu at yr Ardal Gyhoeddus i gael effaith gadarnhaol uniongyrchol yn y gymuned.

 

Argymhellodd yr Aelodau y dylai CBSP gyhoeddi’n well y busnesau lleol sy’n cynnig cymorth a chyfleoedd am swyddi i gyn droseddwyr. 

 

Argymhellodd yr Aelodau hefyd fod yr eitem hon yn aros ar y Flaenraglen Waith a'i thrafod ar ôl blwyddyn.

 

Gwybodaeth Bellach

 

  • Pa ganran o boblogaeth carchar Parc oedd yn byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr cyn iddynt ddod yn breswylydd cyffredin CBSP o ganlyniad i fod yn yr Ystâd Ddiogel.
  • Gofynnodd yr Aelodau am ddadansoddiad o’r rheiny yn yr Ystâd Ddiogel y mae angen gofal cymdeithasol gan CBSP arnynt a gofynnodd eu bod yn cynnwys yr ystod oedran a pha becynnau gofal y mae eu hangen arnynt.
  • Beth yw’r costau cyfan ar CBSP i ddarparu’r gwasanaeth cyfredol ar gyfer y carchar.  Gofynnodd yr Aelodau fod y dadansoddiad yn cynnwys costau cyflog blynyddol y tîm Ystâd Ddiogel, costau blynyddol darparu offer a chost flynyddol darparu gofal personol y mae CBSP yn ei thalu i dîm meddygol G4S ar hyn o bryd.

Gofynnodd yr Aelodau hefyd i dderbyn costau mewn perthynas â darpari gofal cymdeithasol yng nghlinig diogel Caswell ym Mhen-y-fai.          

Dogfennau ategol: