Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Adolygiad o Wasanaethau’r Priffyrdd

Gwahoddedigion:

 

Cyng Richard Young – Aelod Cabinet Cymunedau

Mark Shephard – Cyfarwyddwr Corfforaethol, Cymunedau

Zak Shell – Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth

Kevin MulcahyRheolwr Grwp Priffyrdd

Andrew Hobbs – Rheolwr Grwp Gwaith Stryd

 

Cofnodion:

Ystyriodd aelodau adroddiad ar effaith y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) ar Wasanaethau’r Priffyrdd.  Amlinellodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau lefel yr arbedion effeithlonrwydd yng nghyllideb gwasanaethau'r priffyrdd a’r gostyngiad o ran staff wrth geisio cadw lefel gwasanaeth briodol.  Esboniodd fod mwyafrif y gwasanaethau yn ddarpariaeth statudol fodd bynnag ni phenodwyd union lefel y gwasanaeth neu'r safon.     Amlinellodd werth asedau rhwydwaith y priffyrdd a’r pwysau a ddisgwylir yn y dyfodol.  Hefyd cyfeiriodd at yr angen am atebion arloesol a chydweithio i wella ymatebolrwydd a gwydnwch yn y dyfodl 

 

Roedd Aelodau’n disgwyl adroddiad People2 i gael ei gynnwys yn yr Adolygiad Gwasanaethau Priffyrdd a  gwnaethant gwestiynu gwerth ystyried yr adroddiad hwn heb y wybodaeth honno. Esboniodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau nad oedd adroddiad People 2 yn rhan o’r Adolygiad Gwasanaethau Priffyrdd.

 

Trafododd yr aelodau torri gwair ac yn benodol, amodau tywydd presennol, adrodd am beryglon, hydoedd torri gwahanol, coridorau draenio ac ecolegol, gwiriadau o waith y contractwyr, caffael a meini prawf ar gyfer y tendr a gwerth am arian.   Esboniodd Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaethau nad oedd torri gwair yn rhan o'r Adolygiad o Wasanaethau’r Priffyrdd ac nid oed y swyddogion a oedd yn arbenigo mewn torri gwair yn bresennol.  Fodd bynnag, byddai’n trosglwyddo sylwadau’r Pwyllgor i’r swyddogion perthnasol cyn caffael contract torri gwair newydd.  

 

Cyfeiriodd Rheolwr Gr?p Gwasanaethau'r Priffyrdd i’r gwasanaeth DLO a phrofiad ac amrywiaeth y tîm wrth ymgymryd â dyletswyddau a fyddai fel arall yn gofyn am gontractau arbenigol unigol y tu allan i'r awdurdod. Gofynnodd yr aelodau am amserlennu ar gyfer torri gwair ac ail-arwynebu priffyrdd o fewn y Bwrdeistref.       

 

Trafododd yr Aelodau gynnal a chadw arwyddion stryd, glanhau a thorri’r isdyfiant. mae TCC yn rhannu costau adnewyddu arwyddion a gofynion statudol ac anstatudol i lanhau arwyddion gwahanol.      Esboniodd Rheolwr y Gr?p Gwasanaethau'r Priffyrdd fod ei tîm yn gyfrifol am y gwaith ac y bu gostyngiad sylweddol o ran staff. Byddai Arolygwyr y Priffyrdd yn nodi unrhyw waith yr oedd angen ei wneud a châi atodlenni eu diweddaru er mwyn  ymgorffori adnewyddiadau, torri yn ôl neu lanhau os bydd  gofyn gwneud hynny.

 

Esboniodd Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth fod 4 giang peryglon yn wreiddiol ond bod hyn wedi lleihau i 1. Gwnaeth y tîm bob ymdrech i ddyrannu’r adnoddau’n effeithiol ond roedd yn her enfawr. Adroddodd fod grant amgylcheddol wedi’i sicrhau am astudiaeth i mewn i fioamrywiaeth ar ymylon y ffyrdd a byddai’r canlyniadau ar gael yn hwyrach eleni.

 

Trafododd yr aelodau nifer o faterion eraill gan gynnwys gwaith cynnal a chadw yn yr orsaf fysiau, trwsio ceudyllau, clirio gylïau a defnydd geifr i glirio tir mewn ffordd fwy naturiol.  

 

Adroddodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau ei fod yn gwrando ar gwestiynau, pryderon a sylwadau’r Pwyllgor ar olwg yr ardal.  Roedd y Swyddogion yn ymwybodol o ddiogelwch ac yn gwneud y gorau y gallent.   Roedd hefyd yn ddiolchgar i rai o’r Cynghorau Tref am gamu i’r adwy ac ymgymryd â rhai o’r cyfrifoldebau.

 

Gofynnodd aelodau am fwy o wybodaeth am namau a lefelau ymyrraeth cyffredinol. Adroddodd Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth eu bod wedi llwyddo i sicrhau cyfalaf am ail-wynebu’r rhwydwaith o briffyrdd.  Yn dilyn cyflwyniad ar y lefel o fuddsoddiad sy’n ofynnol, roeddent wedi sicrhau £1.3 miliwn ar lefel y buddsoddiad sydd ei hangen gan LlC ac yn fewnol roedd ganddynt £5 miliwn dros yr ychydig flynyddoedd nesaf i gynnal a chadw ased priffyrdd gyda gwerth o tua £1 biliwn.  Byddai hyn yn golygu y gellid atgyweirio’r ffyrdd gwaethaf a gallent geisio cynnal y sefyllfa bresennol. Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau at adroddiad manwl a gafodd ei gyflwyno’n ddiweddar i Bwyllgor Archwilio ar archwiliadau a chwynion ar briffyrdd.

 

Cyfeiriodd aelod at y gyllideb refeniw bresennol o £4 miliwn y flwyddyn yr oedd yn credu ei bod yn beryglus o isel. Roedd yn croesawu’r cyfle i weithio’n fyw gwybyddus a chydweithiol er mwyn ymdrin â mwy na 10 mil o ymgeisiadau y flwyddyn. Cytunodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau a dywedodd fod amserlen a ragamcenir ond bod hyn yn cynnwys elfen o gyfrinachedd. Dywedodd yr aelodau, po fwyaf roeddent yn wybodus, yr rhwyddaf yr oedd i reoli sefyllfaoedd.

 

Gofynnodd aelodai sut y cafodd archwiliadau eu trefnu, gan gymryd i ystyriaeth pa mor gyflym y gallai problemau ddatblygu. Esboniodd Rheolwr Gr?p Gwasanaethau’r Priffyrdd nad oedd yn gallu rhoi union raglen o archwiliadau ond yn gyffredinol cafodd canol y dref ei harchwilio yn fwy aml oherwydd nifer yr ymwelwyr.   Pe bai mater yn cael ei adrodd, byddai swyddogion yn bresennol. Cynhaliwyd archwiliadau yn unol â pholisïau o awdurdodau tebyg. Roedd 4 arolygydd allan yn cerdded ar y strydoedd yn barhau o fewn y bwrdeistref a llawer o waith yn mynd ymlaen yn y cefnidr, o fewn40% o ostyngiad yn y gyllideb.

 

Trafododd yr aelodau dechnoleg newydd ac effeithlonrwydd ynni, refeniw ychwanegol o barcio i helpu ariannu priffyrdd, cytundebau Adran 106 ac arbedion o oleuadau LED. Cytunodd yr aelodau fod amser sylweddol yn cael ei dreulio ar atgyfeiriadau ar gyfer materion a gafodd eu hadrodd eisoes. Gwnaethant ofyn a oedd app neu broses er mwyn adrodd am faterion yn ddigidol. Pe baent yn gallu gweld os cafodd mater ei adrodd eisoes, ni fyddai angen iddynt wastraffu rhagor o amser. Adroddodd Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth fod cynnydd sylweddol wedi’i wneud eisoes gyda’r wefan CBSP newydd ac roedd rhagor o welliannau wedi’u cynllunio.
 

 

Trafododd aelodau fuddion defnyddio system o fapiau lle y gallai preswylwyr ddangos ble roedd y problemau a chael tawelu eu meddyliau y daethpwyd o hyd i leoliad y broblem.

 

Sylwodd yr aelodau fod swyddogion yn gwneud gwaith rhagorol o dan amgylchiadau anodd.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at benderfyniad yr adran briffyrdd i ailymuno â'r Gymdeithas dros Ragoriaeth y Gwasanaethau Cyhoeddus (APSE). Roedd hyn yn galluogi cymharu ag awdurdodau tebyg ledled y DU. Roedd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymdogaeth yn credu ei fod yn werthfawr ymuno er y bu’n benderfyniad polisi i adael. Roedd APSE o werth amrywiol i wasanaethau gwahanol ac roedd nifer o adroddiadau ystadegol ar gael.

 

Trafododd yr aelodau y cerbyd gorfodi â chamera a gofynnwyd a oedd Cylch Gorchwyl ar gael a sut y câi ei ddefnyddio yn ystod y gwyliau pan fyddai’r ysgolion ar gau am chwe wythnos.   Esboniodd Rheolwr y Gr?p Gwasanaethau’r Priffyrdd y câi’r cerbyd ei ddefnyddio’n bennaf ar gyfer parcio o gwmpas yr ysgol a safleoedd bysus ac fel ataliad gweledol.  Trafododd yr aelodau ddefnydd posibl y cerbyd a thrafodon nhw orfodi a threth/yswiriant. Croesawodd yr aelodau y cerbyd a fyddai’n ataliad anferth ac a ddylai wella diogelwch i oedolion ac i blant.

 

Trafododd yr aelodau batrolau croesi ger ysgolion ac anawsterau wrth recriwtio staff. Dywedwyd wrthynt fod set o feini prawf ar gyfer bod â swyddog croesi ysgol a gellid anfon y meini prawf at yr Aelodau er gwybodaeth. Ychwanegodd y Aelod Cabinet dros Gymunedau ei bod yn rhestr dechnegol gymhleth yn seiliedig ar safonau llym newydd a gyflwynwyd ond cydnabu ei fod yn anodd recriwtio staff. Atgoffodd Aelod y Pwyllgor mai cyfrifoldeb y rhiant yw cael y plentyn i’r ysgol yn ddiogel.

 

Trafododd yr aelodau’r cyfyngiadau gwahanol y tu allan i ysgolion a materion gorfodi.

 

Dywedodd y Swyddog Caffael wrth Aelodau, pe baent yn dymuno gwneud atgyfeiriad o ran caffael, byddai’n rhaid iddynt lenwi a chyflwyno ffurflen meini prawf.  

 

 

 

 

Priffyrdd

Trafododd yr aelodau yr adroddiad ac roedd ganddynt bryderon penodol o ran y canlynol:

  • Torri gwair yn y Bwrdeistref
  • Arwyddion stryd – glanhau a chynnal a chadw
  • Y posibilrwydd o TCCs yn rhannu costau – er y byddai hyn yn arwain at archeniannau’n cael eu cynyddu.
  • Goleuadau Stryd
  • Trawsnewid Digidol a defnydd App digidol i adrodd am faterion yn y gymuned.
  • Aelodaeth APSE
  • Swyddog Croesi Ysgol
  • Swyddogion parcio sifil

 

Ar ôl trafodaethau, gofynnodd yr aelodau y wybodaeth bellach ganlynol:

  1. Amserlen o Dorri Gwair yn y Bwrdeistref
  2. Amserlen o ail-wynebu priffyrdd yn y Bwrdeistref
  3. Pa feini prawf a ddefnyddir i bennu pa mor aml y caiff rhai priffyrdd penodol eu harchwilio
  4. Copi o’r adroddiad a aeth i’r Pwyllgor Archwilio ar Briffyrdd
  5. Cylch Gorchwyl ar gyfer y camera gorfodi cerbydau sy’n patrolio’r ysgolion
  6. Meini prawf i’r safleoedd i’w hystyried yn hanfodol am angen swyddog croesi ysgol
  7. Dangos arbedion y gyllideb Priffyrdd fel canran o’r Gyfarwyddiaeth gyfan
  8. Darparu data APSE o’r adroddiad yn electronig os yw’n bosibl

 

Roedd aelodau’n dymuno gwneud yr argymhellion canlynol

1.    Argymhellodd yr Aelodau fod Swyddogion yn archwilio sut y gallant gyfleu yn well y ffordd y rhennir gwybodaeth megis amserlenni gwaith ar gyfer atgyweirio’r priffyrdd, torri gwair, ail-wynebu ffyrdd ac ardaloedd eraill o dan gylch gorchwyl Priffyrdd oherwydd bod y diffyg gwybodaeth yn aml yn arwain at rwystredigaeth ac atgyfeiriadau wedi'u dyblygu yn cael eu derbyn.   Mae aelodau yn credu os bydd y wybodaeth yn ar gael yn rhwydd i breswylwyr a Chynghorwyr, byddai llai o atgyweiriadau diangen wedi'u dyblygu. 

2.    Argymhellodd yr Aelodau fod swyddogion yn y Gyfarwyddiaeth Cymunedau yn gweithio gyda’r tîm Trawsnewid Digidol er mwyn gwella defnydd rhannu gwybodaeth trwy ddefnyddio TGCh ac archwilio opsiynau datblygu App i breswylwyr a Chynghorwyr ei ddefnyddio i’w galluogi i adrodd ar faterion yn eu hardaloedd megis ceudyllau a goleuadau stryd diffygiol.   Dywedodd yr aelodau y byddai hyn yn arwain at atgyweiriadau llai ailadroddus yn dod trwodd gan y gallai preswylwyr dracio a gafodd mater ei adrodd eisoes a sut gafodd ei flaenoriaethu.

3.    Mewn perthynas â’r argymhellion uchod, mae Aelodau wedi gofyn am amserlin a chynllun gweithredu diffiniol ar sut y caiff hyn ei symud ymlaen  

4.    Argymhellodd aelodau y dylai sesiwn datblygu aelodau gael ei threfnu ar BridgeMAPS

 

Dogfennau ategol:

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z