Agenda item

Adroddiad Adolygu Cynllun Datblygu Lleol Pen-y-bont ar Ogwr (CDLl) (2013)

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau adroddiad i'r Cyngor, i roi gwybod am ganlyniad yr ymarferiad ymgynghori ar Adroddiad Adolygu drafft Cynllun Lleol Pen-y-bont ar Ogwr (2013), ac i ofyn am gymeradwyaeth y Cyngor i gyflwyno Adroddiad Adolygu terfynol CDLl Pen-y-bont ar Ogwr (a atodir yn Atodiad 1 yr adroddiad) (ar y cyd â'r Cytundeb Cyflenwi CDLl Newydd i Lywodraeth Cymru) cyn diwedd Mehefin 2018.

 

Dywedodd Arweinydd y Tîm Cynllunio Datblygu y dylid ysgrifennu Adroddiad Adolygu sy'n rhan statudol o'r broses o Adolygu’r CDLl llawn cyn unrhyw ddiwygiad i’r CDLl.

 

Mae'r Adroddiad Adolygu'n nodi maint arfaethedig y newidiadau tebygol i'r CDLl presennol (2006-2021) ac mae'n ceisio cadarnhau'r weithdrefn adolygu i'w dilyn wrth baratoi CDLl newydd. 

 

O ran 'llwybr trefniadol', yn achos Pen-y-bont ar Ogwr, mae'r cynllun eisoes yn destun adolygiad llawn 4 blynedd sydd ei angen yn statudol, ac felly bydd angen asesu pob agwedd ar y cynllun i ystyried a ydynt yn parhau i fod yn gadarn ac yn addas at y diben.  Bydd hyn yn cynnwys gweledigaeth, amcanion, strategaeth ofodol, polisïau a dyraniadau defnydd tir y CDLl, gan ddilyn yr un broses baratoi a'r un cyfnodau yn fras â'r cynllun gwreiddiol. 

  

Cadarnhaodd fod yr Adroddiad Adolygu'n cwmpasu'r pynciau canlynol: -

 

  • Newidiadau Cyd-destunol
  • Asesiad o'r Newidiadau Tebygol sy’n Angenrheidiol i'r CDLl Cyfredol
  • Adolygiad o'r Sail Dystiolaeth
  • Opsiynau Adolygu'r CDLl

 

O ran ymgynghoriad cyhoeddus, bydd Aelodau'n cofio bod adroddiad wedi'i gyflwyno i'r Cyngor ar 25 Ebrill 2018 yn gofyn am awdurdodiad i gynnal ymgynghoriad wedi'i dargedu ar Adroddiad Adolygu CDLl drafft Pen-y-bont ar Ogwr rhwng 30 Ebrill 2018 a 25 Mai 2018. Cynhaliwyd yr Ymgynghoriad ar yr Adroddiad Adolygu drafft ar y cyd â'r Cytundeb Cyflawni drafft.

 

Cadarnhaodd Arweinydd y Tîm Cynllunio Datblygu fod yr ymgynghoriad yn cael ei hysbysebu yn y ffyrdd canlynol: -

 

·         Roedd y dogfennau ymgynghori ar gael i'w harchwilio gyda ffurflenni sylwadau yn y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel;

·         Rhoddwyd gwybodaeth am yr ymgynghoriad, gan gynnwys yr holl ddogfennau, ffurflenni sylwadau a'r cyfleuster i gyflwyno sylwadau yn electronig ar wefan y Cyngor; ac

·         Anfonwyd negeseuon e-bost a llythyrau at oddeutu 190 o ymgynghoreion wedi'u targedu, gan gynnwys Cynghorau Cymuned, ymgynghorwyr cynllunio, adeiladwyr tai, cymdeithasau tai a sefydliadau allanol perthnasol eraill gyda manylion am sut i ymateb.

 

Erbyn diwedd y cyfnod ymgynghori, roedd 11 o unigolion a sefydliadau allanol wedi cyflwyno sylwadau ar yr Adroddiad Adolygu drafft.

 

Mewn ymateb i hyn, mae'r Cyngor wedi llunio Adroddiad Ymgynghori (a gynhwysir fel Atodiad 7 yn yr Adroddiad Adolygu terfynol) sy'n rhoi ymateb y Cyngor i'r sylwadau a dderbyniwyd. Ond nid oedd yn angenrheidiol gwneud unrhyw newidiadau sylweddol i'r ddogfen o ganlyniad i sylwadau o'r ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Cwblhaodd ei gyflwyniad, trwy gynghori y gallai Aelodau weld copïau o'r sylwadau llawn yn yr Adran Gynllunio.

 

PENDERFYNWYD:                     (1) Bod y Cyngor yn cymeradwyo'r Adroddiad Adolygu terfynol a'i fod yn awdurdodi Rheolwr y Gr?p Datblygu, y Gyfarwyddiaeth Cymunedau i gyflwyno Adroddiad Adolygu terfynol CDLl Pen-y-bont ar Ogwr sydd ynghlwm yn Atodiad 1 yr adroddiad (ar y cyd â Chytundeb Cyflenwi’r CDLl Newydd i Lywodraeth Cymru cyn diwedd Mehefin 2018.

 

                                         (2) Bod y Cyngor yn rhoi awdurdod dirprwyedig i Reolwr Datblygu'r Gr?p, y Gyfarwyddiaeth Cymunedau, i wneud unrhyw gywiriadau ffeithiol neu fân newidiadau i'r Adroddiad Adolygu, fel y bo'n angenrheidiol.

 

Dogfennau ategol: