Cofnodion:
Adroddodd y Swyddog Craffu ar yr eitemau i'w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 25 Gorffennaf 2018 a gofynnodd am gadarnhad o'r wybodaeth angenrheidiol ar gyfer y cyfarfod dilynol i'w gynnal ar 17 Medi 2018. Cyflwynwyd ymatebion i'r Pwyllgor i sylwadau, argymhellion a cheisiadau am wybodaeth ychwanegol o gyfarfod blaenorol y Pwyllgor. Hefyd, cyflwynwyd rhestr i'r Pwyllgor o eitemau posibl y Flaen Raglen Waith ar gyfer eu blaenoriaethu a’u dyrannu i bob un o'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar Bynciau.
Penderfynodd y Pwyllgor y dylid ystyried eitem y Fargen Ddinesig yn y cyfarfod ar 27 Gorffennaf 2018. Yn ogystal â'r gofyniad i'r Prif Weithredwr fod yn bresennol, gwahoddir y Cynghorydd Andrew Morgan, Cadeirydd Cyd-Gabinet Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i fynychu hefyd. Cydnabu'r Pwyllgor bwysigrwydd gwahaniaethu rhwng rôl y Pwyllgor hwn wrth graffu ar y Fargen Ddinesig o safbwynt Pen-y-bont ar Ogwr gyda beth fydd rôl Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar y Cyd CCRD o ran craffu ar y prosiect ar draws y rhanbarth.
Penderfynodd y Pwyllgor ei fod yn dymuno craffu ar Wasanaethau Gwastraff yn ei gyfarfod ar 26 Medi.
Penderfynodd y Pwyllgor hefyd fod eitem ar Gaffael a Chontractau Moesegol yn cael ei dyrannu i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bynciau 3 ar 17 Medi 2018 a bod Rheolwr y Gr?p Cyfreithiol a’r Rheolwr Caffael Corfforaethol yn cael eu gwahodd i fynychu. Hoffai'r Pwyllgor yn y cyfarfod hwnnw gael eglurhad o'r rôl sydd gan y Tîm Caffael Corfforaethol wrth sicrhau cydymffurfiaeth â chontractau ac a yw'r rôl hon wedi'i datganoli i'r Adrannau ar gyfer monitro contractau mawr ac a oes cosbau ariannol yn cael eu gorfodi i gontractwyr nad ydynt yn perfformio.
Dyrannodd y Pwyllgor Safonau Ysgol i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bynciau 1 ar 4 Gorffennaf 2018 a Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr Ddi-Blastig i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bynciau 3 ar 23 Gorffennaf 2018.
Casgliadau
Cadarnhaodd y Pwyllgor yr eitemau canlynol ar gyfer Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol:
- Pa broses fonitro sydd ar waith gyda chontractwyr i sicrhau cydymffurfiaeth?
- Pwy sydd â rhwymedigaeth i warantu cydymffurfiaeth?
- Sut y gellir sicrhau atebolrwydd cyhoeddus os yw gwybodaeth o fewn contract wedi'i chyfyngu i Aelodau?
- A gafodd unrhyw gosbau ariannol eu cyhoeddi o ganlyniad i dorri contract?
- Dyddiadau terfyn ar gyfer pob prif gontract.
Gofynnodd yr Aelodau am sicrhau bod y swyddogion canlynol yn cael eu gwahodd i fynychu'r canlynol ar gyfer yr eitem Caffael a Chontractau:
- Rachel Jones, Rheolwr Caffael Corfforaethol
- Kelly Watson, Rheolwr Gr?p Cyfreithiol
- Cynrychiolydd o’r Gyfarwyddiaeth Lles
- Cynrychiolydd o'r Gyfarwyddiaeth Cymunedau
Cadarnhaodd y Pwyllgor yr eitemau canlynol ar gyfer Blaen Rhaglen Waith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar gyfer Pynciau:
12 Gorffennaf 2018 SOSC 2 Diogelu
23 Gorffennaf 2018 SOSC 3 Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr Ddi-blastig
5 Medi 2018 SOSC1 Safonau Ysgol
6 Medi 2018 SOSC 2 Diwygio ADY
17 Medi 2018 SOSC 3 Gwastraff
16 Hydref 2018 SOSC 1 Eiriolaeth
Dogfennau ategol: