Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Perfformiad Ariannol 2017-18

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Interim adroddiad a diben yr adroddiad rhoi'r diweddaraf i'r Cabinet ar berfformiad ariannol y Cyngor am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2018.

 

Rhoddodd yr adroddiad beth gwybodaeth gefndir, gan gadarnhau bod y Cyngor ar 1 Mawrth 2017 wedi cymeradwyo cyllideb refeniw net o £258.093m ar gyfer 2017-18, ynghyd â rhaglen gyfalaf ar gyfer y flwyddyn o £63.854m, oedd wedi ei diweddaru yn ystod y flwyddyn ariannol er mwyn ystyried cymeradwyaethau newydd a llithriant cynlluniau i 2018-19.

 

Gwnaeth adran nesaf yr adroddiad, amlinellu yn Nhabl 1 gymhariaeth o gyllideb yn erbyn alldro gwirioneddol ar 31 Mawrth 2018, gan gadarnhau bod yr alldro cyffredinol ar y dyddiad uchod yn danwariant o £387k sydd wedi ei drosglwyddo i Gronfa’r Cyngor.

 

Roedd Tabl 2 yn yr adran nesaf yr adroddiad, yn cynnwys Trosglwyddiadau ac addasiadau technegol a broseswyd yn ystod Chwarter 4, ac roedd paragraff 4.2 o’r adroddiad yn tynnu sylw at Ostyngiadau Cyllideb ar gyfer 2016-17 a 2017-18 a monitro parhaus y rhain gan y Prif Weithredwr a’r Cyfarwyddwyr.

 

Roedd adran nesaf yr adroddiad yn rhoi sylwadaeth ar sefyllfa ariannol prif feysydd gwasanaeth yr Awdurdod (gweler Atodiad 3 am ragor o fanylion), yn gystal â sylwadau ar yr amrywiadau mwyaf arwyddocaol ym mhob un o wahanol feysydd Cyfarwyddiaethau’r Cyngor.

 

Yna rhoddodd paragraff 4.4 o’r adroddiad ddiweddariad i’r Cabinet ar Raglen Gyfalaf y Cyngor ar gyfer 2017-18, gan gynnwys cymeradwyaethau newydd sydd nail ai’n cael eu cyllido gan grant neu’n ymwneud â chynlluniau a ariannwyd gan refeniw ond sydd wedi eu hail ddosbarthu fel gwariant cyfalaf, yn unol â gofynion cyfrifo, er enghraifft offer TGCh (£151k) a mân waith. Dangosodd paragraff 4.4.3 fanylion am y prif gynlluniau lle roedd angen llithriant, a’r rhesymau dros y llithriant.

 

Roedd Atodiad 4.4.4 wedyn yn amlinellu manylion y cynlluniau unigol yn y Rhaglen Gyfalaf, gan ddangos y gyllideb oedd ar gael yn 2017-18 o gymharu â’r gwariant gwirioneddol. Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid Interim mai cyfanswm y gwariant ar 31 Mawrth 2018 oedd £36.584 miliwn, a arweiniodd at danwariant bach o £39k ar adnoddau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSP), a fyddai’n cael ei ddychwelyd i’r gronfa derbyniadau cyfalaf.

 

Cyfeiriodd yr adroddiad wedyn at Gronfeydd wrth gefn wedi eu Clustnodi’r Cyngor, gan gynnwys yr arian a dynnwyd i lawr o’r rhain yn ystod 2017-18. Roedd tabl 6 yn yr adroddiad yn rhoi symudiad manwl pellach ar y rhain ar gyfer y cyfnod uchod. Darparwyd manylion llawn am y sefyllfa’n ymwneud â Chronfeydd wrth gefn a Glustnodwyd yn Atodiad 5 i’r adroddiad.

 

Yn olaf, dangosodd Tabl 7 yn 4.5.3 o’r adroddiad y Dyraniadau Net i/o Gronfeydd wrth gefn wedi eu Clustnodi yn ystod Chwarter 4.

 

Cyfeiriodd aelod at dudalen 12 o’r adroddiad a thynnu sylw at y ffaith bod  £1.183m o orwariant ym maes Plant sy'n Derbyn Gofal (LAC) yn ystod y 3 blynedd diwethaf, a gofynnodd hi a oedd y sefyllfa yma yn gwella.

 

Cynghorodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod niferoedd y Plant sy'n Derbyn Gofal yn amrywio ond hefyd yn dangos arwyddion eu bod yn lleihau, felly byddai gorwario yn y maes gwasanaeth hwn, gobeithio, yn parhau i wella yn y dyfodol.

 

Nododd aelod hefyd fod y cynnydd yn niferoedd y plant mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn arwain at y Cyngor yn gorfod darparu mwy o Drafnidiaeth o’r Cartref i’r Ysgol yn ogystal â cheisio darparu cynnydd o ran Llwybrau Diogel i Ysgolion.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim - Addysg a Chymorth i Deuluoedd mai dyma oedd yr achos, a bod hyn yn waith parhaus, ac y byddai ef yn rhoi gwybod i’r Cabinet am ddiweddariadau ar yr uchod maes o law, pan fyddai'r darnau hyn o waith wedi cael eu cwblhau.

 

Daeth yr Arweinydd â’r drafodaeth ar yr eitem hon i ben, drwy gynghori bod y Cyngor wedi lleihau £400k o’r gorwariant, o ganlyniad i’r defnydd o Ofalwyr Maeth Mewnol o gymharu â’r Gofalwyr Maeth Annibynnol mwy drud.

 

PENDERFYNWYD:                    Bod y Cabinet yn nodi'r sefyllfa Alldro Refeniw a Chyfalaf gwirioneddol ar gyfer 2017-18.

 

Dogfennau ategol:

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z