Agenda item

Caffael Gwasanaethau Rheoli Gwastraff a Ddarperir yn y Ganolfan Adfer Deunyddiau ac Ynni (MREC) yn Nhwyni Crymlyn, Castell-nedd Port Talbot

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau a Phennaeth Cyllid Interim a Swyddog S151 adroddiad ar y cyd mewn perthynas â'r mater uchod.

 

Cynghorodd fod gan y Cyngor sefyllfa gytundebol bresennol a hirsefydlog gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot (“CNPT”) o ran y Ganolfan Adfer Deunyddiau ac Ynni (“MREC”) a leolir ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, a chanddi dros 10 mlynedd ar ôl i redeg. Caiff rhai swyddogaethau gwaredu gwastraff eu cyflawni gan CNPT ar ran Pen-y-bont ar Ogwr, fel y nodir mewn cytundeb rhwng awdurdod  (“y Penodiad Gwreiddiol”) a drefnwyd gan y ddau awdurdod ar adeg y Fenter Cyllid Preifat rheoli gwastraff wreiddiol yn 2000, ac fel y cafodd ei amrywio gan gytundeb dyddiedig 8 Medi 2010 (“y Cytundeb Amrywio”). 

 

Mae'r ffi waredu bresennol a godir gan y cyfleuster MREC yn sylweddol uwch na chyfraddau marchnad a dderbynnir. Felly, mae Cynghorau Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot fel rhan o'u cynlluniau ariannol tymor canolig wedi nodi arbedion yn erbyn y gost weithredol a atodir wrth y cyfleuster MREC. I gyflawni'r arbedion hyn mae'r ddau barti wedi cytuno i derfynu'r trefniadau presennol rhwng yr Awdurdod contractio (CNPT) a'r MREC, a rhoi contract wedi'i brofi gan y farchnad yn ei le, unwaith eto gyda CNPT fel yr Awdurdod contractio ac i ddisodli unrhyw benodiad/contract rhwng CBSP a CNPT i adlewyrchu'r trefniadau newydd hyn.

 

Wedi hynny gwahoddwyd cynigion yn seiliedig ar y dogfennau tendro gwreiddiol, a mynegodd dau gwmni ddiddordeb, ac wedyn cyflwyno cynigon. Fodd bynnag, wedyn gwnaeth un o'r cwmnïau hyn dynnu ei gynnig yn ôl.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau mai'r cynigydd sy'n weddill yw Walters Plant Hire Limited (“Walters”). Gwnaethant gadarnhau ar ddiwedd 2017 eu bod yn dymuno parhau i gael eu hystyried ar gyfer y dyfarniad contract yn unol â'u cynnig tendro.

 

Yna amlinellodd Paragraff 4.1 o'r adroddiad nifer o bwyntiau a chrynhoi'r cynigion wrth gymharu â threfniadau presennol, gan gynnwys manylion am y broses gaffael sydd wedi'i dilyn yn ogystal â threfniadau'r Cytundeb Amrywio rhwng CBSP a Chastell-nedd Port Talbot.

 

Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau, fel gyda phob proses gaffael, fod bob amser risg o her.  Fodd bynnag, mae CNPT a Phen-y-bont ar Ogwr yn bwriadu lliniaru risg o'r fath drwy gyhoeddi Hysbysiad VEAT i ddileu'r risg o'r contract yn cael ei roi i'r neilltu ar ôl ymrwymo iddo ac unrhyw risg gysylltiedig o ddirwyon (ond nid y risg o hawl am iawndal os bydd her ddilynol).

 

Yn ogystal, ceir amrywiaeth o faterion eraill y bydd angen i CNPT ymdrin â hwy fel perchnogion y safle MREC.

 

Ar yr un pryd ag ymrwymo i'r cytundeb gwasanaethau gwastraff, cynigir bod CNPT a Walters yn ymrwymo i brydles ar gyfer safle MREC, ar hyd y llinellau a nodwyd yn yr adroddiad.

 

Parhaodd ei gyflwyniad drwy gynghori bod trefniadau gyda NPTRL ar gyfer darparu gwasanaethau gwastraff yn dod i ben ar ôl dechrau'r gwasanaethau i'w darparu gan Walters. Ar y pwynt hwnnw bydd yn ofynnol i Gyfarwyddwyr NPTRL ddirwyn y cwmni i ben.

 

Roedd copi o'r Asesiad Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 wedi' gwblhau yn Atodiad 1 i'r adroddiad.

 

I gloi, yna gwnaeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau amlinellu goblygiadau ariannol yr adroddiad gan ychwanegu fel rhan o hyn, y byddai CBSP yn sicrhau arbedion sylweddol fel rhan o'i Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, os bydd y cynnig o'r Contract diwygiedig yn cael ei sicrhau'n llwyddiannus.

 

Nododd Aelod ei fod yn edrych ymlaen o dan drefniadau'r dyfodol i CBSP gael cytundeb partneriaeth cyfartal â CNPT wrth fynd ymlaen, a'i bod yn hynod bwysig sicrhau'r arbedion o ran MREC a oedd wedi'i sefydlu o dan delerau'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid Interim a Swyddog S151 y bydd y Cytundeb angenrheidiol yn ofynnol i'w lofnodi o hyd cyn bod y sefyllfa bresennol yn symud ymhellach ymlaen. Ychwanegodd y byddair' Cyngor hefyd yn gwneud cais am gyfrifyddu banc agored mewn perthynas â chau Cwmni Ailgylchu Castell-nedd. Byddai dirwyn y broses hon i ben yn cymryd tua 9 mis, er bod CBSP yn gwthio am gynnydd mor gyflym ag y gallai.

 

Ychwanegodd ymhellach y byddai adroddiad tebyg a ystyrir gan y Cabinet heddiw, yn cael ei ystyried gan y Cabinet yn CNPT.

 

Cwblhaodd yr Arweinydd y ddadl ar yr eitem hon drwy ddatgan ei fod yn edrych ymlaen at ddechrau pennod newydd gyda CNPT, a'i fod yn si?r y byddai hwn yn drefniant mwy llwyddiannus nag ar hyn o bryd, a fyddai'n rhoi mwy o werth am arian i'r trethdalwr, mewn perthynas â sicrhau bod eu deunyddiau gwastraff yn cael eu casglu a'u gwaredu'n briodol.

 

PENDERFYNWYD:       (1) Bod y Cabinet yn derbyn, yn amodol ar CNPT yn ymrwymo i'r Penodiad newydd a dirwyn i ben yr hysbysiad VEAT ac os na fyddai unrhyw hysbysiad o her, y cynnig a gyflwynwyd gan Walters Plant Hire Limited ym mis Mai 2016.

                                       (2)  Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau mewn ymgynghoriad â'r Pennaeth Cyllid Interim a Swyddog Adran 151 a'r Cyfreithiwr i'r Cyngor/Swyddog Monitro i negodi a setlo'r telerau terfynol o'r Penodiad newydd ac ar ôl hynny awdurdodi'r Cyfreithiwr i'r Cyngor/Swyddog Monitro ymrwymo i'r Penodiad dywededig ac unrhyw ddogfennaeth gysylltiedig.

(3)  Dirprwyo awdurdod i'r Cyfreithiwr i'r Cyngor/Swyddog Monitro i gytuno â Chyngor CNPT i gyhoeddi Hysbysiad Tryloywder Ex-Ante Gwirfoddol (“Hysbysiad VEAT”) yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd.

Dogfennau ategol: