Cofnodion:
Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ddiweddariad r berfformiad y gwasanaethau wedi’u darparu ar gyfer Aelodau Etholedig.
Cyflwynodd ddiweddariad ar nifer yr atygyfeiriadau a dderbyniwyd rhwng 1 Mawrth a 31 Mai 2018, a gyda’r meincnod a osodwyd ym mis Tachwedd 2013 bod tua 45% atgyfeiriadau wedi’u cwblhau o fewn y cyfnod targed o 10 diwrnod. Rhoddodd wybod hefyd am nifer yr atgyfeiriadau wedi’u cwblhau rhwng 1 Mehefin 2017 a 31 Mai 2018 ac esboniodd fod y meincnod a osodwyd ym mis Tachwedd 2013 y dylai 90-95% o atgyfeiriadau wedi’u cwblhau o fewn y cyfnod o 3 mis. Yn ystod y cyfnod, Ionawr 2018 oedd yr unig fis oedd o dan y cyfartaledd hwn gyda 89.05% o atgyfeiriadau’n cael eu cwblhau.
Aeth Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ymlaen i esbonio'r gweithgareddau datblygu aelodau a gynhaliwyd yn rhan o'r Rhaglen Ddatblygu Aelodau, ynghyd â chrynodeb o nifer yr aelodau oedd yn bresennol ar gyfer pob pwnc y rhaglen. Yna esboniodd bob un o’r pynciau wedi’i drefnu yn rhan o’r Rhaglen Ddatblygu Aelodau gan amlinellu pynciau wedi’u nodi i’w cynnwys yn y Rhaglen Ddatblygu Aelodau.
Gofynnodd Aelod am y RhDDC yn cael ei ddosbarthu’n hanfodol i bob aelod a’r hyn y gellid ei wneud os nad yw Aelodau'n mynychu. Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, er bod yr Awdurdod wedi dweud ei fod yn hanfodol, nad oes rhwymedigaeth gyfreithiol i aelodau ei wneud ac felly ni ellir eu cosbi, oni bai bod y Papur Gwyn yn dweud fel arall.
Esboniodd hefyd y newidiadau y mae wedi’u gwneud ar gyfer y sesiwn RhDDC nesaf ar sail y sylwadau wedi’u gwneud gan Aelodau aeth i’r sesiwn gyntaf. Rhoddodd wybod i’r Pwyllgor y bydd y Prif Gyfreithiwr hefyd yn mynd i'r sesiwn i roi eglurder ar rai o'r telerau ar ffurf Atgyfeiriadau Aelodau fel y mae gan Aelodau ddealltwriaeth gliriach o'r RhDDC.
Manylodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ar y pynciau wedi’u trefni ar gyfer Briffiau Cyn Cyfarfodydd y Cyngor yn y Dyfodol. Rhestrwyd y pwnc cyntaf ar y rhestr fel Bryntyrion ond dylai fod wedi'i restru fel Bryncethin - ni fyddai'n digwydd ar 18 Gorffennaf mwyach gan nad oedd modd i gynrychiolwyr Campws Bryncethin fynychu. Cytunodd yr Aelodau i aildrefnu'r sesiwn ar gyfer y Briff Cyn Cyfarfod y Cyngor ar 21 Tachwedd.
Gofynnwyd i’r Aelodau ystyried aildrefnu’r Briffiau Cyn Cyfarfodydd y Cyngor ar Drafnidiaeth Gymunedol ar 18 Gorffennaf ac ar y Cynllun Datblygu Gwledig ar 24 Hydref. Hefyd ystyriodd y Pwyllgor yr angen i gael Sesiwn Ddatblygu Aelodau ym mis Hydref ar gyfer ‘Sut i Ddefnyddio Mapiau Pontydd’.
Adroddodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ar nifer o fodiwlau e-ddysgu sydd wedi’u cwblhau gan Aelodau Etholedig.
Hyd yn hyn, nid oes llawer o Aelodau wedi manteisio ar gyfleusterau e-ddysgu a gofynnwyd i’r Aelodau am eu barn ar yr hyn y gellid ei wneud i annog Aelodau Etholedig i wneud defnydd mwy o’r cyfleusterau e-ddysgu sydd ar gael. Dywedodd yr Aelodau fod llawer ohonynt wedi cael problemau gyda chwblhau modiwlau penodol ac y byddai’r bar cynnydd yn rhewi sy’n golygu na allent gwblhau, mae’r Aelodau ar dawl achlysur rhoi’r gorau i’w cwblhau.
Nododd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd sylwadau’r Aelodau gan nodi y byddai mwy o gymorth ar gael. Cytunwyd y byddai gwiriadau iechyd blynyddol yn addas i sicrhau bod yr Aelodau’n cael eu cefnogi’n effeithiol yn eu rôl ac i sicrhau nad oes meddalwedd amhriodol ar eu dyfeisiau.
Esboniodd hefyd bod yr App Cyfyngedig ar gyfer Modern.Gov yn dal i gael ei roi ar waith gyda TGCh ac y byddai Pwyllgor y Gwasanaeth Democrataidd yn parhau i roi’r diweddaraf iddynt ar ei gynydd. Mae Chrome for Business hefyd wedi’i gynllunio yn dilyn cyfarfod y Cyngor ar 20 Mehefin.
PENDERFYNWYD: Bod Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd yn nodi cynnwys yr adroddiad a chadarnhau’r canlynol:
Briffiau Cyn Cyfarfodydd y Cyngor:
18 Gorffennaf 18 – Trafnidiaeth Gymunedol
19 Medi 18 – Gofalwyr/Gofalwyr Ifanc
24 Hyd 18 – Campws Bryncethin
21 Tach 18 – Cynllun Datblygu Gwledig
19 Rhag 18 – Addysg Cartref Ddewisol
Sesiynau Datblygu Aelodau:
27 Mehefin – RhDDC 2
11 a 31 Gorffennaf – Ymwybyddiaeth o Ddemensia
I’w gadarnhau Medi 18 – Ymwybyddiaeth o ADY ac Awtistiaeth
I’w gadarnhau Hyd 18 – Defnyddio Mapiau
Pontydd
I’w gadarnhau Tach 18 – Diweddariad
Gwrth-Gaethiwed/Masnachu Pobl/Sipsi/Teithwyr
Offer TGCh Aelodau:
Bod TGCh yn gwneud gwiriadau iechyd blynyddol i sicrhau eu bod yn gweithio’n gywir ac nad oes meddalwedd amhriodol wedi’i gosod ar yr offer.
Arweinwyr Gr?p:
Gofynnodd y Pwyllgor bod Arweinwyr pob gr?p yn cael gwybod am lefelau presenoldeb mewn gweithgareddau datblygu aelodau. Gofynnwyd iddynt hefyd i annog eu haelodau’n gryf i fynychu/cwblhau’r sesiynau hyfforddiant perthnasol.
E-ddysgu:
Bod Dysgu a Datblygu yn rhoi gwybodaeth am y canlynol:
• Faint o aelodau sydd wedi dechrau unrhyw sesiynau e-ddysgu
• Sut y gellir mewngofnodi i’r porthol E-ddysgu a’i ddefnyddio’n haws
• Beth oedd y rhwystrau arferol i gwblhau pynciau e-ddysgu a sut y gellir eu hosgoi.
Dogfennau ategol: