Agenda item

Cronfa Gweithredu yn y Gymuned 2017-18 Diweddariad

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro adroddiad yn rhoi diweddariad mewn perthynas â defnyddio’r Gronfa Gweithredu yn y Gymuned (CGC) wedi’i chymeradwyo ar 5 Medi 2017. Esboniodd fod y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2017-18 a gymeradwywyd gan y Cyngor ar 1 Mawrth 2017 yn cynnwys cyllideb newydd o £285,000 ar gyfer creu Cronfa Gweithredu yn y Gymuned.  Nodau eang y gronfa yw creu cyfleoedd ar gyfer ymyrraeth lleol gan aelodau yn eu hwardiau eu hunain er budd y gymuned. Crëwyd CGC gyda’r nod o leihau costau gweinyddol a rhoi’r cyfrifoldeb ar gyfer cymhwysedd ar gyfer taliadau ar Aelodau Etholedig unigol.  Wedyn byddai sicrwydd yn cael ei roi trwy atebolrwydd cyhoeddus sy’n cynnwys adrodd am daliadau ar wefan y Cyngor ac i’r Pwyllgor Archwilio.

 

Esboniodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro fod angen i Aelodau Etholedig fynd i hyfforddiant gorfodol cyn iddynt allu cyflwyno ceisiadau ar gyfer taliad ac y gall Aelodau gydymffurfio ag amodau’r cynllun a hunanreoleiddio.

 

Ar 5 Medi 2018, cymeradwyodd y Cabinet roi’r Gronfa Gweithredu yn y Gymuned.  O ganlyniad i oedi yn gwaith o weithredu’r cynllun, byddai’r cyllid wedi’i ddyrannu ar gyfer y flwyddyn gyntaf yn cael ei drosglwyddo yn y flwyddyn ariannol ganlynol. Rhwng 16 Hydref 2017 a 21 Mehefin 2018, defnyddiwyd £77,198.96 o’r Gronfa Gweithredu yn y Gymuned i ariannu 27 project ledled y Fwrdeistref Sirol.

 

Amlinellodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro y ffordd mae cyllid wedi’i ddefnyddio a’r amrywiaeth o brojectau gan gynnwys ariannu offer ysgol, gwaith adnewyddu a llwybrau diogelach i’r ysgol.

 

Ystyriodd y Pwyllgor i gynnal mwy o gyfarfodydd rheolaidd o ganlyniad i swm yr adroddiadau Pwyllgor mae angen iddo eu hystyried.  Dywedodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro fod nifer y cyfarfodydd wedi’i bennu i gyflawni’r rhaglen, ond os daw agendau’n anhrefnus, gallai cyfarfodydd Pwyllgor eraill gael eu trefnu.  Byddai swm y busnes ar agendau Pwyllgor yn parhau i gael ei adolygu.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Pwyllgor ar drothwy cyllid fesul aelod a’r fecanwaith sydd ar waith ar gyfer rheoli’r Gronfa Gweithredu yn y Gymuned yn allanol.  Dywedodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro wrth y Pwyllgor fod £5k wedi’i ddyrannu i bob Aelod a bod y cynllun yn hunanreoliadol, byddai ei ganlyniadau’n cael eu cyhoeddi a’u gwneud ar gael i’r cyhoedd.  Ni fyddai’r cyllid ar gael ar gyfer gwariant ailadroddus ac ni fyddai chwaith yn cymryd lle gwasanaethau craidd.  Dywedodd y Swyddog Adran 15 Dros Dro wrth y Pwyllgor y byddai adroddiad yn adolygu’r Gronfa Gweithredu yn y Gymuned yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet a’r Cyngor.  Hefyd dywedodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro wrth y Pwyllgor fod angen cyflwyno ceisiadau yn unol â’r canllaw wedi’i roi i’r Aelodau.  Dywedodd Prif Gyfrifydd y Rheolwr Gr?p y byddai taliad yn cael ei wneud ar ôl mynd i gostau ac y caiff ceisiadau eu prosesu gan y Tîm Cymorth Busnes.             

 

PENDERFYNWYD:            Bod y Pwyllgor Archwilio yn:

a)    Nodi cynnwys yr adroddiad.

b)    Nodi cyhoeddiad gwybodaeth am y Gronfa Gweithredu yn y Gymuned fel y dangosir yn Atodiad 2 yr adroddiad.

Nodi y byddai adolygiad llawn o’r Gronfa Gweithredu yn y Gymuned yn cael ei wneud yn dilyn diwedd y cam cyfredol o ariannu fel y nodir ym mharagraff 4.11 yr adroddiad.   

Dogfennau ategol: