Agenda item

Cydnabyddiaeth Cynghorwyr Tref a Chymuned

To receive a presentation from representatives of Welsh Government on the subject of the Independent Remuneration Panel in respect of Town and Community Councillors

Cofnodion:

Gwahoddodd y Cadeirydd y canlynol i'r cyfarfod: Mr. L Jones, o Lywodraeth Cymru, a Ms. S. Willey a Mr. G. Owens o Banel Cydnabyddiaeth Annibynnol Cymru, er mwyn rhoi cyflwyniad ar y pwnc uchod.

 

Roedd y cyflwyniad yn cynnwys y canlynol:-

 

Grwpiau Cynghorau Cymuned a Thref

Credai'r Panel bod yr amrywiad eang ym maint y Cynghorau Cymuned a Thref, yn golygu bod yn rhaid i gyfrifoldebau ac atebolrwydd Cynghorwyr hefyd amrywio.

 

Mae cynghorwyr sy'n rheoli incwm gwariant o £1m ac sy'n darparu gwasanaethau sylweddol, gan gynnwys y rhai a ddirprwywyd efallai o Brif Gynghorau, yn gweithredu mewn amgylchedd llawer mwy cymhleth na Chyngor sydd â chyllideb flynyddol o lai na £30k.

 

Archwiliodd y Panel ystod o fesurau y gallem eu defnyddio fel sail ar gyfer grwpio Cynghorau Cymuned a Thref i adlewyrchu'r gwahaniaethau hyn.

 

Daethom i'r casgliad bod defnyddio ffigyrau incwm neu wariant yn adlewyrchu'n well lefelau gweithgarwch Cyngor na chymarebau poblogaeth neu braeseptau, y darganfu’r Panel nad ydynt bob amser yn cyfateb i incwm neu wariant.

 

Gan ystyried adborth ymgynghoriad ar yr Adroddiad Blynyddol drafft, ffurfiodd y Panel 3 gr?p o Gynghorau Cymuned a Thref ar sail lefel yr incwm neu'r gwariant, pa un bynnag yw'r uchaf, yn y flwyddyn ariannol flaenorol.

 

Roedd hefyd yn haws i Gynghorau ddeall pa gr?p maent yn perthyn iddo h.y.:-

 

Gr?p Cyngor Cymuned / Tref            Incwm neu wariant yn 2017-18 o

           A                                                     £200k ac uwchlaw

           B                                                     £30k - £199,999k

           C                                                     Dan £30k

 

Yna, aeth y Swyddogion o'r IRWP ymlaen i siarad am wahanol Benderfyniadau a wnaed fel a ganlyn:-

 

Penderfyniad 44

 

Rhaid i gynghorau cymuned a thref yn Grwpiau A a B sicrhau bod taliad ar gael i bob un o'u haelodau o £150 y flwyddyn am gostau a geir o ran defnyddio ffôn, technoleg gwybodaeth, nwyddau traul ayb.

 

Penderfyniad 45

 

Awdurdodir cynghorau cymuned a thref yn Gr?p C i sicrhau bod taliad ar gael i bob un o'u haelodau o £150 y flwyddyn am gostau a geir o ran defnyddio ffôn, technoleg gwybodaeth, nwyddau traul ayb.

 

Penderfyniad 46

 

Rhaid i gynghorau cymuned a thref yn Gr?p A sicrhau bod taliad blynyddol o £500 yr un ar gael i leiafswm o 1 ac uchafswm o 5 aelod i gydnabod cyfrifoldebau penodol. Mae hyn yn ychwanegol at y taliad o £150 am gostau a threuliau.

 

Penderfyniad 47

 

Awdurdodir cynghorau cymuned a thref yn Grwpiau B neu C i wneud taliad blynyddol o £500 yr un i hyd at 5 aelod i gydnabod cyfrifoldebau penodol. Mae hyn yn ychwanegol at y taliad o £150 am gostau a threuliau os hawlir hynny.

 

Penderfyniad 48

 

Awdurdodir cynghorau cymuned a thref i wneud taliadau i bob un o'u haelodau o ran costau teithio ar gyfer mynychu dyletswyddau cymeradwy. Rhaid i daliadau o'r fath fod yn wir gostau teithio trwy gludiant cyhoeddus neu lwfansau milltiroedd CThEM fel y'u nodir yn yr adroddiad blynyddol.

 

Penderfyniad 49

 

Os bydd cyngor cymuned neu dref yn penderfynu bod dyletswydd benodol angen arhosiad dros nos, gall awdurdodi ad-dalu treuliau cynhaliaeth i'w haelodau ar y cyfraddau uchaf a nodir yn yr adroddiad blynyddol ar sail hawliadau gyda derbynebau.

 

Penderfyniad 50

 

Awdurdodir cynghorau cymuned a thref i dalu iawndal colled ariannol i bob un o'u haelodau, lle mae colled o'r fath wedi digwydd mewn gwirionedd, am fynychu dyletswyddau cymeradwy fel y nodir yn yr adroddiad blynyddol.

 

Penderfyniad 51

 

Rhaid i bob cyngor cymuned a thref ddarparu ar gyfer ad-dalu costau angenrheidiol i ofalu am blant ac oedolion dibynnol (a ddarperir gan ofalwyr anffurfiol neu ffurfiol) ac ar gyfer anghenion cymorth personol hyd at uchafswm o £403/mis ar ôl derbyn derbynebau gan y gofalwr. Rhaid i'r ad-daliad fod am y gost ychwanegol a geir gan aelodau er mwyn iddynt gyflawni eu dyletswyddau cymeradwy. Dim ond ar ôl derbyn y derbynebau gan y gofalwr y gwneir ad-daliad.

 

Penderfyniad 52

 

Awdurdodir cynghorau cymuned a thref i ddarparu taliad Pennaeth Dinesig i faer/ cadeirydd y cyngor hyd at uchafswm o £1,500 i gyflawni swyddogaethau'r swydd honno. Mae hyn yn ychwanegol at y taliad o £150 am gostau a threuliau a'r cyflog uwch o £500 os caiff y rhain eu hawlio.

 

Penderfyniad 53

 

Awdurdodir cynghorau cymuned a thref i ddarparu taliad Dirprwy Bennaeth Dinesig i ddirprwy faer/dirprwy gadeirydd y cyngor hyd at uchafswm o £500 i gyflawni swyddogaethau'r swydd honno. Mae hyn yn ychwanegol at y taliad o £150 am gostau a threuliau a'r cyflog uwch o £500 os caiff y rhain eu hawlio.

 

Aelodau Prif Gynghorau

 

Ni all yr aelodau sy'n derbyn cyflog uwch band 1 neu band 2 gan Brif Gyngor (Arweinydd, Dirprwy Arweinydd, Aelod o'r Pwyllgor Gwaith) dderbyn unrhyw daliad gan Gyngor Cymuned neu Dref ac eithrio treuliau teithio a chynhaliaeth ac ad-dalu costau gofal. Fodd bynnag, gallant ddal swydd uwch yn y Cyngor Cymuned neu Dref.

 

Amserlen Flynyddol

 

Mawrth

 

Rhaid i'r Cyngor ystyried pob penderfyniad yn adroddiad terfynol yr IRPW a chofnodi ei benderfyniad ffurfiol mewn perthynas â'r penderfyniadau nad ydynt yn orfodol, a fydd yn berthnasol i'r holl aelodau.

 

Mai

 

O ddyddiad y Cyfarfod Cyffredinol, mae’r holl daliadau gorfodol a'r taliadau nad ydynt yn orfodol y mae'r Cyngor wedi'u mabwysiadu i'w gwneud i bob aelod. Mae'n rhaid i'r Clerc dderbyn hysbysiad priodol gan unrhyw aelod sy'n gwneud penderfyniad personol i hepgor rhan neu'r cyfan o’r taliadau

 

Medi (erbyn 30ain)

 

Cyhoeddi, ac anfon at yr IRPW, fanylion o’r holl daliadau a wnaed i aelodau unigol am y flwyddyn ariannol flaenorol mewn 'Datganiad Blynyddol o Daliadau. Mae'r IRPW wedi cynhyrchu pro fforma i helpu gyda hyn, sydd ar gael i'w lawrlwytho o wefan y Panel. Gellir diwygio'r pro fforma hon bob blwyddyn.

 

Hydref

 

Ystyried y penderfyniadau yn adroddiad drafft yr IRPW ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf a defnyddio hyn i lywio'r cynlluniau Cyllideb.

 

Gan fod hyn yn dod â’r Cyflwyniad i ben, agorodd y Cadeirydd y cyfarfod ar gyfer cwestiynau.

 

Nododd Aelod y gellid talu lwfansau/ treuliau i Gynghorwyr Tref/ Cymuned, ond mynegodd bryder ynghylch y ffaith nad oedd ganddynt unrhyw adnoddau a/neu gapasiti i drefnu neu recriwtio Swyddog Cyllid Cyfrifol addas i ymgymryd â chyfrifo'r taliadau hyn yn rheolaidd, ac roedd yn meddwl tybed a allai'r Cyngor Bwrdeistref Sirol ar gyfer yr ardal benodol honno gynorthwyo i'r perwyl hwn, er enghraifft, math o Gytundeb Lefel Gwasanaeth. Teimlai fod hyn yn rhywbeth y gellid ei ystyried gyda CThEM. Gofynnodd hefyd a fyddai'r taliadau hyn yn cael eu gwasgaru dros gyfnod o flwyddyn, neu eu talu fel cyfandaliad unwaith ac am byth, ac os byddai taliadau o'r fath yn ddarostyngedig i dreth incwm a gostyngiadau yswiriant gwladol.

 

Dywedodd aelod o'r IRWP ei fod yn fater i'r Cyngor Tref/ Cymuned priodol os oedd am dalu'r uchod mewn rhandaliadau neu fel taliad unwaith ac am byth, ac y gallai corff fel Un Llais Cymru roi cyngor iddynt yngl?n â beth oedd y math o daliadau sy’n ddarostyngedig i drethi ayb. Yn amlwg, ni fyddai treuliau yn destun treth/ yswiriant gwladol, ond ychwanegodd, oherwydd bod y CynghorwyrTref/ Cymuned yn talu o’u poced eu hunain, byddent yn gymwys i dderbyn hyn yn ôl fel ad-daliad net. Fodd bynnag, byddai taliad ar ffurf lwfans yn ddarostyngedig i dreth gan ei fod yn swm o arian y byddai'r person sy'n ei dderbyn yn gorfod ei ddatgan ar ddiwedd blwyddyn dreth.

 

Teimlai Aelod ei bod yn bwysig ceisio gwella lefelau amrywiaeth mewn perthynas â Chynghorwyr Tref/ Cymuned, yn enwedig o gofio yn yr etholiadau lleol diweddar bod 66% o seddi heb eu gwrthwynebu ar lefel Cyngor Tref/ Cymuned, ac roedd y mwyafrif o seddi yn cael eu llenwi gan ddynion gwyn. Teimlai nad oedd yn gywilydd i Gynghorwyr Tref/ Cymuned dderbyn treuliau a lwfansau mewn sefyllfaoedd lle caniateir hyn. Ychwanegodd, er y dylai awdurdodau lleol roi gwybod i'r cyhoedd faint o daliadau a wnânt i Gynghorwyr, gyda Chynghorau Tref/ Cymuned hefyd yn mabwysiadu'r un dull, gofynnodd i gynrychiolwyr yr IRWP os oedd angen enwi'r aelodau a oedd yn derbyn taliadau o'r fath.

 

Dywedodd aelod o'r IRWP bod rhaid i enwau'r Cynghorwyr Tref/ Cymuned sy'n cael unrhyw fath o daliad am rôl benodol y maent yn ei gyflawni mewn Cyngor Tref/ Cymuned gael eu henwi, fel y maent yn ei wneud os ydynt yn gwasanaethu Cyngor Bwrdeistref Sirol, gan fod y wybodaeth hon yn adlewyrchu atebolrwydd i'r etholwyr y mae'r Awdurdod penodol yn eu gwasanaethu. Mae'r taliadau hyn hefyd wedi'u gosod gan yr IRWP ac nid y Cyngor Tref/ Cymuned, ac mae'n ofyniad gan y corff hwn bod Cynghorau Tref/ Cymuned yn agored ac yn dryloyw gyda’r cyhoedd o ran taliadau i rai aelodau allweddol. Er mai ar gyfer taliadau a lwfansau yn unig yr oedd hyn yn berthnasol, yn hytrach na threuliau, lle’r oedd y Cynghorydd Tref/ Cymuned wedi talu ac yna hawlio’r tâl hwnnw’n ôl. Nid oedd angen rhoi gwybod i'r cyhoedd am hyn, ychwanegodd.

 

Gofynnodd Aelod, pe bai Cynghorydd Tref/ Cymuned penodol yn digwydd gwasanaethu ar ddau Gyngor, a allent hawlio ddwywaith am gyflawni rôl benodol y gellid hawlio taliad amdano, ac atebodd cynrychiolydd o'r IRWP y gallent. Eglurodd fod yr IRWP wedi cynghori Cynghorau Tref/ Cymuned ynghylch pa swyddi y gellir gwneud taliad neu lwfans amdanynt, ac roedd yn agored iddynt hwy wedyn benderfynu a oeddent yn dymuno mabwysiadu hyn. Pwysleisiodd nad oedd y taliad neu'r lwfans wedi'i osod gan Gynghorau Tref/ Cymuned ond gan yr IRWP. Roedd gan Gynghorau Tref/ Cymuned y cwmpas i fabwysiadu'r rhain neu fel arall, pe bai Aelodau'n dymuno derbyn unrhyw daliadau o'r fath. Fodd bynnag, roedd gan Gynghorau Tref/ Cymuned y p?er i benderfynu faint o rolau allai fod yn ddarostyngedig i daliad, os nad oedd y swm ar gyfer unrhyw rôl o'r fath yn uwch na'r lefel a osodwyd gan yr IRWP.

 

Dywedodd Aelod y byddai o gymorth pe bai adroddiad drafft blynyddol IRWP ar gael yn gynharach, fel ei fod yn fwy yn unol â'r amser pan fo Cynghorau Tref/ Cymuned yn gosod eu praeseptau.

 

Cadarnhaodd cynrychiolydd yr IRWP mai Llywodraeth Cymru oedd yn pennu amserlen ar gyfer sefydlu'r IRWP drafft, ond ychwanegodd y gallai'r IRWP drafod y pwynt hwn gyda hwy.  

 

PENDERFYNWYD:                   Nodi’r cyflwyniad.