Report To be accompanied by a presentation from Planning Officers
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau adroddiad, a oedd yn amlinellu'r camau a wnaed hyd yn hyn wrth ddatblygu Cynllun Datblygu Lleol Amnewidiol (Pen-y-bont ar Ogwr) (2018-2033), gan ganolbwyntio ar:
• Adroddiad Adolygu Cynllun Datblygu Lleol Pen-y-bont ar Ogwr (2013) (Atodiad 1 i'r adroddiad). Mae'r ddogfen hon yn nodi maint arfaethedig y newidiadau tebygol i’r CDLl presennol (2006-2021) ac mae'n ceisio cadarnhau'r weithdrefn adolygu i'w dilyn wrth baratoi CDLl amnewidiol. Cynigir y bydd y CDLl Amnewidiol yn cwmpasu cyfnod y cynllun hyd at 2033, sef diwedd cyfnod cynllun 15 mlynedd a fydd yn cychwyn yn 2018; a
• Chytundeb Cyflenwi Cynllun Datblygu Lleol Amnewidiol Pen-y-bont ar Ogwr (Atodiad 2 i'r adroddiad). Mae'r Cytundeb Cyflenwi yn nodi sut a phryd y gall y gymuned leol a rhanddeiliaid eraill gyfrannu at baratoi'r Cynllun Amnewidiol ac amserlen i'w baratoi. Cynigir y bydd y CDLl Amnewidiol yn cynnwys cyfnod y cynllun hyd at 2033
Bydd yr Adroddiad Adolygu (ar gyfer y CDLl presennol (2013)) a'r Cytundeb Cyflenwi ar gyfer y CDLl amnewidiol yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru cyn diwedd Mehefin 2018, ar ôl i'r Cyngor gytuno arnynt.
Ynghyd â'r adroddiad, rhoddwyd cyflwyniad PowerPoint gan Arweinydd y Tîm Cynllunio Datblygu, gyda’r Rheolwr Gr?p Datblygu yn bresennol hefyd.
Roedd y Cyflwyniad yn cwmpasu'r meysydd canlynol:
Mae'r CDLl yn helpu i wella a chyflenwi/ creu'r canlynol:-
• Cartrefi newydd / Tai Fforddiadwy
• Cyflogaeth
• Canol Trefi
• Adfywio
• Amgylchedd
• Seilwaith Gwyrdd
• Darpariaeth addysg
• Atal datblygiadau amhriodol
• Cynaliadwyedd
• Cenedlaethau'r Dyfodol
Bydd angen asesu pob agwedd ar y Cynllun i ystyried a ydynt yn parhau i fod yn gadarn. Bydd hyn yn cynnwys:-
1. Gweledigaeth y CDLl
2. Ei Amcanion
3. Strategaeth Ofodol
4. Polisïau a Dynodiadau
Bydd yr Adolygiad llawn yn dilyn yr union broses baratoi a'r un cyfnodau â'r CDLl mabwysiedig gwreiddiol.
Hysbysir newidiadau i'r CDLl gan y canlynol:-
• Canfyddiadau a phryderon arwyddocaol a nodwyd yn y 3 AMR sydd wedi'u cyhoeddi ers i'r Cynllun gael ei fabwysiadu;
• Unrhyw newidiadau cyd-destunol arwyddocaol (megis amodau ac amgylchiadau Cenedlaethol, Rhanbarthol neu leol);
• Tystiolaeth newydd;
Roedd rhan nesaf y Cyflwyniad yn cynnwys yr holl gamau sy'n gysylltiedig â dilyniant y CDLl, gan gynnwys yr amserlen ar gyfer y rhain. Byddai'n arwain at fabwysiadu'r CDLl ym mis Awst / Medi 2021.
Eglurwyd y byddai nifer o randdeiliaid allweddol yn rhan o'r Adroddiad Adolygu, gydag 'ymgysylltu wedi'i dargedu' gyda rhanddeiliaid ayb. Enghreifftiau o'r rhain oedd y cyhoedd, Llywodraeth Cymru, Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi, Cyfoeth Naturiol Cymru, CADW, D?r Cymru a Chynghorau Tref/Cymuned.
Materion allweddol y CDLl fyddai bodloni’r Ddeddf Lleiant Cenedlaethau’r Dyfodol newydd (a chyflenwi’r amcanion); Teithio Llesol i ddarparu a gwella cysylltiadau trafnidiaeth effeithiol ac i gydymffurfio â thargedau dad-garboneiddio Ynni Adnewyddadwy a bennir gan Lywodraeth Cymru.
Byddai'r CDLl yn nodi:-
O ran cydweithio yn natblygiad y CDLl, byddai hyn ar ffurf y canlynol:-
• Grwpiau Thema'r CDLl (Gweithgorau Swyddogion, Addysg, Adfywio, Priffyrdd, ayb);
• Gweithgorau Rhanddeiliaid (GIG, Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, a Chwmnïau Cyfleustodau (amrywiol));
• Sesiynau Briffio Aelodau Anffurfiol (dull Is-Ardal);
• Gr?p Llywio'r CDLl a'r Pwyllgor Rheoli Datblygu; ac
• Ymgynghori ag Awdurdodau Cynllunio Lleol eraill
Y risgiau o beidio â chael CDLl yw:-
1. Llai o reolaeth i CBSPO;
2. Datblygiad amhriodol / adeiladu datblygiadau anghyfundrefnus/ ad-hoc;
3. Cynllunio trwy apêl
4. Tai fforddiadwy yn cael eu peryglu
5. Peryglu seilwaith newydd a chyllid
6. Peryglu projectau adfywio - ceisiadau am arian
7. Peryglu hyder buddsoddwyr
Ar nodyn terfynol, cadarnhaodd Arweinydd y Tîm Cynllunio Datblygu i'r Aelodau fod y CDLl presennol wedi sicrhau dros £8 miliwn o arian Cytundebau A106.
Gwnaeth Aelod nifer o sylwadau, sef bod angen i'r CDLl dargedu darpariaeth busnesau manwerthu bychan a oedd yn prinhau, gan adael siopau gwag; mwy o dai preswyl / fforddiadwy yng nghanol trefi, a mwy o reolaeth nag ar hyn o bryd yn achos Tai Amlfeddiannaeth, yn enwedig y rhai nad oeddent wedi'u cofrestru.
Dywedodd yr Arweinydd Tîm Cynllunio Datblygu y byddai'r uchod yn cael sylw trwy gynnal diweddariadau yn seiliedig ar Dystiolaeth, gan gynnwys Asesiadau Anghenion Manwerthu, ac adeiladu hyblygrwydd yn y CDLl i wneud addasiadau a fydd yn cydymffurfio ag unrhyw newidiadau i'r farchnad yn y dyfodol. Byddai'r rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid hefyd yn ymdrin ag unrhyw alw am ddarparu mwy o lety preswyl yng nghanol trefi, a fyddai'n arwain at gynnydd yn nifer yr ymwelwyr yn y lleoliadau hyn.
Holodd Aelod am y moratoriwm presennol ar adeiladu datblygiadau preswyl ym Mhencoed, ac os oedd bwriad codi hyn o dan ddarpariaethau'r CDLl newydd.
Dywedodd y Rheolwr Cynllunio Datblygu bod y moratoriwm yn ei le ym Mhencoed oherwydd y sefyllfa bresennol o ran y groesfan yno, a oedd yn creu gormod o draffig cerbydau. Pe byddai modd datrys hyn yn ogystal ag ehangu neu adnewyddu’r bont yn yr orsaf reilffordd, byddai hyn yn lleihau traffig a chefnogi codi’r moratoriwm. Fodd bynnag, roedd angen buddsoddi er mwyn cywiro'r sefyllfa hon, ac wedyn gweld newid yn y sefyllfa bresennol. Roedd deialog yn mynd ymlaen i'r perwyl hwn gyda darparwyr trafnidiaeth amrywiol.
Ychwanegodd Arweinydd y Tîm Cynllunio Datblygu ei bod hi'n rhy gynnar i edrych ar faterion adfywio y CDLl ar hyn o bryd, ond byddai'r rhain yn cael eu harchwilio ar adeg briodol yn y dyfodol, gan gynnwys cynnal deialog gyda Chynghorau Tref/ Cymuned unigol i ymdrin â hyn a meysydd eraill y byddai'r CDLl yn eu cynnwys ym mhob ardal berthnasol o'r Fwrdeistref Sirol.
Wrth ystyried ardaloedd lle bwriedir adeiladu datblygiadau preswyl newydd, teimlai Aelod y dylid yn gyntaf ystyried safleoedd tir llwyd ac ardaloedd o fewn ffiniau anheddiad, yn hytrach na chwilio am leoliadau yng nghefn gwlad.
Dywedodd y Rheolwr Cynllunio Datblygu fod hon yn broses a ddilynir bob amser o dan gyfraith, polisi a chanllawiau cynllunio.
Nododd Aelod y dylid darparu 20% o Dai Fforddiadwy ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ond ei fod yn teimlo y dylai hyn gynyddu i 30%.
Dywedodd y Rheolwr Cynllunio Datblygu bod materion megis prisiau marchnad tai a hyfywedd yn cael eu hystyried wrth fesur lefel y Tai Fforddiadwy yr oedd ei hangen ar gyfer unrhyw leoliad penodol.
Anogodd yr Arweinydd yr Aelodau i fynd yn ôl i'w Cynghorau Tref / Cymuned gyda'r neges eu bod yn ymgyngoreion statudol mewn perthynas â'r CDLl, ac y byddai'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn croesawu eu mewnbwn ar ddefnyddiau tir awgrymedig yn eu hetholaethau priodol.
Nododd Aelod fod y galw ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn cynyddu, o ystyried bod 79,000 o bobl yn arfer byw yn y Fwrdeistref Sirol ond fod y nifer nawr wedi codi i 135,000, gyda rhagamcaniad y byddai’n cynyddu ymhellach i 150,000 yn y dyfodol. Gofynnodd beth oedd yn ei le fel rhan o ystyriaethau'r CDLl i sicrhau bod ganddynt ddigon o adnoddau, cyfleusterau (Meddygfeydd ychwanegol ayb) a chyfarpar i ddarparu ar gyfer gofal yr etholwyr yn y dyfodol, o ystyried y cynnydd disgwyliedig yn y boblogaeth mewn ardaloedd yn y Fwrdeistref Sirol lle’r oedd twf.
Cadarnhaodd y Rheolwr Cynllunio Datblygu bod yr awdurdod lleol wedi cysylltu â'r GIG ar faterion fel yr uchod, gyda'r golwg o roi gwybod iddynt y bu cynnydd yn nhwf ardal benodol o'r Fwrdeistref Sirol, drwy er enghraifft, y cynnydd mewn datblygiadau tai preswyl, fel y bu ym Mharc Derwen, Coity.
Dywedodd Aelod fod problemau ym Mhorthcawl gyda diffyg darpariaeth parcio ceir, a rhenti / trethi uchel ar gyfer safleoedd manwerthu a osodir gan Landlordiaid, sydd wedi arwain at gynnydd mewn siopau gwag.
Dywedodd y Rheolwr Cynllunio Datblygu na ellid edrych ar gynnydd mewn trethi siopau a osodir gan Landlordiaid ar y cyd â'r CDLl; fodd bynnag, roedd adrannau eraill o'r Cyngor a allai edrych ar hyn, er enghraifft yr Adrannau Eiddo a Chyllid. Awgrymodd, fel y cyswllt cyntaf, bod yr Aelod yn cysylltu â'r Adran Adfywio a Rheolwr Canol Trefi.
Caeodd y Rheolwr Datblygu Gr?p y drafodaeth ar yr eitem hon, trwy ddweud y byddai'n rhaid i'r CDLl newydd fod yn addas i'r diben o ran defnydd tir a ddyrannwyd ym mhob ardal o’r Fwrdeistref Sirol, gan y byddai'r ddogfen yn destun craffu gan Lywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gynllunio Cymru.
PENDERFYNWYD: Nodi’r adroddiad.
Dogfennau ategol: