Agenda item

Deddf Trwyddedu 2003 a Deddf Gamblo 2005 - Dirprwyo Swyddogaethau

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Polisi Trwyddedu adroddiad yn egluro’r trefniadau arfaethedig ar gyfer awdurdodi swyddogion o dan Ddeddf Trwyddedu 2003 a Deddf Gamblo 2005 ac yn cadarnhau’r trefniadau i ffurfio is-bwyllgorau yn dilyn Cyfarfod Blynyddol y Cyngor 2018. 

 

Esboniodd y Swyddog Polisi Trwyddedu fod Adran 9 o’r Ddeddf Trwyddedu yn darparu i bwyllgor trwyddedu allu sefydlu un neu ragor o is-bwyllgorau yn cynnwys tri aelod o’r pwyllgor. Sefydlodd y Cyngor yn ei Gyfarfod Blynyddol ar 16 Mai 2018 aelodaeth Pwyllgor Deddf Trwyddedu 2003. Dywedodd fod Adran 10 o Ddeddf Trwyddedu 2003 yn caniatáu i bwyllgor trwyddedu is-ddirprwyo swyddogaethau i is-bwyllgor a sefydlwyd ganddo neu, yn ddarostyngedig i rai cyfyngiadau, i swyddogion. Roedd awdurdodiadau wedi cael eu cymeradwyo gan y Pwyllgor o’r blaen ond roedd angen eu diweddaru i adlewyrchu’r newidiadau yn nheitlau swyddi, yn dilyn sefydlu’r Gwasanaeth Rheoleiddio ar y Cyd a’r newid yn enw adran y gwasanaeth.

 

Adroddodd y Swyddog Polisi Trwyddedu, er mwyn sicrhau perfformiad effeithiol, fod yna gynnig i ddirprwyo’r cyfrifoldeb am awdurdodi swyddogion i weinyddu gofynion Ddeddf Trwyddedu 2003 a Deddf Gamblo 2005, i gychwyn achos dan y Deddfau hynny i Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio. 

 

Cynigiwyd hefyd, lle bo’n briodol, awdurdodi Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, Rheolwr y Tîm Trwyddedu (Pen-y-bont ar Ogwr a’r Fro) a’r Uwch Swyddog Trwyddedu (Technegol) a’r Uwch Swyddog Gorfodi Trwyddedu, yr Uwch Swyddog Polisi Trwyddedu a’r Cynorthwyydd Trwyddedu i gydnabod a chyhoeddi Hysbysiadau yn ymwneud â Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro; rhoi, gwrthod, atal dros dro drwyddedau, cofrestriadau, tystysgrifau, papurau caniatâd a hysbysiadau, i weithredu’r darpariaethau perthnasol o ran troseddau, adolygiadau neu ofynion eraill; yn unol ag unrhyw rai o reolau, rheoliadau a / neu Orchmynion a wnaed dan Ddeddf Trwyddedu 2003 a Deddf Gamblo 2005 (fel y’i diwygiwyd). Ni fyddai’r awdurdodiadau o ran Rheolwr y Tîm Trwyddedu (Pen-y-bont ar Ogwr a’r Fro), yr Uwch Swyddog Trwyddedu (Technegol), yr Uwch Swyddog Gorfodi Trwyddedu, yr Uwch Swyddog Polisi Trwyddedu a’r Cynorthwyydd Trwyddedu yn dod i rym ond pan fyddai’r swyddogion hyn yn cael eu rhoi ar gael i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn unol ag adran 113 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Gofynnwyd i’r Pwyllgor gymeradwyo’r trefniant presennol o ffurfio Is-bwyllgorau pellach yn cynnwys tri Aelod o Bwyllgor Deddf Trwyddedu 2003 i benderfynu ar geisiadau dan Ddeddf Trwyddedu 2003 a Deddf Gamblo 2005. Gofynnwyd i’r Pwyllgor nodi bod rhaid, drwy statud, i’r Cyngor benderfynu ynghylch cymeradwyo datganiadau polisi trwyddedu a gamblo hefyd. Cynigiwyd bod Is-bwyllgorau Deddf Trwyddedu 2003 yn cael eu cadeirio gan Gadeirydd neu Is-gadeirydd Pwyllgor Deddf Trwyddedu 2003, lle bo modd. Pe bai’r Cadeirydd neu’r Is-gadeirydd yn digwydd methu â bod yn bresennol, byddai cadeirydd yn cael ei ethol o blith y rhai fyddai’n bresennol.

 

PENDERFYNWYD:     Bod y Pwyllgor:

 

1)     Yn arfer ei awdurdod dirprwyedig i awdurdodi Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio i gychwyn achos dan y Deddfau y cyfeiriwyd atynt uchod.

 

2)     Yn arfer ei awdurdod dirprwyedig i awdurdodi Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, Rheolwr y Tîm Trwyddedu (Pen-y-bont ar Ogwr a’r Fro), yr Uwch Swyddog Trwyddedu (Technegol), yr Uwch Swyddog Gorfodi Trwyddedu, yr Uwch Swyddog Polisi Trwyddedu a’r Cynorthwyydd Trwyddedu i wneud y canlynol:

 

·         cydnabod a chyhoeddi Hysbysiadau yn ymwneud â Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro; 

·         rhoi, gwrthod, atal dros dro drwyddedau, cofrestriadau, tystysgrifau, papurau caniatâd a hysbysiadau;

·         gweithredu’r darpariaethau perthnasol o ran troseddau, adolygiadau neu ofynion eraill; 

 

yn unol ag unrhyw rai o reolau, rheoliadau a / neu Orchmynion a wnaed dan Ddeddf Trwyddedu 2003 a Deddf Gamblo 2005 (fel y’i diwygiwyd).

 

3)     Yn arfer ei awdurdod dirprwyedig ac yn cymeradwyo’r trefniadau ar gyfer ffurfio Is-bwyllgorau.   </AI3>

<AI4>

 

Dogfennau ategol: