Agenda item

Arolygiad o’r Gwasanaethau Plant – Cynllun Gweithredu

Cofnodion:

Rhoddodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles y wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun gweithredu’n gysylltiedig ag Arolygiad o’r gwasanaethau plant a gynhaliodd Arolygiaeth Gofal Cymru fis Mehefin 2017. Soniodd hefyd am y cynnydd a wnaed i roi’r argymhellion ar waith ac i fonitro unrhyw gamau nad oeddent wedi’u cwblhau. Hwn oedd yr adroddiad diweddaru y cytunodd i’w gyflwyno bob chwe mis ar ôl trafod yr adroddiad ym mis Ionawr 2018.

 

Rhoddodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles grynodeb o’r casgliadau ac eglurodd fod y tîm Cymorth Cynnar a’r Bwrdd Diogelu yn monitro’r Cynllun Gweithredu. Roedd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymorth i Deuluoedd yn cyd-gadeirio’r Bwrdd. Cynhaliwyd yr Arolygiad hwn flwyddyn yn ôl ac mae cynnydd da wedi’i wneud, ond roedd rhai meysydd yr oedd angen eu gwella.    

 

Nododd un aelod fod y rhan fwyaf o’r camau gweithredu’n wyrdd, ac roedd rhai yn felyn, a gofynnodd a oedd unrhyw beth na fyddai’n debygol o gael ei gwblhau ymhen amser rhesymol neu unrhyw feysydd lle nad oedd y cynnydd disgwyliedig wedi’i wneud. Eglurodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant y byddai unrhyw feysydd sy’n peri pryder yn cael eu lliwio’n goch. Roedd y rhan fwyaf o’r camau gweithredu melyn yn ddarnau o waith hirdymor a fyddai’n cymryd amser i’w cyflawni. Dywedodd un aelod ei fod yn falch o weld bod nifer o gamau gweithredu glas wedi’u cwblhau. 

 

Gofynnodd un aelod a oedd cynlluniau ar y gweill i baratoi ar gyfer y newidiadau yn ardal Cwm Taf. Esboniodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles y byddai rhan Pen-y-bont ar Ogwr o’r cynllun ardal yn cael ei throsglwyddo i Gwm Taf. Roedd Cwm Taf wedi sefydlu Bwrdd Pontio ac roedd Bwrdd Iechyd ABMU a staff yn aelodau o’r Bwrdd hwnnw ac yn ystyried ffrydiau gwaith yn ymwneud â phartneriaethau. Roedd yn bwysig parhau i ddarparu gwasanaeth o safon ac roedd y Swyddog Comisiynu eisoes yn creu cysylltiadau â Chwm Taf. Gofynnwyd sut roedd staff yn ymdopi â’r gwaith ychwanegol. Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod y timau’n ymdopi ar hyn o bryd ond roedd yn pryderu na fyddent yn gallu parhau i ysgwyddo’r llwyth gwaith ychwanegol yn y tymor hir. Byddai’r llwyth gwaith yn parhau i gynyddu a byddai angen adnoddau ychwanegol gan Lywodraeth Cymru. Roedd angen adnoddau ychwanegol ar y Byrddau Iechyd hefyd ac roedd cyfarfod wedi’i drefnu i drafod hyn. Byddai hyn yn waith enfawr i’r Byrddau Iechyd ac roedd yn bwysig bod y trefniadau rhwng y partneriaethau’n parhau a bod grantiau’n cael eu dadgyfuno’n briodol. Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar y byddai angen yr adnoddau ychwanegol ar ôl cwblhau’r broses drosglwyddo er mwyn ymwreiddio’r systemau newydd.

 

Gofynnodd un aelod sut roedd y camau gweithredu’n cael eu gwerthuso. Esboniodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant fod y swyddogion yn diweddaru’r Cynllun Gweithredu ac yn cyflwyno adroddiad i’r Cyfarwyddwyr a’r Bwrdd i’w herio. Cyflwynir adroddiadau cynnydd hefyd i Arolygaeth Gofal Cymru

 

Cyfeiriodd un aelod at un o argymhellion yr adroddiad yn ymwneud â safon trefniadau goruchwylio staff rheng flaen gan ofyn a oedd y gwasanaeth hwn yn cael ei gynnal ac a fyddai’n bosibl iddo barhau. Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant fod y rheolwyr yn gallu goruchwylio staff rheng flaen ac nad oedd swyddi gwag ar hyn o bryd.  Nid oeddent yn pryderu am drosiant staff ac roedd y sefyllfa’n cael ei fonitro’n agos mewn cyfweliadau ymadael. Mae nifer y staff asiantaeth wedi gostwng i ddau, y naill yn llawn amser a’r llall yn rhan amser, a byddai’r rhain yn gadael ddechrau’r hydref pan fyddai staff newydd yn dechrau. Roedd nifer o staff newydd gymhwyso ac roedd angen darparu sesiynau cynefino a chynnig y cymorth priodol iddynt. Roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi clywed yn ddiweddar eu bod wedi derbyn canmoliaeth a’u bod wedi’u cynnwys ar y rhestr fer yn y rownd derfynol am y cymorth roedd yn ei gynnig i staff yn ystod eu blwyddyn gyntaf.  

 

Gofynnodd un aelod a fu unrhyw newidiadau o ran nifer yr achosion a ddyrannwyd i bob gweithiwr cymdeithasol ar gyfartaledd. Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant mai’r nod oedd dyrannu 18 achos i bob un ac roedd i ffigur hwn yn cael ei fonitro’n agos. Roedd rhai gweithwyr cymdeithasol yn cael rhagor, gan ddibynnu ar gymhlethdod yr achosion.

 

Gofynnodd un aelod a oedd problemau recriwtio a chadw. Esboniodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles nad oedd dim swyddi gwag tan yn ddiweddar, ond roedd y sefyllfa wedi newid erbyn hyn. Roedd prosesau newydd ar gyfer sicrhau ansawdd a goruchwylio ac, o ganlyniad, roedd y sefyllfa wedi gwella. Gofynnodd yr aelodau a oedd unrhyw themâu a oedd yn codi’n gyson mewn cyfweliadau ymadael. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant nad oedd unrhyw themâu’n codi’n gyson ac ymddengys bod staff yn gadael am nifer o resymau gwahanol gan gynnwys dyrchafiad a’r cyfle i weithio’n agosach at adref.

 

Cyfeiriodd un aelod at yr ?yl Ddysgu a gynhaliwyd yn ddiweddar i rannu profiadau a gwybodaeth, a hynny er budd y rhai a oedd yn addysgu a’r myfyrwyr, a holwyd a oedd cynlluniau tebyg gan y Gwasanaethau Plant. Esboniodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles eu bod yn bwriadu gweithio gyda’r uned hyfforddi ac, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, eu bod wedi cyfarfod â’r 21 aelod newydd o staff ar ddechrau’r flwyddyn ac y byddent yn eu gweld eto ar ddiwedd y flwyddyn i’w holi a oeddent yn ymgyfarwyddo â’r gwaith ac i hyrwyddo’r gwaith da a oedd yn mynd rhagddo ym Mhen-y-bont ar Ogwr.  

 

Gofynnodd un aelod a fyddai’r Cyngor yn rhoi mwy o lais i blant a theuluoedd wrth ddatblygu cynlluniau gwasanaeth. Esboniodd Rheolwr Gr?p y Gwasanaethau Rheoleiddio Plant fod plant yn allweddol i’r gwaith o bennu trywydd gwasanaethau.  Byddai Plant sy’n Derbyn Gofal yn cyfarfod ac yn rhoi sylwadau ac roedd person ifanc wedi’i benodi’n ddiweddar i Gonsortiwm Comisiynu Plant Cymru .

 

PENDERFYNWYD:          Bod y Pwyllgor yn nodi adroddiad Arolygaeth Gofal Cymru ar Wasanaeth Gofal Cymdeithasol i Blant Pen-y-bont ar Ogwr a’u sylwadau ar y Cynllun Gweithredu cysylltiedig. 

.       

 

Dogfennau ategol: