Agenda item

Diogelu

Invitees:

Susan Cooper, CyfarwyddwrCorfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

Cllr Phil White, Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Jacqueline Davies, Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion

Laura Kinsey, Pennaeth Gofal Cymdeithasol I Blant;

Elizabeth Walton James, Rheolwr Gr?p Diogelu a Sicrhau Ansawdd,;

Terri Warrilow, Rheolwr Ansawdd a Diogelu Oedolion   

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant adroddiad yn diweddaru'r Pwyllgor gyda gwybodaeth am Ddiogelu, Byrddau Diogelu Rhanbarthol, Polisi Diogelu Corfforaethol Pen-y-bont ar Ogwr, Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant (CSE), Safonau Amddifadu o Ryddid, Cam-drin Domestig a Masnachu Dynol a Gwrth-gaethwasiaeth. Eglurodd bod Diogelu yn fusnes i bawb a’i fod yn ymestyn y tu hwnt i gyfarwyddiaeth y gwasanaethau cymdeithasol.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y prif gategorïau o gamdriniaeth, nifer yr atgyfeiriadau diogelu a'r categori camdriniaeth uchaf a gofnodwyd yn 2017/2018, sef esgeulustod, gyda chamdriniaeth gorfforol, camdriniaeth emosiynol/seicolegol a chamdriniaeth ariannol yn dilyn.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ddiweddariad i’r pwyllgor ar MASH, DOLS, adolygiadau ymarfer oedolion, adolygiadau ymarfer plant, llywodraethu a Byrddau Diogelu Rhanbarthol. Eglurodd fod rhaid gofyn y cwestiwn – sut ydym ni’n gwybod fod pobl Pen-y-bont ar Ogwr yn ddiogel? Yn ddiweddar, cyfarfu’r Bwrdd Partneriaeth i rannu syniadau a chraffu ar ardal Pen-y-bont ar Ogwr yn arbennig. Roedd Polisi Gwarchod Corfforaethol, a hefyd gr?p o bencampwyr diogelu. 

 

Gofynnodd Aelod lle'r oedd yr awdurdod gydag atal ac yn benodol, y mater o wrth-gaethwasiaeth. Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant mai'r her oedd sefydlu mwy o ymwybyddiaeth o faterion diogelu a dealltwriaeth o drothwyon. Roedd llai o bobl mewn gofal a reolir, fel bod angen i bobl wybod sut i gadw'n ddiogel a sut i adnabod yr arwyddion cynnar. Roedd y MASH yn wasanaeth ymyrraeth a chyngor cynnar lle gallai gwahanol gyrff ymateb gyda'i gilydd yn gyflym cyn i broblemau godi. Dywedodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion fod mwy o ymwybyddiaeth, gyda staff a phobl yn y gymuned yn deall pa arwyddion i chwilio amdanynt a beth i'w wneud. Cafwyd cyflwyniadau ar wrth-gaethwasiaeth a CSE, ond roedd angen mwy o hyfforddiant.

 

Esboniodd DI Anthony Evans fod adrannau arbenigol yn yr heddlu a oedd wedi ymledu i'r cymunedau, a bod hyfforddiant a chyflwyniadau ar gael ar-lein.

 

Cyfeiriodd Aelod at gyfeiriadau'r heddlu a'r gwasanaeth tân yn yr adroddiad, a gofynnodd i ba raddau y bu'r gwasanaeth ambiwlans yn gysylltiedig. Eglurodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant fod y gwasanaeth ambiwlans ar y Bwrdd Diogelu a bod gan staff fynediad i hyfforddiant.

 

Gofynnodd Aelod a oedd nifer yr Atgyfeiriadau Diogelu a'r nifer a oedd yn bodloni'r trothwy ar gyfer Gweithdrefnau Amddiffyn Oedolion yn unol â'r cyfartaledd ar gyfer Cymru. Cadarnhaodd y Rheolwr Diogelu ac Ansawdd Oedolion fod hyn yn unol â'r cyfartaledd. Ychwanegodd fod perthynas waith dda gyda phartneriaid, a bod pob atgyfeiriad yn cael ymateb.

 

Gofynnodd Aelod am ddiffiniad o'r trothwyon. Cytunodd y Rheolwr Diogelu Oedolion ac Ansawdd i anfon diffiniad yn unol â'r ddeddfwriaeth i Aelodau.  

 

Gofynnodd Aelod a fu unrhyw newidiadau i'r ffordd yr adroddwyd am achosion cam-drin domestig ac a oedd y ffigyrau'n gywir. Cadarnhaodd DI Anthony Evans fod y niferoedd yn gywir ac yn destun i asesiad risg. Ymchwiliwyd i bob digwyddiad a chofnodwyd dosbarthiad. Roedd yna hefyd asesiadau risg parhaus ac yr oeddent i gyd yn cael eu hadolygu’n gyfnodol. 

 

Gofynnodd Aelod pa gynnydd a wnaed yngl?n â'r symudiad i Gwm Taf. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant bod hwn yn amser prysur ac roedd hi wedi bod mewn 3 chyfarfod â Chwm Taf a 2 gyda’r Bae Gorllewinol yn yr wythnos flaenorol. Sefydlwyd bwrdd pontio ac roedd gan Ben-y-bont ar Ogwr gynrychiolaeth arno. Roeddent wedi cael un cyfarfod hyd yma ac roedd ffrydiau gwaith yn cael eu hystyried ar gyfer TUPE, AD, TG a phartneriaethau. Roeddent yn canolbwyntio ar ddadgyfuno, partneriaethau a beth oedd yn gorfod digwydd cyn 1 Ebrill 2020. Byddai natur y busnes yn aros yr un fath; fodd bynnag, roedd y seilwaith yn bwysig.

 

Eglurodd yr Aelod Cabinet i’r Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fod yr awdurdod mewn sefyllfa unigryw ar hyn o bryd a bod pontio yn wahanol i drawsnewid. Roedd angen adnoddau ychwanegol ac roedd trafodaethau ar y gweill ar hyn o bryd. Byddai dosbarthiad teg a chyfartal rhwng iechyd a gofal cymdeithasol.

 

Gofynnodd aelod a fyddai'r gwaith a wneir nawr yn parhau o dan Gwm Taf.  Fe'i cynghorwyd y byddai'n dod o dan Fwrdd Diogelu gwahanol ond byddai'n parhau fel y bu. Ychwanegodd DI Anthony Evans nad oedd gan Ben-y-bont ar Ogwr yr un problemau â Chaerdydd ac Abertawe a bod Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn rhagweithiol o ran atal, a bod y tîm cyffuriau yn arbennig wedi bod yn llwyddiannus iawn.  

 

Llongyfarchodd aelod y staff ar yr adroddiad ac ar yr ystod o wahoddedigion yn y cyfarfod a diolchodd iddynt i gyd am gymryd yr amser i fynychu ac am eu cyfraniadau i'r adroddiad a'r trafodaethau yn y cyfarfod.  Dywedodd fod cyfrifoldeb corfforaethol mewn perthynas â Diogelu yn amrywio o blentyn yn cael ei godi gan dacsi i ofalwyr a gweithgareddau chwaraeon. Gofynnodd sut y gallem fod yn si?r bod gwyliadwriaeth a ffocws corfforaethol ar waith fel bod pobl yn cael eu hamddiffyn. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant bod yr agenda diogelu wedi codi dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac roedd bellach yn eitem reolaidd ar yr agenda rheoli corfforaethol. Roedd hyrwyddwyr corfforaethol yn codi ymwybyddiaeth, ac roedd hon yn eitem reolaidd ar yr agenda i'r gwasanaeth tân, yr heddlu ac ystod eang o bartneriaid.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet i’r Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar bod rhaid rhoi gwiriadau rheolaidd ar waith ac roedd bellach yn rhan o'r broses gaffael. Roedd hwn yn gyfrifoldeb corfforaethol ac fe'i ystyriwyd yn rheolaidd.

 

Gofynnodd Aelod a oedd yr asiantaethau gwahanol yn ymwybodol o ddigwyddiad diweddar ym Mhen-y-bont ar Ogwr a nodwyd ym mharagraff 4.23 yr adroddiad. Hysbyswyd yr aelodau bod yr asiantaethau'n ymwybodol o'r trigolion a oedd yn gysylltiedig â'r digwyddiad, a phan fyddai’r adolygiad yn gyflawn, byddai'r canfyddiadau'n cael eu dosbarthu i'r Aelodau ac ar gael yn gyhoeddus. Byddai Aelodau Ward yn cael eu hysbysu cyn ei ryddhau, i ganiatáu amser i baratoi ar gyfer unrhyw ymholiadau.

 

Gofynnodd Aelod a oedd cydberthynas rhwng LAC, CSE a phlant ar y gofrestr risg. Gofynnodd hefyd sut oedd Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant (CSE) yn edrych ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Cadarnhaodd DI Anthony Evans fod cysylltiad rhwng grwpiau agored i niwed. Roedd proses sefydledig yn ei lle ac roedd arbenigwyr yn gweithio gyda rhieni maeth ayb. Roedd hefyd strategaeth CSE ac adolygiadau cyfnodol. Nid oedd yn hyderus bod y sefyllfa CSE yn hysbys ym Mhen-y-bont ar Ogwr ond roedd prosesau ar waith i ddelio â hyn. Roedd yna dasglu a oedd wedi derbyn gwobrau rhyngwladol, ac roedd y gwasanaeth yn falch o'r hyn a gyflawnwyd.  Ychwanegodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant fod y risg yn cynyddu pan oedd plentyn yn mynd ar goll. Yn ddiweddar, roedd niferoedd wedi gostwng o 37 i 5 unigolyn a oedd yn cael eu monitro gan asiantaethau trwy'r protocol CSE. 

 

Roedd yr aelodau'n falch o glywed pa mor llwyddiannus y bu'r Assia Suite, gyda dros 1220 o atgyfeiriadau y llynedd. Dyma’r ddarpariaeth cam-drin domestig a leolwyd yn y swyddfeydd dinesig dros y flwyddyn ddiwethaf.

Gofynnodd Aelod a roddwyd hyfforddiant i athrawon i'w helpu i adnabod plant a oedd yn ddioddefwyr CSE posibl. Esboniodd DI Anthony Evans fod yr heddlu yn mynychu ysgolion cynradd ac yn cynnig sesiynau hyfforddi i helpu pobl i adnabod yr arwyddion ac i roi gwybod am bryderon. Rhoddwyd yr hyfforddiant i'r cyrff llywodraethu hefyd. Rhoddwyd yr hyfforddiant i ddisgyblion Blwyddyn 8 fel rhan o'r cwricwlwm, a chafodd yr hyfforddiant dderbyniad da gan y disgyblion.

 

Gofynnodd yr Aelodau am dderbyn gwybodaeth am yr hyfforddiant a gynigiwyd i yrwyr tacsis trwyddedig, gan gynnwys manylion ar y nifer a gymerodd ran o'r hyfforddiant a gynigir.  Cadarnhaodd y swyddogion y byddent yn rhannu hyn gydag aelodau.

Gofynnodd Aelod am ragor o wybodaeth ynghylch y duedd o’i chymharu â blynyddoedd blaenorol, ac am i’r wybodaeth yn yr adroddiad ar y categorïau o gamdriniaeth a gofnodwyd ar gyfer Oedolion mewn Perygl gael ei dosbarthu i atgyfeiriadau ward-benodol. Gofynnodd hefyd a oedd unrhyw ardaloedd y dylent fod yn poeni amdanynt. Eglurodd y Rheolwr Diogelu Oedolion ac Ansawdd bod yr ystadegau'n cael eu categoreiddio gan LlC ac edrychwyd ar ystodau oedran a chategorïau o gam-drin. Nid oeddent yn edrych ar wardiau, ond nid oedd dim i atal hynny rhag digwydd os oes angen. 

Gofynnodd yr aelodau am i Ddiogelu aros ar y Flaenraglen Waith ond dywedodd y dylai'r Pwyllgor dderbyn yr holl ddiweddariadau perthnasol wrth iddynt godi. 

Argymhellodd yr Aelodau y dylid cynnal sesiynau hyfforddi pellach ar Gamfanteisio’n Rhywiol ar Blant a Gwrth-gaethwasiaeth gan nad oedd aelodau a etholwyd i’r weinyddiaeth newydd wedi derbyn hyfforddiant yn y maes hwn eto. Roeddent hefyd yn argymell, wrth gaffael contractau newydd megis cludiant ysgol, y dylai'r hyfforddiant diogelu gael ei wneud yn orfodol fel rhan o'r contract.

Croesawodd yr aelodau y gefnogaeth a'r hyfforddiant a gynigir gan Fwrdd Diogelu Plant y Bae Gorllewinol ac argymhellodd y dylid ymestyn yr hyfforddiant i reoli troseddwyr a'i gynnig i sefydliadau fel y gwasanaeth prawf.

Gofynnodd Aelod faint o blant oedd wedi mynd i mewn i'r system gofal ac a roddwyd ar y gofrestr risg a oedd wedi dioddef Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant.

Argymhellion

Nododd yr Aelodau ei bod yn dda gweld ystod o wahoddedigion yn y cyfarfod a diolchodd iddynt i gyd am gymryd yr amser i fynychu ac am eu cyfraniadau i'r adroddiad a'r trafodaethau yn y cyfarfod. Roedd yr Aelodau hefyd yn falch o glywed pa mor llwyddiannus oedd yr Assia Suite, y ddarpariaeth cam-drin domestig a leolwyd yn y swyddfeydd dinesig a ddefnyddiwyd dros y flwyddyn ddiwethaf.

Argymhellodd yr Aelodau y dylid cynnal sesiynau hyfforddi pellach ar Gamfanteisio’n Rhywiol ar Blant a Gwrth-gaethwasiaeth gan nad oedd aelodau a etholwyd i’r weinyddiaeth newydd wedi derbyn hyfforddiant yn y maes hwn eto.

Argymhellodd yr Aelodau wrth gaffael contractau newydd megis cludiant ysgol, y dylai'r hyfforddiant diogelu gael ei wneud yn orfodol fel rhan o'r contract.

Croesawodd yr aelodau y gefnogaeth a'r hyfforddiant a gynigir gan Fwrdd Diogelu Plant y Bae Gorllewinol, ac argymhellodd y dylid ymestyn yr hyfforddiant i reoli troseddwyr a'i gynnig i sefydliadau fel y gwasanaeth prawf.

Rhagor o wybodaeth

Gofynnodd yr Aelodau am gael rhagor o wybodaeth am y trothwy meini prawf ar gyfer Gwasanaethau Amddiffyn Oedolion.

Gofynnodd yr Aelodau am dderbyn gwybodaeth am yr hyfforddiant a gynigiwyd i yrwyr tacsis trwyddedig, gan gynnwys manylion ar y nifer a gymerodd ran o'r hyfforddiant a gynigir. 

Gofynnodd yr Aelodau faint o blant oedd wedi mynd i mewn i'r system gofal ac a roddwyd ar y gofrestr risg a oedd wedi dioddef Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant.

Gofynnodd yr Aelodau am i Ddiogelu aros ar y Flaenraglen Waith ond dywedwyd y dylai'r Pwyllgor dderbyn yr holl ddiweddariadau perthnasol wrth iddynt godi. 

Gofynnodd yr aelodau am i’r wybodaeth yn yr adroddiad ar y categorïau o gamdriniaeth a gofnodwyd ar gyfer Oedolion mewn Perygl gael ei dosbarthu i atgyfeiriadau ward-benodol.  

Gofynnodd yr Aelodau am dderbyn yr adroddiad pan oedd ar gael ar yr Adolygiad Arfer Plant Cryno y mae CBSPO yn ei wneud ar hyn o bryd, fel y nodwyd ym Mharagraff 4.23 yr adroddiad.

Dogfennau ategol: