Agenda item

Monitro’r Gyllideb 2018-19 – Chwarter 1 – Rhagolwg

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro adroddiad a gyflwynodd gan y Prif Weithredwr yn ei habsenoldeb i roi diweddariad i’r Cabinet ar sefyllfa ariannol y Cyngor ar 20 Mehefin 2018.

 

Rhoddodd yr adroddiad wybodaeth gefndirol, ac ar ôl hyn dangosodd ym mharagraff 4.1.1 gyllideb refeniw net ac alldro rhagweledig y Cyngor ar gyfer 2018-19 yn Nhabl 1. Adlewyrchodd hyn fod y Cyngor, ar 30 Mehefin 2018, â thanwariant o £1.298m oedd yn debyg i’r statws mewn perthynas â Chwarter 1 yr adeg hon y llynedd.

 

Manylodd rhan nesaf yr adroddiad ar Newidiadau Technegol/Virements Cyllideb penodol, gydag un o’r ail yn ddyraniad o £3.007m i Gyfarwyddiaethau i fodloni costau'r wobr tâl wedi’i chytuno’n genedlaethol.

 

Yna cadarnhaodd y Prif Weithredwr, o ystyried y gostyngiadau graddfa fawr i gyllidebau yn y Cyngor cyfan yn 2018-19 (42.6% o ostyngiadau cyllideb y Cyngor cyfan) fod risg na allai fod digon o gyllid ar gael o fewn y cyllidebau hyn am unrhyw gynyddiadau chwyddiant pris mawr, yn enwedig gan fod cyfraddau chwyddiant yn parhau i fod yn gymharol uwch na blynyddoedd blaenorol (2.4% oedd CPI ym Mai 2018 o gymharu i 0.5% ym mis Mawrth 2016 a 2.3% ym mis Mawrth 2017) felly bydd angen monitro’r gyllideb yn agosach yn ystod gweddill y flwyddyn.

 

Yna cyfeiriodd at y paragraff o’r enw 'Cynigion Monitro Gostyngiadau Cyllideb' a Gostyngiadau Cyllideb Blynyddoedd Cynt, a Thabl 2 ym mharagraff 4.2.2 yr adroddiad o’r enw Gostyngiadau Cyllideb Blynyddoedd Cyntaf heb eu Cyflawni. Dangosodd hyn, o’r £2.604m o ostyngiadau heb eu cyflawni, ei bod yn debygol y caiff £1.192m ei gyflawni yn 2018-19 gan adael diffyg o £1.412m, gyda sawl cynnig ddim yn cael eu cyflawni o hyd, oedd yn cynnwys Trafnidiaeth i Ddysgwyr ymysg eraill. Roedd diffyg ychwanegol yn ymwneud â Chyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, oedd yn cael ei monitro ar hyn o bryd trwy Gynllun Ariannol.

 

Parhaodd y Prif Weithredwr gyda’r gyflwyniad, gan yna'n cyfeirio at Ostyngiadau Cyllideb ar gyfer 2018-19, ynghyd â chymhariaeth o’r sefyllfa RAG yn erbyn Chwarter 1 yn 2017-18. Ychwanegodd fod y cynigion ar gyfer y gostyngiadau cyllideb mwyaf sylweddol oedd yn annhebygol o gael eu cyflawni'n gysylltiedig â'r Polisi Trafnidiaeth i Ddysgwyr, Gostyngiadau i’r gyllideb ar gyfer Cyfleusterau Cyhoeddus a Gwaredu Gwasanaethau Bws wedi’u Sybsideiddio.

 

Yna amlinellodd grynodeb o’r sefyllfa ariannol ar gyfer pob prif wasanaeth, y mae mwy o fanylion amdano yn Atodiad 3 yr adroddiad, gyda sylwadau ar yr amrywiadau mwyaf sylweddol ar sail Cyfarwyddiaethau unigol, ym mharagraffau 4.3.1 i 4.3.5 yr adroddiad.

 

Yna daeth y Prif Weithredwr â’i gyflwyniad i ben, trwy grynhoi cyllidebau’r Cyngor cyfan a monitro'r Rhaglen Gyfalaf, gydag Atodiad 4 yr adroddiad yn rhoi manylion ar gynlluniau unigol o fewn y Rhaglen Gyfalaf, yn dangos y gyllideb sydd ar gael yn 2018-19 o gymharu â’r gwariant rhagweledig.

 

Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i’r Prif Weithredwr am ei gyflwyniad gan nodi'r pwysau ariannol sy’n cael eu profi yng Ngyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. Gofynnodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Wasanaethau Cymdeithasol sut oedd y rhain yn cael eu rheoli ar hyn o bryd.

 

Ymatebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant trwy ddweud bod y Gyfarwyddiaeth yn cael ei herio'n ariannol gan unigolion gydag Anabledd Dysgu gydag ymddygiad heriol a chymhleth iawn, ac roedd hi a'i phrif swyddogion yn ei Chyfarwyddiaeth yn gwneud adolygiad o bwysau darpariaeth gwasanaeth o ganlyniad i alw uchel yn gysylltiedig â chefnogi pobl â'r cyflwr hwn. Roedd hyn hefyd yn cynnwys adolygu strwythur y Gwasanaeth Dydd ac ailarchwilio pecynnau gofal gwahanol oedd ar gael i gefnogi’r anghenion hyn. Roedd hyn yn cynnwys trafodaethau parhaol gyda’r adran iechyd ar ddarparu pecynnau ar y cyd lle bo’n briodol.

 

O ran Plant sy’n Derbyn Gofal (PDG), roedd hi’n falch o gadarnhau bod llai ohonynt nawr nag adeg hon y llynedd, ac roedd awydd defnyddio Gofalwyr Maeth mewnol yn fwy na rhai annibynnol oedd yn llawer mwy drud.

 

Roedd awdurdodau lleol eraill hefyd yn cael eu meincnodi, er mwyn cael gwybod yr arferion eu bod yn eu mabwysiadu i frwydro treuliau uchel cefnogi unigolion gydag Anableddau Dysgu a PDG yn barhaol.

 

Atgoffodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar yr Aelodau fod yr Adroddiad Blynyddol mewn perthynas â’r Gwasanaethau Cymdeithasol ar yr agenda ar gyfer cyfarfod y Cyngor yfory, a byddai hyn yn amlygu'r heriau sydd i ddod mewn perthynas â’r gwasanaeth, a sut i’w hwynebu yn y ffordd orau. Byddai angen parhau i wneud penderfyniadau anodd, teimlodd, er mwyn cyflawni’r arbedion y byddai angen i’r Gyfarwyddiaeth eu gwneud i symud ymlaen.

 

Adleisiodd yr Arweinydd y datganiad uchod, gan ychwanegu y byddai awdurdodau lleol yn cael llai o gyllid gan Lywodraeth Leol y flwyddyn nesaf, a byddai hyn yn arwain yn anochel at wneud penderfyniadau amhoblogaidd. Canmolodd y gostyngiad mewn Gofalwyr Maeth Annibynnol o 20% yn y flwyddyn ddiwethaf a oedd yn ei dro arbed arian i’r Cyngor. Ychwanegodd fod niferoedd PDG CBSP hefyd yn sefydlogi tra bod y rhai hynny mewn awdurdodau cymdogol yn cynyddu’n gyffredinol. Roedd hefyd yn falch o weld bod Swyddogion yn gweithio’n galed i gadw plant yn ddiogel a lle bo’n bosibl, gyda’u teuluoedd uniongyrchol.

 

O ran y Rhaglen Gyfalaf, roedd yn hapus gyda’r buddsoddiad oedd yn cael ei ymrwymo i Bromenâd y Dwyrain (£400k), gwelliannau i’r Ganolfan Chwaraeon D?r a’r Harbwr (£2.5m), a darpariaeth Llwybrau Diogel i’r Ysgol (bron £1m). Ceisiodd gadarnhad fodd bynnag, fod yr holl ysgolion hyn bellach wedi cael cymeradwyaeth y Cyngor llawn.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod rhai o’r uchod wedi'u cymeradwyo gan y Cyngor ac y byddai eraill yn cael eu cymeradwyo yn y dyfodol agos.

 

PENDERFYNWYD:                  Bod y Cabinet yn nodi'r sefyllfa alldro cyfalaf a refeniw rhagweledig ar gyfer 2018-19.    

Dogfennau ategol: