Agenda item

Strategaeth Ddiwydiannol yn Ffynnu o Ddiwygio Ynni

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr dros Gymunedau adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSP) fod yn rhan o gonsortiwm sydd am baratoi a chyflwyno cynnig i Lywodraeth y DU i fodloni gofynion ei Chronfa Her Strategaeth Ddiwydiannol (ISCF) yn rhan o'r Rhaglen Ffynnu o Ddiwygio Ynni.

 

Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau'r Gymdogaeth, wedi gweld gwybodaeth gefndirol, fod ‘Y Ffynnu o Ddiwygion Ynni’ yn rhan o Strategaeth Twf Glân Llywodraeth y DU, a'i fod yn lasbrint uchelgeisiol ar gyfer lleihau allyriadau carbon, gan ddiogelu’r amgylchedd. Crëwyd yr Her Diwygio Ynni hefyd i fynd i’r afael â llawer o heriau cymdeithasol sy’n gysylltiedig ag ynni, megis y rhai hynny y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 3.1 yr adroddiad.

 

Ychwanegodd fod y system ynni'n newid yn gyflym ar hyn o bryd o ganlyniad i nifer o ffactorau megis y rhai wedi'u nodi ym mharagraff 3.2 yr adroddiad.

 

Ychwanegodd Pennaeth Gwasanaethau’r Gymdogaeth hefyd fod y Llywodraeth yn ymrwymo swm sylweddol o arian i'w fuddsoddi yn arloesi carbon isel, hyd at 2021. Byddai 10% o hyn yn cael ei ddyrannu i ddatblygu systemau clyfar wedi'u dylunio i ddarparu ynni rhad a glân yn y sectorau trafnidiaeth, p?er a gwres. Dangoswyd dadansoddiad o arian y llywodraeth ar gyfer arloesi carbon isel ym mharagraff 3.3 yr adroddiad.

 

Dyluniwyd y Rhaglen Ffynnu o Ddiwygio Ynni i gael ei harwain gan fusnesau, i gael ei darparu trwy gonsortiwm uchelgeisiol ac arloesol, a fyddai'n cynnwys y canlynol:-

 

·         Datblygwyr Project;

·         Arbenigwyr TGCh;

·         Datblygwyr Technoleg;

·         Awdurdodau Lleol;

·         Cwmnïau Sector Ynni;

·         Sefydliadau Ymchwil, a

·         Ymgynghorwyr Aml-ddisgyblaethol

 

Esboniodd Pennaeth Gwasanaethau’r Gymdogaeth y caiff y Cynnig ei arwain gan Cenin Renewables, cwmni yn safle Parc Stormy.

 

Byddai Prif Gynllun Digidol yn nodi sut y bydd technoleg digidol yn datblygu atebion integredig ar gyfer datgarboneiddio gwres, p?er a thrafnidiaeth, a fydd yn creu buddion ym mhob rhan o’r system ynni gyfan.

 

Roedd y cynnig ar gyfer yr ISCF yn amodol ar gyfrinachedd masnachol o ganlyniad i rôl y sector preifat o fewn y cynnig, gyda’r bwriad y gallai’r safle Cenin Renewables ger Porthcawl ddefnyddio’i allu cynhyrchu p?er i ddod yn hyb wedi’i ddatgarboneiddio.

 

Esboniodd Pennaeth Gwasanaeth y Gymdogaeth ymhellach fod trafodaethau hefyd wedi’u cynnal ar lefel Bargen Ddinesig, lle y gellir creu cyfleoedd cadwyn cyflenwi a dysgu ar gyfer y rhanbarth. Yn benodol, pe gellir cynnwys arian y Fargen Ddinesig yn y cynllun ar ryw adeg yn y dyfodol.

 

Daeth Pennaeth Gwasanaethau’r Gymdogaeth ei gyflwyniad o’r diwedd, gan amlinellu goblygiadau ariannol yr adroddiad.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau ei fod yn hapus iawn gyda chynigion yr adroddiad a bod CBSP yn rhan o’r project ardderchog hwn.

 

Byddai £120m o arian ar gael rhwng y 3 awdurdod sy’n cymryd rhan, hy Pen-y-bont ar Ogwr, Manceinion a Newcastle. Byddai CBSP felly’n gwneud cais priodol am £40m yn rhan o’r project, oedd yn swm o’r arian heb ei debyg o’r blaen yn rhan o’r consortia.

 

Byddai bod yn rhan o’r Rhaglen Ffynnu o Ddiwygio Ynni yn gwella ymhellach enw da Pen-y-bont ar Ogwr sy’n tyfu fel lle cadarnhaol a rhagweithiol a grym mawr yn y DU pan ddaw hi’n fater o ddarparu dulliau ynni eraill gwell dan ei Gynllun Strategol Ynni, fyddai'n weithredol hyd at 2050.

 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, ychwanegodd, oedd 28 Gorffennaf 2018.

 

Cynigiodd yr adroddiad (a gafodd ei eilio a’i basio’n unfrydol) fel project blaenllaw a fyddai’n golygu y byddai Pen-y-bont ar Ogwr yn un o’r ychydig o ardaloedd elit yn y wlad sy’n darparu systemau ynni gwell yn y dyfodol.

 

Roedd yn falch o hyn, a diolchodd i’r tîm sy’n cefnogi’r project yn CBSP, gan fod hon yn adran fach iawn sy’n cyflawni projectau eang a gwych.

 

Adleisiodd yr Arweinydd hyn ac ychwanegodd fod y Rhaglen gyfan yn aruthrol ac y byddai’n sicrhau bod Pen-y-bont ar Ogwr i’w gweld yn glir ar y map fel un o’r 3 lleoliad yn unig yn y DU cyfan a fyddai’n cael ei gynnwys yn y gwaith o ddatblygu'r rhaglen fawreddog hon, gyda’r holl arian am hyn yn dod o ffynhonnell allanol yn hytrach na ffynhonnell fewnol. 

 

PENDERFYNWYD:                  Bod y Cabinet yn rhoi cymeradwyaeth i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gymryd rhan yn y cynnig IDCF Ffynnu o Ddiwygio Ynni.

Dogfennau ategol: