Agenda item

Adroddiad Diweddaru - Gwasanaethau Gofalwyr ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cofnodion:

Rhoddodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a’r Swyddog Datblygu Gofalwyr ddiweddariad ynghylch y datblygiadau o fewn y gwasanaethau i ofalwyr (gan gynnwys gofalwyr ifanc) yn y Fwrdeistref Sirol.

 

Esboniodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod 17,919 o ofalwyr i’w cael yn ôl Cyfrifiad 2011. Fodd bynnag, dim ond rhwng 2,000 a 3,000 y gwyddai’r gwasanaethau amdanynt. Golyga hyn bod o leiaf 15,919 o ofalwyr na wyddai neb amdanynt yn y Fwrdeistref Sirol. Esboniodd y cynhaliwyd digwyddiad creu gweledigaeth ym Mhen-y-bont ym mis Medi 2017 ar gyfer rhanddeiliad. Roedd hwn yn gyfle i ofalwyr, cynrychiolwyr o’r awdurdod lleol a darparwyr ddod at ei gilydd i ystyried y modd yr oedd gwasanaethau yn cael eu darparu a sut y dymunent i’r gwasanaethau hynny fod yn y dyfodol. Rhestrai’r adroddiad brif ganfyddiadau’r dydd. Esboniodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion y cynhaliwyd tri gweithdy ffocws yn sgil ymarfer mapio ymhlith rhanddeiliaid. Nod y gweithdai oedd helpu i gyd-gynhyrchu model gwasanaethau i ofalwyr. Ategodd fod targedu pobl benodol yn sicrhau cynrychiolaeth dda o blith pobl broffesiynol ym maes gwaith cymdeithasol, darparwyr gofal, sefydliadau trydydd sector a gofalwyr sy’n gweithio’n ddi-dâl. Esboniodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod cynlluniau ar droed i brynu “Gwasanaeth Lles i Ofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr” a fyddai’n darparu rhagor o Asesiadau Gofalwyr ac yn sicrhau mynediad at wybodaeth, cyngor a chymorth. Roedd gwaith sylweddol hefyd ar droed i sefydlu fframwaith seibiannau byrion hyblyg i ofalwyr.  

 

Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar at Fforwm Gofalwyr y bu’n bresennol ynddo’n ddiweddar, lle ystyriwyd ffyrdd o ddod i wybod am y gofalwyr hynny nad oedd oeddent yn hysbys i’r awdurdod. Roedd y negeseuon cychwynnol yn gadarnhaol iawn ac anogwyd yr Aelodau i roi gwybod i bobl am y gwasanaethau sydd ar gael.       

 

Holodd Aelod a fyddai’r un gefnogaeth ar gael ar ôl trosglwyddo i Gwm Taf. Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion fod y Cyngor wrthi’n creu cysylltiadau â Chwm Taf a chydag awdurdodau lleol eraill o ran y gefnogaeth fydd ar gael yn y dyfodol.

 

Dywedodd Aelod ei fod yn hapus iawn bod gofal seibiant yn cael sylw. Yn ôl arolwg diweddar o ofalwyr, nid oedd 62% ohonynt wedi cael diwrnod o seibiant ers blynyddoedd. Y prif faen tramgwydd yn hyn o beth oedd bod pobl yn ei chael hi’n anodd ymddiried yn rhywun ac ildio’r awenau. Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion y g?yr y Cyngor fod anghenion seibiant yn amrywio o un awr i wythnos gyfan. Dywedodd fod datrysiadau amrywiol i’w cael, e.e. cynnig pecynnau gwahanol i gyplau a theuluoedd ac ategodd na fyddai un datrysiad yn addas i bawb. 

 

Gofynnodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar a ofynnwyd i ofalwyr am eu sylwadau yngl?n â gofal seibiant. Esboniodd y Swyddog Datblygu Gofalwyr fod ymdrechion yn cael eu gwneud yn rheolaidd i ymgysylltu â gofalwyr a dywedodd y byddai’n bresennol yng nghyfarfod nesaf Fforwm Gofalwyr Pen-y-bont i ofyn beth oedd yn gweithio a beth nad oedd yn gweithio. Roedd gofalwyr yn ei chael hi’n anodd trosglwyddo gofal i rywun arall a’r cyfan y gallent ei wneud ar y cychwyn oedd esbonio’r opsiynau. Wedi iddynt roi cynnig arni am y tro cyntaf, byddent fel arfer yn fodlon â phethau.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau at y cynllun basbort sydd wedi bod yn rhedeg ers rhai blynyddoedd bellach a gofynnodd sawl cerdyn a gyflwynwyd i ofalwyr ifanc ers lansio’r cynllun. Dywedodd y Swyddog Datblygu Gofalwyr fod 15 cerdyn wedi’u rhoi a bod hyfforddiant a oedd yn ymwneud yn benodol â’r mater hwn wedi’i ddarparu mewn ysgolion. Rhoddodd Llywodraeth Cymru beth cyllid i Ymddiriedolwyr y Gofalwyr i gyflwyno’r cynllun cardiau ar draws Cymru.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Les a Chenedlaethau’r Dyfodol i’r Swyddogion am eu gwaith caled, yn arbennig felly gyda gofalwyr ifanc.

 

PENDERFYNWYD:  Nodi’r adroddiad.

 

Dogfennau ategol: