I gael cyflwyniad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles
Cofnodion:
Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2017/18 a gofynnodd i’r Cyngor nodi’r penderfyniadau wedi’u gwneud yn lleol am y gwasanaeth gofal cymdeithasol ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Dywedodd mai nawfed Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol yw hwn ac mae'n seiliedig ar hunanasesiad yr awdurdod o berfformiad a darpariaeth gwasanaethau gofal cymdeithasol.
Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant wrth y Cyngor, o fis Hydref 2016, fod Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi newid y ffordd y mae’n archwilio gwasanaethau cymdeithasol i blant ac oedolion ac mae awdurdodau’n cael eu harchwilio trwy ddefnyddio canlyniadau llesiant y Ddeddf.
Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant grynodeb o berfformiad ym maes Gofal Cymdeithasol i Oedolion lle y cafodd 5177 o oedolion eu cefnogi yn y gymuned; roedd nifer y bobl a dderbyniodd becyn Teleofal wedi cynyddu o 2921 yn y flwyddyn flaenorol i 3162 yn y flwyddyn gyfredol. Roedd y galw am wasanaethau ym maes Gofal Cymdeithasol i Oedolion wedi lleihau ychydig yn 2017/18 gyda 7604 o atgyfeiriadau’n cael eu derbyn o gymharu â 7623 o atgyfeiriadau a dderbyniodd yn 2016/17. Roedd nifer y bobl a gefnogwyd yng ngofal preswyl / nyrsio wedi lleihau o 1493 i 986. Roedd nifer y bobl wedi’u gwyro o wasanaethau prif lif i'w helpu i aros yn annibynnol cyhyd â phosibl wedi lleihau 167 yn y flwyddyn flaenorol i 116 yn y flwyddyn gyfredol, yn ogystal â 857 o bobl yn mynd i’r clinig galw heibio yn ARC.
Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant grynodeb o berfformiad ym maes Gofal Cymdeithasol i Blant, lle roedd 6677 o gysylltiadau newydd wedi'u derbyn yn ystod y flwyddyn. Roedd nifer y plant ar y gofrestr diogel plant wedi lleihau yn y flwyddyn flaenorol i 169 yn y flwyddyn gyfredol. Roedd nifer y plant sy’n derbyn gofal wedi lleihau o 98 yn y flwyddyn flaenorol i 70 yn y flwyddyn gyfredol ac roedd nifer y gofalwyr yn derbyn cymorth gan yr awdurdod lleol a’i bartneriaid ar 31 Mawrth wedi lleihau o 131 i 116.
Amlygodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y prif gamau gweithredu ar gyfer 2018/19.
Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant wrth y Cyngor fod yr awdurdod wedi comisiynu ffilm fer trwy bartneriaeth Bae’r Gorllewin o brofiadau staff a defnyddwyr gwasanaeth y gwnaeth yr Aelodau ei gwylio wedyn.
Holodd aelod o’r Cyngor beth oedd effaith negyddol y Cyngor yn arbed £12m ym maes gofal cymdeithasol. Sylwodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant nad yw ochr negyddol yr arbedion wedi’u gwneud wedi’u gweld eto gan fod y Gyfarwyddiaeth wedi moderneiddio a thrawsnewid y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu trwy alluogi pobl i aros yn annibynnol. Dywedodd fod datblygu model gofal ychwanegol yn ffordd fwy cost-effeithiol o ddarparu gwasanaethau na gofal preswyl.
Gofynnodd aelod o’r Cyngor a fydd yr alldro ar gyfer y Gyfarwyddiaeth ar y trywydd iawn. Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol wrth y Cyngor fod y cynllun ariannol yn cael ei fonitro’n agos a bod cynnydd da’n cael ei wneud. Adroddir y cynllun ariannol i’r Prif Weithredwr a’r Swyddog Adran 151. Dywedodd y byddai cynnydd yn nifer y plant sy’n dechrau derbyn gofal a chydag anghenion cymhleth yn cael effaith niweidiol ar y gyllideb. Mae gwaith yn cael ei wneud gyda phartneriaid i gael cyllid rhanbarthol er mwyn cael cyllid grant i fuddio’r Fwrdeistref Sirol a’r bwriad oedd y byddai hyn yn parhau gydag ailalinio ffin y bwrdd iechyd. Rhagwelwyd y byddai Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn parhau ar y trywydd iawn.
Cyfeiriodd aelod at y pwysau sy’n wynebu staff gwaith cymdeithasol a gofynnodd am yr hyfforddiant sydd ar waith i gadw staff. Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod y Cyngor wedi’i roi ar restr fer am wobr ofal cymdeithasol am y gwaith hwn o hyfforddi ei staff. Pwysleisiodd y pwysigrwydd o recriwtio a chadw staff a bod nifer y staff asiantaeth wedi lleihau. Dywedodd fod y Tîm fel cyfanwaith wedi ymateb yn dda i’r heriau mae'n ei wynebu.
Dywedodd aelod o’r Cyngor fod galw parhaol o hyd am y gwasanaethau a ddarperir gan y Gyfarwyddiaeth a bod llawer o wasanaethau’n anwadal o’u natur a gofynnodd sut y gellir cynnal gwasanaethau er mwyn bodloni gofynion y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ac mae angen cydnabyddiaeth drawsblaid o hyn. Dywedodd yr Arweinydd fod Cynghorau ledled Cymru’n wynebu gostyngiadau mewn Grantiau Cymorth Refeniw, oedd yn nghynaliadwy ac anogodd yr holl Aelodau i gysylltu ag ASau ynghylch y pwysau ar gyllidebau y mae’r Cyngor yn eu hwynebu. Diolchodd i staff y rheng flaen am orfod gwneud penderfyniadau anodd bob dydd.
Diolchodd yr Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar ar ran y Cabinet i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol, y Penaethiaid Gwasanaeth a’r holl staff yn y Gyfarwyddiaeth am y ffordd mae wedi ymateb i’r heriau ac wedi ailfodelu gwasanaethau.
Dywedodd aelod o'r Cyngor fod angen cydnabod na allai gwasanaethau barhau yn wyneb cyfyngiadau cyllideb ac y byddai angen gwneud dewisiadau anodd.
PENDERFYNWYD Bod y Cyngor yn cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2017/18.
Dogfennau ategol: