Invitees:
Zak Shell, Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth
Andrew Hobbs, Rheolwr Gr?p - Gwaith Stryd
Paul Thomas, PrifSyrfëwr – Eiddo a cyfleusterau rheolaeth
Cllr Richard Young, Aelod Cabinet - Cymunedau
Cofnodion:
Gwnaeth Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth gyflwyno adroddiad yn hysbysu'r pwyllgor ynghylch llygredd yn sgil gwastraff plastig a'r cais am "Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr di-blastig".
Gwnaeth un aelod fynegi ei siom am fod yr adroddiad yn cyflwyno safbwynt negyddol gan roi rhesymau pam na ellid rhoi camau ar waith yn hytrach na'r hyn y gellir ei wneud. Gwnaeth y Cadeirydd gytuno mai'r ymdeimlad cyffredinol a gafwyd gan y pwyllgor oedd mai adroddiad arwynebol oedd hwn. Atebodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth fod hwn yn bwnc cymhleth ac nad oedd wedi bwriadu bod yn negyddol. Roedd yn awyddus i sicrhau y byddai sylw dyledus yn cael ei roi i'r materion a byddai camau gweithredu yn cael eu cymryd at y dibenion cywir. Gwnaeth esbonio bod y cynnig, yn wreiddiol, wedi cael ei gyflwyno i'r Cyngor ond yna cafodd ei dynnu yn ôl er mwyn iddo gael ei ystyried gan Bwyllgor Craffu. Bwriad yr adroddiad oedd ennyn trafodaeth ynghylch defnyddio plastig untro yn hytrach na thybio y byddai'r awdurdod yn symud ymlaen â’r penderfyniad i roi’r gorau i’w defnyddio. Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth esiampl drwy gymharu ysgrifbin untro sy'n cael ei brynu’n eang gan yr awdurdod ar hyn o bryd ac ysgrifbin parker sy'n ail-lanwadwy. Roedd un yn ddrutach o lawer na'r llall, ond nid oedd angen ei daflu. Tynnodd sylw at yr elfen fach hon o wariant cyson, a’r ffaith ei bod yn arwain at achos busnes cymharol gymhleth wrth ystyried cost yn erbyn y budd amgylcheddol a byddai angen ystyried hyn yn ofalus er mwyn i'r Awdurdod wneud y penderfyniad gorau ynghylch pa un i'w brynu. Diben yr adroddiad oedd tynnu sylw at y cymhlethdodau hyn er mwyn osgoi gwneud penderfyniad difeddwl i newid polisi cyn deall y goblygiadau.
Gwnaeth Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth gyfeirio at 'Blue Planet' sef cyfres deledu gan y BBC a oedd yn dangos sut yr oedd plastig yn cael ei ddefnyddio a'i waredu’n anghyfrifol, a fyddai’n amlwg yn peri pryder mawr i unrhyw un sy’n gwylio. Esboniodd y bu datblygiadau sylweddol yn y dull o waredu plastig ar garreg y drws ac wrth gasglu cynhyrchion gwastraff amsugnadwy. Er bod camau gweithredu cadarnhaol wedi’u cymryd eisoes, roedd effaith a diffiniad 'Pen-y-bont ar Ogwr ddi-blastig' yn gymhleth ac nid oedd y buddiannau yn glir. Roedd yn dal i fod lle i wella yn bennaf mewn swyddfeydd lle gellir defnyddio rhywbeth yn lle deunyddiau plastig untro. Gallai'r newidiadau fod yn eang ac effeithio ar bob rhan o'r Awdurdod gan gynnwys cymorth busnes a chaffael. Ychwanegodd, er mwyn gwir ddeall yr effaith lawn byddai angen gwneud astudiaeth bellach i weld faint byddai’n ei gostio i roi terfyn ar hyn, yr effaith y byddai'n ei chael, a beth fyddai'r arbedion yn yr hirdymor. Byddai'n rhaid i'r awdurdod fod yn ymwybodol o'r achos busnes a'r holl faterion ynghlwm ag ef. Esboniodd y byddai'n bosibl newid o fagiau gwastraff bwyd biodiraddiadwy i ddefnyddio bagiau plastig untro a allai gael eu tynnu o'r broses. Mae'n cymryd gormod o amser i'r bagiau biodiraddiadwy bydru yn y broses sydd ohoni ar hyn o bryd. Ychwanegodd fod hwn yn bwnc cymhleth ac y dylid annog ailddefnyddio ble bynnag y bo'n bosibl.
Trafododd aelodau yr angen am farchnad ar gyfer plastig, er mwyn creu galw iddo gael ei ailgylchu, yr angen i fagiau gael eu gwneud o blastig sydd wedi'i ailgylchu, casglu plastig caled ar safleoedd a chyflwyno casgliad polystyren. Trafododd yr aelodau ddarpariaeth ffynhonnau d?r yn adeiladau'r Cyngor.
Cyfeiriodd un aelod at ymgyrch Green Peace "9 ffordd i leihau eich defnydd o blastig" ac awgrymodd fod y Cyngor yn mabwysiadu'r rhain. Gwnaeth hefyd awgrymu bod y Cyngor yn ymgysylltu â "Surfers against Sewage" ac yn hyrwyddo'r cynllun drwy Hyrwyddwr Amgylcheddol yn y Cyngor.
Gwnaeth yr Aelod Cabinet ar gyfer Cymunedau esbonio y byddai'r cynnig gwreiddiol i'r Cyngor wedi gorfodi'r awdurdod i weithredu mewn modd penodol er nad oedd y cynigion wedi'u hariannu na'u trafod. Drwy weithio gyda’r Pwyllgor Craffu gallent edrych ar yr hyn sydd ar gael eisoes, yr hyn y gellid ei wneud a dod o hyd i ffordd strategol ymlaen. Roedd yn siomedig ynghylch y sylwadau negyddol am yr adroddiad a phwysleisiodd ei bod yn bwysig deall yr hyn oedd yn cael ei wneud, yr hyn y gellid ei wneud a chynllunio ffordd strategol ymlaen. Ar hyn o bryd, nid oedd unrhyw gyllideb ar gyfer y gwaith hwn ac nid oedd yn flaenoriaeth tan nawr.
Trafododd yr aelodau y broses o ailgylchu plastig du mewn canolfannau ailgylchu cymunedol ac fe'u hysbyswyd er nad oedd hyn yn cael ei gynnig ar garreg y drws, ei bod yn bosibl i breswylwyr ailgylchu eu plastig yn y canolfannau ailgylchu cymunedol.
Gwnaeth yr aelodau hefyd gwestiynu a oedd y sachau glas a ddefnyddir ar garreg y drws i breswylwyr waredu eu gwastraff cyffredinol wedi'u gwneud o blastig sydd wedi'i ailgylchu ac os felly, dylid ei nodi ar y bagiau. Gwnaeth Pennaeth y Gwasanaethau Stryd gadarnhau y byddai'n ymchwilio i’r mater ac yn adrodd yn ôl i'r aelodau.
Gofynnodd un aelod a fyddai eitemau glanweithiol yn gallu cael eu casglu yn hytrach na'u hanfon at safleoedd tirlenwi neu eu llosgi. Dywedwyd wrtho y gallai hyn gael goblygiadau sylweddol ar yr holl gasgliadau ac y gallai fod cost sylweddol ynghlwm wrth hyn na allai gael ei chyfiawnhau gan y lleihad mewn tunelli. Ychwanegodd fod angen cadw llygad ar y gyllideb hefyd, yn ogystal ag edrych ar yr effaith amgylcheddol o ddarparu dulliau ailgylchu amgen. Awgrymodd, pe bai aelodau yn dymuno i'r opsiwn hwn dderbyn sylw, y bydd angen cynnal ymarfer costio.
Gofynnodd aelodau pam y bu oedi ynghylch caffael cwmni allanol i ymgymryd â gwaith gorfodi yn erbyn gollwng sbwriel ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Esboniodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth mai'r bwriad oedd ei weithredu’n gynharach ond ei bod wedi cymryd cryn dipyn o amser i drefnu a diweddaru dogfennau am fod cyfyngiadau ar amser swyddogion. Ychwanegodd y bydd hyn yn cael ei roi ar waith yn fuan.
Trafododd aelodau fagiau am oes, eco arwyr ar gyfer ysgolion, y defnydd o gyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo dulliau gwastraff ac ailgylchu Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a’r hyn y gellir ei ailgylchu ar garreg y drws ac mewn canolfannau ailgylchu cymunedol.
Gwnaeth yr aelodau hefyd awgrymu bod yr Awdurdod yn archwilio opsiwn peiriannau gwerthu o chwith, lle rydych yn rhoi eitem blastig i mewn a bod system wobrwyo ar sail pwyntiau ar waith.
Esboniodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth mai un o'r problemau gyda biniau ailgylchu canol y dref oedd lefel yr halogi. Ychwanegodd y byddai'n hoffi gweld treialon yn cael eu cynnal mewn ardaloedd a fyddai'n cael eu dewis yn bwrpasol. Roedd yr aelodau yn cytuno â hyn.
Nododd un aelod y mater ynghylch offer untro ac arlwyo. Roedd yn credu y dylai safleoedd bwyd gael eu hannog i helpu i leihau'r gwastraff sy'n cael ei adael mewn meysydd parcio ac ati. Dywedodd hefyd y dylai archfarchnadoedd gael eu hannog i leihau swmp y pecynnau sydd ar nwyddau.
Trafododd yr aelodau'r trefniadau ynghylch ailgylchu yn adeiladau'r cyngor a'r Cynulliad Cenedlaethol lle mae biniau ailgylchu ym mhob ystafell. Gwnaethant gytuno yn ogystal ag annog preswylwyr i ailgylchu, y dylai swyddogion arwain drwy esiampl ac ailgylchu gymaint â phosibl.
Argymhellion
Gwybodaeth bellach
Gwybodaeth bellachar gyfer yr adroddiad gwastraff
Dogfennau ategol: