Agenda item

Bargen Ddinesig

Gwahoddedigion

 

Cynghorydd HJ David - Arweinydd

Cynghorydd HM Williams – Dirprwy Arweinydd

Darren Mepham, Prif Weithredwr

Gill Lewis, Pennaeth Cyllid Dros Dro

Cynghorydd Andrew Morgan, Cadeirydd Bargen Ddinesig Rhanbarth Prifddinas Caerdydd

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a oedd yn amlinellu agweddau ar Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, yn benodol o ran gwybodaeth am y canlynol:

 

·         Trosolwg o'r Fargen Ddinesig a’r hyn y byddai Pen-y-bont ar Ogwr yn ei ennill o ganlyniad iddi ?

·         Beth sy'n dod i Ben-y-bont ar Ogwr o ganlyniad i'r Fargen Ddinesig ? (beth ydym ni'n ei gael fel canran o'r mewnbwn ariannol ?)

·         A oes cynllun busnes y gall aelodau ei weld ?

·         Pa brosiectau sydd wedi cael eu nodi hyd yn hyn ?

 

Wedyn, rhoddodd gyflwyniad i’r adroddiad, a chafwyd sesiwn holi ac ateb gyda'r aelodau a'r gwahoddedigion yn dilyn hyn.

 

Cyfeiriodd aelod at baragraffau 3.5 a 3.6 o'r adroddiad, gan nodi bod llawer o rannau gwahanol yn gysylltiedig â'r prosiect, a oedd yn cynnwys y posibilrwydd o ddeg gweledigaeth wahanol (o'r sefydliadau gwahanol sy'n ymwneud â'r cynllun) a fyddai’n cael eu harwain gan ddeg Prif Weithredwr gwahanol. Roedd yn meddwl oherwydd hyn a fyddai'r weledigaeth yn cael ei cholli o ran symud ymlaen â mentrau allweddol.

 

Dywedodd yr Arweinydd mai ond un weledigaeth oedd mewn perthynas â dyheadau Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, h.y. yr un a oedd yn y Cynllun Busnes a oedd yn cefnogi'r cynllun. Cefnogwyd y weledigaeth hon yn unfrydol gan yr awdurdodau a oedd yn ymwneud â'r Fargen Ddinesig, a oedd yn brosiect hirdymor dros 20 o flynyddoedd a oedd wedi'i lofnodi gan bob un o'r deg sefydliad a oedd yn cymryd rhan gyda llywodraethau'r DU a Chymru. Cefnogwyd y Fargen Ddinesig gan £375 miliwn, a byddai'n darparu cyflogaeth, cyfleoedd adfywio a gwell cysylltiadau trafnidiaeth drwyddi draw'r rhanbarth a gwmpesir gan y prosiect.

 

Gofynnodd aelod faint oedd y costau a oedd wedi cael eu hysgwyddo, e.e. am weinyddiaeth a chomisiynu ac ati, o ganlyniad i gefnogi'r Fargen Ddinesig.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod rhai gofynion cymorth a roddwyd ar waith mewn perthynas â'r uchod yn orfodol, a bod y rhain yn ymwneud yn bennaf â materion llywodraethu. Er enghraifft, byddai ond un ffynhonnell un craffu ar y cynllun, yn hytrach na phob awdurdod sydd yn cymryd rhan yn craffu ar wahân drwy ddeg dull gwahanol. Dywedodd fod tîm prosiect wedi cael ei roi ar waith hefyd i gefnogi Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. O'u cymharu â Bargeniau Dinesig eraill sy'n gweithredu drwy'r DU, ychwanegodd y Prif Weithredwr ymhellach, roedd mecanweithiau cefnogi megis tîm y prosiect yn 'ddarbodus'. Esboniodd fod angen i Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd gael ei harchwilio hefyd, a byddai hynny'n gost ychwanegol. Dywedodd wrth yr aelod y gallai roi amcangyfrif o gyfanswm y gost ar gyfer materion fel yr uchod yn dilyn y cyfarfod.

 

Ychwanegodd Cadeirydd Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd y byddai'r gost ar gyfer yr uchod a rhai elfennau gorfodol eraill o'r Fargen Ddinesig yn dod i gost a rennir o £1 miliwn rhwng pob un o'r awdurdodau sydd yn cymryd rhan.

 

Gofynnodd un aelod, o ran y gost £1 miliwn o ran y cymorth a'r gwaith monitro mewn perthynas â Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a oedd hyn yn cynnwys cost y prosiect a oedd yn cael ei archwilio, a dywedodd yr Arweinydd fod hyn yn wir.

 

Gofynnodd un aelod a oedd Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cael ei chefnogi gan gyflogeion/staff y sector preifat neu gyhoeddus.

 

Cadarnhaodd Cadeirydd Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ei bod yn cael ei chefnogi gan y gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys cyflogeion o'r awdurdodau sydd yn cymryd rhan ar gyfer yr unig brosiect sy'n weithredol hyd yn hyn, sef y prosiect lled-ddargludyddion yng Nghasnewydd. Ond fel y crybwyllwyd uchod, roedd yn rhaid i gyrff allanol megis KPMG ac asiantaethau allweddol eraill fod yn allanol at ddibenion monitro, archwilio, diwydrwydd dyladwy ac ati.

 

Gofynnodd un aelod beth oedd y sail resymegol y tu ôl i gyflwyno'r prosiect lled-ddargludyddion yn ardal Casnewydd.

 

Dywedodd Cadeirydd Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd fod y rhesymau am hyn o ganlyniad i'r ffaith fod y ffatri LG a oedd yno o maint addas ar gyfer y prosiect lled-ddargludyddion (felly ni fyddai costau i'w talu i adeiladu safle newydd), a bod digon o dir o amgylch y ffatri i leoli unrhyw ddatblygiad yn y dyfodol yno fel estyniad o'r safle presennol. Roedd y datblygiad hwn hefyd yn cefnogi dulliau technoleg effeithiol, ac o ystyried yr ardal sylweddol o'i amgylch, byddai hyn yn helpu economi'r ardal, gan gynnwys creu swyddi.

 

Gofynnodd un aelod beth oedd y broses a ddilynwyd o ran nodi prosiectau sy'n rhan o Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a'u cymeradwyo yn dilyn hyn.

 

Cadarnhaodd Cadeirydd Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd y byddai'r holl brosiectau a gyflwynir, megis y rheini gan gwmnïau busnes preifat, prifysgolion neu'r awdurdodau lleol sy'n rhan o Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, yn cyflwyno cynigion priodol a fyddai'n cael eu hystyried ar yr amod eu bod yn bodloni'r holl feini prawf angenrheidiol fel yr amlinellir yn y Cynllun Busnes. Byddai gweithgorau swyddogion wedyn yn dadansoddi pob un o'r prosiectau i weld a oeddent yn haeddu ystyriaeth bellach ac a oeddent yn cynnig gwerth am arian. Wedyn byddai rhai argymhellion yn cael eu rhoi i aelodau allweddol o bob un o'r awdurdodau sy’n cynnal y prosiect ac, yn dilyn y rhain, byddant yn penderfynu a ddylid rhoi ystyriaeth gref i unrhyw brosiect a gyflwynwyd. Roedd cyfanswm o 25,000 o swyddi newydd yn cael eu targedu yn rhan o Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd fod proses grymus iawn ar waith o ran prosiectau a awgrymir ar gyfer Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, ac fel yr oedd y Cadeirydd newydd gadarnhau, roedd meini prawf penodol yr oedd yn rhaid eu bodloni cyn y gellir rhoi ystyriaeth gref i'r rhain. Roedd angen i brosiectau o'r fath sicrhau cyfleoedd am gyflogaeth a denu buddsoddiad i'r sector preifat os oeddent am lwyddo fel rhan o Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Ychwanegodd fod croeso i brosiectau mewn ardaloedd heblaw am brifddinas Cymru, ac, ar ben hynny, i brosiectau trawsardal i ryw raddau neu'i gilydd.

 

Gofynnodd y Cadeirydd a oedd penderfyniad wedi'i wneud yngl?n ag unrhyw brosiectau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr hyd yn hyn.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod rhai prosiectau yn cael eu hystyried ond bod y rhain yn destun trafodaeth barhaus ar hyn o bryd.

 

Gofynnodd un aelod i'r gwahoddedigion pwy oedd yn eistedd ar Fwrdd Prosiect Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod hyn yn cynnwys arweinydd etholedig pob un o'r awdurdodau/sefydliadau sydd yn cymryd rhan, a nhw oedd yn penderfynu yn y pen draw, a byddai’r Prif Weithredwr neu swyddogion arweiniol y cyrff hyn hefyd yn bresennol er mwyn rhoi cyngor ac arbenigedd priodol.

 

Gofynnodd Aelod a oedd unrhyw rwystrau o ran pwy fyddai'n gallu argymell prosiectau i'w hystyried fel rhan o Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

 

Dywedodd yr Arweinydd nad oedd unrhyw rwystrau o ran ffynhonnell prosiectau argymelledig, gan ychwanegu bod y prosiect lled-ddargludyddion yn deillio o'r sector preifat ac a gafodd ei asesu a’i glirio’n llwyddiannus drwy Gynllun Busnes Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

 

Roedd un aelod yn gobeithio y gallai'r cynnig am wasanaethau parcio a theithio yn ardal Bracla fod yn rhan o gynllun sy'n cwmpasu ardal ehangach o dan Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Cyfeiriodd hefyd at baragraff 4.7 o'r adroddiad ac Adolygiad Gateway bob pum mlynedd a oedd i fod i ddigwydd yn 2021, a gofynnodd a fyddai hyn yn arwain at ragor o arian ar gyfer y prosiect.

 

Dywedodd Cadeirydd Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd y byddai hyn yn cael ei fonitro yn ystod blwyddyn 10 a 15 o'r prosiect, ac y byddai'n cael ei fesur hefyd yn erbyn fformiwla dangosyddion economaidd y gwerth ychwanegol gros. Ychwanegodd fod y sefyllfa o ran yr Adolygiad Gateway yn mynd rhagddi'n foddhaol.

 

Dywedodd aelod fod ganddi bryderon o ran problemau tagfeydd ar yr M4 o fewn cyffiniau agos Casnewydd. Gofynnodd a fyddai modd roi sylw i hyn o dan Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd fel rhan o unrhyw brosiect arfaethedig.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod hyn yn bosibl, ond roedd yn rhywbeth y dylai'r darparwyr trafnidiaeth gwahanol a Llywodraeth Cymru roi sylw iddo'n ddieithriad, yn enwedig am fod hyn yn fater sydd eisoes yn bodoli a oedd wedi bod yn broblemus ers cryn amser.

 

Gofynnodd aelod am sicrwydd y byddai unrhyw gontractau a luniwyd ar gyfer staff fel rhan o Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn addas ar gyfer cyflogeion newydd, gan gydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru a chynnwys telerau ac amodau addas sy'n debyg i delerau ac amodau eraill staff llywodraeth lleol a'r Gwasanaeth Sifil.

 

Rhoddwyd sicrwydd i'r aelod gan Gadeirydd Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd mai hynny a ddigwyddai, ac y byddai telerau ac amodau cyflogi staff yn cydymffurfio â'r rheolau caffael moesegol priodol.

 

Dywedodd aelod yr oedd yn gobeithio y byddai rhai o'r prosiectau a glustnodwyd yn rhan o Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cynnwys ardaloedd yn y cymoedd, megis y tri a leolir ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Cadarnhaodd Cadeirydd Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd y byddai’r Fargen Ddinesig yn edrych i ddatblygu swyddi yn holl ardaloedd y cymoedd ledled y rhanbarth, ac y byddai'r canolfannau a oedd wedi cael eu datblygu mewn rhai lleoliadau yn y cymoedd hyd yma drwy arian gan Lywodraeth Cymru yn gobeithio cael eu hehangu ymhellach nid yn unig yn yr ardaloedd mwy difreintiedig, ond hefyd yn ardaloedd gwledig a threfi hefyd.

 

Cyfeiriodd un aelod at dudalen 38 o'r adroddiad, a rhai cynigion ar gyfer Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd dros y pum mlynedd nesaf o ran y Gronfa Buddsoddi mewn Tai. Ynghyd â hyn, tynnodd sylw'r aelodau hefyd at dudalen 59 o'r adroddiad, sef y Gronfa Tai Ranbarthol ac ardaloedd lle y nodwyd twf o ran tai yn ardaloedd y cymoedd, ynghyd â ffigyrau rhagamcanol mewn perthynas â thai. Dywedodd fod yn well gan ddatblygwyr safleoedd datblygu tai mewn ardaloedd yn hytrach na'r cymoedd, o ganlyniad i'r ffaith fod gwerth tir yn uwch mewn lleoliadau mwy gwledig neu mewn trefi. Gofynnodd a fyddai hyn yn annog datblygwyr i beidio ag adeiladu datblygiadau tai newydd yn y cymoedd.

 

Cadarnhaodd Cadeirydd Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd fod Gweithgor y Fargen Ddinesig yn gwneud ymdrech i annog datblygwyr safle i adeiladu tai newydd ym mhob ardal ledled y rhanbarth lle roedd yn addas i wneud hyn, gan gynnwys ardaloedd y cymoedd. Roedd cronfa ar gael i gynorthwyo datblygwyr sy'n adeiladu ar dir lle roedd rhyw fath o broblem yno, e.e. tir ansefydlog, ymysg eraill.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd fod galw am ddarpariaeth tai yn y cymoedd a bod safleoedd yno a oedd yn addas ar gyfer datblygiadau newydd yn ardaloedd o'r fath. Ychwanegodd hefyd y gellid ystyried ffyrdd i annog datblygwyr safle llai i adeiladu yn y lleoliadau hyn, ac nid yn unig datblygwyr mawr megis Barratt a Wimpey ac ati.       

 

Cyfeiriodd aelod at Flaenoriaeth 7 y Cynllun Busnes, Gwella Cysylltedd yn Fyd-eang, yn Rhanbarthol ac yn Lleol, a nododd o'r naratif ar hyn nad oedd unrhyw sôn am weithiau yr oedd angen brys amdanynt ar Groesfan Rheilffordd Pencoed.

 

Cadarnhaodd Cadeirydd Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd fod Network Rail yn gwbl gyfrifol am unrhyw waith a wneir yn y lleoliad hwn, er bod trafodaethau parhaus mewn perthynas â gwaith yn y lleoliad hwn rhyngddynt hwy, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, fel y soniwyd amdano'n gynharach yn y cyfarfod. Pe bai gwaith o'r fath yn cael ei gwblhau, gan gynnwys hyd at y bont, byddai hyn wedyn yn caniatáu i drenau redeg yn fwy aml nag ar hyn o bryd, yn enwedig trenau gwennol o Faesteg i Gaerdydd.

 

Gan fod hyn yn dod i ben â'r trafod ar yr eitem hon, diolchodd y Cadeirydd i'r gwahoddedigion am fynychu a rhoi eu cyfraniadau, a gadawodd Cadeirydd Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd y cyfarfod yn dilyn hyn.

 

Casgliadau:

 

Mae'r Pwyllgor yn deall bod Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn broses gynyddol ond mae aelodau yn pryderu ers i'r deg awdurdod lleol lofnodi'r gronfa buddsoddi ranbarthol yn 2016 mai un prosiect yn unig sydd wedi manteisio ar y bartneriaeth.

 

Tynnodd y Pwyllgor sylw at y ffaith fod diffyg gwybodaeth leol yn yr adroddiad eglurhaol a'r cynllun busnes a gwnaethant argymell y dylid paratoi adroddiad ar gyfer aelodau yn y dyfodol i gynnig manylion o ran sut y bydd pob prosiect yn fuddiol i Ben-y-bont ar Ogwr yn benodol yn ogystal ag i weddill y rhanbarth.  Mae'r Pwyllgor wedi gofyn hefyd i'r adroddiad gynnwys y costau gweinyddol hyd yn hyn.

Gwybodaeth ychwanegol

Mae'r Pwyllgor wedi gofyn i dderbyn gwybodaeth am sut y gall dinasyddion a busnesau lleol gynnig syniadau a manylion ar gyfer cynigion buddsoddi rhanbarthol posibl.

 

Mae aelodau hefyd wedi gofyn am fanylion o ran pa brosiectau a gynigiwyd hyd yn hyn ac o ba ardal yn y rhanbarth ddaw'r rhain.

Dogfennau ategol: