Agenda item

Perfformiad Ariannol 2017–18

Gwahoddedigion

 

HollAelodau’r Cabinet a Bwrdd Rheoli Corfforaethol

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro adroddiad gyda’r diben o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor o ran perfformiad ariannol y cyngor ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2018.

 

Tynnodd y Prif Weithredwr sylw'r aelodau at gyllideb refeniw net y cyngor a'r alldro terfynol ar gyfer 2017–18 fel y nodwyd yn Nhabl 1 o'r adroddiad, a oedd yn adlewyrchu'r gymhariaeth rhwng y gyllideb â'r alldro gwirioneddol ar y dyddiad uchod.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys ym mharagraff 4.1.6 yn Nhabl 2 rhai trosglwyddiadau arian ac addasiadau technegol a broseswyd yn ystod Chwarter 4.

 

Roedd adran nesaf yr adroddiad yn ymhelaethu ynghylch monitro'r Cynigion i Leihau'r Gyllideb, ac yn cynnwys nodyn esboniadol o ran lleihau'r gyllideb yn 2017–18 a chymhariaeth o'r un fath ar gyfer y cyfnod blaenorol yn 2016–17.

 

Yna roedd paragraff 4.2.4 o'r adroddiad yn nodi'r cynigion mwyaf sylweddol ar gyfer lleihau’r gyllideb nad oeddent wedi cael eu cyflawni yn rhan o statws COG, h.y. coch, oren, gwyrdd.

 

Roedd Atodiad 2 yr adroddiad yn nodi maint gwirioneddol yr arbedion yn erbyn y cynigion a grybwyllwyd uchod, a'r camau i'w cymryd gan y gyfarwyddiaethau priodol i leihau diffygion wrth symud ymlaen. Byddai'r arbedion a nodwyd na chawsant eu bodloni'n llawn yn parhau i gael eu monitro yn ystod 2018–19. Roedd Cyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant wedi datblygu Cynllun Cyflenwi Gwasanaeth yn y Dyfodol a gyflwynwyd i'r Pwyllgor yn flaenorol, ac roedd hyn yn amlinellu ymateb y gyfarwyddiaeth i'r her ariannol a oedd yn ei hwynebu, yn enwedig wrth amlinellu'r camau a gynlluniwyd i'w cymryd er mwyn sicrhau'r arbedion ar gyfer y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ac uchafu'r cyfleoedd incwm erbyn mis Mawrth 2019. Byddai hyn yn cael ei fonitro'n barhaus drwy 2018–19.

 

Roedd darn nesaf yr adroddiad yna'n cynnwys sylwadau o ran sefyllfa ariannol pob prif faes gwasanaeth sy'n cwmpasu cyfarwyddiaethau gwahanol y cyngor, ac roedd Atodiad 3 o'r adroddiad yn ehangu ar hyn, yn ogystal â rhoi sylwadau o ran y gwahaniaethau mwyaf ystyrlon.

 

Cyfeiriodd yr adroddiad wedyn at alldro'r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2017–18, ynghyd â chyngor fod y gyllideb flaenorol a gymeradwywyd gan y cyngor ar 1 Mawrth 2017 wedi cael ei diwygio ymhellach a'i chymeradwyo gan y cyngor yn ystod y flwyddyn i gynnwys cyllidebau a gyflwynwyd o 2016–17, ar y cyd ag unrhyw gynlluniau newydd a grantiau a gymeradwywyd. Roedd y wybodaeth hon hefyd yn cynnwys manylion o ran cynlluniau lle mae arian llithriad yn ofynnol, a'r rhesymau dros hyn.

 

Roedd Tabl 6 yn yr adroddiad yn rhoi manylion o ran Symud Cronfeydd Wrth Gefn a Glustnodwyd i 31 Mawrth 2018, tra oedd Tabl 7 yn dilyn hyn yn amlinellu'r dyraniadau net i / oddi wrth Gronfeydd Wrth Gefn a Glustnodwyd yn ystod Chwarter 4. Roedd dadansoddiad llawn o'r holl symud mewn perthynas â Chronfeydd Wrth Gefn a Glustnodwyd ar gyfer y cyfnod a nodwyd wedi'i ddarparu yn Atodiad 5 o'r adroddiad.

 

Gofynnodd yr aelodau sawl cwestiwn i'r gwahoddedigion, gan ymadael â'r cyfarfod yn dilyn hyn. Roedd y cwestiynau hyn yn ymwneud â chludiant o'r cartref i'r ysgol, a phryderon o ran hyn mewn perthynas ag adolygu Llwybrau Diogel i Ysgolion. Gofynnodd yr aelodau gwestiynau hefyd mewn perthynas â darparu Gwasanaeth Gyrwyr Gwirfoddol.

 

O ran Cyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, ceisiodd yr aelodau am sicrwydd y byddai gorwariant rhagweledig y cyfarwyddiaethau yn cael ei fodloni maes o law, er gwaethaf y ffaith fod cynllun ariannol ar waith i sicrhau'r gorwariant hwn.

 

Yn olaf, lleisiwyd rhai pryderon gan aelodau o ran methiant y gwasanaeth iechyd lleol i ddarparu ffynonellau ariannol digonol ar gyfer y gwasanaethau amrywiol a ddarperir gan y gwasanaethau cymdeithasol.

 

Ymatebwyd i'r pwyntiau hyn gan y gwahoddedigion amrywiol yn ystod y cyfarfod, neu gofynnwyd iddynt dderbyn sylw yn y dyfodol fel y mynegwyd isod.

 

Cynigiodd y Pwyllgor rai sylwadau a chasgliadau ar yr eitem hon wedyn, fel y crybwyllwyd isod.

 

Casgliadau:

 

Prif Weithredwyr a Chyllid

Argymhellodd y Pwyllgor y dylai'r Cabinet / Bwrdd Rheoli Corfforaethol gynnal ymchwiliad o ran cyflawnadwyedd y gostyngiadau arfaethedig i gyllideb y gyfarwyddiaeth, gan argymell ymhellach y dylai cynigion afrealistig gael eu dileu o'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

Addysg a'r Gyfarwyddiaeth Cymorth i Deuluoedd

Mynegodd y Pwyllgor bryderon o ran y ffaith fod gan dros hanner yr ysgolion yn y fwrdeistref gyllidebau diffygiol, gan gwestiynu lefel galluoedd cyllidebu ysgolion.  Argymhellodd yr aelodau, felly, y dylai'r hyfforddiant ariannol ar gyfer yr holl lywodraethwyr ysgolion gael ei wneud yn orfodol i sicrhau rheolaeth a chraffu effeithiol ar gyllideb eu hysgol.

 

Yn dilyn trafodaethau mewn perthynas â'r adolygiad i ddod ynghylch addasrwydd ardaloedd dalgylch ledled yr awdurdod lleol, argymhellodd y Pwyllgor y dylid ymgynghori ag aelodau ward fel rhan o'r ymarfer.

 

Cyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant

 

Gofynnodd yr aelodau pan fydd yr adroddiad perfformiad ariannol dilynol yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol, a fyddai modd i'r Cynllun Cyflenwi Gwasanaeth yn y Dyfodol i’r Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant gael ei gyflwyno ynghyd â hyn.    

Dogfennau ategol: