Agenda item

Deddf Drwyddedu 2003 Adran 17

Cofnodion:

O blaid yr ymgeisydd:

Justin Davies – Cyfreithiwr, yn cynrychioli’r Ymgeiswyr

Ceri Howley – Ymgeisydd

Xenia Yardley – Ymgeisydd

 

Gwrthwynebwyr:

Judith Richards

Matthew Willsher

Elizabeth Janny

Julia Wells

Charmaine Elward

Y Cynghorydd MC Voisey 

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb oedd yn bresennol i’r cyfarfod a gwnaed cyflwyniadau.

 

Adroddodd y Rheolwr Gweithredol – Cydwasanaethau Rheoleiddio – am gais a dderbyniwyd am drwydded mangre ar gyfer Rhif 11 Caffi Bar, Heol Ewenni, Pen-y-bont ar Ogwr, fyddai’n caniatáu cyflenwi alcohol i’w yfed ar y safle’n unig. Dywedodd mai’r ymgeiswyr oedd Mrs Ceri Howley a Mrs Xenia Yardley ar ran Rhif 11 Caffi Bar Cyfyngedig. Roedd y cais wedi cael ei newid fel mai’r oriau y gofynnid am gael cyflenwi alcohol ynddynt oedd o 11 y bore hyd 11 o’r gloch yr hwyr o Ddydd Llun i Ddydd Sul, a chynigid y byddai’r fangre’n cau am hanner awr wedi un ar ddeg yr hwyr. Roedd y cais ar gyfer lluniaeth hwyr y nos a darparu cerddoriaeth fyw a cherddoriaeth wedi ei recordio wedi cael ei dynnu’n ôl. Dywedodd fod y drefn weithredu yn egluro’r camau y bwriadai’r ymgeiswyr eu cymryd i hybu’r amcanion trwyddedu ac a fyddai, pe câi’r drwydded ei chaniatáu, yn ffurfio amodau’r drwydded. Hysbysodd yr Is-bwyllgor fod llythyrau wedi eu derbyn yn cefnogi’r cais a bod dau lythyr o wrthwynebiad wedi eu derbyn gan y Cynghorwyr lleol yn ogystal â 10 llythyr o wrthwynebiad oddi wrth drigolion lleol i’r cais. Hysbysodd y Rheolwr Gweithredol, Cydwasanaethau Rheoleiddio, yr Is-bwyllgor hefyd fod yn rhaid iddynt gadw mewn cof Ddatganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor a Chanllawiau’r Swyddfa Gartref a roddwyd dan Adran 182 o Ddeddf Drwyddedu 2003 a rhaid iddynt hefyd ystyried pob cais yn ôl ei deilyngdod ei hun, y drefn weithredu a’r sylwadau a wnaed.

 

Gofynnodd y Rheolwr Gweithredol – y Cydwasanaethau Rheoleiddio –am eglurder gan gynrychiolydd yr ymgeiswyr ynghylch cywirdeb y cais yr oedd ef wedi ei ddisgrifio. Cadarnhaodd cynrychiolydd yr ymgeiswyr ei fod yn gywir a’i fod yn dymuno cylchredeg cynllun digwyddiadau wedi ei ddiweddaru, y cytunodd yr Is-bwyllgor i’w dderbyn. Dangosai’r cynllun digwyddiadau, oedd wedi ei ddiweddaru, 2 ddigwyddiad ychwanegol. 

 

Hysbysodd cynrychiolydd yr ymgeiswyr yr Is-bwyllgor fod yr ymgeiswyr yn gofyn am drwydded mangre i’w galluogi i redeg y fangre bob dydd. Bwriad yr ymgeiswyr oedd cael gweithgaredd y gellid ei drwyddedu oddeutu dwywaith y mis ar gyfartaledd. Dywedodd fod y digwyddiadau oedd wedi eu cynnal yn y fangre wedi cael eu rheoli drwy Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro, oedd yn rhagnodol a bod yr ymgeiswyr yn dymuno cael hyblygrwydd trwydded mangre. Hysbysodd yr Is-bwyllgor hefyd fod ymgynghoriad wedi ei gynnal gyda’r Awdurdodau Cyfrifol a phecyn o fesurau wedi ei roi gerbron gan yr ymgeiswyr. Roedd mesurau diogelwch wedi eu cynnwys yn y trefniadau gweithredu ac roedd yr ymgeiswyr yn deall y byddai torri amodau eu trwydded yn peryglu eu trwydded ar gyfer y fangre. 

 

Dywedodd fod yr ymgeiswyr wedi cael eu cynorthwyo gan yr heddlu a’r adran drwyddedu ac wedi cael eu harwain gan eu harbenigedd hwy wrth wneud eu cais. Roedd yr ymgeiswyr yn barod iawn i dderbyn amodau’r drwydded pe câi ei chaniatáu. Hysbysodd cynrychiolydd yr ymgeiswyr yr Is-bwyllgor mai Goruchwyliwr Dynodedig y Fangre fyddai Mrs Ceri Howley oedd yn dra ymwybodol o gyfrifoldeb y swydd hon ac a fyddai’n cyflawni’r dyletswyddau hynny’n ffyddlon. Roedd yr ymgeiswyr wedi cynnal trafodaethau helaeth gyda’r trigolion lleol ac wedi mireinio’r cais yn dilyn y cyfarfodydd hynny. O ganlyniad i’r trafodaethau hynny, roedd yr ymgeiswyr wedi newid y cais gyda gweithgaredd trwyddedig yn dod i ben am un ar ddeg o’r gloch yn lle hanner awr wedi un ar ddeg fel y cynigiwyd yn wreiddiol. Ni châi diodydd eu hyfed y tu allan i’r adeilad ar ôl deg o’r gloch ac fe fyddai yna lecyn ysmygu dynodedig. Yn ystod y broses ymgeisio, ni chodwyd dim pryderon ynghylch yr amcan trwyddedu o amddiffyn plant rhag niwed o drosedd ac anhrefn a byddai’r ymgeiswyr yn sicrhau eu bod yn gaeth i’r amcanion trwyddedu o atal trosedd ac anhrefn a niwsans i’r cyhoedd. Hysbysodd cynrychiolydd yr ymgeiswyr yr Is-bwyllgor fod rhai digwyddiadau wedi cychwyn yn y fangre yn ystod eu hamser yno a bod y rhain wedi eu dogfennu gan drigolion lleol. 

 

Hysbysodd cynrychiolydd yr ymgeiswyr yr Is-bwyllgor fod y cais yn cynnwys amodau caeth a bod gan yr ymgeiswyr reolaeth dros ddigwyddiadau oedd yn digwydd yn yr adeilad ac y byddent yn eu rheoli ac yn parhau i edrych yn ôl ac ystyried y digwyddiadau a gynhaliwyd ar y safle. Dywedodd fod yr hyn a allai ddigwydd yn y dyfodol yn ystyriaeth berthnasol, oherwydd bod y fangre’n agos at sefydliadau trwyddedig eraill gan y gallai fod elfen o drosglwyddo ofnau trigolion i’r adeilad hwn. Dywedodd fod yr ymgeiswyr yn deall eu cyfrifoldebau ond na allent reoli’r hyn oedd yn mynd ymlaen mewn adeiladau eraill. 

 

Hysbysodd cynrychiolydd yr ymgeiswyr yr Is-bwyllgor fod galw’r heddlu yn sylw cyfeiliornus gan mai’r ymgeiswyr eu hunain oedd wedi dechrau’r alwad ar 31 Mai 2018 am eu bod yn gallu arogli canabis gerllaw. Dywedodd fod cwynion wedi cael eu gwneud gan aelodau o’r cyhoedd mewn perthynas â digwyddiadau a gynhaliwyd ar y safle ar 20 a 21 Ebrill 2018. Derbyniwyd cwyn bellach ar 7 Gorffennaf 2018, a ddigwyddodd ar ôl i’r cais am drwydded i’r fangre gael ei gyflwyno. Hysbysodd cynrychiolydd yr ymgeiswyr yr Is-bwyllgor nad oedd y cwynion wedi cael eu profi a bod cerddoriaeth ar y safle wedi dod i ben am ugain munud i un ar ddeg. Dywedodd fod ganddo yn ei feddiant neges e-bost a lluniau oedd yn dangos awyrgylch dangnefeddus a phwyllog yn yr adeilad. Hysbysodd yr Is-bwyllgor fod yr ymgeiswyr yn barod iawn i gydnabod y pryderon a leisiwyd gan drigolion a’u bod yn ceisio hybu, arddel a chynnal gwerthoedd y gymuned. Dywedodd nad oedd y fangre wedi ei lleoli o fewn yr ardal effaith gronnus ac y byddai caniatáu’r cais yn cyd-fynd ag un o’r amcanion gwella corfforaethol o gefnogi economi lwyddiannus a hybu busnesau lleol a datganiad y polisi trwyddedu. Hysbysodd yr Is-bwyllgor hefyd fod yr ymgeiswyr yn gallu monitro’r digwyddiadau ar y safle gan fod tocynnau’n cael eu dosbarthu ymlaen llaw ac y gallent reoli demograffeg y bobl fyddai’n mynychu digwyddiadau. Roedd y digwyddiadau a gynhelid ar y safle ar gyfer gweini bwyd yn ogystal ag alcohol ac nid ar gyfer gweini alcohol yn unig. Ni fyddai’r ymgeiswyr yn ceisio agor y fangre ar gyfer gweithgaredd trwyddedig bob dydd ond yn hytrach gynnal digwyddiadau achlysurol a digwyddiadau elusennol. 

 

Holodd yr Is-bwyllgor a allai aelod o’r cyhoedd dalu wrth y drws er mwyn cael mynediad i ddigwyddiad ar y safle. Eglurodd cynrychiolydd yr ymgeiswyr nad oedd neb wedi ceisio gwneud hynny hyd yma a’i fod yn annhebygol o ddigwydd gan fod yr arlwy ar gyfer digwyddiadau yn seiliedig ar nifer y tocynnau a werthwyd. 

 

Gofynnodd yr Is-bwyllgor a allai rhywun fynd i’r adeilad am bryd o fwyd. Esboniodd cynrychiolydd yr ymgeiswyr fod y safle’n cau am fwyd am bedwar o’r gloch y prynhawn ac nad oedd yn agored ar gyfer prydau bwyd gyda’r nos ar wahân i’r adegau y câi bwyd ei weini mewn digwyddiadau. Prynid alcohol i mewn ar gyfer digwyddiadau gan nad oedd pympiau yn y fangre. 

 

Gofynnodd yr Is-bwyllgor a oedd yr adeilad yn bwriadu agor tan un o’r gloch y bore ar nos Galan. Eglurodd cynrychiolydd yr ymgeiswyr nad oeddent yn gofyn am gael agor ar nos Galan. Holodd yr Is-bwyllgor a oedd y fangre yn bwriadu agor ar gyfer digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol. Dywedodd cynrychiolydd yr ymgeiswyr fod yr adeilad yn bwriadu agor tan 11 o’r gloch. Gofynnodd yr Is-bwyllgor sut roedd yr ymgeiswyr yn bwriadu sicrhau bod y staff wedi eu hyfforddi i ofyn i gwsmeriaid ddefnyddio’r adeilad mewn ffordd drefnus a pharchus a bod gofyn i gwsmeriaid fynd â diod mewn cynhwysydd plastig wrth fynd allan o’r adeilad i ysmygu er mwyn cydymffurfio â’r amcan drwyddedu o atal trosedd ac anhrefn. Esboniodd Mrs Howley fod gweithdrefnau cadw t? yn eu lle cyn i ddigwyddiad gael ei gynnal. Rhoddid cwpanau plastig i bobl oedd yn dymuno mynd allan i ysmygu. Hysbysodd Mrs Howley yr Is-bwyllgor eu bod yn adnabod eu cwsmeriaid i gyd ac y byddent yn gofyn i’r cwsmeriaid adael yn dawel. Câi unrhyw un fyddai’n ceisio gadael yr adeilad gyda gwydr ei rwystro rhag gwneud hynny. Byddai dau aelod o staff yn gweithio y tu ôl i’r bar a byddai’r ddau ymgeisydd yn gweithio ar ochr arall y bar i wasanaethu cwsmeriaid. Eglurodd Mrs Howley fod rhwng 30 a 40 o bobl yn mynychu digwyddiadau yn yr adeilad. 

 

Holodd y gwrthwynebwyr ble y byddai’r man ysmygu yn cael ei leoli. Esboniodd Mrs Howley y byddai’r llecyn ysmygu wedi ei leoli wrth ochr yr adeilad lle roedd yna fyrddau a chadeiriau ar y pryd, fyddai’n cael eu symud, a byddai biniau yn cael eu darparu ar gyfer cael gwared â gweddillion sigarennau. Gofynnodd y gwrthwynebwyr sut y byddai’r man ysmygu’n cael ei reoli gan fod y fan honno yn 4m x 4m ac y byddai’n achosi rhwystr ger yr allanfa dân i’r t?, oedd yn amlfeddiannaeth ar y lloriau uchaf. Eglurodd Mrs Howley, yn seiliedig ar gyfartaledd o 29 o bobl yn mynychu digwyddiad, mai oddeutu 4 o’r cwsmeriaid hynny fyddai’n ysmygu ac na fyddai fyth fwy na 10 o gwsmeriaid yn unrhyw ddigwyddiad yn mynd allan i’r llecyn ysmygu ar unrhyw un adeg. Dywedodd y câi rheoli’r man ysmygu ei ychwanegu at y gweithdrefnau cadw t? ar gyfer digwyddiadau. 

 

Gwnaeth Mrs Judith Richards y sylw nad oedd bin y tu allan i’r adeilad a bod poteli oedd wedi cael eu gwerthu ar y safle wedi cael eu gadael yn ei gardd hi. Dywedodd cynrychiolydd yr ymgeiswyr y byddai bin yn cael ei osod y tu allan i’r adeilad. Dywedodd hefyd y byddai’r ymgeiswyr yn gwneud yr hyn yr oeddent yn dweud y byddent yn ei wneud er mwyn hyrwyddo amcanion y drwydded. Byddai’r ymgeiswyr hefyd yn cyflwyno cwpanau plastig a dull o gael gwared arnynt. Dywedodd fod rhai o’r cwynion yn ymwneud ag ymddygiad pobl o’r adeiladau eraill yn y cyffiniau. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Voisey a oedd modd i’r rheolau cadw t? ffurfio rhan o amodau’r drwydded fel y gallai’r trigolion gael rhywfaint o sicrwydd.  Dywedodd y Swyddog Cyfreithiol pe bai’r rheolau cadw t? yn berthnasol y byddent yn cael eu hychwanegu at amodau’r drwydded. Hysbysodd Mrs Howley’r Is-bwyllgor fod yr holl staff oedd yn gweithio ar y safle wedi eu hyfforddi, fod yna ffeil hyfforddiant oedd yn cael ei llofnodi gan y staff a’r ymgeiswyr. Gwnaeth y Cynghorydd Voisey’r sylw y byddai’n fuddiol pe bai’r rheolau cadw t? ar gael, er mwyn medru gweld a oeddent yn cael eu dilyn. Dywedodd cynrychiolydd yr ymgeiswyr fod yr ymgeiswyr yn fodlon ymgysylltu â thrigolion ynghylch eu pryderon ac y byddent yn atgoffa noddwyr am yr amodau y mae gofyn iddynt lynu wrthynt. Gofynnodd yr Is-bwyllgor a oedd yna arwyddion gweladwy yn y  fangre i atgoffa noddwyr i adael yr adeilad yn dawel. Gwnaeth Mrs Howley’r sylw bod cais wedi ei wneud am gyngor gan yr heddlu a’r Adran Drwyddedu yn dilyn Hysbysiadau Digwyddiadau Dros Dro ac y câi’r arwydd ei arddangos ar y safle. Dywedodd fod cynnal y Digwyddiadau Dros Dro wedi bod yn gromlin ddysgu, er mwyn gweld beth oedd wedi mynd yn iawn a beth oedd wedi mynd o’i le. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Voisey beth oedd y rheswm bod diodydd wedi cael eu cario allan o’r adeilad. Dywedodd y Swyddog Cyfreithiol fod gwerthu alcohol yn weithgaredd trwyddedig, ond nad oedd hynny’n wir am yfed alcohol, a bod terfyn i’r hyn y gallai’r ymgeiswyr ei reoli. Dywedodd y Cynghorydd Voisey fod yfed alcohol y tu allan yn destun pryder i’r trigolion. Gwnaeth un o’r gwrthwynebwyr y sylw fod yr heddlu wedi cael eu galw i reoli noddwyr oedd wedi crwydro o’r fangre i’r stryd. Dywedodd y Swyddog Cyfreithiol y byddid yn defnyddio gorfodaeth i ymdrin â thoriadau’r drwydded a bod yr ymgeiswyr wedi ymateb i bryderon y trigolion drwy newid eu cais fel na ellid mynd ag alcohol y tu allan ar ôl deg o’r gloch. Dywedodd cynrychiolydd yr ymgeiswyr pe bai yna bryderon penodol, na chaniateid mynd ag unrhyw ddiodydd allan o’r adeilad. Dywedodd hefyd nad oedd gan yr ymgeiswyr reolaeth dros y rheiny oedd yn cerdded heibio’r fangre.  

 

Gofynnodd Mrs Elizabeth Janny beth oedd y gwahaniaeth rhwng cynnal Digwyddiadau Dros Dro, pan nad oedd yr ymgeiswyr wedi gwrando ar bryderon y trigolion, a’r cais am drwydded i’r fangre. Dywedodd cynrychiolydd yr ymgeiswyr fod yr ymgeiswyr wedi cael gwybod am gwynion y trigolion ar 21 Ebrill 2018 ac na dderbyniwyd cwynion pellach tan 7 Gorffennaf 2018. Dywedodd Mr Willsher ei fod ef wedi cwyno ar 21 Ebrill 2018 yngl?n â’r s?n oedd yn dod allan o’r adeilad ac wedi gofyn iddynt droi’r gerddoriaeth i lawr. Parhaodd y s?n ac roedd ef wedi ffonio’r safle ac wedi cael gwybod bod eisiau iddo ddod yn bersonol i’r adeilad. Cwynodd ar achlysur arall pan oedd s?n conga yn dod allan o’r adeilad i’r stryd. Hysbysodd Mrs Janny yr Is-bwyllgor ei bod hi wedi cwyno wrth Adran Amddiffyn y Cyhoedd y noson ddilynol. Dywedodd cynrychiolydd yr ymgeiswyr fod yr ymgeiswyr wedi dysgu oddi wrth eu profiadau o ganlyniad i gynnal y Digwyddiadau Dros Dro a bod y g?yn nesaf wedi dod i mewn ar 7 Gorffennaf 2018. Bu’r ymgeiswyr wedyn yn gohebu ag Adran Amddiffyn y Cyhoedd er mwyn datrys problemau s?n o’r fangre. Dywedodd pe bai digwyddiadau pellach wedi bod yn broblem y byddent wedi arwain at gwynion pellach. Gwnaeth y sylw fod yr ymgeiswyr wedi dysgu, ac nad oedd cwynion pellach wedi cael eu gwneud i Wasanaethau Cymdogaeth. Hysbysodd Mrs Howley yr Is-bwyllgor mai 13 o bobl oedd yn bresennol yn y digwyddiad ar 7 Gorffennaf 2018 ac mai noson gitâr acwstig ydoedd. 

 

Gofynnodd Mr Willsher a oedd cais wedi ei wneud i gael cyngor ynghylch  seinglosio s?n ac acwsteg. Dywedodd cynrychiolydd yr ymgeiswyr na dderbyniwyd sylwadau gan Adran Amddiffyn y Cyhoedd. Gofynnodd Mr Willsher a oedd unrhyw fesuriadau ffurfiol o’r s?n wedi cael eu cymryd.  Hysbysodd y Rheolwr Gweithredol, Cydwasanaethau Rheoleiddio, yr Is-bwyllgor y gallai Adran Amddiffyn y Cyhoedd fod wedi gwneud sylwadau ar y cais ac y byddent yn edrych i mewn i gwynion ynghylch niwsans s?n.

 

Hysbysodd Mrs Janny’r Is-bwyllgor ei bod hi’n hollol o blaid y caffi, ond nad oedd y digwyddiadau a gynhelid yn y fangre yn addas oherwydd nad oedd digon o le a bod rhaid i ddrws yr adeilad aros ar agor pan fyddai yna 20 o bobl y tu mewn i’r adeilad. Dywedodd fod nifer o gwynion wedi cael eu gwneud i’r Adran Iechyd Amgylcheddol oherwydd y s?n o’r fangre. Hysbysodd yr Is-bwyllgor ei bod hi, o’i hystafell wely, wedi bod yn dyst i bobl yn ysmygu y tu allan am ugain munud wedi un ar ddeg y nos. Hysbysodd yr Is-bwyllgor hefyd fod y noddwyr i gyd yn gadael yr adeilad yr un pryd a bod hynny’n cyfrannu at y s?n o’r adeilad. 

 

Hysbysodd Mrs Julia Wells yr Is-bwyllgor ei bod hi’n hoffi cysyniad y lleoliad ond y byddai’n fwy priodol pe bai’r adeilad ar Stryd Nolton, gan mai mewn ardal breswyl yr oedd y lleoliad ar Heol Ewenni. Credai hi nad oedd y fangre’n ddigon mawr i gynnal digwyddiadau yn iawn ac roedd hi’n gobeithio y câi’r cais am drwydded mangre ei wrthod.

 

Hysbysodd Mrs Elizabeth Janny yr Is-bwyllgor ei bod hi wedi prynu ei th? hi gan wybod bod y clwb rygbi a Thafarn y Five Bells yn agos iddo. Dywedodd fod pobl yn gadael yr adeiladau hynny ar wahanol adegau. Fodd bynnag, gan fod tocynnau yn cael eu dosbarthu ar gyfer digwyddiadau ar y safle hwn, fod pobl yn gadael yr un pryd. Dywedodd hithau hefyd nad oedd yr adeilad yn y lle iawn. Cafwyd problemau yn y gorffennol gyda s?n o’r clwb rygbi. Fodd bynnag, roeddent yn awr yn cau eu ffenestri i leddfu’r s?n. Mynegodd Mrs Janny bryder y gallai’r adeilad agor 7 diwrnod yr wythnos pe bai trwydded mangre yn cael ei chaniatáu. 

 

Hysbysodd y Cynghorydd Voisey yr Is-bwyllgor ei fod yn dymuno tynnu’n ôl ei sylw bod yr heddlu wedi cael eu galw i’r preswylfeydd ar lawr uchaf yr eiddo, gan nad oedd prawf o hynny. Mynegodd ei bryder ynghylch amseriad y digwyddiadau a gynhelid yn yr adeilad, oedd wedi achosi niwsans s?n ac wedi amharu ar y trigolion yn hwyr y nos, ac yn arbennig gan fod rhai o’r trigolion yn byw uwchben y fangre. Dywedodd pe bai’r drwydded mangre yn cael ei chaniatáu mai’r trigolion fyddai’n plismona’r digwyddiadau yn y pen draw ar ran yr awdurdod trwyddedu. Ailfynegodd ei gais cynharach i’r Is-bwyllgor anwybyddu ei sylw bod yr heddlu wedi cael eu galw i’r preswylfeydd uwchben y fangre. Mynegodd bryder bod y fangre mewn lleoliad anaddas gan ei bod wedi ei lleoli gerllaw y briffordd. Credai ef fod gan yr ymgeiswyr fwriad diffuant o ran rhedeg y fangre ond hoffai weld set o ganllawiau ysgrifenedig yngl?n â rhedeg y safle pe bai’r drwydded yn cael ei chaniatáu. Mynegodd y Cynghorydd Voisey bryder ynghylch danfon nwyddau i’r adeilad yn gynnar yn y bore, oedd yn tarfu ar y trigolion. 

 

Gofynnodd yr Is-bwyllgor a oedd cwynion wedi eu derbyn gan drigolion oedd yn byw yn y fflatiau uwchben y fangre. Dywedodd cynrychiolydd yr ymgeiswyr nad oedd neb wedi cwyno. Hysbysodd Mrs Howley yr Is-bwyllgor fod pobl yn byw ym mhob un o’r fflatiau. Gwnaeth Mrs Janny’r sylw fod y bobl yn y fflatiau a phobl y caffi yn rhentu oddi wrth yr un landlord ac efallai eu bod yn teimlo’n amharod i wrthwynebu’r drwydded mangre rhag ofn cael eu troi allan. 

 

Gofynnodd yr Is-bwyllgor a fyddai’n briodol i beidio â gwahodd rhai artistiaid oherwydd y niwsans s?n. Hysbysodd Mrs Howley yr Is-bwyllgor eu bod wedi gofyn i’r Adran Amddiffyn y Cyhoedd am gyngor ynghylch chwarae cerddoriaeth fyw a bod hynny wedi cael ei gymryd i ystyriaeth. 

 

Hysbysodd Mrs Judith Richards yr Is-bwyllgor fod plismon oedd yn mynd heibio wedi cael ei stopio ynghylch y niwsans s?n o’r fangre a’i fod wedi mynd i mewn i’r adeilad i ofyn iddynt droi’r s?n i lawr. Dywedodd ei bod hi’n byw y drws nesaf ond un i’r fangre, ei bod hi’n gweithio sifftiau a bod ganddi fab ifanc a’u bod yn cael anhawster i gysgu ac yn methu â chlywed y teledu pan gynhelid digwyddiadau cerddorol ar y safle. Dywedodd ei bod hi o blaid caffi ar y safle ond nid bar. 

 

Gofynnodd yr Is-bwyllgor beth oedd yn cael ei gytuno fel rheol pan fyddai’r act yn chwarae cerddoriaeth fyw. Dywedodd Mrs Yardley y byddai artist fel arfer yn dechrau am chwarter wedi wyth am dri chwarter awr, ac wedyn yn cael egwyl, ac yna’n chwarae tan hanner awr wedi deg. 

 

Gofynnodd y Swyddog Cyfreithiol a fyddai’r ymgeiswyr yn cytuno i fesurau seinglosio s?n a argymhellid gan yr Adran Iechyd Amgylcheddol.  Dywedodd cynrychiolydd yr ymgeiswyr fod yn rhaid i’r Is-bwyllgor ystyried y cais oedd o’i flaen ac nad oedd sylwadau wedi eu derbyn gan yr Adran Iechyd Amgylcheddol. Gofynnodd y Swyddog Cyfreithiol a fyddai’r ymgeiswyr yn fodlon gweithio gyda’r Adran Iechyd Amgylcheddol.  Dywedodd cynrychiolydd yr ymgeiswyr fod gan yr ymgeiswyr hanes o weithio gyda’r Awdurdodau Cyfrifol a’u bod wedi gweithio gyda’r Adran Iechyd Amgylcheddol yn dilyn y cwynion a dderbyniwyd ar 21 Ebrill 2018. Byddai’r ymgeiswyr yn parhau i weithio gyda’r Adran ac yn gwneud yr hyn fyddai’n rhesymol. Hysbysodd y Rheolwr Gweithredol, Cydwasanaethau Rheoleiddio, yr Is-bwyllgor fod gan yr Adran Iechyd Amgylcheddol ddyletswydd statudol i edrych i mewn i gwynion a dderbynnid. 

 

Hysbysodd Mrs Julia Wells yr Is-bwyllgor na fyddai mesurau i seinglosio s?n yn gymorth gan mai dim ond un drws oedd yna oedd yn agor allan i’r stryd a’i fod yn debygol o aros ar agor. Hysbysodd y Swyddog Cyfreithiol yr Is-bwyllgor y dylai’r drysau i’r fangre aros ar gau pan fyddai cerddoriaeth fyw yn cael ei chwarae. Byddai hyn wedyn yn hwyluso cymryd camau gorfodi pe bai amodau’r drwydded yn cael eu torri. Hysbysodd Mrs Richards yr Is-bwyllgor fod trigolion wedi bod mewn cyfarfod ar y safle a’i bod yn llethol o fyglyd oherwydd maint y lleoliad ac y gallai fod yn destun pryder iechyd a diogelwch. Dywedodd y Swyddog Cyfreithiol y gellid gosod amod ar y drwydded yn ei gwneud yn ofynnol cadw’r drws i’r fangre ar gau. Dywedodd cynrychiolydd yr ymgeiswyr mai maes gorchwyl y gwasanaeth tân oedd iechyd a diogelwch ac nad oedd y gwasanaeth wedi gwneud unrhyw sylwadau ar y cais. Dywedodd y Swyddog Cyfreithiol wrth yr Is-bwyllgor fod angen iddynt ystyried yr amcanion trwyddedu, sef atal Trosedd ac Anhrefn ac Atal Niwsans i’r Cyhoedd, wrth benderfynu ar y cais. Holodd Mrs Janny a fyddai’n rhaid i’r drws i’r adeilad aros ar gau yn ystod digwyddiadau cerddoriaeth fyw. Dywedodd y Swyddog Cyfreithiol y gallai’r noddwyr adael y safle yn ystod digwyddiadau cerddoriaeth fyw. 

 

Holodd yr Is-bwyllgor ynghylch amseroedd danfon nwyddau i’r fangre. Dywedodd cynrychiolydd yr ymgeiswyr fod lorïau oedd yn cludo nwyddau yn parcio beth pellter i ffwrdd oherwydd bod y fangre ar ffordd brysur. Roedd yr ymgeiswyr wedi mynd i’r afael â phryderon ynghylch danfon nwyddau ac roedd nwyddau yn awr yn cael eu cario i’r adeilad o’r lle yr oedd y lorïau yn parcio. Cadarnhaodd Mrs Howley fod yr adeilad wedi ei leoli ar ffordd brysur, oherwydd bod tair ysgol yn agos iawn. Roeddent yn gofyn i gwmnïau ddanfon nwyddau i’r fangre yn gynnar yn y dydd. 

 

Hysbysodd Mrs Charmaine Elward yr Is-bwyllgor fod st?r wedi dod o’r adeilad oedd wedi bod yn drafferthus i drigolion a bod s?n o’r safle wedi atal plant rhag cysgu ac yn cael effaith negyddol ar drigolion. Dywedodd mai un drws oedd gan yr adeilad oedd yn ei wneud yn anaddas. Gwnaeth y sylw ei fod yn fan cyfarfod gwych ond yn y lleoliad anghywir. 

 

Hysbysodd Mr M Willsher yr Is-bwyllgor nad oedd y trigolion yn dymuno troi at yr awdurdodau ond y bu’n rhaid i’r trigolion wneud hynny oherwydd y niwsans s?n oedd yn cael ei achosi gan y safle. Dywedodd fod s?n wedi bod o’r blaen o’r clwb rygbi a’u bod wedi cytuno i droi’r gerddoriaeth i lawr.  Roedd plant wedi cael eu deffro yn y nos oherwydd y s?n oedd yn dod o ddigwyddiadau a gynhelid ar y safle. Dywedodd fod y busnes yn syniad ardderchog ond ei fod ar draul y trigolion. Hysbysodd yr Is-bwyllgor mai’r rheswm pam nad oedd ef wedi cwyno ers mis Gorffennaf 2018 oedd fod y weithdrefn gais yn mynd yn ei blaen. Hysbysodd yr Is-bwyllgor hefyd fod gormodedd o safleoedd “bwyd i fynd” wedi dod i’r ardal a bod y cais hwn wedi ychwanegu at y problemau. Nid oedd y trigolion wedi profi problemau gyda’r sefydliadau trwyddedig eraill yn yr ardal. 

 

Hysbysodd Mrs Richards yr Is-bwyllgor ei bod hi’n byw yn agos i’r safle a bod ei gardd gefn yn cefnu ar adeilad trwyddedig arall. Dywedodd fod angen gwrando ar bryderon y trigolion. Hysbysodd yr Is-bwyllgor hefyd mai ychydig o gyfleusterau toiled oedd yn yr adeilad ac nad oedd lleoliad y fangre’n iawn i’r math yma o fusnes. 

 

Torrodd yr Is-bwyllgor am 11.55a.m. ac ailymgynnull am 12.00 hanner dydd.

 

Hysbysodd y Rheolwr Gweithredol, Cydwasanaethau Rheoleiddio, yr Is-bwyllgor am sylw a dderbyniwyd drwy’r e-bost oddi wrth un o’r trigolion oedd yn gwrthwynebu’r cais am drwydded mangre a bod angen rhoi ystyriaeth i’r sylwadau.

 

Hysbysodd cynrychiolydd yr ymgeiswyr yr Is-bwyllgor fod llythyrau o gefnogaeth wedi dod i law a bod angen i’r Is-bwyllgor roi’r un faint o bwys ar y gwrthwynebiadau ag ar y llythyrau cefnogi. 

 

Hysbysodd Mrs Yardley yr Is-bwyllgor fod un o’r llythyrau cefnogi wedi dod oddi wrth aelod o’r teulu oedd wedi bod yn bresennol mewn digwyddiadau ac wedi dod â chleientiaid gydag ef i’r adeilad. 

 

Rhoddwyd cyfle i’r ddau barti grynhoi eu hachos.

 

Wrth grynhoi ei achos dywedodd cynrychiolydd yr ymgeiswyr mai’r mater allweddol oedd yn codi o’r gwrthwynebiadau oedd y diffyg gofal a ddangoswyd gan yr ymgeiswyr tuag at y trigolion. Dywedodd mai’r hyn oedd yn annheg oedd y diffyg consyrn a briodolid i’r ymgeiswyr er eu bod wedi ymgynghori â thrigolion a’r Awdurdodau Cyfrifol yngl?n â’u cais ac wedi mireinio eu cais. Gwnaeth y sylw y byddai’r ymgeiswyr yn gweithio gyda thrigolion a’i bod yn anodd gweld beth yn fwy y gallai’r ymgeiswyr ei wneud. Roedd pob cwyn a wnaed gan y gwrthwynebwyr wedi cael ei lliniaru gan yr amodau a gynigiwyd. Dywedodd fod yna bob cymhelliad i’r ymgeiswyr beidio â thorri’r amodau oedd yn gysylltiedig â’r drwydded. Roedd yr ymgeiswyr wedi gwrando ar y pryderon ynghylch niwsans i’r cyhoedd ac roedd eu cais wedi cael ei fireinio. Roedd ef yn hyderus y byddent yn cadw at yr amodau neu fel arall y câi’r drwydded ei hadolygu neu byddai camau gorfodi’n cael eu cymryd. Terfynodd drwy ddweud nad oedd gwrthwynebiad wedi ei fynegi i’r cais gan yr Awdurdodau Cyfrifol.

 

Hysbysodd y Cynghorydd Voisey yr Is-bwyllgor nad oedd gwrthwynebiadau i’r drwydded ond bod pryderon wedi cael eu codi yn hytrach gan drigolion ynghylch niwsans i’r cyhoedd. Dywedodd pe bai’r cais yn cael ei ganiatáu y byddai i fyny i’r ymgeiswyr lynu at amodau’r drwydded. Mynegodd bryder bod yr adeilad yn anghyfforddus o agos i gartrefi trigolion.

 

Torrodd yr Is-bwyllgor am 12.10p.m. ac ailymgynnull am 1.40p.m. pan y:

 

PENDERFYNWYD: Bod yr Is-bwyllgor wedi ystyried y cais am drwydded newydd i’r fangre yn 11 Caffi Bar. 

 

Roedd yr Is-bwyllgor wedi clywed sylwadau gan y 12 aelod o’r cyhoedd, yr oedd 6 ohonynt yn bresennol yn y Pwyllgor i ehangu ar eu sylwadau yn bersonol, ac un a anfonodd gwestiwn drwy’r e-bost cyn y gwrandawiad, am na allai fod yn bresennol. 

Wrth ymdrin â phryderon roeddent wedi clywed tystiolaeth ynghylch digwyddiadau yn y gorffennol oedd wedi cael eu cynnal drwy Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro. Defnyddiwyd y digwyddiadau gan y Cyhoedd fel tystiolaeth i’w pryderon y byddai caniatáu trwydded yn cael effaith anffafriol ar yr Amcanion Trwyddedu.   

 

Yr amcanion trwyddedu dan sylw oedd:

 

1.                Atal Trosedd ac Anhrefn; ac

2.                Atal Niwsans i’r Cyhoedd. 

 

Roedd y pryderon a godwyd gan y cyhoedd yn ymwneud yn bennaf â s?n. Roedd y s?n hwn yn ganlyniad chwarae cerddoriaeth y gellid ei glywed, yn enwedig pan fyddai’r drws ar agor. Roedd hefyd yn cynnwys s?n unigolion allan yn y stryd wrth ddisgwyl am dacsi neu sefyll y tu allan i yfed a/neu ysmygu. Roedd y pryderon yn arbennig ynghylch nifer y bobl oedd, oherwydd natur y digwyddiad, yn gadael yr un pryd pan fyddai’r digwyddiad wedi dod i ben. 

 

Roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y Canllawiau statudol ynghylch amcanion trwyddedu. Roedd yr Is-bwyllgor wedi talu sylw neilltuol i’r cyfarfod a gynhaliwyd rhwng yr ymgeiswyr a’r Cyrff Cyfrifol, yn cynnwys yr heddlu, oedd yn hapus gyda’r amodau a gynigiwyd. Roedd yr Is-bwyllgor wedi cymryd tystiolaeth yr heddlu, mai dim ond un digwyddiad a gofnodwyd yn erbyn y cyfeiriad rhwng 1 Ionawr 2018 a 21 Awst 2018 a bod hwn yn ddigwyddiad yn ymwneud ag arogl canabis, ac mai Ceri Howley, yr ymgeisydd, oedd wedi adrodd am hwn. Roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried ymhellach y dystiolaeth gan Adran Amddiffyn y Cyhoedd, er bod cwynion wedi eu derbyn i liniaru materion s?n ar y safle ar 20 a 21 Ebrill ac eto ar 7 Gorffennaf, nad oedd niwsans s?n wedi cael ei brofi.

 

Roedd yr Is-bwyllgor wedi gwerthfawrogi’r diwygiadau oedd wedi cael eu gwneud i’r cais er mwyn cymryd i ystyriaeth a mynd i’r afael â’r pryderon a leisiwyd gan bawb oedd wedi gwneud sylwadau. Yn neilltuol, roedd yr Is-bwyllgor wedi nodi’r gostyngiad yn yr oriau a pharodrwydd i gydymffurfio â’r amodau a awgrymwyd. Roedd yr Is-bwyllgor hefyd yn nodi’r parodrwydd i dderbyn yr amod i gyfyngu ar unigolion yn mynd â diodydd oedd wedi cael eu prynu yn yr adeilad allan.

 

Gan gymryd yr holl ffactorau i ystyriaeth roedd yr Is-bwyllgor o’r farn, er mwyn hyrwyddo’r amcanion trwyddedu y cyfeiriwyd atynt uchod, ei bod yn briodol i ganiatáu’r drwydded gyda’r amodau a gynigiwyd, gan gynnwys aileirio amod 9 dan yr is-bennawd “Trosedd ac Anhrefn” i “dim diodydd a brynwyd ar y fangre i gael eu cario allan o’r fangre”.                                          

Dogfennau ategol: