Agenda item

P/16/251/OUT - Tir oddi ar Ffordd Leyshon, Bryncethin CF32 9TB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: (1)  Mewn perthynas â'r cais uchod, bod yr ymgeisydd yn ymrwymo i Gytundeb A106 o ran gwneud y canlynol:-

 

(i) Darparu 20% o'r unedau fel unedau tai fforddiadwy, yn unol â'r Canllaw Cynllunio Atodol ar gyfer Tai Fforddiadwy. Bydd y Cytundeb Adran 106 yn darparu i'r unedau hyn gael eu trosglwyddo i Landlord Cymdeithasol Cofrestredig, gyda'r math o unedau, y lleoliad o fewn y safle, deiliadaeth fforddiadwy, pris trosglwyddo a'r amserlen ar gyfer cyflawni i gael eu

cytuno gan y Cyngor.

 

(ii) Darparu cyfraniad ariannol, yn unol â fformiwla'r Canllaw Cynllunio Atodol ar gyfer Cyfleusterau Addysgol, tuag at ddarparu lleoedd ychwanegol yn yr ysgol gynradd sy'n gwasanaethu'r datblygiad; bydd y ffigur hwn yn dibynnu ar y cymysgedd a'r rhifau datblygu terfynol, gyda chyfraniadau'n cael eu darparu pro-rata.

 

(iii) Darparu cyfleuster hamdden awyr agored (Ardal Chwarae Leol), yn unol â pholisi COM11 Cynllun Datblygu Lleol Pen-y-bont ar Ogwr, a chyflwyno a chytuno ar drefniadau, fel rhan o'r Rhwymedigaeth, ar gyfer rheoli a chynnal a chadw'r cyfleuster hamdden awyr agored hwn yn y dyfodol.

 

(iv) Darparu cyfraniad ariannol, cyn dechrau datblygu, tuag at ddarparu lloches ganolog i gerddwyr ar Lwybr A4061 (gerllaw'r gyffordd â Daleside), a bydd y ffigur yn dibynnu ar y cymysgedd a'r rhifau datblygu terfynol, gyda'r cyfraniad yn cael ei ddarparu pro-rata.

 

(v) Darparu cynllun rheoli ar gyfer cynnal a chadw gweddill y 'Safle o Bwys i Gadwraeth Natur' sydd o fewn perchnogaeth yr ymgeisydd yn yr hirdymor er mwyn gwneud iawn am golli rhan o'r Safle i'r datblygiad.

 

Cynnig

 

Hyd at naw annedd gyda gofod agored cyhoeddus, tirlunio, mynediad a gwaith cysylltiedig (nifer yr anheddau wedi'i ddiwygio).

 

              (2)   Dylai'r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau gael p?er dirprwyedig i gyflwyno hysbysiad penderfynu sy'n rhoi caniatâd amlinellol mewn perthynas â’r cynnig hwn, ar ôl i’r ymgeisydd gadarnhau'r Cytundeb Adran 106 a nodwyd yn flaenorol, yn unol â'r amodau sydd wedi'u cynnwys yn ei adroddiad.

 

Yn unol â dileu'r pedwerydd pwynt yn Amod 2 yr adroddiad, sy'n cyfeirio at leiniau 10-12 sydd wedi'u tynnu o'r cais.

 

Dylai Amod 2 hefyd ddarllen fel a ganlyn bellach:-

 

Bydd y caniatâd a roddir gan hyn yn gyfyngedig i adeiladu dim mwy na naw annedd, a bydd y manylion ynghylch yr ymddangosiad, y tirlunio, y gosodiad a'r raddfa (a elwir o hyn ymlaen fel "y materion a gedwir yn ôl") yn cyd-fynd â'r gofynion canlynol:

 

- Ni chaniateir unrhyw ddatblygiad o fewn amlinell llifogydd afonol 1% a 0.1% Nant Bryncethin, ac felly o fewn yr ardal a liwiwyd yn las ar yr 'Uwchgynllun Enghreifftiol' BRYN-02 Diwygiad C a dderbyniwyd ar 24 Tachwedd 2016;

 

- Pellter o 21m rhwng ffenestri ystafelloedd byw sy'n wynebu ei gilydd, mewn perthynas ag adeiladau sydd yno eisoes;

 

- Rhaid i'r anheddau ar Lain 1 a Llain 9 gael eu gosod o leiaf 12m o bellter i ffwrdd o'r ffenestri’r ystafelloedd cyfanheddol sydd ar dalcenni ochr 33 a 34 Ffordd Leyshon yn ôl eu trefn;

 

-   Darpariaeth parcio ceir yn unol â Chanllaw Cynllunio Atodol 17 – Safonau Parcio 

 

Rheswm: Er mwyn diogelu amodau byw'r trigolion presennol a thrigolion y dyfodol a diogelwch priffordd.

Dogfennau ategol: