Cofnodion:
Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Cynllunio Datblygiad adroddiad. Diben hwn oedd hysbysu'r Pwyllgor Rheoli Datblygu am yr Adroddiad Cwmpasu ar Arfarniad o Gynaliadwyedd (sydd wedi'i atodi yn Atodiad 1 yr adroddiad) a'r Adroddiad Sgrinio ar Arfarnu'r Rheoliadau Cynefinoedd (sydd wedi'i atodi yn Atodiad 2). Cynhaliwyd ymgynghoriad pum wythnos o hyd ar yr adroddiadau, gan ddechrau ar 23 Gorffennaf 2018 a gorffen ar 27 Awst 2018.
Mae'r Adroddiad Cwmpasu ar Arfarnu Cynaliadwyedd ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) newydd Pen-y-bont ar Ogwr yn amlinellu'r dull arfaethedig o gynnal Arfarniad Cynaliadwyedd o'r CDLl, gan ymgorffori Asesiad Amgylcheddol Strategol.
Eglurodd mai'r adroddiad hwn oedd y cam cyntaf ym mhroses yr Arfarniad o Gynaliadwyedd i nodi, asesu ac ymdrin ag unrhyw effeithiau sylweddol y mae CDLl newydd Pen-y-bont ar Ogwr yn debygol o'u cael ar yr amgylchedd.
O dan Adran 62(6) o Ddeddf 2004, mae angen i CDLlau sy'n dod i'r amlwg gael Arfarniad o Gynaliadwyedd. Mae hwn yn ofyniad statudol i lywio'r gwaith o ddewis a datblygu polisïau a chynigion i'w cynnwys mewn CDLlau o ran eu heffeithiau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd posibl.
Mae Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004, fel y'u diwygiwyd ('y Rheoliadau SEA') yn ei gwneud hi'n ofynnol i Awdurdodau Cyfrifol, gan gynnwys awdurdodau lleol fel Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, asesu effeithiau amgylcheddol sylweddol tebygol rhoi cynlluniau a rhaglenni perthnasol ar waith, fel y'u diffiniwyd o fewn y rheoliadau. Mae'r Rheoliadau SEA hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Cyfrifol archwilio effeithiau sylweddol tebygol opsiynau eraill rhesymol i'r cynllun neu'r rhaglen sy'n cael eu hystyried. Pan fo angen, rhaid paratoi'r asesiad gan ddilyn proses adrodd cam wrth gam a elwir yn Asesiad Amgylcheddol Strategol.
Eglurodd Arweinydd y Tîm Cynllunio Datblygu fod yr Arfarniad o Gynaliadwyedd a'r Asesiad Amgylcheddol Strategol yn canolbwyntio ar yr un peth, sef asesu perfformiad amgylcheddol a pherfformiad cynaliadwyedd ehangach, felly gellir cynnal ac adrodd ar y ddau beth gyda'i gilydd.
• Sgrinio: Mae'r Adroddiad Cwmpasu ar Arfarniad o Gynaliadwyedd yn nodi penderfyniad sgrinio Asesiad Amgylcheddol Strategol drafft i'w ystyried gan gyrff ymgynghori'r Asesiad Amgylcheddol Strategol (Adran 3).
• Cwmpasu: Mae hwn yn nodi'r fframwaith arfaethedig, y fethodoleg a'r trefniadau ymgynghori ar gyfer yr Arfarniad o Gynaliadwyedd, fel y'u gwelir yn Adrannau 5 a 6;
• Paratoi ac ymgynghori: Bydd angen cynnwys Adroddiad ar Arfarniad o Gynaliadwyedd gyda phob elfen sylweddol ar y CDLl newydd wrth iddo ddod i'r amlwg, yn enwedig wrth baratoi'r dogfennau cyn-adneuo ar gyfer y CDLl ac, wedi hyn, y dogfennau adneuo ar gyfer y CDLl. Rhaid ymgynghori ar bob adroddiad Arfarniad o Gynaliadwyedd ochr yn ochr â'r CDLl newydd sy'n dod i'r amlwg, ac yna cyflwyno'r adroddiad ar Arfarniad o Gynaliadwyedd ar gyfer dogfen adneuo derfynol y CDLl i Gynulliad Cymru er mwyn cefnogi archwiliad annibynnol o'r CDLl newydd.
• Paratoi datganiad ôl-fabwysiadu: Erbyn diwedd proses adolygu'r CDLl, bydd CDLl newydd wedi'i fabwysiadu ar gyfer ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd angen hwn erbyn diwedd 2021 er mwyn osgoi gwactod polisi cynllunio.
Mae'r Adroddiad Cwmpasu ar gyfer Arfarniad o Gynaliadwyedd wedi'i strwythuro fel a ganlyn:
• Adran 2 – Cyd-destun adolygu'r CDLl a'r cynnwys arfaethedig
• Adran 3 – Angen am Asesiad Amgylcheddol Strategol
• Adran 4 – Gwybodaeth amgylcheddol ac ystyriaethau cynaliadwyedd
allweddol
• Adran 5 – Fframwaith Arfarniad o Gynaliadwyedd arfaethedig sy'n disgrifio'r fframwaith asesu a gaiff ei ddefnyddio i nodi ac asesu'r effeithiau tebygol o'r adolygiad o'r CDLl
• Adran 6 – Methodoleg arfaethedig yr Arfarniad o Gynaliadwyedd ac
ymgynghori
• Adran 7 – y camau nesaf
Mae dau atodiad yn ategu Adran 4 o'r Adroddiad Cwmpasu, sef:
• Atodiad A – Dadansoddiad sylfaenol ac,
• Atodiad B – Cymorth i adolygu cynlluniau, rhaglenni a strategaethau
Mae Rheoliadau'r Asesiad Amgylcheddol Strategol hefyd yn cyflwyno cyswllt rhwng yr Asesiad Amgylcheddol Strategol a'r angen, mewn rhai achosion, am Arfarniad Rheoliadau Cynefinoedd ar wahân o gynlluniau a phrosiectau lle mae posibilrwydd o effeithiau sylweddol ar safleoedd Ewropeaidd (Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig ac Ardaloedd Cadwraeth Arbennig). Darperir rhagor o fanylion am yr Arfarniad Rheoliadau Cynefinoedd yn yr Adroddiad Sgrinio Cychwynnol ar Arfarnu Rheoliadau Cynefinoedd a gyflwynwyd i Cyfoeth Naturiol Cymru ar yr un pryd â'r Adroddiad Cwmpasu Arfarniad o Gynaliadwyedd hwn.
O ran yr Ymgynghoriad Rhanddeiliaid a dargedwyd, cynhaliwyd cyfnod ymgynghori o bum wythnos ar yr Adroddiad Cwmpasu Arfarniad o Gynaliadwyedd drafft a'r Adroddiad Sgrinio ar Arfarniad Rheoliadau Cynefinoedd cychwynnol, a ddechreuwyd ar 23 Gorffennaf 2018 tan 27 Awst 2018. Derbyniodd yr Awdurdod Cynllunio Lleol naw ymateb i'r ymgynghoriad. Darparwyd crynodeb o'r prif faterion a godwyd mewn perthynas â’r adroddiadau yn yr adroddiad ymgynghori.
PENDERFYNWYD : Bod y Pwyllgor yn gwneud y canlynol:-
(1) Cymeradwyo cynnwys yr Adroddiad Cwmpasu ar Arfarniad o Gynaliadwyedd, yr Adroddiad Sgrinio cychwynnol ar Reoliadau Cynefinoedd a'r Penderfyniad Sgrinio.
Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Rheolwr Gr?p Datblygu, Cyfarwyddiaeth Cymunedau i wneud unrhyw gywiriadau ffeithiol neu ddiwygiadau i'r adroddiadau, fel y gwêl yr angen.
Dogfennau ategol: