Agenda item

Dynodiad ffurfiol Ardal Gadwraeth Llys Preswylfa fel ardal Cyfarwyddyd Erthygl 4 (gan gynnwys crynodeb o ymatebion trigolion i ymgynghoriad)

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Rheoli Datblygiad ac Adeiladu, a diben hwn oedd rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau am unrhyw sylwadau a oedd wedi dod i law gan berchnogion a meddianwyr yr adeiladau dan sylw ers gwneud y Cyfarwyddiadau Erthygl 4(1) ac Erthygl 4(2) yn Ardal Gadwraeth Llys Preswylfa. Fel rhan o'r adroddiad, derbyniodd yr Aelodau gopi o benderfyniad Llywodraeth Cymru i gadarnhau'r Cyfarwyddyd Erthygl 4(1). Roedd yn rhaid i'r Aelodau benderfynu, ar sail y sylwadau a dderbyniwyd, a ddylid cadarnhau'r Cyfarwyddyd Erthygl 4(2). Mae Cyfarwyddiadau Erthygl 4 yn tynnu rhai hawliau datblygu penodol a ganiateir oddi ar eiddo a gynhwysir yn y Cyfarwyddiadau, a daeth y rhain i rym ar unwaith pan luniwyd y Cyfarwyddiadau yn y Pwyllgor Rheoli Datblygiad ar 15 Mawrth 2018. Rhaid cadarnhau Cyfarwyddiadau Erthygl 4 o fewn chwe mis ar ôl cael eu gwneud (h.y. erbyn 15 Medi

2018) neu byddant yn darfod.

 

Dynodwyd Ardal Gadwraeth Llys Preswylfa yng nghyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygiad ar 15 Mawrth 2018, er mwyn osgoi difrod i leoliad y 13 o adeiladau rhestredig a galluogi cadw a gwella nodweddion ac ymddangosiad yr ardal gyffredinol.

 

Fel y nodwyd uchod, gwnaeth yr aelodau yn yr un cyfarfod Pwyllgor gytuno ar osod Cyfarwyddiadau Erthygl 4(1) ac Erthygl 4(2). Effaith y Cyfarwyddiadau hyn yw tynnu’n ôl hawliau datblygu a ganiateir. Cafodd y Pwyllgor eu hatgoffa o gwmpas y Cyfarwyddiadau a'r adeiladau yr effeithir arnynt yn Atodiad 1 a 2 o'r adroddiad, yn ôl eu trefn.

 

Mewn ymateb uniongyrchol i'r llythyrau hysbysu Erthygl 4 a gyflwynwyd, derbyniwyd saith ymateb ysgrifenedig oddi wrth berchnogion a meddianwyr yr adeiladau. Crynhowyd cynnwys yr ymatebion hyn yn Atodiad 4 yr adroddiad. Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau i'r cynigion, ac er bod mwy o gefnogaeth wedi'i mynegi o ran dynodi’r Ardal Gadwraeth, gofynnwyd am eglurhad pellach. Er enghraifft, gofynnwyd am ragor o wybodaeth am ddyluniad arfaethedig estyniad newydd, triniaeth ffiniau, simnai, ffenestri, nwyddau d?r glaw, drysau allanol, dysglau lloeren, tocio coed a gwaith ôl-weithredol. Gofynnwyd am eglurhad hefyd ynghylch a oedd tu blaen a thu ôl yr adeiladau wedi'u cynnwys yn y Cyfarwyddiadau. Mae'r wybodaeth hon wedi'i darparu trwy gyfarfodydd safle â pherchnogion yr adeiladau, ac mae'r daflen ganllaw ddrafft wedi'i diwygio i adlewyrchu'r sylwadau a gyflwynwyd fel rhan o'r ymgynghoriad. Mae fersiwn terfynol y daflen hon wedi'i atodi fel Atodiad 5 yr adroddiad. Atodwyd copi o'r asesiad a gwblhawyd o ran Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn Atodiad 5 yr adroddiad.

 

Diweddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu ac Adeiladu ei gyflwyniad trwy gyfeirio at oblygiadau ariannol yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:        Y byddai'r aelodau yn gwneud y canlynol:-

 

                               (1)   Nodi penderfyniad Llywodraeth Cymru i gadarnhau'r Cyfarwyddyd a wnaed o dan Erthygl 4(1) Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995, i dynnu hawliau datblygu a ganiateir oddi ar berchnogion a meddianwyr eiddo annomestig sydd wedi'u cynnwys o fewn Ardal Gadwraeth arfaethedig Llys Preswylfa o dan y telerau a nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad.

                              (2)     Cytuno y bydd y Cyfarwyddyd yn cael ei gadarnhau o dan Erthygl 4(2) Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 i dynnu hawliau datblygu a ganiateir oddi ar berchnogion a meddianwyr tai annedd sydd wedi'u cynnwys o fewn Ardal Gadwraeth arfaethedig Llys Preswylfa, o dan y telerau a nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad.

                             (3)        Mabwysiadu'r daflen ganllaw yn Atodiad 4 yr adroddiad at ddibenion rheoli datblygu.

Dogfennau ategol: