Agenda item

Meysydd Chwarae, Cyfleusterau Chwaraeon Awyr Agored a Phafiliynau Parciau

Gwahoddedigion:

Mark Shephard, Cyfarwyddwr Corfforaethol, Cymuedau
Cllr Richard Young, Yr Aelod Cabinet dros Gymunedau
Zak Shell, Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau adroddiad yn dwyn sylw’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu at gynigion i wneud y meysydd chwarae, cyfleusterau chwaraeon awyr agored a phafiliynau parciau a ddarperir gan y Cyngor yn fwy cynaliadwy'n ariannol wrth symud ymlaen. Byddai'r adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet ar 18 Medi 2018 yn gofyn am ganiatâd i ymgymryd â chyfnod ymgynghori.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau, o ystyried y toriadau yn y gyllideb, eu bod yn bwriadu symud tuag at sefyllfa o adennill costau llawn mewn perthynas â darparu meysydd chwarae a phafiliynau parciau. Roedd hwn yn gyfeiriad teithio a oedd yn gyson ag awdurdodau eraill megis Bro Morgannwg, Caerfyrddin a Blaenau Gwent. Mae effaith gronnol y gostyngiadau sylweddol yn y gyllideb wedi cael eu teimlo gan y Cyngor ac nid oedd lefel bresennol cymhorthdal ??y Cyngor ar gyfer y gwasanaeth hwn yn gynaliadwy. Os na chymerwyd unrhyw gamau, yna yn y pen draw ni fyddai gan y Cyngor unrhyw ddewis ond cau’r cyfleusterau.

 

 Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau fod y Cyngor yn gobeithio y byddai'r newid polisi yn annog clybiau chwaraeon a defnyddwyr eraill i gymryd cyfrifoldeb am y cyfleusterau trwy drosglwyddo asedau cymunedol (CAT). Roedd lefel bresennol cymhorthdal ??y cyngor (hyd at 80%) wedi gweithredu fel rhwystr i glybiau sy'n ymwneud â throsglwyddo asedau cymunedol. Ar hyn o bryd roedd cynigion Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ar gyfer arbedion yn 2019/20 a 2020/21 yn cyfateb i £500,000. Ychwanegodd, yn dilyn saith mlynedd o doriadau yn y gyllideb, nad oedd llawer iawn o leoedd yn y Gyfarwyddiaeth Gymunedau lle y gellid gwneud arbedion pellach.

 

Mynegodd yr Aelodau bryderon ynghylch y pwysau ariannol ar bobl iau sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon a sut y byddai'r awdurdod yn parhau i gydymffurfio â'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles.  Gofynnodd yr Aelodau sut y gallai Awdurdod cyfagos Rhondda Cynon Taf barhau i dalu cymhorthdal i wasanaethau o'r fath.  Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau fod y ffioedd a godir gan awdurdodau fel Rhondda Cynon Taf yn eithriad a’i fod yn benderfyniad gwleidyddol ganddynt i flaenoriaethu rhai gwasanaethau dros eraill. Roedd yr awdurdod hwn yn ceisio newid diwylliant lle byddai pobl yn cael y cyfle a'r amserlenni i ddod o hyd i atebion. Roedd yn cydnabod bod nifer o faterion ac nid oedd un ateb yn addas i bawb. Roedd rhai ysgolion yn cynnig cyfleusterau chwaraeon awyr agored ar gyfer hyfforddiant a gallai fod cyfleoedd i glybiau drafod gyda'r ysgolion i ddefnyddio'r rhain.  

 

Roedd yr Aelodau'n pryderu fod y broses bresennol o reoli cyfleusterau chwaraeon awyr agored yn rhy ddarniog gan eu bod yn cael eu rheoli ar hyn o bryd gan wahanol gyfarwyddiaethau ac adrannau.  Gofynnodd aelodau a oedd gan y bwrdd iechyd rôl i'w chwarae ac a oedd arian ar gael o'r ffynhonnell hon.  Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau ei fod wedi cael llawer o sgyrsiau gyda'r bwrdd iechyd dros y blynyddoedd ac er bod mwy o arian yn cael ei gyfeirio at atal, nid oedd yn y maes hwn. Argymhellodd aelodau fod pob Cyfarwyddiaeth yn gweithio mewn modd mwy cyfannol ac yn mabwysiadu dull Un Cyngor i'w galluogi i gael mynediad at yr holl ffrydiau ariannu sydd ar gael. 

 

Mynegodd Aelod bryderon, o ran ei brofiad ef, fod gwirfoddolwyr â chefndir cyfyngedig mewn cyllid yn cefnogi clybiau . Roedd y broses yn hynod gymhleth ac roedd yn anodd cael manylion am gostau rhedeg ac ati. Roedd yr Aelodau'n pryderu am gymhlethdod y broses CAT a gwnaethant argymell datblygu rôl Swyddog CAT i gynnwys darparu mwy o gymorth i sefydliadau yn ystod y broses ymgeisio a throsglwyddo.

 

Gofynnodd Aelod sut oedd y rhestr o gyfleusterau chwaraeon wedi cael ei llunio a pham roedd rhai wedi'u heithrio gan gynnwys y caeau 4G a gafodd eu hadeiladu'n ddiweddar fel rhan o raglen ysgolion y 21ain ganrif. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau fod y rhestr yn cynnwys caeau a reolir yn uniongyrchol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ond nid y rheiny a reolir gan ysgolion neu'r Cynghorau Cymuned neu'r rheiny sy'n cael eu rhedeg ar sail  ‘defnydd deuol'. Roedd y caeau 4G ysgolion 'defnydd deuol' yn cael eu rhedeg gan y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles ac roeddent ar gael i glybiau a sefydliadau chwaraeon, nid oeddent yn derbyn cymhorthdal ??mor fawr ac roedd y taliadau’n adlewyrchu costau a gwaith cynnal a chadw'r cyfleuster. Nid oedd y caeau 4G yn addas ar gyfer y broses CAT oherwydd eu bod yn cael eu defnyddio gan nifer o glybiau ac nid oeddent yn uniongyrchol gysylltiedig ag unig ddefnydd clwb un defnyddiwr na nifer fach o glybiau a sefydliadau.  Cafwyd anawsterau lle mae'r broses CAT wedi bod yn ddibynnol ar ddod â llawer o ddefnyddwyr at ei gilydd, sy'n aml yn methu â chytuno ymhlith eu gilydd yngl?n â'r ffordd orau o symud ymlaen.

 

Roedd yr Aelodau'n siomedig fod y penderfyniad i fwrw ymlaen â'r ymgynghoriad ar y ffioedd ar gyfer Meysydd Chwarae, Cyfleusterau Chwaraeon Awyr Agored a Phafiliynau Parciau i annog mwy o bobl i ymwneud â Throsglwyddo Asedau Cymunedol eisoes wedi'i wneud.  Dywedodd Aelodau Craffu y dylai'r cynnig hwn fod wedi’i gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu'n gynt a chyda mwy o fanylion am y cynigion sydd ar ddod yn yr ymgynghoriad.  Roedd yr Aelodau'n pryderu nad oedd dull cyngor cyfan ar waith ac y gofynnwyd iddynt graffu ar resymeg a oedd yn anghyflawn. Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau mai hwn oedd y cyfle cynharaf i adrodd y mater hwn i'r pwyllgor trosolwg a chraffu cyn iddo gael ei adrodd i'r Cabinet yn ddiweddarach yn y mis. Yr unig beth y gofynnwyd i’r Cabinet ei wneud ar y cam hwn oedd cymeradwyo ymarfer ymgynghori i hysbysu unrhyw benderfyniadau yn y dyfodol. Fodd bynnag, roedd yn amlwg bod angen rhywfaint o newid sylweddol er mwyn cynnal y lefel bresennol o ddarpariaeth gan na allai'r Cyngor fforddio parhau i reoli a chynnal pob un ohonynt ar yr un sail mwyach.

 

Gofynnodd yr Aelodau am ragor o wybodaeth ynghylch sut y byddai'r ymarfer ymgynghori yn cael ei hyrwyddo. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau y byddent yn ymgynghori â phob defnyddiwr, Cynghorau Tref a Chymuned a phartïon eraill â diddordeb. Roedd yn disgwyl nifer fawr o ymatebion a heriau.

 

Mynegodd yr Aelodau bryderon ynghylch y diffyg gwybodaeth gefndirol am

bob safle a'r diffyg esboniad ar sut y gallai weithio ar gyfer sefydliadau unigol. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau sicrwydd i'r Cadeirydd fod gwybodaeth fanwl yn cael ei chadw am bob safle. Roedd yr ymgynghoriad yn ceisio safbwyntiau defnyddwyr y cyfleusterau ar sut y gellid rhedeg y cyfleusterau'n gynaliadwy wrth symud ymlaen. Pe byddai'r ymgynghoriad yn cael ei ohirio byddai'r toriadau ar y Gyfarwyddiaeth, ac ni fyddai'n gallu cwblhau'r broses ymgynghori mewn pryd i gyflawni arbedion arfaethedig y Cyngor, a byddai'r clybiau'n cael eu gadael heb fawr ddim amser i ddatblygu cynlluniau amgen pe bai'r Cabinet, yn y pen draw, yn cytuno i newid natur y taliadau am y cyfleusterau hyn yn sylweddol. Roedd yn rhaid gwneud newidiadau sylweddol cyn Ebrill 2020 er mwyn canfod a chytuno ar gynigion a fyddai'n gwneud yr arbedion angenrheidiol o £500,000. Ychwanegodd yr Aelod Cabinet ar gyfer Cymunedau nad oedd yr adroddiad yn cynnwys manylion oherwydd bod yr ymgynghoriad yn ymarfer dod o hyd i ffeithiau ac yn dilyn hynny y byddai dadansoddiad manwl yn cael ei wneud ar y goblygiadau. 

 

Cyfeiriodd Aelod at y defnydd posibl o gaeau ysgol uwchradd ac argymhellodd fod yr Awdurdod yn ymgysylltu ag ysgolion o dan y Ddeddf Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol i annog y defnydd o Feysydd Chwarae, Cyfleusterau Chwaraeon Awyr Agored a Phafiliynau Parciau gan fod ofn ymhlith yr aelodau, pe na chaent eu defnyddio, y gallent gau oherwydd diffyg diddordeb a buddsoddiad.

 

Argymhellodd yr Aelodau ymgysylltu â sefydliadau'r trydydd sector fel BAVO, Chwarae Cymru, Chwaraeon Anabledd Cymru, Chwarae Teg, gan gynnwys cyrff sy'n cynrychioli grwpiau lleiafrifol i annog datblygiad a thwf ac annog y defnydd o gyfleusterau gan holl aelodau'r cyhoedd.

 

Mynegodd yr Aelodau bryderon fod disgwyl i’r contract ar gyfer swyddog CAT ddod i ben ddiwedd mis Hydref 2018. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau fod unrhyw achos busnes i ymestyn y contract yn ddibynnol ar fwy o drosglwyddiadau CAT. Felly, byddai'n rhaid cysylltu hyn â chymeradwyaeth y Cabinet i symud tuag at bolisi codi tâl newydd i annog mwy o glybiau a defnyddwyr cyfleusterau i ymwneud â'r broses CAT.

 

Gofynnodd Aelod a fyddai'n bosibl atal ceisiadau CAT cyfredol er mwyn cadw asedau'r cyngor gyda'i gilydd. Roedd yr Aelodau'n pryderu y byddai’r broses o reoli cyfleusterau yn ymrannu ac y gallai’r awdurdod golli rheolaeth petrosglwyddwyd y cyfleusterau o dan y Cynllun Trosglwyddo Asedau Cymunedol.  Felly, argymhellodd yr Aelodau fod yr Awdurdod yn archwilio'r posibilrwydd o sefydlu sefydliad elusennol i reoli'r Meysydd Chwarae, Cyfleusterau Chwaraeon Awyr Agored a Phafiliynau Parciau, fel eu bod yn cael eu rheoli dan un sefydliad, yn debyg i'r model Awen. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau eu bod eisoes wedi ystyried ac ymchwilio i opsiynau eraill dros y blynyddoedd ac ystyriwyd mai hwn oedd yr opsiwn gorau i ddiogelu'r portffolio cyfredol ond hefyd i wneud yr arbedion ariannol angenrheidiol. Gallai opsiynau eraill ddod i'r amlwg yn ystod yr ymgynghoriad ac wrth gwrs byddai'r rhain yn cael eu hystyried. 

 

Gofynnodd Aelod a oedd hi'n bosibl i ysgol ymgymryd â Throsglwyddo Asedau Cymunedol. Cytunodd y swyddogion i ymchwilio i'r mater ac adrodd yn ôl i'r Pwyllgor.

 

Mynegodd yr Aelodau bryderon fod Pwyllgor Trosolwg Pwnc a Chraffu 3 wedi edrych ar y Broses CAT ym mis Ionawr 2018 ac roeddent yn bwriadu edrych arni eto ym mis Hydref 2018. Roedd yr un pwyntiau'n cael eu mynegi a'u trafod a gellid bod wedi gwneud gwell defnydd o amser yr Aelodau a'r swyddogion. Gwnaeth yr Aelod Cabinet dros Gymunedau atgoffa aelodau'r pwyllgor fod cadeiryddion craffu wedi gofyn yn benodol i'r mater hwn gael ei adrodd i'r pwyllgor hwn.

 

Pwysleisiodd yr Aelodau ei bod yn bwysig bod Undeb Rygbi Cymru a'r Gymdeithas Bêl-droed yn cymryd rhan mewn cynlluniau yn y dyfodol. Awgrymodd Aelod y dylai’r cyrff hynny, Chwaraeon Cymru, cynrychiolydd o chwaraeon anabledd a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, gael eu cynnwys yn y broses ymgynghori.

 

Casgliadau

 

Roedd yr Aelodau'n siomedig fod y penderfyniad i fwrw ymlaen â'r ymgynghoriad ynghylch ffioedd Meysydd Chwarae, Cyfleusterau Chwaraeon Awyr Agored a Phafiliynau Parciau i annog mwy o bobl i ymwneud â Throsglwyddo Asedau Cymunedol wedi cael ei wneud yn barod.  Dywedodd Aelodau Craffu y dylai hyn fod wedi dod i'r Pwyllgor Craffu yn gynt a chyda mwy o fanylion am y cynigion sydd i ddod yn yr ymgynghoriad. 

 

Roedd yr Aelodau'n pryderu fod y broses bresennol o reoli cyfleusterau chwaraeon awyr agored yn rhy ddarniog gan eu bod yn cael eu rheoli ar hyn o bryd gan wahanol gyfarwyddiaethau ac adrannau.   Argymhellodd yr Aelodau fod pob Cyfarwyddiaeth yn gweithio'n fwy cyfannol a mabwysiadu dull Un Cyngor i'w galluogi i gael mynediad at yr holl ffrydiau ariannu sydd ar gael. 

 

Roedd yr Aelodau'n pryderu y byddai’r broses o reoli cyfleusterau yn ymrannu ac y gallai’r awdurdod golli rheolaeth pe trosglwyddwyd y cyfleusterau o dan y Cynllun Trosglwyddo Asedau Cymunedol.  Felly, argymhellodd yr Aelodau fod yr Awdurdod yn archwilio'r posibilrwydd o sefydlu sefydliad elusennol i reoli'r Meysydd Chwarae, Cyfleusterau Chwaraeon Awyr Agored a Phafiliynau Parciau fel eu bod yn cael eu rheoli o dan un sefydliad, yn debyg i'r model Awen.

 

Argymhellodd yr Aelodau ymgysylltu â sefydliadau'r trydydd sector fel BAVO, Chwarae Cymru, Chwaraeon Anabledd Cymru, Chwarae Teg, gan gynnwys cyrff sy'n cynrychioli grwpiau lleiafrifol i annog datblygiad a thwf ac annog y defnydd o gyfleusterau gan holl aelodau'r cyhoedd.

 

Argymhellodd yr Aelodau i'r Awdurdod ymgysylltu ag ysgolion o dan y Ddeddf Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol i annog y defnydd o Feysydd Chwarae, Cyfleusterau Chwaraeon Awyr Agored a Phafiliynau Parciau gan fod ofn ymhlith yr aelodau os na fyddent yn cael eu defnyddio y gallent gau oherwydd diffyg diddordeb a buddsoddiad.

 

Roedd yr Aelodau'n pryderu ynghylch cymhlethdod y broses CAT a gwnaethant argymell bod swyddogaeth y Swyddog CAT yn cael ei datblygu i gynnwys darparu mwy o gymorth i sefydliadau yn ystod y broses ymgeisio a throsglwyddo.

 

Gwybodaeth bellach

 

Gofynnodd yr Aelodau a yw'n bosibl y gallai ysgol ymwneud â Throsglwyddo Asedau Cymunedol

 

Dogfennau ategol: