Agenda item

Swyddfa Archwilio Cymru – Trosolwg a Chraffu – Addas i'r Dyfodol?

Cofnodion:

Gwnaeth Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio gyflwyno adroddiad, er mwyn cyflwyno adroddiad terfynol Swyddfa Archwilio Cymru i’r aelodau o ran yr Adolygiad Trosolwg a Chraffu – Addas i'r Dyfodol. 

 

Rhoddodd hi ychydig o wybodaeth gefndirol er budd aelodau, ac am adolygiad a wnaed yn flaenorol a wnaeth archwilio pa mor 'addas i'r dyfodol' yw swyddogaethau craffu'r awdurdod. Gwnaeth yr adolygiad yn benodol ystyried sut y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ymateb i rai heriau newydd cyfredol, gan gynnwys y rheini sydd â natur ddeddfwriaethol.

 

Yn yr adroddiad, daethpwyd i'r casgliad fod swyddogaeth trosolwg a chraffu Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael ei gweithredu'n dda, ond bod angen iddi gael ei haddasu er mwyn wynebu heriau'r dyfodol, yn ogystal g ystyried cyfleoedd penodol er mwyn gweithio'n wahanol. Yn ychwanegol, cynigiwyd meysydd i'w gwella yn yr adroddiad.

 

Ategwyd copi o'r adroddiad llawn yn Atodiad 1 i'r adroddiad eglurhaol.

 

Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio y byddai manylion o'r adolygiad a'r cynigion a ddaw ohono yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol yn ei gyfarfod nesaf ar 26 Medi.

 

Nododd aelod fod yr Adran Graffu a'r Adran Gwasanaethau Democrataidd yn eu cyfanrwydd wedi gweld lleihad yn niferoedd y bobl yn eu gweithlu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys ar y lefel reoli, yn unol â gostyngiadau i'r gyllideb a gyflwynwyd (ledled yr holl awdurdod) fel rhan o'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig er mwyn gwneud arbedion gofynnol.  Gofynnodd hi a fyddai hyn yn peryglu'r cynigion ar gyfer gwelliant a gynhwysir yn adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru mewn unrhyw ffordd.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio nad oedd yr adroddiad hwn yn cyfeirio at unrhyw lefelau staffio yn y gorffennol neu'r presennol a oedd yn effeithio ar y Gwasanaethau Democrataidd, na chwaith p’un a oedd gan yr adran ddiffyg neu ormod o staff. Fodd bynnag, gwnaeth yr adroddiad nodi y gallai gwaith trosolwg a chraffu o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gael ei brosesu mewn modd sy'n fwy arloesol, a gallai hyn arwain yn ei dro at wella dulliau gwaith a phrotocolau presennol.

 

Er gwerthfawrogi hyn, gofynnodd aelod sut y gallai gweithio gan ddefnyddio dulliau mwy arloesol na'r hyn a geir yn bresennol gael ei fonitro a'i fesur yn ddigonol er mwyn mesur llwyddiant unrhyw welliannau.

 

Gwnaeth Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio gydnabod y byddai angen rhywfaint o brofi a methu ar y cynnig hwn, er bod dulliau cysylltiedig eraill ar gyfer datblygu'r broses graffu ymhellach – megis, er enghraifft, ymgysylltu mwy â'r cyhoedd, yn ogystal ag yn fewnol â chyfarwyddiaethau ac yn allanol drwy gyrff allanol a/neu sefydliadau eraill. Byddai ehangu testunau allweddol i'w craffu hefyd yn cael ei ystyried.

 

Yn ychwanegol, cynigiwyd y dylid meincnodi trosolwg a chraffu yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ochr yn ochr ag awdurdodau cyfagos.

 

Ychwanegodd cynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru y gallai fynd â rhai o'r cynigion ar gyfer gwella i ffwrdd hefyd i weld a allai Swyddfa Archwilio Cymru ddarparu unrhyw gymorth yn hyn o beth.

 

Yn y diwedd, roedd y pwyllgor yn teimlo efallai y byddai'n syniad fod aelodau yn derbyn mwy o hyfforddiant ym maes gwaith trosolwg a chraffu.

 

PENDERFYNWYD: Bod aelodau wedi nodi cynnwys adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru – Trosolwg a Chraffu – Addas i'r dyfodol?

Dogfennau ategol: