Agenda item

Archwiliad Mewnol – Adroddiad Alldro – mis Ebrill i fis Gorffennaf 2018

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Archwilydd Mewnol adroddiad, at ddiben hysbysu'r Pwyllgor Archwilio am wir berfformiad yn yr archwiliad mewnol yn ystod y cyfnod o fis Ebrill i fis Gorffennaf 2018 yn ystod blwyddyn y Cynllun Archwilio.

 

Er mwyn cyfleu gwybodaeth gefndirol, dywedodd y cafodd y Cynllun Archwilio Mewnol ar gyfer 2018/19 ei gyflwyno i'r Pwyllgor Archwilio i’w ystyried a'i gymeradwyo ym mis Ebrill y llynedd. Amlinellodd hwn yr aseiniadau yr oedd angen eu gweithredu a'u blaenoriaethau priodol.

 

Ychwanegodd hi fod y cynllun yn darparu ar gyfer cyfanswm o dros 1,000 o ddiwrnodau cynhyrchiol er mwyn cwmpasu blwyddyn ariannol 2018/19. Rhannwyd y dyddiau hyn yn adolygiadau yr ystyriwyd eu bod yn brif flaenoriaeth a'r rhai yr ystyriwyd eu bod o flaenoriaeth eilradd, gyda'r bwriad o gwblhau'r holl gynllun erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

 

Ategwyd y gwir gynnydd o'i gymharu â Chynllun Seiliedig ar Risg 2018/19 yn Atodiad A yr adroddiad, tra ychwanegwyd gwybodaeth bellach yn Atodiad B, gan fanylu ar yr adolygiadau hynny nad oeddent wedi eu dyrannu yn y chwarteri priodol eto, a'r adolygiadau hynny a oedd wedi cael eu dwyn ymlaen o chwarteri yn y dyfodol. Nid oedd rhai adolygiadau wedi eu dyrannu eto, oherwydd adnoddau staffio cyfyngedig. Roedd y diffyg yn y fan hon yn gyfatebol â 40 diwrnod gwaith, er y rhagwelid y gellid dal i fyny â'r gwaith hwn cyn diwedd y flwyddyn ariannol.

 

Rhoddodd yr adroddiad amlinelliad wedyn o'r cyflenwad staffio yn yr adran Archwilio Mewnol, ac, er bod ymarfer recriwtio llwyddiannus wedi'i gynnal yn ystod y misoedd diweddar, roedd dal nifer o swyddi gwag o fewn yr adran.

 

Er mwyn cynorthwyo â’r gwaith o fonitro’r cynllun seiliedig ar risg blynyddol yn effeithiol, ategwyd rhagor o wybodaeth yn Atodiad C, a oedd yn manylu ar yr holl adolygiadau hynny sydd wedi'u cwblhau yn ystod y cyfnod a'r perfformiad.

 

Ychwanegodd y Prif Archwilydd Mewnol yn ogystal mai un adolygiad yn unig yn ystod y cyfnod oedd wedi nodi gwendidau sylweddol yn y system rheoli mewnol hyd yma, a darparwyd rhagor o wybodaeth yn yr atodiad y cyfeiriwyd ato yn union uwchben.

 

Gofynnodd aelodau cwestiynau am wybodaeth ategol yr adroddiadau, gan gynnwys ar yr archwiliad o feysydd gwaith taliadau uniongyrchol a gofal cartref a ddyrannwyd i SWAP, ac a fyddai angen i SWAP gefnogi gwaith ymhellach yn ymwneud ag archwilio yn y dyfodol ai peidio, oherwydd diffyg adnoddau mewnol.

 

Cyfeiriodd aelod ar ôl hyn at Atodiad C yn yr adroddiad, a’r adolygiad o’r rhaglen Dechrau'n Deg, a'r sicrwydd cyfyngedig a roddwyd i hon yn dilyn archwiliad o'r maes gwasanaeth a gynhaliwyd yn flaenorol.

 

Gofynnodd hi a oedd y meysydd gwan a nodwyd yn gysylltiedig, gan ei bod yn ymwybodol ar ôl darllen yr adroddiad fod dau ymchwiliad wedi'u cynnal yn y maes gwaith hwn, a ddechreuwyd o dan bolisi disgyblu'r cyngor, a bod un ohonynt wedi cael ei gyfeirio at yr heddlu. Gofynnodd a oedd yr ymchwiliadau hyn yn gysylltiedig.

 

Yn dilyn cyngor gan swyddogion, cytunwyd y dylai'r pwyllgor gynnal sesiwn gaeedig fel y gellid rhoi ymateb i'r cwestiwn hwn.

 

GWAHARDD Y CYHOEDD

 

PENDERFYNWYD: O dan Adran 100A (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007, y dylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r eitem fusnes ganlynol gan ei bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y diffinnir ym Mharagraffau 12, 13 a 18 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007.

 

                                        Yn dilyn gweithrediad prawf lles y cyhoedd wrth ystyried yr eitem hon, penderfynwyd, yn unol â'r Ddeddf y cyfeirir ati uchod, ei bod yn cael ei hystyried yn breifat, a gwaharddwyd y cyhoedd o'r cyfarfod gan y byddai'n golygu datgelu gwybodaeth iddynt sydd wedi'i heithrio o'r natur a nodwyd uchod.

Dogfennau ategol: