Agenda item

Eiriolaeth – Gwasanaethau Oedolion a Phlant

Gwahoddedigion

Susan Cooper, CyfarwyddwrCorfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

Cllr Phil White, Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Jacqueline Davies, Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion

Laura Kinsey, Pennaeth Gofal Cymdeithasol I Blant;

Richard Thomas, Swyddog Cynllunio a Chomisiynu Strategol;

Richard Jones, Prif WeithredwrMaterion Iechyd Meddwl Cymru

 

 

Cofnodion:

Dywedodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ei gwneud hi’n ofynnol i Awdurdodau Lleol sicrhau mynediad at wasanaethau eiriolaeth a sicrhau bod cymorth ar gael i gyfranogi o’r gwasanaethau hyn wrth i Awdurdodau Lleol gyflawni eu dyletswyddau statudol. Mae gofyn hefyd i Awdurdodau Lleol drefnu Eiriolwr Proffesiynol Annibynnol er mwyn ei gwneud hi’n hawdd i unigolion gael mynediad at y gwasanaethau hynny dan rai amgylchiadau. Nododd mai diffiniad eiriolwr yw’r sawl sy’n gallu siarad ar ran rhywun sy’n wynebu rhwystrau o ran cyfathrebu, deall, cloriannu neu benderfynu ynghylch gwybodaeth sy’n ymwneud â’r gwasanaethau y mae’n eu derbyn. 

 

Hysbysodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion y Pwyllgor fod y Cyngor wedi sicrhau cefnogaeth y Rhaglen Eiriolaeth Golden Thread (GTAP) i gynorthwyo yng ngwaith sefydlu cynllun eiriolaeth peilot i oedolion. Bu GTAP hefyd yn cefnogi’r Cyngor wrth iddo gydweithio â rhanddeiliaid lleol i gyd-greu model Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol newydd sy’n cydymffurfio â’r gofynion yn llawn. Aethpwyd ati i brofi hyn mewn cynllun Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol peilot ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion a weithredai system ‘Prif Ganolfan a Lloerennau’, gan ddefnyddio dau ddarparwr gwasanaethau annibynnol a thrwy feithrin cysylltiadau ag ystod eang o asiantaethau cymorth. Amlinellodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion y llwybrau atgyfeirio a’r ystod o wasanaethau eiriolaeth yn y Ganolfan Eiriolaeth a ddatblygwyd i alluogi pobl i gael y gwasanaethau cywir i ddiwallu’u hanghenion.  Nododd fod 62 o bobl y mae angen Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol arnynt wedi manteisio ar y gwasanaeth peilot.

 

Dywedodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant mai Western Bay oedd yn comisiynu eiriolaeth i blant a phobl ifanc ac mai’r sefydliad sy’n darparu’r gwasanaethau hynny ym Mhen-y-bont ar hyn o bryd yw Tros Gynnal Plant. Er bod yr holl bartneriaid yn gweithio i gynyddu nifer yr atgyfeiriadau a chynyddu’r gwasanaeth, dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu y dylai’r gwasanaeth fod yn helpu 528 o bobl sy’n derbyn 6605 o oriau o Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol, sy’n 12.4 o ddefnyddwyr bob mis. Gwelir bod nifer yr atgyfeiriadau yn cynyddu. Cynhelir trafodaethau â Bwrdd Iechyd Cwm Taf yngl?n â chomisiynu gwasanaethau eiriolaeth cyn i’r drefn newydd ar gyfer Byrddau Iechyd ddod i rym. 

 

Cyfeiriodd y Pwyllgor at y gefnogaeth sydd ar gael i blant a phobl ifanc y mae angen gwasanaethau eiriolaeth arnynt ac sydd wedi cael diagnosis. Holwyd hefyd pa gefnogaeth sydd ar gael o ran eiriolaeth i bobl sy’n aros am ddiagnosis. Hysbysodd Ms Megan Davies o Tros Gynnal Plant y Pwyllgor y byddai mynediad at eiriolaeth yn dibynnu a oedd rhywun yn anfodlon â’i ddiagnosis. Byddai eiriolaeth yn cael ei darparu i berson ifanc sy’n aros am ddiagnosis ac nid i’r rhieni. Hysbysodd y Swyddog Cynllunio a Chomisiynu Strategol y Pwyllgor fod y Cyngor yn darparu cefnogaeth i rieni sy’n ofalwyr a bod sgôp i ddarparu eiriolaeth i gefnogi teuluoedd. Soniodd y byddai gwasanaeth cwynion yngl?n ag eiriolaeth y Cyngor Iechyd Cymuned yn ymdrin â chwynion petai’n rhaid i rywun aros yn hir am ddiagnosis. Hysbysodd Prif Weithredwr Mental Health Matters Wales y Pwyllgor y bydd y Ganolfan Eiriolaeth yn derbyn yr alwad gychwynnol am wasanaethau eiriolaeth ac yno y penderfynir pa sefydliad fyddai fwyaf addas i ddelio â’r cais. Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion mai holl gysyniad y Ganolfan fyddai sicrhau bod unigolion yn cael y gwasanaeth cywir.

 

Cyfeiriodd un aelod at y gwasanaeth eiriolaeth gyfreithiol / cyfaill cyfreitha yn y Ganolfan ac amlinellodd yr achosion hynny lle’r oedd pobl wedi’i chael hi’n anodd defnyddio’r gwasanaethau hynny. Hysbysodd y Swyddog Cynllunio a Chomisiynu Strategol y Pwyllgor fod sicrhau bod swyddogion yn ystyried argaeledd y gwahanol wasanaethau eiriolaeth wedi bod yn broblem ers i’r peilot gychwyn. Nododd y bydd partneriaid yn cynnal cyfarfodydd eiriolaeth ym Mhen-y-bont i sôn am y gwahanol ddarparwyr a’r gwasanaethau eiriolaeth sydd ar gael, am nad yw pobl yn gwybod am y ddarpariaeth. Soniodd Prif Weithredwr Mental Health Matters Wales fod ei sefydliad ef yn cyfeirio pobl at y gwahanol wasanaethau eiriolaeth sydd ar gael drwy ei wefan a’i lwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Esboniodd werth eiriolaeth drwy olrhain achos diweddar y bu ei sefydliad yn rhan ohono. Yn yr achos hwnnw, dywedodd y Barnwr y byddai’r canlyniad wedi bod yn wahanol pe na ddefnyddiwyd eiriolaeth. Dywedodd Mr Jason Tynan o Pobl yn Gyntaf Pen-y-bont ar Ogwr fod ei sefydliad ef hefyd yn cyfeirio pobl at wasanaethau eiriolaeth drwy ei wefan a’i lwyfannau cyfryngau cymdeithasol. 

 

Holwyd sawl awr o eiriolaeth sydd ar gael ar gyfartaledd yn unol â’r lefel gwasanaeth a bennir gan Lywodraeth Cymru. Nododd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant fod y targedau’n seiliedig ar niferoedd y plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru. Ei darogan oedd y byddai peth hyblygrwydd, gan ddibynnu ar anghenion y plant a’r bobl ifanc y mae angen eiriolaeth arnynt. Dywedodd y cynrychiolydd ar ran Tros Gynnal Plant fod eiriolaeth yn seiliedig ar faterion penodol a bod modd delio â rhai atgyfeiriadau eiriolaeth yn gyflym. Mae’r achosion sy’n arwain at eiriolaeth yn amrywio’n fawr ac maent yn dibynnu ar ddewisiadau’r unigolion dan sylw. 

 

Cyfeiriodd y Pwyllgor at y Grant Cynnal Refeniw i gefnogi eiriolaeth a holodd am ba hyd y bydd y cyllid yn cael ei glustnodi ac a allai’r cyllid fod mewn perygl oherwydd y gwasgfeydd yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig. Hysbysodd y Pennaeth Gofal Cymdeithas i Oedolion y Pwyllgor fod y cyfrifoldeb dros eiriolaeth wedi’i bennu yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Roedd yr Awdurdod wedi datblygu Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol yn rhan o’r cyllid craidd. Hyd y contract presennol ar gyfer y gwasanaeth hwn yw 2 flynedd ac mae’n bosib y bydd yn cael ei ymestyn am ddwy flynedd arall. Dywedodd ei bod yn anodd darogan sut fydd y gyllideb yn y dyfodol ond nododd fod darparu gwasanaethau eiriolaeth yn ofyniad statudol a’i fod yn rhan o’r cyllid craidd. Soniodd Prif Weithredwr Mental Health Matters Wales fod yn rhaid darparu cyllid grant ar gyfer eiriolaeth a bod Llywodraeth Cymru wedi ychwanegu at y cyllid hwn. Mae Eiriolaeth Annibynnol i oedolion yn rhywbeth cymharol newydd ac roedd perygl na fyddai Llywodraeth Cymru yn gallu darparu cyllid. Awgrymodd y dylai Cynghorau lobïo Llywodraeth Cymru er mwyn cynnal y cyllid i gefnogi gwasanaethau eiriolaeth. Soniodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion fod eiriolaeth wedi cael blaenoriaeth a’i bod yn cael cefnogaeth o fewn yr Awdurdod. 

 

Holodd y Pwyllgor pa mor hawdd oedd cael gafael ar wasanaethau eiriolaeth yn y gymuned. Nododd Pennaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion fod proses dendro wedi’i chwblhau yn ddiweddar a rhan o gylch gwaith y Ganolfan yw hyrwyddo gwasanaethau eiriolaeth. Nododd mai bwriad Rhwydwaith Eirioli Pen-y-bont ar Ogwr, y mae’r Swyddog Cynllunio a Chomisiynu Strategol yn ei ddisgrifio, yw cyfeirio pobl at wasanaethau ac y bydd yn dod yn rhan annatod o ffordd pobl o feddwl. Dywedodd cynrychiolydd Pobl yn Gyntaf Pen-y-bont ar Ogwr fod y corff hwnnw’n gweithio’n agos â grwpiau cymunedol.

 

Holodd aelod o'r Pwyllgor a fyddai’r rhai sy’n cael gwasanaethau eiriolaeth yn cael eu cynrychioli ar lefel ddigon uchel wrth i’r Heddlu eu cyfweld.  Dywedodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant yr eid ati i sicrhau bod eiriolaeth yn cael ei chynnig drwy’r Ganolfan Ddiogelu Amlasiantaethol a bod 40 o heddweision wedi’u lleoli yn y Ganolfan honno. Dywedodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod gwaith eiriolaeth yn mynd rhagddo yn genedlaethol yn rhan o brosiect Golden Thread. Dywedodd y Swyddog Cynllunio a Chomisiynu Strategol fod darparwyr eiriolaeth statudol ac anstatudol ar gael. Nododd fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn comisiynu eiriolaeth iechyd meddwl sydd ar gael drwy’r Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae’r meysydd hynny sydd y tu allan i gylch gwaith y Gwasanaethau Cymdeithasol yn wasanaethau anstatudol. Nododd nad yw nifer fechan o bobl yn cael sylw. Hysbysodd y Pwyllgor fod llawer o eiriolaeth yn cael ei darparu ond na fyddai modd cynnwys pawb o fewn y ddarpariaeth.

 

Hysbysodd Prif Weithredwr Mental Health Matters Wales y Pwyllgor fod Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol wedi gwneud gwahaniaeth i bobl ac y cafwyd sylwadau cadarnhaol oddi wrth Ysbyty Tywysoges Cymru. Aeth ati i olrhain achos yno lle rhoddwyd cymorth eiriolaeth i rywun a oedd mewn perygl o gyflawni hunanladdiad. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor a fyddai modd bwrw golwg dros astudiaethau achos sy’n defnyddio ffugenwau. Cadarnhaodd Prif Weithredwr Mental Health Matters Wales y gallai ddarparu astudiaethau achos. Hysbysodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion y Pwyllgor fod y Gyfarwyddiaeth yn casglu adroddiadau perfformiad chwarterol sy’n deillio o astudiaethau achos. 

 

Diolchodd y Pwyllgor i bawb a wahoddwyd i’r cyfarfod am eu presenoldeb, yn arbennig y bobl hynny o du allan i’r Awdurdod. Ym marn y Pwyllgor, roedd  eu cyfraniadau yn gyfle gwerthfawr i ddeall rhagor am y ddarpariaeth eiriolaeth yn Sir Pen-y-bont ar y Ogwr.

 

Casgliadau

 

 Rhagor o Wybodaeth

  • Gofynnodd yr Aelodau i Mental Health Matters Wales (MHMW) am astudiaethau achos.

Argymhellion yr Aelodau:

  • Bod yr Arweinydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i lobïo am gyllid er mwyn darparu gwasanaeth Eiriolaeth Broffesiynol  Annibynnol.
  • Bod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc yn anfon llythyr at Lywodraeth Cymru er mwyn lobïo hefyd am gyllid.
  • Y Gweinidog dros Blant, Pobl H?n a Gofal Cymdeithasol - Huw Irranca-Davies, AC

 

Dogfennau ategol: